Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Anthemau"

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio
 
(Ni ddangosir y golygiad yn y canol gan yr un defnyddiwr)
Llinell 2: Llinell 2:
 
'''Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn [https://www.ylolfa.com/cynnyrch/9781784616250/cydymaith-i-gerddoriaeth-cymru''Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru''], cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.'''
 
'''Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn [https://www.ylolfa.com/cynnyrch/9781784616250/cydymaith-i-gerddoriaeth-cymru''Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru''], cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.'''
  
Cysylltir y gair anthem yn gyffredinol â’r syniad o gân wladgarol, hynny yw anthem genedlaethol. Gall hon fod yn [[emynyddol]] ei naws fel y mae nifer o anthemau Ewrop, ac mae hyn yn briodol gan mai gosodiad lleisiol o destun Beiblaidd oedd yr anthem yn wreiddiol i’w chanu fel rhan o ffurf-wasanaeth yr Eglwys, a datblygwyd hi yn Lloegr wedi’r Diwygiad Protestannaidd gan gyfansoddwyr fel Tallis, Blow, Purcell, Boyce ac yn arbennig Handel. Cyfansoddodd Handel dros ugain o anthemau, gan gynnwys un ar ddeg ar gyfer Dug Chandos (1716– 18); ''O Praise the Lord with one consent'' yw’r ''Chandos Anthem'' fwyaf adnabyddus.
+
Cysylltir y gair anthem yn gyffredinol â’r syniad o gân wladgarol, hynny yw anthem genedlaethol. Gall hon fod yn [[Emyn-donau | emynyddol]] ei naws fel y mae nifer o anthemau Ewrop, ac mae hyn yn briodol gan mai gosodiad lleisiol o destun Beiblaidd oedd yr anthem yn wreiddiol i’w chanu fel rhan o ffurf-wasanaeth yr Eglwys, a datblygwyd hi yn Lloegr wedi’r Diwygiad Protestannaidd gan gyfansoddwyr fel Tallis, Blow, Purcell, Boyce ac yn arbennig Handel. Cyfansoddodd Handel dros ugain o anthemau, gan gynnwys un ar ddeg ar gyfer Dug Chandos (1716–18); ''O Praise the Lord with one consent'' yw’r ''Chandos Anthem'' fwyaf adnabyddus.
  
 
Cafodd yr anthem adfywiad pan gyfrannodd S. S. Wesley yn helaeth i’r ffurf ar ddechrau oes Victoria, a Hubert Parry a C. V. Stanford ar ei diwedd. Gyda datblygiad canu cynulleidfaol a thwf corau capel o ganol y 19g. yng Nghymru gwelwyd cyfansoddwyr Cymreig yn ysgrifennu ar eu cyfer; yn  wahanol i’r drefn yn Lloegr, byddai’r anthem Gymraeg yn adlewyrchu poblogrwydd canu cynulleidfaol a’r gymanfa ganu, a byddai anthemau newydd yn ymddangos yn rheolaidd yng nghyfnodolion cerddorol y wlad. Geiriau Cymraeg yn unig oedd iddynt fel arfer, ond o’r 1870au byddai cyhoeddwyr fel Isaac Jones yn y Rhondda yn ychwanegu cyfieithiadau Saesneg (gwael), adlewyrchiad o newid ieithyddol yn y cwm.
 
Cafodd yr anthem adfywiad pan gyfrannodd S. S. Wesley yn helaeth i’r ffurf ar ddechrau oes Victoria, a Hubert Parry a C. V. Stanford ar ei diwedd. Gyda datblygiad canu cynulleidfaol a thwf corau capel o ganol y 19g. yng Nghymru gwelwyd cyfansoddwyr Cymreig yn ysgrifennu ar eu cyfer; yn  wahanol i’r drefn yn Lloegr, byddai’r anthem Gymraeg yn adlewyrchu poblogrwydd canu cynulleidfaol a’r gymanfa ganu, a byddai anthemau newydd yn ymddangos yn rheolaidd yng nghyfnodolion cerddorol y wlad. Geiriau Cymraeg yn unig oedd iddynt fel arfer, ond o’r 1870au byddai cyhoeddwyr fel Isaac Jones yn y Rhondda yn ychwanegu cyfieithiadau Saesneg (gwael), adlewyrchiad o newid ieithyddol yn y cwm.
  
