Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Thomas, D. Vaughan (1873-1934)"
CadiW (Sgwrs | cyfraniadau) |
CadiW (Sgwrs | cyfraniadau) |
||
(Ni ddangosir y golygiad yn y canol gan yr un defnyddiwr) | |||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
− | + | __NOAUTOLINKS__ | |
'''Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn [https://www.ylolfa.com/cynnyrch/9781784616250/cydymaith-i-gerddoriaeth-cymru''Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru''], cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.''' | '''Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn [https://www.ylolfa.com/cynnyrch/9781784616250/cydymaith-i-gerddoriaeth-cymru''Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru''], cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.''' | ||
Un o gyfansoddwyr amlycaf Cymru yn y blynyddoedd rhwng y ddau ryfel byd a chyda’r pwysicaf yn y cyfnod o drawsnewid yn natblygiad cerddoriaeth Cymru o oes Victoria hyd at heddiw. | Un o gyfansoddwyr amlycaf Cymru yn y blynyddoedd rhwng y ddau ryfel byd a chyda’r pwysicaf yn y cyfnod o drawsnewid yn natblygiad cerddoriaeth Cymru o oes Victoria hyd at heddiw. | ||
− | Graddiodd David Vaughan Thomas mewn mathemateg ym Mhrifysgol Rhydychen cyn troi ei olygon i fyd cerddoriaeth. Rhagorodd fel cyfansoddwr, darlithydd, beirniad ac arholwr (ar ran Coleg y Drindod Llundain). Wedi iddo raddio yn Rhydychen (mewn mathemateg ac yn ddiweddarach fel DMus), bu’n dysgu yn Lloegr cyn dychwelyd i Gymru ac ymgartrefu yn Abertawe gyda’i deulu (daeth ei fab Wynford yn ddarlledwr amlwg). Gweithio fel cerddor ar ei liwt ei hun a wnâi a theithiodd yn ehangach yn rhyngwladol nag unrhyw gerddor Cymreig o’i genhedlaeth (bu farw yn Johannesburg, De Affrica). Bu ei fethiant i ennill Cadair Cerddoriaeth Coleg [[Prifysgol]] Cymru Aberystwyth yn 1919 (pan benodwyd [[Walford Davies]]) yn destun siarad o fewn cylchoedd cerddorol Cymreig am flynyddoedd lawer. | + | Graddiodd David Vaughan Thomas mewn mathemateg ym Mhrifysgol Rhydychen cyn troi ei olygon i fyd cerddoriaeth. Rhagorodd fel cyfansoddwr, darlithydd, beirniad ac arholwr (ar ran Coleg y Drindod Llundain). Wedi iddo raddio yn Rhydychen (mewn mathemateg ac yn ddiweddarach fel DMus), bu’n dysgu yn Lloegr cyn dychwelyd i Gymru ac ymgartrefu yn Abertawe gyda’i deulu (daeth ei fab Wynford yn ddarlledwr amlwg). Gweithio fel cerddor ar ei liwt ei hun a wnâi a theithiodd yn ehangach yn rhyngwladol nag unrhyw gerddor Cymreig o’i genhedlaeth (bu farw yn Johannesburg, De Affrica). Bu ei fethiant i ennill Cadair Cerddoriaeth Coleg [[Prifysgolion a Cherddoriaeth yng Nghymru | Prifysgol]] Cymru Aberystwyth yn 1919 (pan benodwyd [[Davies, Henry Walford (1869-1941) | Walford Davies]]) yn destun siarad o fewn cylchoedd cerddorol Cymreig am flynyddoedd lawer. |
