Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Tebot Piws, Y"

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio
 
(Ni ddangosir y 2 olygiad yn y canol gan yr un defnyddiwr)
Llinell 1: Llinell 1:
 
+
__NOAUTOLINKS__
 
'''Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn [https://www.ylolfa.com/cynnyrch/9781784616250/cydymaith-i-gerddoriaeth-cymru''Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru''], cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.'''
 
'''Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn [https://www.ylolfa.com/cynnyrch/9781784616250/cydymaith-i-gerddoriaeth-cymru''Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru''], cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.'''
  
[[Grŵp pop/gwerin]] hwyliog a dychanol a fu’n perfformio’n gyson rhwng 1969 ac 1972. Er iddynt ymddangos mewn nosweithiau llawen yn aml, roedd Y Tebot Piws yn wahanol iawn i’r artistiaid a arferai ymddangos yn y nosweithiau hynny. Yn eu jîns a’u crysau-T, ni hidient am barchusrwydd ac roedd eu hymarweddiad ar lwyfan yr un mor anffurfiol â’u gwisg; wrth ganu eu cyfansoddiadau gwreiddiol eu hunain i gyfeiliant gitarau acwstig, byddent yn aml yn gwamalu ac yn barotach i symud o gwmpas y llwyfan nag i sefyll yn stond wrth feic. Fel y [[Dyniadon Ynfyd Hirfelyn Tesog]], eu heneidiau hoff cytûn o ran hiwmor a grŵp a berfformiai’n aml ochr yn ochr â hwy, torrent yn rhydd o’r hualau moesol disgwyliedig a osodwyd gan sefydliadau’r capel, yr Urdd a’r [[Eisteddfod]].
+
[[Poblogaidd, Cerddoriaeth | Grŵp pop]]/[[Gwerin, grwpiau | gwerin]] hwyliog a dychanol a fu’n perfformio’n gyson rhwng 1969 ac 1972. Er iddynt ymddangos mewn nosweithiau llawen yn aml, roedd Y Tebot Piws yn wahanol iawn i’r artistiaid a arferai ymddangos yn y nosweithiau hynny. Yn eu jîns a’u crysau-T, ni hidient am barchusrwydd ac roedd eu hymarweddiad ar lwyfan yr un mor anffurfiol â’u gwisg; wrth ganu eu cyfansoddiadau gwreiddiol eu hunain i gyfeiliant gitarau acwstig, byddent yn aml yn gwamalu ac yn barotach i symud o gwmpas y llwyfan nag i sefyll yn stond wrth feic. Fel y [[Dyniadon Ynfyd Hirfelyn Tesog, Y | Dyniadon Ynfyd Hirfelyn Tesog]], eu heneidiau hoff cytûn o ran hiwmor a grŵp a berfformiai’n aml ochr yn ochr â hwy, torrent yn rhydd o’r hualau moesol disgwyliedig a osodwyd gan sefydliadau’r capel, yr Urdd a’r [[Eisteddfod, Cerddoriaeth a'r | Eisteddfod]].
  
Myfyrwyr yng Ngholeg Hyfforddi Cyncoed, [[Caerdydd]], oedd y pedwar aelod. Hanai Emyr ‘Ems’ Huws Jones o Langefni, Stanley Morgan-Jones o Walchmai, Ynys Môn eto, Alun ‘Sbardun’ Huws o Benrhyndeudraeth, Meirionnydd, a Dewi ‘Pws’ Morris o Dre-boeth, Abertawe.
+
Myfyrwyr yng Ngholeg Hyfforddi Cyncoed, Caerdydd, oedd y pedwar aelod. Hanai Emyr ‘Ems’ Huws Jones o Langefni, Stanley Morgan-Jones o Walchmai, Ynys Môn eto, Alun ‘Sbardun’ Huws o Benrhyndeudraeth, Meirionnydd, a Dewi ‘Pws’ Morris o Dre-boeth, Abertawe.
  
 
Potiwrs Gwynedd oedd enw’r grŵp yn wreiddiol ond penderfynwyd nad oedd yn enw gweddus ar gyfer cystadlu mewn Steddfod Bop a gynhelid gan gapel Methodistaidd yn Ninbych ym mis Ebrill 1969. Enillwyd y wobr o £5 trwy ganu am John Jones ‘Yr Hogyn Pren’. Erbyn diwedd y flwyddyn roedd y gân wedi ymddangos ar record, ynghyd â thair cân arall, wedi’u recordio’n amrwd mewn ystafell ffrynt yng nghyffiniau Lerpwl a’u rhyddhau ar label Recordiau’r Dryw.
 
