Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Marx, Karl"

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio
 
(Ni ddangosir y 26 golygiad yn y canol gan ddefnyddiwr arall)
Llinell 3: Llinell 3:
 
Un o feddylwyr mwyaf dylanwadol yr oes fodern oedd Karl Marx (1818–83) a hynny ym mhob math o feysydd, boed gymdeithaseg, athroniaeth, llenyddiaeth, theori gwleidyddiaeth, hanesyddiaeth neu economeg. Gan feddwl am eangfrydedd ei ddiddordebau a chan ddeall iddo ysgrifennu dros filiwn o eiriau, wedi’u casglu ynghyd mewn 50 o gyfrolau (â rhai gweithiau’n dal heb eu casglu a’u cyhoeddi), tasg amhosib yw cynnig crynhoad syml o’i weithiau.   
 
Un o feddylwyr mwyaf dylanwadol yr oes fodern oedd Karl Marx (1818–83) a hynny ym mhob math o feysydd, boed gymdeithaseg, athroniaeth, llenyddiaeth, theori gwleidyddiaeth, hanesyddiaeth neu economeg. Gan feddwl am eangfrydedd ei ddiddordebau a chan ddeall iddo ysgrifennu dros filiwn o eiriau, wedi’u casglu ynghyd mewn 50 o gyfrolau (â rhai gweithiau’n dal heb eu casglu a’u cyhoeddi), tasg amhosib yw cynnig crynhoad syml o’i weithiau.   
  
Wedi dweud hynny, medrwn ddweud mai prif nod ei weithiau oedd beirniadu’r amgylchiadau economaidd a chymdeithasol yr ydym yn byw ynddynt, sef [[cyfalafiaeth]]. Wrth iddo ddatblygu’r theori gymdeithasol hon, mae’n cyflwyno safbwyntiau am natur realiti, y natur ddynol, [[moeseg]], natur y wladwriaeth a gwleidyddiaeth, datblygiad hanesyddol, diwylliant, natur [[crefydd]] a phob math o themâu eraill. Craidd beirniadaeth Marx o [[gyfalafiaeth]] yw bod y rhaniad rhwng [[dosbarthiada]]u a’r gyfundrefn eiddo preifat sy’n nodweddu [[cyfalafiaeth]] yn atal ffyniant a rhyddid y rhan fwyaf o unigolion sy’n rhan o’r gymdeithas. Mewn [[cyfalafiaeth]], gwelir bod un [[dosbarth]], sef y ''bourgeoisie'', yn crynhoi eiddo ar raddfa eang, tra mae’r rhan fwyaf o unigolion, sy’n gorfod gwerthu eu llafur er mwyn goroesi, yn dioddef [[tlodi]] enbyd, a dulliau gweithio beichus, diflas ac ailadroddus.  
+
Wedi dweud hynny, medrwn ddweud mai prif nod ei weithiau oedd beirniadu’r amgylchiadau economaidd a chymdeithasol yr ydym yn byw ynddynt, sef [[cyfalafiaeth]]. Wrth iddo ddatblygu’r theori gymdeithasol hon, mae’n cyflwyno safbwyntiau am natur realiti, y natur ddynol, <nowiki>moeseg</nowiki>, natur y wladwriaeth a gwleidyddiaeth, datblygiad hanesyddol, diwylliant, natur [[crefydd]] a phob math o themâu eraill. Craidd beirniadaeth Marx o [[cyfalafiaeth|gyfalafiaeth]] yw bod y rhaniad rhwng dosbarthiadau a’r gyfundrefn eiddo preifat sy’n nodweddu [[cyfalafiaeth]] yn atal ffyniant a rhyddid y rhan fwyaf o unigolion sy’n rhan o’r gymdeithas. Mewn [[cyfalafiaeth]], gwelir bod un [[dosbarth]], sef y ''bourgeoisie'', yn crynhoi eiddo ar raddfa eang, tra mae’r rhan fwyaf o unigolion, sy’n gorfod gwerthu eu llafur er mwyn goroesi, yn dioddef [[tlodi]] enbyd, a dulliau gweithio beichus, diflas ac ailadroddus.  
  