Gelwir ''God Bless the Prince of Wales'' (y geiriau Saesneg gan George Linley) neu ‘Ar D’wysog Gwlad y Bryniau’ (y geiriau Cymraeg gan Ceiriog), y gerddoriaeth gan [[Brinley Richards]], yn ‘Anthem Tywysog Cymru’ oherwydd iddi gael ei hysgrifennu ar gyfer priodas y Tywysog Edward ac Alexandra o Ddenmarc yn 1863. Ond yn ddiau, y fwyaf adnabyddus hyd heddiw o holl anthemau Cymru yw ''Teyrnasoedd y Ddaear'', gosodiad John Ambrose Lloyd o adnodau yn Salm 68 ar gyfer unawdwyr  a chôr cymysg, a ddyfarnwyd yn fuddugol yn [[Eisteddfod]] Bethesda yn 1852. Fe’i canwyd am y tro cyntaf rai misoedd wedyn gan gôr y Tabernacl, Aberystwyth, dan arweiniad Edward Edwards (Pencerdd Ceredigion).
+
Gelwir ''God Bless the Prince of Wales'' (y geiriau Saesneg gan George Linley) neu ‘Ar D’wysog Gwlad y Bryniau’ (y geiriau Cymraeg gan Ceiriog), y gerddoriaeth gan [[Richards, Brinley (1817-85) | Brinley Richards]], yn ‘Anthem Tywysog Cymru’ oherwydd iddi gael ei hysgrifennu ar gyfer priodas y Tywysog Edward ac Alexandra o Ddenmarc yn 1863. Ond yn ddiau, y fwyaf adnabyddus hyd heddiw o holl anthemau Cymru yw ''Teyrnasoedd y Ddaear'', gosodiad John Ambrose Lloyd o adnodau yn Salm 68 ar gyfer unawdwyr  a chôr cymysg, a ddyfarnwyd yn fuddugol yn [[Eisteddfod, Cerddoriaeth a'r | Eisteddfod]] Bethesda yn 1852. Fe’i canwyd am y tro cyntaf rai misoedd wedyn gan gôr y Tabernacl, Aberystwyth, dan arweiniad Edward Edwards (Pencerdd Ceredigion).
  
Ymhlith anthemau eraill a ddaeth yn boblogaidd ledled Cymru yr oedd ''Efe a Ddaw'' gan Tom Price, a ddyfarnwyd yn fuddugol yn Eisteddfod Genedlaethol Bangor yn 1902; ''Dyddiau dyn sydd fel glaswelltyn'' gan Tom Davies o Lynebwy, yr honnir bod dros 320,000 o gopïau ohoni wedi’u gwerthu erbyn 1920; ''Bendigedig fyddo Arglwydd Dduw Israel'' a ysgrifennwyd gan John Thomas, Blaenannerch, cyn iddo symud  i Lanwrtyd yn 1871, a ''Dyn a aned o wraig'' gan D. C. Williams. Ystyrid anthemau yn llai heriol i’w canu na chorawdau [[oratorio]], gyda’u cynganeddion cyfarwydd a’u cyfeiliant i harmoniwm neu organ yn gwneud fawr mwy na dyblu rhannau’r pedwar llais. Er mai ychydig o werth arhosol a oedd ynddynt, roeddynt fel arfer yn weithiau apelgar a oedd o fewn cyrraedd y cantorion ‘ar y galeri’ mewn cymanfa ganu, cantorion a fyddai wedi eu meistroli ar ôl ychydig o baratoi yn yr Ysgol Gân.
+
Ymhlith anthemau eraill a ddaeth yn boblogaidd ledled Cymru yr oedd ''Efe a Ddaw'' gan Tom Price, a ddyfarnwyd yn fuddugol yn Eisteddfod Genedlaethol Bangor yn 1902; ''Dyddiau dyn sydd fel glaswelltyn'' gan Tom Davies o Lynebwy, yr honnir bod dros 320,000 o gopïau ohoni wedi’u gwerthu erbyn 1920; ''Bendigedig fyddo Arglwydd Dduw Israel'' a ysgrifennwyd gan John Thomas, Blaenannerch, cyn iddo symud  i Lanwrtyd yn 1871, a ''Dyn a aned o wraig'' gan D. C. Williams. Ystyrid anthemau yn llai heriol i’w canu na chorawdau [[Oratorio, Yr | oratorio]], gyda’u cynganeddion cyfarwydd a’u cyfeiliant i harmoniwm neu organ yn gwneud fawr mwy na dyblu rhannau’r pedwar llais. Er mai ychydig o werth arhosol a oedd ynddynt, roeddynt fel arfer yn weithiau apelgar a oedd o fewn cyrraedd y cantorion ‘ar y galeri’ mewn cymanfa ganu, cantorion a fyddai wedi eu meistroli ar ôl ychydig o baratoi yn yr Ysgol Gân.
  