− | Mae gweithiau Vaughan Thomas yn perthyn i ddau gyfnod gwahanol yn ei hanes: y cyntaf rhwng 1906 ac 1920 a’r ail rhwng 1921 ac 1934. Mae’r cyfnod cyntaf yn dyst i barodrwydd y cyfansoddwr i symud ymlaen oddi wrth yr elfennau Fictoraidd a oedd mor amlwg yng ngwaith llawer o’i gyfoedion tuag at idiom gerddorol fwy anturus wedi’i seilio ar ei wybodaeth eang o gerddoriaeth y Rhamantwyr diweddar ynghyd â’r datblygiadau diweddaraf mewn cerddoriaeth Brydeinig fel gwaith Granville Bantock (1868-1946), Edward Elgar (1857-1934), Charles Stanford (1852-1924) a C. Hubert H. Parry (1848-1918). Dengys ei weithiau [[corawl]] o’r cyfnod hwn gywasgiad mewn mynegiant, o ehangder ''Llyn y Fan'' (1907) hyd at ''The Bard'' (1910), sy’n gyfanwaith cymen, cynnil. Ar yr un adeg datblygodd ei ymwybyddiaeth o farddoniaeth gyfoes, fel y dengys ei osodiad tra sensitif o gerdd George Meredith yn ''Enter These Enchanted Woods'' (1923). | + | Mae gweithiau Vaughan Thomas yn perthyn i ddau gyfnod gwahanol yn ei hanes: y cyntaf rhwng 1906 ac 1920 a’r ail rhwng 1921 ac 1934. Mae’r cyfnod cyntaf yn dyst i barodrwydd y cyfansoddwr i symud ymlaen oddi wrth yr elfennau Fictoraidd a oedd mor amlwg yng ngwaith llawer o’i gyfoedion tuag at idiom gerddorol fwy anturus wedi’i seilio ar ei wybodaeth eang o gerddoriaeth y Rhamantwyr diweddar ynghyd â’r datblygiadau diweddaraf mewn cerddoriaeth Brydeinig fel gwaith Granville Bantock (1868-1946), Edward Elgar (1857-1934), Charles Stanford (1852-1924) a C. Hubert H. Parry (1848-1918). Dengys ei weithiau [[Corau Cymysg | corawl]] o’r cyfnod hwn gywasgiad mewn mynegiant, o ehangder ''Llyn y Fan'' (1907) hyd at ''The Bard'' (1910), sy’n gyfanwaith cymen, cynnil. Ar yr un adeg datblygodd ei ymwybyddiaeth o farddoniaeth gyfoes, fel y dengys ei osodiad tra sensitif o gerdd George Meredith yn ''Enter These Enchanted Woods'' (1923). |
− | Oherwydd ei waith fel arholwr mewn gwledydd tramor ac ym Mhrydain, nid oedd mor egnïol yn ei ail gyfnod. Serch hynny, llwyddodd i greu synthesis yn ei waith o elfennau cenedlaethol, yn arbennig felly yn ei osodiadau o farddoniaeth gynnar (ef oedd y cyntaf ym maes y gân gelf i fentro gosod [[cynghanedd]]). Creodd mewn gweithiau fel ''Saith o Ganeuon ar Gywyddau gan | + | Oherwydd ei waith fel arholwr mewn gwledydd tramor ac ym Mhrydain, nid oedd mor egnïol yn ei ail gyfnod. Serch hynny, llwyddodd i greu synthesis yn ei waith o elfennau cenedlaethol, yn arbennig felly yn ei osodiadau o farddoniaeth gynnar (ef oedd y cyntaf ym maes y gân gelf i fentro gosod [[cynghanedd]]). Creodd mewn gweithiau fel ''Saith o Ganeuon ar Gywyddau gan Dafydd ap Gwilym ac eraill'' (1922) fath newydd o gerddoriaeth Gymreig sy’n ‘symud ymlaen’ i’r gorffennol fel petai, a lle ceir hefyd gyffyrddiadau harmonig mwy cyfoes sy’n debyg i ieithwedd Ffrancwyr megis Maurice Ravel a Claude Debussy ar adegau. Mae ei gân ‘Berwyn’ (1926) yn glasur o’i bath. Cyfansoddodd yn ogystal nifer o weithiau offerynnol, fel y Pedwarawd Llinynnol (1930), sy’n arddangos cryn fedrusrwydd cerddorol a gafael ar strwythur. |