Nodweddir [[cyfalafiaeth]], felly, gan wrthdaro rhwng dau ddosbarth: y ''proletariat'' (sef y gweithwyr) a’r ''bourgeoisie'' (sef y cyfalafwyr). Gan ddilyn damcaniaethau Marx am hanes, yn arbennig ei syniad o [[fateroliaeth hanesyddol]], dadleuir y bydd y gwrthdaro cyson rhwng y ddau [[ddosbarth]] hyn, wrth iddynt geisio cyflawni eu buddiannau eu hunain, yn arwain at chwyldro cymdeithasol. Yn ''Maniffesto’r Blaid Gomiwnyddol'', dadansoddir sut y bydd y proletariat yn dechrau’r symudiad fydd yn disodli [[cyfalafiaeth]] ac yn sefydlu [[comiwnyddiaeth]], ac yn cael gwared ar y gorthrwm sy’n nodweddu [[cyfalafiaeth]] (Marx ac Engels 1848/2014: 39). Nid yw Marx yn amlygu union natur y gymdeithas gomiwnyddol hon, ond mae’n amlwg y bydd yn gymdeithas ddiddosbarth, ddiwladwriaeth, heb eiddo preifat (gweler [[comiwnyddiaeth]]). Yn y gymdeithas hon yn unig y gall pob unigolyn fod yn rhydd, a ffynnu. Pwysleisia Marx mai’r datblygiadau yng ngalluoedd cynhyrchu’r ddynoliaeth sydd i’w gweld mewn [[cyfalafiaeth]] sy’n gwneud cymdeithas decach, gomiwnyddol yn bosib. Yn y gymdeithas gomiwnyddol hon, yn hytrach na bod cyfoeth yn ymgasglu ar un pegwn yn unig i’r gymdeithas, bydd gallu’r ddynoliaeth i gynhyrchu digonedd yn gweithredu er budd pob unigolyn yn y gymdeithas.  
+
Nodweddir [[cyfalafiaeth]], felly, gan wrthdaro rhwng dau ddosbarth: y ''proletariat'' (sef y gweithwyr) a’r ''bourgeoisie'' (sef y cyfalafwyr). Gan ddilyn damcaniaethau Marx am hanes, yn arbennig ei syniad o [[Materoliaeth Hanesyddol|fateroliaeth hanesyddol]], dadleuir y bydd y gwrthdaro cyson rhwng y ddau ddosbarth hyn, wrth iddynt geisio cyflawni eu buddiannau eu hunain, yn arwain at chwyldro cymdeithasol. Yn ''Maniffesto’r Blaid Gomiwnyddol'', dadansoddir sut y bydd y proletariat yn dechrau’r symudiad fydd yn disodli [[cyfalafiaeth]] ac yn sefydlu [[comiwnyddiaeth]], ac yn cael gwared ar y gorthrwm sy’n nodweddu [[cyfalafiaeth]] (Marx ac Engels 1848/2014: 39). Nid yw Marx yn amlygu union natur y gymdeithas gomiwnyddol hon, ond mae’n amlwg y bydd yn gymdeithas ddiddosbarth, ddiwladwriaeth, heb eiddo preifat (gweler [[comiwnyddiaeth]]). Yn y gymdeithas hon yn unig y gall pob unigolyn fod yn rhydd, a ffynnu. Pwysleisia Marx mai’r datblygiadau yng ngalluoedd cynhyrchu’r ddynoliaeth sydd i’w gweld mewn [[cyfalafiaeth]] sy’n gwneud cymdeithas decach, gomiwnyddol yn bosib. Yn y gymdeithas gomiwnyddol hon, yn hytrach na bod cyfoeth yn ymgasglu ar un pegwn yn unig i’r gymdeithas, bydd gallu’r ddynoliaeth i gynhyrchu digonedd yn gweithredu er budd pob unigolyn yn y gymdeithas.  
  
