Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Pelydrau, Y"
CadiW (Sgwrs | cyfraniadau) |
CadiW (Sgwrs | cyfraniadau) |
||
(Ni ddangosir y golygiad yn y canol gan yr un defnyddiwr) | |||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
+ | __NOAUTOLINKS__ | ||
'''Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn [https://www.ylolfa.com/cynnyrch/9781784616250/cydymaith-i-gerddoriaeth-cymru''Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru''], cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.''' | '''Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn [https://www.ylolfa.com/cynnyrch/9781784616250/cydymaith-i-gerddoriaeth-cymru''Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru''], cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.''' | ||
− | Bu’r [[grŵp pop]] Y Pelydrau yn | + | Bu’r [[Poblogaidd, Cerddoriaeth | grŵp pop]] Y Pelydrau yn perfformio yn y cyfnod rhwng 1966 ac 1973 a’r aelodau oedd Susan Dobbs, Edith Barker a Gwenan Jones (lleisiau), Glenys Davies (llais a gitâr), a Gareth Williams (gitâr, llais). Mae enw’r grŵp yn cyfeirio at yr atomfa yn Nhrawsfynydd, bro eu mebyd, a ddechreuodd gynhyrchu trydan yn 1965. |
− | Roedd Susan Dobbs, Edith Barker, Glenys Davies a Gwenan Jones yn gyd-ddisgyblion yn Ysgol Gynradd Trawsfynydd. Cawsant gyfle yn eu hieuenctid i gymryd rhan mewn dramâu a digwyddiadau cerddorol lleol ac mewn gweithgaredd diwylliannol a ysgogwyd gan y Parch. Gwyn Erfyl [Jones]. Rhoddodd ymweliadau â gwersyll yr Urdd yng Nglan-llyn gyfle iddynt hefyd ddysgu [[caneuon gwerin]]. Ynghyd â Gareth Williams, dechreuodd y merched ganu cyfieithiadau o ganeuon Eingl-Americanaidd megis ‘Rŷn ni ar y ffordd i’r Nefoedd’. Yn 1964 ychwanegwyd y gitâr yn gyfeiliant i’w canu a dechreuodd y grŵp gystadlu mewn [[eisteddfodau]] lleol. | + | Roedd Susan Dobbs, Edith Barker, Glenys Davies a Gwenan Jones yn gyd-ddisgyblion yn Ysgol Gynradd Trawsfynydd. Cawsant gyfle yn eu hieuenctid i gymryd rhan mewn dramâu a digwyddiadau cerddorol lleol ac mewn gweithgaredd diwylliannol a ysgogwyd gan y Parch. Gwyn Erfyl [Jones]. Rhoddodd ymweliadau â gwersyll yr Urdd yng Nglan-llyn gyfle iddynt hefyd ddysgu [[Gwerin, Canu a Cherddoriaeth Draddodiadol | caneuon gwerin]]. Ynghyd â Gareth Williams, dechreuodd y merched ganu cyfieithiadau o ganeuon Eingl-Americanaidd megis ‘Rŷn ni ar y ffordd i’r Nefoedd’. Yn 1964 ychwanegwyd y gitâr yn gyfeiliant i’w canu a dechreuodd y grŵp gystadlu mewn [[Eisteddfod, Cerddoriaeth a'r | eisteddfodau]] lleol. |