− | Bu farw Vaughan Thomas cyn i’w syniadau gyrraedd eu llawn dwf ac ni ddilynodd cyfansoddwyr Cymreig eraill yn ôl ei droed, er bod arwyddion o’i ddylanwad i’w gweld yn rhai o weithiau [[David de Lloyd]] (1883-1948) ac i raddau llai yn rhai [[Mansel Thomas]] (1909-86), [[Arwel Hughes]] (1909-88) a gweithiau cynnar [[Grace Williams]] (1906-77). Erys yn ffigwr sydd braidd ar wahân i brif ffrwd y traddodiad cerddorol Cymreig ac roedd yn bersonoliaeth gymhleth. Ar yr un pryd, roedd yn gerddor ymarferol gwych ac yn un o arloeswyr cerddorol pwysicaf Cymru yn y cyfnod modern. | + | Bu farw Vaughan Thomas cyn i’w syniadau gyrraedd eu llawn dwf ac ni ddilynodd cyfansoddwyr Cymreig eraill yn ôl ei droed, er bod arwyddion o’i ddylanwad i’w gweld yn rhai o weithiau [[De Lloyd, David (1883-1948) | David de Lloyd]] (1883-1948) ac i raddau llai yn rhai [[Thomas, Mansel (1909-86) | Mansel Thomas]] (1909-86), [[Hughes, Arwel (1909-1988) | Arwel Hughes]] (1909-88) a gweithiau cynnar [[Williams, Grace (1906-77) | Grace Williams]] (1906-77). Erys yn ffigwr sydd braidd ar wahân i brif ffrwd y traddodiad cerddorol Cymreig ac roedd yn bersonoliaeth gymhleth. Ar yr un pryd, roedd yn gerddor ymarferol gwych ac yn un o arloeswyr cerddorol pwysicaf Cymru yn y cyfnod modern. |
'''Lyn Davies''' | '''Lyn Davies''' | ||
Llinell 18: | Llinell 18: | ||
*Emrys Cleaver, ''David Vaughan Thomas'' (Llandybïe, 1964) | *Emrys Cleaver, ''David Vaughan Thomas'' (Llandybïe, 1964) | ||
− | *Lyn Davies, ''David Vaughan Thomas (1873–1934)'' ( | + | *Lyn Davies, ''David Vaughan Thomas (1873–1934)'' (Caerdydd, 2004) |
{{CC BY-SA Cydymaith}} | {{CC BY-SA Cydymaith}} | ||
[[Categori:Cerddoriaeth]] | [[Categori:Cerddoriaeth]] |
Y diwygiad cyfredol, am 14:28, 8 Awst 2021
Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.
Un o gyfansoddwyr amlycaf Cymru yn y blynyddoedd rhwng y ddau ryfel byd a chyda’r pwysicaf yn y cyfnod o drawsnewid yn natblygiad cerddoriaeth Cymru o oes Victoria hyd at heddiw.
Graddiodd David Vaughan Thomas mewn mathemateg ym Mhrifysgol Rhydychen cyn troi ei olygon i fyd cerddoriaeth. Rhagorodd fel cyfansoddwr, darlithydd, beirniad ac arholwr (ar ran Coleg y Drindod Llundain). Wedi iddo raddio yn Rhydychen (mewn mathemateg ac yn ddiweddarach fel DMus), bu’n dysgu yn Lloegr cyn dychwelyd i Gymru ac ymgartrefu yn Abertawe gyda’i deulu (daeth ei fab Wynford yn ddarlledwr amlwg). Gweithio fel cerddor ar ei liwt ei hun a wnâi a theithiodd yn ehangach yn rhyngwladol nag unrhyw gerddor Cymreig o’i genhedlaeth (bu farw yn Johannesburg, De Affrica). Bu ei fethiant i ennill Cadair Cerddoriaeth Coleg Prifysgol Cymru Aberystwyth yn 1919 (pan benodwyd Walford Davies) yn destun siarad o fewn cylchoedd cerddorol Cymreig am flynyddoedd lawer.