Rhaid nodi mai Marx yw un o’r meddylwyr sy’n pegynnu barn damcaniaethwyr fwyaf: i rai, yn enwedig i feddylwyr yr asgell chwith, gwelir yn ei waith ddadansoddiadau manwl, cyfoes, sy’n datgelu erchyllter [[cyfalafiaeth]] a’r angen i’w disodli. Fodd bynnag, i feddylwyr eraill, yn enwedig meddylwyr ar yr asgell dde adweithiol, gellir olrhain llinell uniongyrchol o weithiau Marx at erchyllterau cymdeithasau comiwnyddol yr ugeinfed ganrif. Ceir trafodaeth ar rai agweddau o ddylanwad Marx ar feddylwyr eraill yn y cofnod ar [[Farcsaeth]].
+
Rhaid nodi mai Marx yw un o’r meddylwyr sy’n pegynnu barn damcaniaethwyr fwyaf: i rai, yn enwedig i feddylwyr yr asgell chwith, gwelir yn ei waith ddadansoddiadau manwl, cyfoes, sy’n datgelu erchyllter [[cyfalafiaeth]] a’r angen i’w disodli. Fodd bynnag, i feddylwyr eraill, yn enwedig meddylwyr ar yr asgell dde adweithiol, gellir olrhain llinell uniongyrchol o weithiau Marx at erchyllterau cymdeithasau comiwnyddol yr ugeinfed ganrif. Ceir trafodaeth ar rai agweddau o ddylanwad Marx ar feddylwyr eraill yn y cofnod ar [[Marcsaeth|Farcsaeth]].
  
 
'''2. Bywyd a gweithiau Marx '''
 
'''2. Bywyd a gweithiau Marx '''
Llinell 25: Llinell 25:
 
'''2.2 Gweithiau cynnar Marx: 1843–8'''  
 
'''2.2 Gweithiau cynnar Marx: 1843–8'''  
 
   
 
   
Gan dderbyn na fyddai swydd academaidd yn bosibl iddo, dechreuodd Marx ei yrfa fel newyddiadurwr gyda’r ''Rheinische Zeitung'' ym 1842, cyn dod yn brif olygydd y papur ym 1843. Er bod ysgrifau Marx o’r cyfnod hwn yn dangos dylanwad syniadaeth yr Hegeliaid Ifanc, gwelwn agendor yn dechrau agor rhyngddynt. Felly, gallwn leoli’r cyfnod hwn fel cam pwysig yn y broses o radicaleiddio Marx tuag at [[gomiwnyddiaeth]] a’i safbwyntiau diweddarach. Tra oedd trafodaethau’r Hegeliaid Ifanc am wleidyddiaeth yn tueddu i fod yn haniaethol ac yn athronyddol, fel newyddiadurwr, bu’n rhaid i Marx ganolbwyntio ar drafodaethau diriaethol, gwleidyddol. Wrth ymwneud â thrafodaethau o blaid cyflwyno cyfreithiau llymach i gosbi’r rheini oedd yn dwyn pren a sylwi ar dlodi enbyd y gweithwyr yng ngwinllannoedd ardal afon Mosél, daeth Marx yn ymwybodol o felltith eiddo preifat a’r anghydraddoldeb cymdeithasol sy’n cael ei achosi yn sgil rhannu cymdeithas yn ddosbarthiadau (gweler Marx, K. 2010: 332–58).  
+
Gan dderbyn na fyddai swydd academaidd yn bosibl iddo, dechreuodd Marx ei yrfa fel newyddiadurwr gyda’r ''Rheinische Zeitung'' ym 1842, cyn dod yn brif olygydd y papur ym 1843. Er bod ysgrifau Marx o’r cyfnod hwn yn dangos dylanwad syniadaeth yr Hegeliaid Ifanc, gwelwn agendor yn dechrau agor rhyngddynt. Felly, gallwn leoli’r cyfnod hwn fel cam pwysig yn y broses o radicaleiddio Marx tuag at [[comiwnyddiaeth|gomiwnyddiaeth]] a’i safbwyntiau diweddarach. Tra oedd trafodaethau’r Hegeliaid Ifanc am wleidyddiaeth yn tueddu i fod yn haniaethol ac yn athronyddol, fel newyddiadurwr, bu’n rhaid i Marx ganolbwyntio ar drafodaethau diriaethol, gwleidyddol. Wrth ymwneud â thrafodaethau o blaid cyflwyno cyfreithiau llymach i gosbi’r rheini oedd yn dwyn pren a sylwi ar dlodi enbyd y gweithwyr yng ngwinllannoedd ardal afon Mosél, daeth Marx yn ymwybodol o felltith eiddo preifat a’r anghydraddoldeb cymdeithasol sy’n cael ei achosi yn sgil rhannu cymdeithas yn ddosbarthiadau (gweler Marx, K. 2010: 332–58).  
  
