Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Jones, Della (g.1946)"

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio
(Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda ' '''Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn [https://www.ylolfa.com/cynnyrch/9781784616250/cydymaith-i-gerddoriaeth-cymru''Cydymaith i Gerddor...')
 
(Ni ddangosir y golygiad yn y canol gan yr un defnyddiwr)
Llinell 1: Llinell 1:
 
+
__NOAUTOLINKS__
 
'''Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn [https://www.ylolfa.com/cynnyrch/9781784616250/cydymaith-i-gerddoriaeth-cymru''Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru''], cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.'''
 
Llinell 8: Llinell 8:
 
Mae ei ''repertoire'' yn eang ac yn ymestyn o gerddoriaeth gynnar, trwy’r cyfnod baróc i weithiau modern. Yng nghanol yr 1970au dechreuodd Della Jones ei chysylltiad hir gydag Opera Rara a’i galluogodd i berfformio ar lwyfan ac mewn recordiadau lawer o’r rhannau bel canto a oedd ers degawdau wedi eu hanwybyddu. Ymhlith yr operâu hyn y mae ''Ugo, conte di Parigi, L’assedio di Calais'' a ''Maria Padilla'' gan Donizetti, ''Il crociato in Egitto'' gan Meyerbeer a ''Ricciardo e Zoraide'' gan Rossini. Recordiodd albwm o unawdau poblogaidd, ''Great Operatic Arias – Della Jones'', a gafodd dderbyniad gwresog yn y wasg gerddorol.
 
Edmygir ei thechneg ''coloratura'' berffaith a chynhesrwydd ei dehongliadau gan y wasg a chan gantorion eraill, ac yn ei dosbarthiadau meistr mae’n cael dylanwad ar y to newydd o gantorion [[operatig]] sydd ar fin gorffen eu hastudiaethau neu sydd ar gychwyn gyrfa broffesiynol.
+
Edmygir ei thechneg ''coloratura'' berffaith a chynhesrwydd ei dehongliadau gan y wasg a chan gantorion eraill, ac yn ei dosbarthiadau meistr mae’n cael dylanwad ar y to newydd o gantorion [[Opera | operatig]] sydd ar fin gorffen eu hastudiaethau neu sydd ar gychwyn gyrfa broffesiynol.
  
'''Richard Elfyn Jones'''
 
'''Richard Elfyn Jones'''

Y diwygiad cyfredol, am 19:29, 13 Awst 2021

Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.

Ganed y mezzo-soprano Della Jones ym mhentref Tonna, Castell-nedd, ac astudiodd yn y Coleg Cerdd Brenhinol yn Llundain lle’r enillodd Wobr Kathleen Ferrier. Astudiodd hefyd yng Ngenefa, lle’r ymddangosodd gyntaf ar y llwyfan operatig proffesiynol yn 1970 yn rhannau Feodor (Boris Godunov) ac Olga (Eugene Onegin).

Ymunodd â Chwmni Opera Cenedlaethol Lloegr (ENO) yn 1977 a thra oedd gyda nhw fe’i canmolwyd am ei chyfraniad (yn rhan Dolly) mewn opera newydd gan Iain Hamilton, Anna Karenina. Yn 1983 cafodd gytundeb yn y Tŷ Opera Brenhinol a dechreuodd wneud enw iddi ei hun yn rhyngwladol, gyda theithiau cyson i Ffrainc, yr Eidal a’r Unol Daleithiau.

Mae ei repertoire yn eang ac yn ymestyn o gerddoriaeth gynnar, trwy’r cyfnod baróc i weithiau modern. Yng nghanol yr 1970au dechreuodd Della Jones ei chysylltiad hir gydag Opera Rara a’i galluogodd i berfformio ar lwyfan ac mewn recordiadau lawer o’r rhannau bel canto a oedd ers degawdau wedi eu hanwybyddu. Ymhlith yr operâu hyn y mae Ugo, conte di Parigi, L’assedio di Calais a Maria Padilla gan Donizetti, Il crociato in Egitto gan Meyerbeer a Ricciardo e Zoraide gan Rossini. Recordiodd albwm o unawdau poblogaidd, Great Operatic Arias – Della Jones, a gafodd dderbyniad gwresog yn y wasg gerddorol.

Edmygir ei thechneg coloratura berffaith a chynhesrwydd ei dehongliadau gan y wasg a chan gantorion eraill, ac yn ei dosbarthiadau meistr mae’n cael dylanwad ar y to newydd o gantorion operatig sydd ar fin gorffen eu hastudiaethau neu sydd ar gychwyn gyrfa broffesiynol.

Richard Elfyn Jones

Comisiynwyd y cofnod hwn ar gyfer Y Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol a fydd yn cael ei chyhoeddi gan Y Lolfa yn 2018. Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.