Canu Plygain

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio

Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.

Traddodiad o ganu carolau Nadolig sydd wedi para’n ddi-dor mewn un rhan o ganolbarth Cymru. Daw’r gair plygain o’r Lladin pulli cantus, sef ‘caniad y ceiliog’. Hyd at tua hanner olaf y 18g. golygai wasanaeth crefyddol cynnar yn y bore, ond yn raddol daeth i olygu cyfarfod canu carolau ar unrhyw adeg o’r dydd o gwmpas y Nadolig a’r Hen Galan. Cynhelid y gwasanaeth yn eglwys y plwyf ond yn ddiweddarach dechreuodd y capeli Ymneilltuol eu cynnal, a cheir tystiolaeth hefyd am wasanaethau plygain mewn tai annedd ar un cyfnod.

Cadarnle’r traddodiad yw gogledd Sir Drefaldwyn, de Meirionnydd a de Sir Ddinbych: ardal sy’n ymestyn o Ddyffryn Ceiriog drwy Ddyffryn Tanat, Llanfyllin, Llanfihangel-yng-Ngwynfa, y Trallwng, Llanfair Caereinion, Dyffryn Banw, hyd at Fawddwy a Dyffryn Dyfi. Dyma’r unig ardal lle ceir rhwydwaith o wasanaethau plygain a phartïon plygain yn cefnogi’r naill a’r llall. Dyma’r unig ardal hefyd lle daliwyd i ganu’r carolau traddodiadol hynny sydd wedi hen ddiflannu o’r llyfrau emynau swyddogol. Roedd bri anarferol yn yr ardaloedd hyn ar gyfansoddi carolau ymhlith beirdd megis Huw Morus (Eos Ceiriog), Thomas Williams (Eos Gwynfa), Dafydd Cadwaladr ac eraill.

Y Garol Blygain ‘Ar Gyfer Heddiw’r Bore’.
Y Garol Blygain ‘Ar Gyfer Heddiw’r Bore’.

Tarddiad yr alawon yw alawon gwerin poblogaidd y dydd, fel y mae eu henwau yn tystio: ‘Difyrrwch Gwŷr Caernarfon’, ‘Y Ceiliog Gwyn’, ‘Susan Lygatddu’, ‘Ffarwel Ned Puw’, ‘Trwsgwl Mawr’, ‘Cwplws Dau’, ‘Ffarwel Gwŷr Aberffraw’. Mae’n glir oddi wrth enwau eraill, megis ‘Rochester March’, ‘Greece and Troy’, ‘King George’s Delight’ a ‘Belle Isle March’ fod amryw ohonynt wedi dod o Loegr – gyda’r porthmyn yn ôl pob tebyg. Roedd y mesurau newydd hyn yn aml yn hir a chymhleth, gan osod sialens newydd i’r beirdd, ond mae’r geiriau at ei gilydd yn hynod o grefftus, gyda llu o gyffyrddiadau cynganeddol a chyfeiriadau diwinyddol.

Roedd y traddodiad ar un adeg yn perthyn i Gymru gyfan. Ceir disgrifiadau o blygeiniau mewn ardaloedd megis Dinbych-y-pysgod (gyda gorymdaith yng ngolau cannwyll), Ceredigion, Dolgellau a Llangeinwen (lle cofnododd John Owen, Dwyran, amryw o garolau). Achlysuron cymdeithasol oedd y plygeiniau ac ymddengys fod llawer ohonynt yn bur afreolus ac yn gyfle i fechgyn ifanc y fro gael cryn hwyl, yn enwedig yn y gwasanaethau cyn dydd pan oedd pobl wedi bod ar eu traed yn diota ers oriau. Dyna un rheswm, fe gredir, pam iddynt yn raddol ddiflannu o weddill Cymru. Yng nghyffiniau Sir Drefaldwyn dros gyfnod o amser, symudwyd y gwasanaethau i’r min nos ac fe ymestynnwyd y tymor i tua chwech wythnos, datblygiad a olygai y gallai’r naill ardal gefnogi’r llall.

Trefn fyrfyfyr sydd i’r gwasanaeth plygain. Nid oes unrhyw raglen wedi ei gosod ymlaen llaw ac ni cheir unrhyw siarad rhwng datganiadau. Yn dilyn gwasanaeth byr, cyhoeddir bod ‘y Blygain yn awr yn agored’ a daw’r partïon (neu unigolion) ymlaen i ganu, yn ddigyfeiliant bob amser. Dynion oedd mwyafrif llethol y cyfranogwyr ar un adeg, a’r parti mwyaf poblogaidd oedd tri llais: alaw, tenor a bas. Un o hynodion y canu yw’r arddull: canu syml a dirodres gyda blas y pridd arno, canu gwerin yng ngwir ystyr y gair. Clywir y math hwn o ganu ar ei orau yng nghanu Triawd Fronheulog.

Tua diwedd yr 20g. a dechrau’r 21g. tyfodd diddordeb yn y canu plygain mewn ardaloedd y tu allan i’r cadarnle traddodiadol gan arwain at sefydlu gwasanaethau o’r newydd yn yr ardaloedd hynny.

Arfon Gwilym

Disgyddiaeth

  • Caneuon Plygain a Llofft Stabal (Sain SCD2389, 2003)



Comisiynwyd y cofnod hwn ar gyfer Y Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol a fydd yn cael ei chyhoeddi gan Y Lolfa yn 2018. Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.