 
Cynhyrchodd dri gwaith o bwys yn ystod 1843/44. Yn ei feirniadaeth ar athroniaeth iawnderau Hegel (''Critique of Hegel’s Philosophy of Right''), gwelwyd Marx (1843/2000) yn ymwrthod yn glir ag amddiffyniad Hegel o geidwadaeth gwladwriaeth Prwsia. Yn ''On the Jewish Question'', gwelwyd Marx (1843/2008–9) yn ymwrthod â syniad yr Hegeliaid Ifanc fod rhyddfreiniad gwleidyddol yn ddigonol er mwyn gwireddu rhyddid; yn hytrach, rhaid cael gwared ar eiddo preifat yn ogystal. Yn olaf, yn ei gyfraniad i’r feirniadaeth ar athroniaeth iawnderau Hegel ''(A Contribution to the Critique of Hegel’s Philosophy of Right''), gwelir Marx (1844/2009) am y tro cyntaf yn pwysleisio mai’r proletariat fydd yn rhyddfreinio’r ddynoliaeth gyfan wrth iddynt ddiddymu eiddo preifat. Dechreuwn, felly, weld egin y themâu fyddai o ddiddordeb i Marx weddill ei fywyd.  
 
Cynhyrchodd dri gwaith o bwys yn ystod 1843/44. Yn ei feirniadaeth ar athroniaeth iawnderau Hegel (''Critique of Hegel’s Philosophy of Right''), gwelwyd Marx (1843/2000) yn ymwrthod yn glir ag amddiffyniad Hegel o geidwadaeth gwladwriaeth Prwsia. Yn ''On the Jewish Question'', gwelwyd Marx (1843/2008–9) yn ymwrthod â syniad yr Hegeliaid Ifanc fod rhyddfreiniad gwleidyddol yn ddigonol er mwyn gwireddu rhyddid; yn hytrach, rhaid cael gwared ar eiddo preifat yn ogystal. Yn olaf, yn ei gyfraniad i’r feirniadaeth ar athroniaeth iawnderau Hegel ''(A Contribution to the Critique of Hegel’s Philosophy of Right''), gwelir Marx (1844/2009) am y tro cyntaf yn pwysleisio mai’r proletariat fydd yn rhyddfreinio’r ddynoliaeth gyfan wrth iddynt ddiddymu eiddo preifat. Dechreuwn, felly, weld egin y themâu fyddai o ddiddordeb i Marx weddill ei fywyd.  
  
