Hogia'r Wyddfa: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio
CadiW (sgwrs | cyfraniadau)
Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda '__NOAUTOLINKS__ '''Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn [https://www.ylolfa.com/cynnyrch/9781784616250/cydymaith-i-gerddoriaeth-cymru''Cydy...'
 
CadiW (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
 
(Ni ddangosir 3 golygiad rhyngol gan yr un defnyddiwr)
Llinell 2: Llinell 2:
'''Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn [https://www.ylolfa.com/cynnyrch/9781784616250/cydymaith-i-gerddoriaeth-cymru''Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru''], cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.'''

Hogia’r Wyddfa oedd y grŵp canu harmoni clos mwyaf llwyddiannus yn hanes [[canu poblogaidd]] Cymraeg. Dechreuodd fel triawd yn yr 1960au cynnar gydag Elwyn Jones (bas), Arwel Jones (tenor) a Myrddin Owen (tenor). Yn ddiweddarach ymunodd Richard [Dic] Jones (piano) a Vivian Williams (gitâr). O’r 1990au ymlaen, bu’r pianydd amryddawn [[Annette Bryn Parri]] yn cyfeilio iddynt.
Hogia’r Wyddfa oedd y grŵp canu harmoni clos mwyaf llwyddiannus yn hanes [[Poblogaidd, Cerddoriaeth | canu poblogaidd]] Cymraeg. Dechreuodd fel triawd yn yr 1960au cynnar gydag Elwyn Jones (bas), Arwel Jones (tenor) a Myrddin Owen (tenor). Yn ddiweddarach ymunodd Richard [Dic] Jones (piano) a Vivian Williams (gitâr). O’r 1990au ymlaen, bu’r pianydd amryddawn [[Annette Bryn Parri]] yn cyfeilio iddynt.

Er bod dylanwad Americanaidd grwpiau megis The Everly Brothers ar eu chwaeth gerddorol yn y dyddiau cynnar, cawsant hefyd eu hysbrydoli gan fandiau Cymraeg fel [[Hogia Llandegai]], [[Hogia Bryngwran]], Aled a Reg, ac, yn bennaf, [[Triawd y Coleg]]. Eu dawn amlycaf oedd gosod barddoniaeth gyfarwydd gan feirdd megis R. Williams Parry (‘Tylluanod’, ‘Eifionydd’), Cynan (‘Aberdaron’) a T. H. Parry Williams (‘Y Ferch ar y Cei yn Rio’) ar alawon newydd, neu ddefnyddio cerddi newydd beirdd lleol megis Rol Williams ar gyfer eu harmonïau swynol. Nid oedd eu harfer o osod cerddi enwog at ddant pawb a chawsant eu cyhuddo gan rai puryddion llenyddol o lastwreiddio clasuron barddoniaeth Gymraeg.

Yn eu dyddiau cynnar, ystyriai Hogia’r Wyddfa eu bod yn cynnig rhywbeth gwahanol i fyd [[canu pop]] Cymraeg. Llwyddasant i feithrin cynulleidfaoedd eang mewn neuaddau dirifedi yn y gogledd a’r de. Cynhwysai eu set elfennau o’r hen noson lawen, er nad oedd sgetsys a jôcs yn acen gref Llanberis yn llwyddo i daro deuddeg ymhob man. Daeth cyfle iddynt ymddangos ar y teledu ar raglenni megis ''Disg a Dawn'' a rhoddodd cyngherddau Pinaclau Pop gyfle iddynt berfformio o flaen cynulleidfaoedd o hyd at ddwy fil o bobl. Cryfhaodd apêl eu recordiau a’u caneuon ymhellach yn nyddiau cynnar Radio Cymru, yn enwedig drwy gyfrwng rhaglenni Hywel Gwynfryn.
Yn eu dyddiau cynnar, ystyriai Hogia’r Wyddfa eu bod yn cynnig rhywbeth gwahanol i fyd [[Poblogaidd, Cerddoriaeth | canu pop]] Cymraeg. Llwyddasant i feithrin cynulleidfaoedd eang mewn neuaddau dirifedi yn y gogledd a’r de. Cynhwysai eu set elfennau o’r hen noson lawen, er nad oedd sgetsys a jôcs yn [[acen]] gref Llanberis yn llwyddo i daro deuddeg ymhob man. Daeth cyfle iddynt ymddangos ar y teledu ar raglenni megis ''Disg a Dawn'' a rhoddodd cyngherddau Pinaclau Pop gyfle iddynt berfformio o flaen cynulleidfaoedd o hyd at ddwy fil o bobl. Cryfhaodd apêl eu recordiau a’u caneuon ymhellach yn nyddiau cynnar Radio Cymru, yn enwedig drwy gyfrwng rhaglenni Hywel Gwynfryn.

