Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Tebot Piws, Y"
CadiW (Sgwrs | cyfraniadau) |
CadiW (Sgwrs | cyfraniadau) |
||
(Ni ddangosir y golygiad yn y canol gan yr un defnyddiwr) | |||
Llinell 2: | Llinell 2: | ||
'''Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn [https://www.ylolfa.com/cynnyrch/9781784616250/cydymaith-i-gerddoriaeth-cymru''Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru''], cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.''' | '''Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn [https://www.ylolfa.com/cynnyrch/9781784616250/cydymaith-i-gerddoriaeth-cymru''Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru''], cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.''' | ||
− | [[Grŵp pop/gwerin]] hwyliog a dychanol a fu’n perfformio’n gyson rhwng 1969 ac 1972. Er iddynt ymddangos mewn nosweithiau llawen yn aml, roedd Y Tebot Piws yn wahanol iawn i’r artistiaid a arferai ymddangos yn y nosweithiau hynny. Yn eu jîns a’u crysau-T, ni hidient am barchusrwydd ac roedd eu hymarweddiad ar lwyfan yr un mor anffurfiol â’u gwisg; wrth ganu eu cyfansoddiadau gwreiddiol eu hunain i gyfeiliant gitarau acwstig, byddent yn aml yn gwamalu ac yn barotach i symud o gwmpas y llwyfan nag i sefyll yn stond wrth feic. Fel y [[Dyniadon Ynfyd Hirfelyn Tesog]], eu heneidiau hoff cytûn o ran hiwmor a grŵp a berfformiai’n aml ochr yn ochr â hwy, torrent yn rhydd o’r hualau moesol disgwyliedig a osodwyd gan sefydliadau’r capel, yr Urdd a’r [[Eisteddfod]]. | + | [[Poblogaidd, Cerddoriaeth | Grŵp pop]]/[[Gwerin, grwpiau | gwerin]] hwyliog a dychanol a fu’n perfformio’n gyson rhwng 1969 ac 1972. Er iddynt ymddangos mewn nosweithiau llawen yn aml, roedd Y Tebot Piws yn wahanol iawn i’r artistiaid a arferai ymddangos yn y nosweithiau hynny. Yn eu jîns a’u crysau-T, ni hidient am barchusrwydd ac roedd eu hymarweddiad ar lwyfan yr un mor anffurfiol â’u gwisg; wrth ganu eu cyfansoddiadau gwreiddiol eu hunain i gyfeiliant gitarau acwstig, byddent yn aml yn gwamalu ac yn barotach i symud o gwmpas y llwyfan nag i sefyll yn stond wrth feic. Fel y [[Dyniadon Ynfyd Hirfelyn Tesog, Y | Dyniadon Ynfyd Hirfelyn Tesog]], eu heneidiau hoff cytûn o ran hiwmor a grŵp a berfformiai’n aml ochr yn ochr â hwy, torrent yn rhydd o’r hualau moesol disgwyliedig a osodwyd gan sefydliadau’r capel, yr Urdd a’r [[Eisteddfod, Cerddoriaeth a'r | Eisteddfod]]. |
Myfyrwyr yng Ngholeg Hyfforddi Cyncoed, Caerdydd, oedd y pedwar aelod. Hanai Emyr ‘Ems’ Huws Jones o Langefni, Stanley Morgan-Jones o Walchmai, Ynys Môn eto, Alun ‘Sbardun’ Huws o Benrhyndeudraeth, Meirionnydd, a Dewi ‘Pws’ Morris o Dre-boeth, Abertawe. | Myfyrwyr yng Ngholeg Hyfforddi Cyncoed, Caerdydd, oedd y pedwar aelod. Hanai Emyr ‘Ems’ Huws Jones o Langefni, Stanley Morgan-Jones o Walchmai, Ynys Môn eto, Alun ‘Sbardun’ Huws o Benrhyndeudraeth, Meirionnydd, a Dewi ‘Pws’ Morris o Dre-boeth, Abertawe. | ||
Llinell 8: | Llinell 8: | ||