Pan waharddwyd y papur rhag cael ei gyhoeddi ym 1843, symudodd Marx i olygu’r cylchgrawn ''Deutsch-Franzözische Jahrbücher'', gydag Arnold Ruge. Un o’r cyfranwyr cyntaf i’r cylchgrawn oedd Friedrich Engels (1820–95), â’i draethawd, ''Outlines of a Critique of Political Economy'' (Engels 1844/1996). Tynnwyd sylw Marx, drwy’r traethawd hwn, at natur ideolegol amddiffyniadau economegwyr gwleidyddol o [[gyfalafiaeth]]. Sbardunwyd ei ddiddordeb yng ngweithiau’r economegwyr clasurol, a dechreuodd astudio’u gweithiau (yn enwedig gweithiau Adam Smith a David Ricardo) yn fanwl. Dyma oedd dechrau cyfeillgarwch Marx gydag Engels – cyfeillgarwch a phartneriaeth ddeallusol a barodd hyd ei farwolaeth.  
+
Pan waharddwyd y papur rhag cael ei gyhoeddi ym 1843, symudodd Marx i olygu’r cylchgrawn ''Deutsch-Franzözische Jahrbücher'', gydag Arnold Ruge. Un o’r cyfranwyr cyntaf i’r cylchgrawn oedd Friedrich Engels (1820–95), â’i draethawd, ''Outlines of a Critique of Political Economy'' (Engels 1844/1996). Tynnwyd sylw Marx, drwy’r traethawd hwn, at natur ideolegol amddiffyniadau economegwyr gwleidyddol o [[cyfalafiaeth|gyfalafiaeth]]. Sbardunwyd ei ddiddordeb yng ngweithiau’r economegwyr clasurol, a dechreuodd astudio’u gweithiau (yn enwedig gweithiau Adam Smith a David Ricardo) yn fanwl. Dyma oedd dechrau cyfeillgarwch Marx gydag Engels – cyfeillgarwch a phartneriaeth ddeallusol a barodd hyd ei farwolaeth.  
  
Ffrwyth llafur yr ymchwil economaidd hwn yw un o destunau pwysicaf Marx (1932/2009): ''Economic and Philosophic Manuscripts of 1844'' (neu ''Paris Manuscripts''). Ni chyhoeddwyd yr ysgrifau hyn yn ystod bywyd Marx, gyda’r <nowiki>testun</nowiki> yn ymddangos am y tro cyntaf bron hanner canrif wedi ei farwolaeth ym 1932. Yn y <nowiki>testun</nowiki> cyflwynir themâu sydd bellach yn ganolog mewn trafodaethau ar waith Marx, yn enwedig pwyslais yr ysgrifau ar [[ymddieithrio]]. Mae’n cynnwys beirniadaeth athronyddol ar gyfalafiaeth: y gwelir ffurf annynol ar lafur mewn [[cyfalafiaeth]] sydd, yn hytrach na rhoi rhyddid a boddhad i’r unigolyn, yn gynyddol yn ei gaethiwo mewn byd o wrthrychau y mae ef ei hun yn ei greu.
+
Ffrwyth llafur yr ymchwil economaidd hwn yw un o destunau pwysicaf Marx (1932/2009): ''Economic and Philosophic Manuscripts of 1844'' (neu ''Paris Manuscripts''). Ni chyhoeddwyd yr ysgrifau hyn yn ystod bywyd Marx, gyda’r <nowiki>testun</nowiki> yn ymddangos am y tro cyntaf bron hanner canrif wedi ei farwolaeth ym 1932. Yn y <nowiki>testun</nowiki> cyflwynir themâu sydd bellach yn ganolog mewn trafodaethau ar waith Marx, yn enwedig pwyslais yr ysgrifau ar [[ymddieithrio]]. Mae’n cynnwys beirniadaeth athronyddol ar [[cyfalafiaeth|gyfalafiaeth]]: y gwelir ffurf annynol ar lafur mewn [[cyfalafiaeth]] sydd, yn hytrach na rhoi rhyddid a boddhad i’r unigolyn, yn gynyddol yn ei gaethiwo mewn byd o wrthrychau y mae ef ei hun yn ei greu.
  