Yn sgil eu poblogrwydd lleol cafodd y grŵp wahoddiad i ymuno â Pharti Prysor a oedd yn cynnal nosweithiau llawen yn yr ardal. Yn 1967 enillodd y Pelydrau gystadleuaeth bop yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd yng Nghaerfyrddin, a hynny gyda’u cân ‘Y Bachgen Llygad Du’ a gyfansoddwyd gan Glenys Davies. Ar ôl eu llwyddiant penderfynodd Gareth Williams ymadael â’r grŵp a chymerwyd ei le gan John Arthur Ifans. | Yn sgil eu poblogrwydd lleol cafodd y grŵp wahoddiad i ymuno â Pharti Prysor a oedd yn cynnal nosweithiau llawen yn yr ardal. Yn 1967 enillodd y Pelydrau gystadleuaeth bop yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd yng Nghaerfyrddin, a hynny gyda’u cân ‘Y Bachgen Llygad Du’ a gyfansoddwyd gan Glenys Davies. Ar ôl eu llwyddiant penderfynodd Gareth Williams ymadael â’r grŵp a chymerwyd ei le gan John Arthur Ifans. | ||
Llinell 9: | Llinell 10: | ||
Rhyddhaodd Y Pelydrau saith record, pump gyda Josiah Jones, Cambrian, a dwy gyda Dennis Rees, Cwmni’r Dryw. Ym Mai 1969 cyhoeddwyd eu sengl ‘Roced Fach Ni’, cân i blant am laniad dyn ar y lleuad a’r ffaith nad oedd baner y ddraig goch wedi ei gosod yno. Yn ychwanegol at boblogrwydd y gân, roedd y sengl yn nodedig ar gyfrif cân yr ail ochr, sef ‘Dim ond fi sydd ar ôl’, un o’r caneuon gan Y Pelydrau sy’n defnyddio geiriau’r [[prifardd]] Gerallt Lloyd Owen. | Rhyddhaodd Y Pelydrau saith record, pump gyda Josiah Jones, Cambrian, a dwy gyda Dennis Rees, Cwmni’r Dryw. Ym Mai 1969 cyhoeddwyd eu sengl ‘Roced Fach Ni’, cân i blant am laniad dyn ar y lleuad a’r ffaith nad oedd baner y ddraig goch wedi ei gosod yno. Yn ychwanegol at boblogrwydd y gân, roedd y sengl yn nodedig ar gyfrif cân yr ail ochr, sef ‘Dim ond fi sydd ar ôl’, un o’r caneuon gan Y Pelydrau sy’n defnyddio geiriau’r [[prifardd]] Gerallt Lloyd Owen. | ||
− | Erbyn hyn roedd Y Pelydrau yn wynebau | + | Erbyn hyn roedd Y Pelydrau yn wynebau cyfarwydd ar y teledu yng Nghymru ac yn ymddangos ar raglenni megis ''Y Dydd''. Ym mis Tachwedd 1969 ymddangosodd y grŵp ar y rhaglen deledu Brydeinig ''Opportunity Knocks'' gan ganu ‘Hwrli-Bwrli,’ sef geiriau Glenys Davies ar alaw ‘Mary Ann’ (Ray Charles) a boblogeiddiwyd gan Harry Belafonte. Daeth Y Pelydrau yn ail yn y gystadleuaeth ac yn sgil eu llwyddiant cawsant gynigion gwaith gan orsaf radio ym Michigan yn yr Unol Daleithiau a gwahoddiad gan Syr Billy Butlin i ganu yn ei wersyll gwyliau yn Skegness. |
Roedd Y Pelydrau yn nodedig ar sail eu synnwyr ffasiwn yn ogystal â’u cerddoriaeth, gan ymddangos mewn gwisgoedd unffurf wedi eu cynllunio gan Marianne Jewel (Marianne Wales) o Benrhyndeudraeth. Daeth y grŵp i ben yn 1973. | Roedd Y Pelydrau yn nodedig ar sail eu synnwyr ffasiwn yn ogystal â’u cerddoriaeth, gan ymddangos mewn gwisgoedd unffurf wedi eu cynllunio gan Marianne Jewel (Marianne Wales) o Benrhyndeudraeth. Daeth y grŵp i ben yn 1973. |
Y diwygiad cyfredol, am 17:14, 7 Awst 2021
Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.
Bu’r grŵp pop Y Pelydrau yn perfformio yn y cyfnod rhwng 1966 ac 1973 a’r aelodau oedd Susan Dobbs, Edith Barker a Gwenan Jones (lleisiau), Glenys Davies (llais a gitâr), a Gareth Williams (gitâr, llais). Mae enw’r grŵp yn cyfeirio at yr atomfa yn Nhrawsfynydd, bro eu mebyd, a ddechreuodd gynhyrchu trydan yn 1965.