Potiwrs Gwynedd oedd enw’r grŵp yn wreiddiol ond penderfynwyd nad oedd yn enw gweddus ar gyfer cystadlu mewn Steddfod Bop a gynhelid gan gapel Methodistaidd yn Ninbych ym mis Ebrill 1969. Enillwyd y wobr o £5 trwy ganu am John Jones ‘Yr Hogyn Pren’. Erbyn diwedd y flwyddyn roedd y gân wedi ymddangos ar record, ynghyd â thair cân arall, wedi’u recordio’n amrwd mewn ystafell ffrynt yng nghyffiniau Lerpwl a’u rhyddhau ar label Recordiau’r Dryw.
  
Rhyddhawyd y [[tair]] record fer arall ar label Sain ac roeddynt yn cynnwys y cymysgedd arferol o’r gwirion a’r dwys. Ochr yn ochr â’r caneuon hwyliog megis ‘Blaenau Ffestiniog’, ‘Godro’r Fuwch’ a ‘Ie, Ie, ’Na Fe’ ceid ‘O Arglwydd Mae’n Uffern yn y Pwll’ (yn dychanu [[arddull]] [[Meic Stevens]]), ynghyd â’r hyfryd ‘Dilyn Colomen’, ‘Nwy yn y Nen’ a ‘Lleucu Llwyd’, sydd wedi hen sefydlu ei hun fel [[cân werin]]. Roedd ‘D’yn ni Ddim yn Mynd i Birmingham’ yn gân brotest yn erbyn bwriad BBC Cymru i recordio rhaglenni’r gyfres deledu ''Disc a Dawn'' y tu allan i Gymru.
+
Rhyddhawyd y tair record fer arall ar label Sain ac roeddynt yn cynnwys y cymysgedd arferol o’r gwirion a’r dwys. Ochr yn ochr â’r caneuon hwyliog megis ‘Blaenau Ffestiniog’, ‘Godro’r Fuwch’ a ‘Ie, Ie, ’Na Fe’ ceid ‘O Arglwydd Mae’n Uffern yn y Pwll’ (yn dychanu arddull [[Stevens, Meic (g.1942) | Meic Stevens]]), ynghyd â’r hyfryd ‘Dilyn Colomen’, ‘Nwy yn y Nen’ a ‘Lleucu Llwyd’, sydd wedi hen sefydlu ei hun fel [[Gwerin, Canu a Cherddoriaeth Draddodiadol | cân werin]]. Roedd ‘D’yn ni Ddim yn Mynd i Birmingham’ yn gân brotest yn erbyn bwriad BBC Cymru i recordio rhaglenni’r gyfres deledu ''Disc a Dawn'' y tu allan i Gymru.
  
Daeth gyrfa’r Tebot Piws i ben yn Eisteddfod Hwlffordd 1972. Cyhoeddwyd Llyfr Pocad Tîn gan [[Dafydd]] Meirion yn olrhain hanes y grŵp. Blodeuodd Ems, Sbardun a Pws fel cyfansoddwyr gyda grwpiau eraill. Bu Sbardun yn gyd-olygydd y cylchgrawn pop ''Sŵn''. Canolbwyntiodd Stan ar ei yrfa fel athro. Rhyddhaodd Sain gryno-ddisg ''Y Gore a’r Gwaetha o’r Tebot Piws'' yn 1993. Ailffurfiodd y band yn 2008 a rhyddhawyd cryno-ddisg o ganeuon newydd, ''Twll Du Ifan Saer'', yn 2011 ar label Labelabel.
+
Daeth gyrfa’r Tebot Piws i ben yn Eisteddfod Hwlffordd 1972. Cyhoeddwyd Llyfr Pocad Tîn gan Dafydd Meirion yn olrhain hanes y grŵp. Blodeuodd Ems, Sbardun a Pws fel cyfansoddwyr gyda grwpiau eraill. Bu Sbardun yn gyd-olygydd y cylchgrawn pop ''Sŵn''. Canolbwyntiodd Stan ar ei yrfa fel athro. Rhyddhaodd Sain gryno-ddisg ''Y Gore a’r Gwaetha o’r Tebot Piws'' yn 1993. Ailffurfiodd y band yn 2008 a rhyddhawyd cryno-ddisg o ganeuon newydd, ''Twll Du Ifan Saer'', yn 2011 ar label Labelabel.
  
 
'''Hefin Wyn'''
 
'''Hefin Wyn'''

Y diwygiad cyfredol, am 21:06, 7 Awst 2021

Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.