Ceir dadleuon brwd ynghylch pwysigrwydd yr ysgrifau hyn, er mai natur ddarniog sydd i’r [[testun]]. I rai, daw’r feirniadaeth o [[ymddieithrio]] yn llwyr sylfaenol i’n dealltwriaeth o Marx, yn enwedig i feddylwyr [[Marcsaeth]] Orllewinol fel Jean-Paul Sartre a Maurice Merleau-Ponty. Yn wir, cyfiawnheir un traddodiad cyfan o Farcsaeth, sef [[Marcsaeth]] ddyneiddiol, ar sail syniadau’r [[testun]] hwn (gweler McLehan 2007: 325–35). I eraill, er enghraifft y ffigwr Marcsaidd Louis Althusser, roedd beirniadaeth economaidd, fwy empirig, y Marx diweddarach (Althusser 2005: 227) yn disodli’r syniadau gorathronyddol yn y [[testun]] hwn. Fodd bynnag, byddai’n anodd gwadu parhad y thema [[ymddieithrio]] yn ei weithiau diweddarach: mae’r syniad o ffetisiaeth cynwyddau yng nghyfrol gyntaf ''Capital'' (1867/2005) yn addasiad amlwg o’r syniad (trafodir hyn oll yn y cofnod ar [[ymddieithrio]]).   
+
Ceir dadleuon brwd ynghylch pwysigrwydd yr ysgrifau hyn, er mai natur ddarniog sydd i’r <nowiki>testun</nowiki>. I rai, daw’r feirniadaeth o [[ymddieithrio]] yn llwyr sylfaenol i’n dealltwriaeth o Marx, yn enwedig i feddylwyr [[Marcsaeth]] Orllewinol fel Jean-Paul Sartre a Maurice Merleau-Ponty. Yn wir, cyfiawnheir un traddodiad cyfan o Farcsaeth, sef [[Marcsaeth]] ddyneiddiol, ar sail syniadau’r <nowiki>testun</nowiki> hwn (gweler McLellan 2007: 325–35). I eraill, er enghraifft y ffigwr Marcsaidd Louis Althusser, roedd beirniadaeth economaidd, fwy empirig, y Marx diweddarach (Althusser 2005: 227) yn disodli’r syniadau gorathronyddol yn y <nowiki>testun</nowiki> hwn. Fodd bynnag, byddai’n anodd gwadu parhad y thema [[ymddieithrio]] yn ei weithiau diweddarach: mae’r syniad o ffetisiaeth cynwyddau yng nghyfrol gyntaf ''Capital'' (1867/2005) yn addasiad amlwg o’r syniad (trafodir hyn oll yn y cofnod ar [[ymddieithrio]]).   
  
Wedi cyhoeddi’r testunau hyn, yn Chwefror 1845, cafodd Marx ei yrru o Ffrainc, a symudodd i Frwsel. Dilynodd Friedrich Engels rai misoedd yn ddiweddarach, a gwelwyd partneriaeth ddeallusol y ddau yn dechrau o ddifri, gyda chyhoeddi cyfres o ymosodiadau egr ar weithiau’r Hegeliaid Ifanc: ''The Holy Family'' (Marx ac Engels, 1845/1956), ''Theses on Feuerbach'' (Marx ac Engels, 1845/2005) a ''The German Ideology'' (Marx ac Engels, 1845/1970). Cyflwynwyd sawl thema bwysig yn y testunau hyn: yn The German Ideology, gwelwn drafodaeth gyntaf Marx ar [[ideoleg]], sef yr anallu i ddeall sail faterol a chymdeithasol damcaniaethu, ynghyd â rheolaeth ddeallusol y [[dosbarth]] llywodraethol mewn cymdeithas. Yn yr un testun, gwelir damcaniaeth Marx am ddatblygiad hanesyddol, yr hyn fydd yn cael ei alw’n ddiweddarach yn [[fateroliaeth hanesyddol]]. Craidd y ddamcaniaeth hon yw mai datblygiad grym cynhyrchu dynol sy’n symbylu datblygiadau cymdeithasol. Yn wir, pwysleisir yn glir y modd y mae’r broses gynhyrchu’n dylanwadu ar bob agwedd arall o gymdeithas, boed y [[wladwriaeth]], y farnwriaeth neu ddamcaniaethu ei hun.
+
Wedi cyhoeddi’r testunau hyn, yn Chwefror 1845, cafodd Marx ei yrru o Ffrainc, a symudodd i Frwsel. Dilynodd Friedrich Engels rai misoedd yn ddiweddarach, a gwelwyd partneriaeth ddeallusol y ddau yn dechrau o ddifri, gyda chyhoeddi cyfres o ymosodiadau egr ar weithiau’r Hegeliaid Ifanc: ''The Holy Family'' (Marx ac Engels, 1845/1956), ''Theses on Feuerbach'' (Marx ac Engels, 1845/2005) a ''The German Ideology'' (Marx ac Engels, 1845/1970). Cyflwynwyd sawl thema bwysig yn y testunau hyn: yn The German Ideology, gwelwn drafodaeth gyntaf Marx ar [[ideoleg]], sef yr anallu i ddeall sail faterol a chymdeithasol damcaniaethu, ynghyd â rheolaeth ddeallusol y [[dosbarth]] llywodraethol mewn cymdeithas. Yn yr un <nowiki>testun</nowiki>, gwelir damcaniaeth Marx am ddatblygiad hanesyddol, yr hyn fydd yn cael ei alw’n ddiweddarach yn [[Materoliaeth Hanesyddol|fateroliaeth hanesyddol]]. Craidd y ddamcaniaeth hon yw mai datblygiad grym cynhyrchu dynol sy’n symbylu datblygiadau cymdeithasol. Yn wir, pwysleisir yn glir y modd y mae’r broses gynhyrchu’n dylanwadu ar bob agwedd arall o gymdeithas, boed y wladwriaeth, y farnwriaeth neu ddamcaniaethu ei hun.
  