Mae gweithiau Vaughan Thomas yn perthyn i ddau gyfnod gwahanol yn ei hanes: y cyntaf rhwng 1906 ac 1920 a’r ail rhwng 1921 ac 1934. Mae’r cyfnod cyntaf yn dyst i barodrwydd y cyfansoddwr i symud ymlaen oddi wrth yr elfennau Fictoraidd a oedd mor amlwg yng ngwaith llawer o’i gyfoedion tuag at idiom gerddorol fwy anturus wedi’i seilio ar ei wybodaeth eang o gerddoriaeth y Rhamantwyr diweddar ynghyd â’r datblygiadau diweddaraf mewn cerddoriaeth Brydeinig fel gwaith Granville Bantock (1868-1946), Edward Elgar (1857-1934), Charles Stanford (1852-1924) a C. Hubert H. Parry (1848-1918). Dengys ei weithiau corawl o’r cyfnod hwn gywasgiad mewn mynegiant, o ehangder Llyn y Fan (1907) hyd at The Bard (1910), sy’n gyfanwaith cymen, cynnil. Ar yr un adeg datblygodd ei ymwybyddiaeth o farddoniaeth gyfoes, fel y dengys ei osodiad tra sensitif o gerdd George Meredith yn Enter These Enchanted Woods (1923).
Oherwydd ei waith fel arholwr mewn gwledydd tramor ac ym Mhrydain, nid oedd mor egnïol yn ei ail gyfnod. Serch hynny, llwyddodd i greu synthesis yn ei waith o elfennau cenedlaethol, yn arbennig felly yn ei osodiadau o farddoniaeth gynnar (ef oedd y cyntaf ym maes y gân gelf i fentro gosod cynghanedd). Creodd mewn gweithiau fel Saith o Ganeuon ar Gywyddau gan Dafydd ap Gwilym ac eraill (1922) fath newydd o gerddoriaeth Gymreig sy’n ‘symud ymlaen’ i’r gorffennol fel petai, a lle ceir hefyd gyffyrddiadau harmonig mwy cyfoes sy’n debyg i ieithwedd Ffrancwyr megis Maurice Ravel a Claude Debussy ar adegau. Mae ei gân ‘Berwyn’ (1926) yn glasur o’i bath. Cyfansoddodd yn ogystal nifer o weithiau offerynnol, fel y Pedwarawd Llinynnol (1930), sy’n arddangos cryn fedrusrwydd cerddorol a gafael ar strwythur.
Bu farw Vaughan Thomas cyn i’w syniadau gyrraedd eu llawn dwf ac ni ddilynodd cyfansoddwyr Cymreig eraill yn ôl ei droed, er bod arwyddion o’i ddylanwad i’w gweld yn rhai o weithiau David de Lloyd (1883-1948) ac i raddau llai yn rhai Mansel Thomas (1909-86), Arwel Hughes (1909-88) a gweithiau cynnar Grace Williams (1906-77). Erys yn ffigwr sydd braidd ar wahân i brif ffrwd y traddodiad cerddorol Cymreig ac roedd yn bersonoliaeth gymhleth. Ar yr un pryd, roedd yn gerddor ymarferol gwych ac yn un o arloeswyr cerddorol pwysicaf Cymru yn y cyfnod modern.
Lyn Davies
Llyfryddiaeth
- Emrys Cleaver, David Vaughan Thomas (Llandybïe, 1964)
- Lyn Davies, David Vaughan Thomas (1873–1934) (Caerdydd, 2004)
- Comisiynwyd y cofnod hwn ar gyfer Y Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol a fydd yn cael ei chyhoeddi gan Y Lolfa yn 2018. Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.