O droad y ganrif byddai cyfansoddwyr a gafodd well manteision [[addysgol]], fel [[David Jenkins]], [[E.T. Davies]], [[David de Lloyd]] a [[David Emlyn Evans]], yn ysgrifennu mewn arddull fwy mentrus gyda chyfeiliant pwrpasol, ond byddai anthemau fel ''Y Mae Afon'' gan [[Daniel Protheroe]], ''Dyrchafaf fy Llygaid'' gan [[T. Hopkin Evans]] ac ''Yr Arglwydd yw fy Mugail'' o waith Caradog Roberts i’w clywed o hyd yn y blynyddoedd ar ôl yr Ail Ryfel Byd. Anthem o’r math Seisnig, at wasanaeth y ddefod Anglicanaidd, oedd ''Let the People Praise Thee, O God'' a gyfansoddwyd gan [[William Mathias]] ar gyfer priodas y Tywysog Siarl a’r Dywysoges Diana yn 1981.
+
O droad y ganrif byddai cyfansoddwyr a gafodd well manteision [[Diwylliant a'r Diwydiant Cerddoriaeth | addysgol]], fel [[Jenkins, David (1848-1915) | David Jenkins]], [[Davies, E. T. (1878-1969) | E. T. Davies]], [[De Lloyd, David (1883-1948) | David de Lloyd]] a [[Evans, David Emlyn (1843-1913) | David Emlyn Evans]], yn ysgrifennu mewn arddull fwy mentrus gyda chyfeiliant pwrpasol, ond byddai anthemau fel ''Y Mae Afon'' gan [[Protheroe, Daniel (1866-1934) | Daniel Protheroe]], ''Dyrchafaf fy Llygaid'' gan [[Evans, T. Hopkin (1879-1940) | T. Hopkin Evans]] ac ''Yr Arglwydd yw fy Mugail'' o waith Caradog Roberts i’w clywed o hyd yn y blynyddoedd ar ôl yr Ail Ryfel Byd. Anthem o’r math Seisnig, at wasanaeth y ddefod Anglicanaidd, oedd ''Let the People Praise Thee, O God'' a gyfansoddwyd gan [[Mathias, William (1934-92) | William Mathias]] ar gyfer priodas y Tywysog Siarl a’r Dywysoges Diana yn 1981.
  
 
'''Gareth Williams'''
 
'''Gareth Williams'''

Y diwygiad cyfredol, am 16:48, 25 Mai 2021

Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.

Cysylltir y gair anthem yn gyffredinol â’r syniad o gân wladgarol, hynny yw anthem genedlaethol. Gall hon fod yn emynyddol ei naws fel y mae nifer o anthemau Ewrop, ac mae hyn yn briodol gan mai gosodiad lleisiol o destun Beiblaidd oedd yr anthem yn wreiddiol i’w chanu fel rhan o ffurf-wasanaeth yr Eglwys, a datblygwyd hi yn Lloegr wedi’r Diwygiad Protestannaidd gan gyfansoddwyr fel Tallis, Blow, Purcell, Boyce ac yn arbennig Handel. Cyfansoddodd Handel dros ugain o anthemau, gan gynnwys un ar ddeg ar gyfer Dug Chandos (1716–18); O Praise the Lord with one consent yw’r Chandos Anthem fwyaf adnabyddus.