Roedd Susan Dobbs, Edith Barker, Glenys Davies a Gwenan Jones yn gyd-ddisgyblion yn Ysgol Gynradd Trawsfynydd. Cawsant gyfle yn eu hieuenctid i gymryd rhan mewn dramâu a digwyddiadau cerddorol lleol ac mewn gweithgaredd diwylliannol a ysgogwyd gan y Parch. Gwyn Erfyl [Jones]. Rhoddodd ymweliadau â gwersyll yr Urdd yng Nglan-llyn gyfle iddynt hefyd ddysgu caneuon gwerin. Ynghyd â Gareth Williams, dechreuodd y merched ganu cyfieithiadau o ganeuon Eingl-Americanaidd megis ‘Rŷn ni ar y ffordd i’r Nefoedd’. Yn 1964 ychwanegwyd y gitâr yn gyfeiliant i’w canu a dechreuodd y grŵp gystadlu mewn eisteddfodau lleol.
Yn sgil eu poblogrwydd lleol cafodd y grŵp wahoddiad i ymuno â Pharti Prysor a oedd yn cynnal nosweithiau llawen yn yr ardal. Yn 1967 enillodd y Pelydrau gystadleuaeth bop yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd yng Nghaerfyrddin, a hynny gyda’u cân ‘Y Bachgen Llygad Du’ a gyfansoddwyd gan Glenys Davies. Ar ôl eu llwyddiant penderfynodd Gareth Williams ymadael â’r grŵp a chymerwyd ei le gan John Arthur Ifans.
Rhyddhaodd Y Pelydrau saith record, pump gyda Josiah Jones, Cambrian, a dwy gyda Dennis Rees, Cwmni’r Dryw. Ym Mai 1969 cyhoeddwyd eu sengl ‘Roced Fach Ni’, cân i blant am laniad dyn ar y lleuad a’r ffaith nad oedd baner y ddraig goch wedi ei gosod yno. Yn ychwanegol at boblogrwydd y gân, roedd y sengl yn nodedig ar gyfrif cân yr ail ochr, sef ‘Dim ond fi sydd ar ôl’, un o’r caneuon gan Y Pelydrau sy’n defnyddio geiriau’r prifardd Gerallt Lloyd Owen.
Erbyn hyn roedd Y Pelydrau yn wynebau cyfarwydd ar y teledu yng Nghymru ac yn ymddangos ar raglenni megis Y Dydd. Ym mis Tachwedd 1969 ymddangosodd y grŵp ar y rhaglen deledu Brydeinig Opportunity Knocks gan ganu ‘Hwrli-Bwrli,’ sef geiriau Glenys Davies ar alaw ‘Mary Ann’ (Ray Charles) a boblogeiddiwyd gan Harry Belafonte. Daeth Y Pelydrau yn ail yn y gystadleuaeth ac yn sgil eu llwyddiant cawsant gynigion gwaith gan orsaf radio ym Michigan yn yr Unol Daleithiau a gwahoddiad gan Syr Billy Butlin i ganu yn ei wersyll gwyliau yn Skegness.
Roedd Y Pelydrau yn nodedig ar sail eu synnwyr ffasiwn yn ogystal â’u cerddoriaeth, gan ymddangos mewn gwisgoedd unffurf wedi eu cynllunio gan Marianne Jewel (Marianne Wales) o Benrhyndeudraeth. Daeth y grŵp i ben yn 1973.
Sarah Hill
Disgyddiaeth
- Y Pelydrau [sengl] (Cambrian CEP405, 1967)
- Caneuon Serch [EP] (Cambrian CEP401, 1967)
- Eiliad i Wybod [EP] (Cambrian CEP416, 1968)
- Dewch i Ddawnsio [EP] (Cambrian WRE1056, 1969)
- ‘Roced Fach Ni’/‘Dim Ond Y Fi Sydd Ar Ôl’ (Wren Records WSP2002, 1969)
- Hwrli Bwrli [sengl] (Wren Records WSP2003, 1970)
- Coffa Hedd Wyn [EP] (Cambrian CEP487, 1973)
- Comisiynwyd y cofnod hwn ar gyfer Y Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol a fydd yn cael ei chyhoeddi gan Y Lolfa yn 2018. Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.