Derbyniodd Myrddin gryn lwyddiant y tu hwnt i Hogia’r Wyddfa hefyd fel un rhan o’r ddeuawd boblogaidd Rosalind a Myrddin, gyda Rosalind yn aelod cyn hynny o’r Perlau. Rhyddhawyd pedair record hir gan y ddeuawd rhwng 1979 ac 1986.

Fersiwn ddiweddaraf yn ôl 17:28, 12 Gorffennaf 2021

__NOAUTOLINKS__ Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.

Hogia’r Wyddfa oedd y grŵp canu harmoni clos mwyaf llwyddiannus yn hanes canu poblogaidd Cymraeg. Dechreuodd fel triawd yn yr 1960au cynnar gydag Elwyn Jones (bas), Arwel Jones (tenor) a Myrddin Owen (tenor). Yn ddiweddarach ymunodd Richard [Dic] Jones (piano) a Vivian Williams (gitâr). O’r 1990au ymlaen, bu’r pianydd amryddawn Annette Bryn Parri yn cyfeilio iddynt.

Er bod dylanwad Americanaidd grwpiau megis The Everly Brothers ar eu chwaeth gerddorol yn y dyddiau cynnar, cawsant hefyd eu hysbrydoli gan fandiau Cymraeg fel Hogia Llandegai, Hogia Bryngwran, Aled a Reg, ac, yn bennaf, Triawd y Coleg. Eu dawn amlycaf oedd gosod barddoniaeth gyfarwydd gan feirdd megis R. Williams Parry (‘Tylluanod’, ‘Eifionydd’), Cynan (‘Aberdaron’) a T. H. Parry Williams (‘Y Ferch ar y Cei yn Rio’) ar alawon newydd, neu ddefnyddio cerddi newydd beirdd lleol megis Rol Williams ar gyfer eu harmonïau swynol. Nid oedd eu harfer o osod cerddi enwog at ddant pawb a chawsant eu cyhuddo gan rai puryddion llenyddol o lastwreiddio clasuron barddoniaeth Gymraeg.

Yn eu dyddiau cynnar, ystyriai Hogia’r Wyddfa eu bod yn cynnig rhywbeth gwahanol i fyd canu pop Cymraeg. Llwyddasant i feithrin cynulleidfaoedd eang mewn neuaddau dirifedi yn y gogledd a’r de. Cynhwysai eu set elfennau o’r hen noson lawen, er nad oedd sgetsys a jôcs yn acen gref Llanberis yn llwyddo i daro deuddeg ymhob man. Daeth cyfle iddynt ymddangos ar y teledu ar raglenni megis Disg a Dawn a rhoddodd cyngherddau Pinaclau Pop gyfle iddynt berfformio o flaen cynulleidfaoedd o hyd at ddwy fil o bobl. Cryfhaodd apêl eu recordiau a’u caneuon ymhellach yn nyddiau cynnar Radio Cymru, yn enwedig drwy gyfrwng rhaglenni Hywel Gwynfryn.

Derbyniodd Myrddin gryn lwyddiant y tu hwnt i Hogia’r Wyddfa hefyd fel un rhan o’r ddeuawd boblogaidd Rosalind a Myrddin, gyda Rosalind yn aelod cyn hynny o’r Perlau. Rhyddhawyd pedair record hir gan y ddeuawd rhwng 1979 ac 1986.

Dros gyfnod maith eu bodolaeth, teithiodd Hogia’r Wyddfa dramor, mor bell ag Awstralia, yr Almaen, yr Unol Daleithiau, Canada a Nigeria, yn aml i berfformio o flaen Cymry alltud. Hogia’r Wyddfa hefyd yw’r grŵp a werthodd y nifer mwyaf erioed o recordiau ar label Sain.

Sarah Hill

Disgyddiaeth

  • Hogia’r Wyddfa [EP] (Wren Records WRE1048, 1968)
  • Rhif 4 [EP] (Wren Records WRE1079, 1969)
  • Mr Pwy a Ŵyr [EP] (Wren Records WRE1105, 1971)
  • Hogia’r Wyddfa (Wren Records WRL538/S, 1972)

Casgliadau:

  • Goreuon Hogia’r Wyddfa (Sain SCD4094, 1991)
  • Pigion Disglair (Sain SCD2569, 2007)
  • Y Casgliad Llawn (Sain SCD2693, 2013)
  • [yn ymddangos ar] Y Bois a’r Hogia (Sain SCD2578, 2010)

__NOAUTOLINKS__

Comisiynwyd y cofnod hwn ar gyfer Y Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol a fydd yn cael ei chyhoeddi gan Y Lolfa yn 2018. Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.