Grŵp pop/ gwerin hwyliog a dychanol a fu’n perfformio’n gyson rhwng 1969 ac 1972. Er iddynt ymddangos mewn nosweithiau llawen yn aml, roedd Y Tebot Piws yn wahanol iawn i’r artistiaid a arferai ymddangos yn y nosweithiau hynny. Yn eu jîns a’u crysau-T, ni hidient am barchusrwydd ac roedd eu hymarweddiad ar lwyfan yr un mor anffurfiol â’u gwisg; wrth ganu eu cyfansoddiadau gwreiddiol eu hunain i gyfeiliant gitarau acwstig, byddent yn aml yn gwamalu ac yn barotach i symud o gwmpas y llwyfan nag i sefyll yn stond wrth feic. Fel y Dyniadon Ynfyd Hirfelyn Tesog, eu heneidiau hoff cytûn o ran hiwmor a grŵp a berfformiai’n aml ochr yn ochr â hwy, torrent yn rhydd o’r hualau moesol disgwyliedig a osodwyd gan sefydliadau’r capel, yr Urdd a’r Eisteddfod.

Myfyrwyr yng Ngholeg Hyfforddi Cyncoed, Caerdydd, oedd y pedwar aelod. Hanai Emyr ‘Ems’ Huws Jones o Langefni, Stanley Morgan-Jones o Walchmai, Ynys Môn eto, Alun ‘Sbardun’ Huws o Benrhyndeudraeth, Meirionnydd, a Dewi ‘Pws’ Morris o Dre-boeth, Abertawe.

Potiwrs Gwynedd oedd enw’r grŵp yn wreiddiol ond penderfynwyd nad oedd yn enw gweddus ar gyfer cystadlu mewn Steddfod Bop a gynhelid gan gapel Methodistaidd yn Ninbych ym mis Ebrill 1969. Enillwyd y wobr o £5 trwy ganu am John Jones ‘Yr Hogyn Pren’. Erbyn diwedd y flwyddyn roedd y gân wedi ymddangos ar record, ynghyd â thair cân arall, wedi’u recordio’n amrwd mewn ystafell ffrynt yng nghyffiniau Lerpwl a’u rhyddhau ar label Recordiau’r Dryw.

Rhyddhawyd y tair record fer arall ar label Sain ac roeddynt yn cynnwys y cymysgedd arferol o’r gwirion a’r dwys. Ochr yn ochr â’r caneuon hwyliog megis ‘Blaenau Ffestiniog’, ‘Godro’r Fuwch’ a ‘Ie, Ie, ’Na Fe’ ceid ‘O Arglwydd Mae’n Uffern yn y Pwll’ (yn dychanu arddull Meic Stevens), ynghyd â’r hyfryd ‘Dilyn Colomen’, ‘Nwy yn y Nen’ a ‘Lleucu Llwyd’, sydd wedi hen sefydlu ei hun fel cân werin. Roedd ‘D’yn ni Ddim yn Mynd i Birmingham’ yn gân brotest yn erbyn bwriad BBC Cymru i recordio rhaglenni’r gyfres deledu Disc a Dawn y tu allan i Gymru.

Daeth gyrfa’r Tebot Piws i ben yn Eisteddfod Hwlffordd 1972. Cyhoeddwyd Llyfr Pocad Tîn gan Dafydd Meirion yn olrhain hanes y grŵp. Blodeuodd Ems, Sbardun a Pws fel cyfansoddwyr gyda grwpiau eraill. Bu Sbardun yn gyd-olygydd y cylchgrawn pop Sŵn. Canolbwyntiodd Stan ar ei yrfa fel athro. Rhyddhaodd Sain gryno-ddisg Y Gore a’r Gwaetha o’r Tebot Piws yn 1993. Ailffurfiodd y band yn 2008 a rhyddhawyd cryno-ddisg o ganeuon newydd, Twll Du Ifan Saer, yn 2011 ar label Labelabel.

Hefin Wyn

Disgyddiaeth

  • Yr Hogyn Pren [EP] (Dryw WRE1091, 1970)
  • Blaenau Ffestiniog [EP] (Sain 11, 1970)
  • Mae Rhywun Wedi Dwyn Fy Nhrwyn [EP] (Sain 19, 1971)
  • Byrmingham [EP] (Sain 25, 1972)

Casgliad:

  • Y Gore a’r Gwaetha o’r Tebot Piws (Sain SCD2049, 1994)

Llyfryddiaeth

  • Dafydd Mei, Y Tebot Piws (Penygroes, 1974)



Comisiynwyd y cofnod hwn ar gyfer Y Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol a fydd yn cael ei chyhoeddi gan Y Lolfa yn 2018. Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.