Potiwrs Gwynedd oedd enw’r grŵp yn wreiddiol ond penderfynwyd nad oedd yn enw gweddus ar gyfer cystadlu mewn Steddfod Bop a gynhelid gan gapel Methodistaidd yn Ninbych ym mis Ebrill 1969. Enillwyd y wobr o £5 trwy ganu am John Jones ‘Yr Hogyn Pren’. Erbyn diwedd y flwyddyn roedd y gân wedi ymddangos ar record, ynghyd â thair cân arall, wedi’u recordio’n amrwd mewn ystafell ffrynt yng nghyffiniau Lerpwl a’u rhyddhau ar label Recordiau’r Dryw. | Potiwrs Gwynedd oedd enw’r grŵp yn wreiddiol ond penderfynwyd nad oedd yn enw gweddus ar gyfer cystadlu mewn Steddfod Bop a gynhelid gan gapel Methodistaidd yn Ninbych ym mis Ebrill 1969. Enillwyd y wobr o £5 trwy ganu am John Jones ‘Yr Hogyn Pren’. Erbyn diwedd y flwyddyn roedd y gân wedi ymddangos ar record, ynghyd â thair cân arall, wedi’u recordio’n amrwd mewn ystafell ffrynt yng nghyffiniau Lerpwl a’u rhyddhau ar label Recordiau’r Dryw. | ||
− | Rhyddhawyd y tair record fer arall ar label Sain ac roeddynt yn cynnwys y cymysgedd arferol o’r gwirion a’r dwys. Ochr yn ochr â’r caneuon hwyliog megis ‘Blaenau Ffestiniog’, ‘Godro’r Fuwch’ a ‘Ie, Ie, ’Na Fe’ ceid ‘O Arglwydd Mae’n Uffern yn y Pwll’ (yn dychanu arddull [[Meic Stevens]]), ynghyd â’r hyfryd ‘Dilyn Colomen’, ‘Nwy yn y Nen’ a ‘Lleucu Llwyd’, sydd wedi hen sefydlu ei hun fel [[cân werin]]. Roedd ‘D’yn ni Ddim yn Mynd i Birmingham’ yn gân brotest yn erbyn bwriad BBC Cymru i recordio rhaglenni’r gyfres deledu ''Disc a Dawn'' y tu allan i Gymru. | + | Rhyddhawyd y tair record fer arall ar label Sain ac roeddynt yn cynnwys y cymysgedd arferol o’r gwirion a’r dwys. Ochr yn ochr â’r caneuon hwyliog megis ‘Blaenau Ffestiniog’, ‘Godro’r Fuwch’ a ‘Ie, Ie, ’Na Fe’ ceid ‘O Arglwydd Mae’n Uffern yn y Pwll’ (yn dychanu arddull [[Stevens, Meic (g.1942) | Meic Stevens]]), ynghyd â’r hyfryd ‘Dilyn Colomen’, ‘Nwy yn y Nen’ a ‘Lleucu Llwyd’, sydd wedi hen sefydlu ei hun fel [[Gwerin, Canu a Cherddoriaeth Draddodiadol | cân werin]]. Roedd ‘D’yn ni Ddim yn Mynd i Birmingham’ yn gân brotest yn erbyn bwriad BBC Cymru i recordio rhaglenni’r gyfres deledu ''Disc a Dawn'' y tu allan i Gymru. |
Daeth gyrfa’r Tebot Piws i ben yn Eisteddfod Hwlffordd 1972. Cyhoeddwyd Llyfr Pocad Tîn gan Dafydd Meirion yn olrhain hanes y grŵp. Blodeuodd Ems, Sbardun a Pws fel cyfansoddwyr gyda grwpiau eraill. Bu Sbardun yn gyd-olygydd y cylchgrawn pop ''Sŵn''. Canolbwyntiodd Stan ar ei yrfa fel athro. Rhyddhaodd Sain gryno-ddisg ''Y Gore a’r Gwaetha o’r Tebot Piws'' yn 1993. Ailffurfiodd y band yn 2008 a rhyddhawyd cryno-ddisg o ganeuon newydd, ''Twll Du Ifan Saer'', yn 2011 ar label Labelabel. | Daeth gyrfa’r Tebot Piws i ben yn Eisteddfod Hwlffordd 1972. Cyhoeddwyd Llyfr Pocad Tîn gan Dafydd Meirion yn olrhain hanes y grŵp. Blodeuodd Ems, Sbardun a Pws fel cyfansoddwyr gyda grwpiau eraill. Bu Sbardun yn gyd-olygydd y cylchgrawn pop ''Sŵn''. Canolbwyntiodd Stan ar ei yrfa fel athro. Rhyddhaodd Sain gryno-ddisg ''Y Gore a’r Gwaetha o’r Tebot Piws'' yn 1993. Ailffurfiodd y band yn 2008 a rhyddhawyd cryno-ddisg o ganeuon newydd, ''Twll Du Ifan Saer'', yn 2011 ar label Labelabel. |
Y diwygiad cyfredol, am 21:06, 7 Awst 2021
Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.