Cafodd yr anthem adfywiad pan gyfrannodd S. S. Wesley yn helaeth i’r ffurf ar ddechrau oes Victoria, a Hubert Parry a C. V. Stanford ar ei diwedd. Gyda datblygiad canu cynulleidfaol a thwf corau capel o ganol y 19g. yng Nghymru gwelwyd cyfansoddwyr Cymreig yn ysgrifennu ar eu cyfer; yn wahanol i’r drefn yn Lloegr, byddai’r anthem Gymraeg yn adlewyrchu poblogrwydd canu cynulleidfaol a’r gymanfa ganu, a byddai anthemau newydd yn ymddangos yn rheolaidd yng nghyfnodolion cerddorol y wlad. Geiriau Cymraeg yn unig oedd iddynt fel arfer, ond o’r 1870au byddai cyhoeddwyr fel Isaac Jones yn y Rhondda yn ychwanegu cyfieithiadau Saesneg (gwael), adlewyrchiad o newid ieithyddol yn y cwm.

Gelwir God Bless the Prince of Wales (y geiriau Saesneg gan George Linley) neu ‘Ar D’wysog Gwlad y Bryniau’ (y geiriau Cymraeg gan Ceiriog), y gerddoriaeth gan Brinley Richards, yn ‘Anthem Tywysog Cymru’ oherwydd iddi gael ei hysgrifennu ar gyfer priodas y Tywysog Edward ac Alexandra o Ddenmarc yn 1863. Ond yn ddiau, y fwyaf adnabyddus hyd heddiw o holl anthemau Cymru yw Teyrnasoedd y Ddaear, gosodiad John Ambrose Lloyd o adnodau yn Salm 68 ar gyfer unawdwyr a chôr cymysg, a ddyfarnwyd yn fuddugol yn Eisteddfod Bethesda yn 1852. Fe’i canwyd am y tro cyntaf rai misoedd wedyn gan gôr y Tabernacl, Aberystwyth, dan arweiniad Edward Edwards (Pencerdd Ceredigion).

Ymhlith anthemau eraill a ddaeth yn boblogaidd ledled Cymru yr oedd Efe a Ddaw gan Tom Price, a ddyfarnwyd yn fuddugol yn Eisteddfod Genedlaethol Bangor yn 1902; Dyddiau dyn sydd fel glaswelltyn gan Tom Davies o Lynebwy, yr honnir bod dros 320,000 o gopïau ohoni wedi’u gwerthu erbyn 1920; Bendigedig fyddo Arglwydd Dduw Israel a ysgrifennwyd gan John Thomas, Blaenannerch, cyn iddo symud i Lanwrtyd yn 1871, a Dyn a aned o wraig gan D. C. Williams. Ystyrid anthemau yn llai heriol i’w canu na chorawdau oratorio, gyda’u cynganeddion cyfarwydd a’u cyfeiliant i harmoniwm neu organ yn gwneud fawr mwy na dyblu rhannau’r pedwar llais. Er mai ychydig o werth arhosol a oedd ynddynt, roeddynt fel arfer yn weithiau apelgar a oedd o fewn cyrraedd y cantorion ‘ar y galeri’ mewn cymanfa ganu, cantorion a fyddai wedi eu meistroli ar ôl ychydig o baratoi yn yr Ysgol Gân.

O droad y ganrif byddai cyfansoddwyr a gafodd well manteision addysgol, fel David Jenkins, E. T. Davies, David de Lloyd a David Emlyn Evans, yn ysgrifennu mewn arddull fwy mentrus gyda chyfeiliant pwrpasol, ond byddai anthemau fel Y Mae Afon gan Daniel Protheroe, Dyrchafaf fy Llygaid gan T. Hopkin Evans ac Yr Arglwydd yw fy Mugail o waith Caradog Roberts i’w clywed o hyd yn y blynyddoedd ar ôl yr Ail Ryfel Byd. Anthem o’r math Seisnig, at wasanaeth y ddefod Anglicanaidd, oedd Let the People Praise Thee, O God a gyfansoddwyd gan William Mathias ar gyfer priodas y Tywysog Siarl a’r Dywysoges Diana yn 1981.

Gareth Williams



Comisiynwyd y cofnod hwn ar gyfer Y Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol a fydd yn cael ei chyhoeddi gan Y Lolfa yn 2018. Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.