Grŵp pop/ gwerin hwyliog a dychanol a fu’n perfformio’n gyson rhwng 1969 ac 1972. Er iddynt ymddangos mewn nosweithiau llawen yn aml, roedd Y Tebot Piws yn wahanol iawn i’r artistiaid a arferai ymddangos yn y nosweithiau hynny. Yn eu jîns a’u crysau-T, ni hidient am barchusrwydd ac roedd eu hymarweddiad ar lwyfan yr un mor anffurfiol â’u gwisg; wrth ganu eu cyfansoddiadau gwreiddiol eu hunain i gyfeiliant gitarau acwstig, byddent yn aml yn gwamalu ac yn barotach i symud o gwmpas y llwyfan nag i sefyll yn stond wrth feic. Fel y Dyniadon Ynfyd Hirfelyn Tesog, eu heneidiau hoff cytûn o ran hiwmor a grŵp a berfformiai’n aml ochr yn ochr â hwy, torrent yn rhydd o’r hualau moesol disgwyliedig a osodwyd gan sefydliadau’r capel, yr Urdd a’r Eisteddfod.
Myfyrwyr yng Ngholeg Hyfforddi Cyncoed, Caerdydd, oedd y pedwar aelod. Hanai Emyr ‘Ems’ Huws Jones o Langefni, Stanley Morgan-Jones o Walchmai, Ynys Môn eto, Alun ‘Sbardun’ Huws o Benrhyndeudraeth, Meirionnydd, a Dewi ‘Pws’ Morris o Dre-boeth, Abertawe.
Potiwrs Gwynedd oedd enw’r grŵp yn wreiddiol ond penderfynwyd nad oedd yn enw gweddus ar gyfer cystadlu mewn Steddfod Bop a gynhelid gan gapel Methodistaidd yn Ninbych ym mis Ebrill 1969. Enillwyd y wobr o £5 trwy ganu am John Jones ‘Yr Hogyn Pren’. Erbyn diwedd y flwyddyn roedd y gân wedi ymddangos ar record, ynghyd â thair cân arall, wedi’u recordio’n amrwd mewn ystafell ffrynt yng nghyffiniau Lerpwl a’u rhyddhau ar label Recordiau’r Dryw.
Rhyddhawyd y tair record fer arall ar label Sain ac roeddynt yn cynnwys y cymysgedd arferol o’r gwirion a’r dwys. Ochr yn ochr â’r caneuon hwyliog megis ‘Blaenau Ffestiniog’, ‘Godro’r Fuwch’ a ‘Ie, Ie, ’Na Fe’ ceid ‘O Arglwydd Mae’n Uffern yn y Pwll’ (yn dychanu arddull Meic Stevens), ynghyd â’r hyfryd ‘Dilyn Colomen’, ‘Nwy yn y Nen’ a ‘Lleucu Llwyd’, sydd wedi hen sefydlu ei hun fel cân werin. Roedd ‘D’yn ni Ddim yn Mynd i Birmingham’ yn gân brotest yn erbyn bwriad BBC Cymru i recordio rhaglenni’r gyfres deledu Disc a Dawn y tu allan i Gymru.
Daeth gyrfa’r Tebot Piws i ben yn Eisteddfod Hwlffordd 1972. Cyhoeddwyd Llyfr Pocad Tîn gan Dafydd Meirion yn olrhain hanes y grŵp. Blodeuodd Ems, Sbardun a Pws fel cyfansoddwyr gyda grwpiau eraill. Bu Sbardun yn gyd-olygydd y cylchgrawn pop Sŵn. Canolbwyntiodd Stan ar ei yrfa fel athro. Rhyddhaodd Sain gryno-ddisg Y Gore a’r Gwaetha o’r Tebot Piws yn 1993. Ailffurfiodd y band yn 2008 a rhyddhawyd cryno-ddisg o ganeuon newydd, Twll Du Ifan Saer, yn 2011 ar label Labelabel.
Hefin Wyn
Disgyddiaeth
- Yr Hogyn Pren [EP] (Dryw WRE1091, 1970)
- Blaenau Ffestiniog [EP] (Sain 11, 1970)
- Mae Rhywun Wedi Dwyn Fy Nhrwyn [EP] (Sain 19, 1971)
- Byrmingham [EP] (Sain 25, 1972)
Casgliad:
- Y Gore a’r Gwaetha o’r Tebot Piws (Sain SCD2049, 1994)
Llyfryddiaeth
- Dafydd Mei, Y Tebot Piws (Penygroes, 1974)
- Comisiynwyd y cofnod hwn ar gyfer Y Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol a fydd yn cael ei chyhoeddi gan Y Lolfa yn 2018. Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.