Yn cyd-fynd â chyhoeddi’r gweithiau hyn, gwelir gweithgaredd gwleidyddol brwd ar ran Marx wrth iddo ymuno â sawl mudiad gwleidyddol dosbarth gweithiol. Yn bwysicaf, gwelwn Marx ac Engels yn ymuno â Chynghrair y Comiwnyddion, a sefydlwyd ym 1847. Galwyd arnynt i gynhyrchu maniffesto ar gyfer y Gynghrair, ac ysgrifennodd y ddau eu testun enwocaf, ''Maniffesto’r Blaid Gomiwnyddol'' (Marx ac Engels, 1848/2014). Crynhoir nifer o brif syniadau Marx ac Engels yn y llyfr hwn, gyda phwyslais cryf ar hanes fel brwydr rhwng [[dosbarthiadau]], ynghyd â phwyslais amlwg ar greu cymdeithas ddiddosbarth drwy chwyldro.  
+
Yn cyd-fynd â chyhoeddi’r gweithiau hyn, gwelir gweithgaredd gwleidyddol brwd ar ran Marx wrth iddo ymuno â sawl mudiad gwleidyddol dosbarth gweithiol. Yn bwysicaf, gwelwn Marx ac Engels yn ymuno â Chynghrair y Comiwnyddion, a sefydlwyd ym 1847. Galwyd arnynt i gynhyrchu maniffesto ar gyfer y Gynghrair, ac ysgrifennodd y ddau eu <nowiki>testun</nowiki> enwocaf, ''Maniffesto’r Blaid Gomiwnyddol'' (Marx ac Engels, 1848/2014). Crynhoir nifer o brif syniadau Marx ac Engels yn y llyfr hwn, gyda phwyslais cryf ar hanes fel brwydr rhwng dosbarthiadau, ynghyd â phwyslais amlwg ar greu cymdeithas ddiddosbarth drwy chwyldro.  
  
 
Yn cyd-fynd â chyhoeddi’r llyfr, gwelwyd cyfres o chwyldroadau drwy Ewrop gyfan, gyda Louis-Phillipe yn cael ei ddiorseddu yn Ffrainc, a chafwyd chwyldroadau democrataidd yn Fienna a Berlin. Yn sgil pryder am ddylanwad Marx ar y mudiadau chwyldroadol, fe’i gorfodwyd gan y llywodraeth i adael Brwsel. Symudodd yn syth i’r Almaen, i Gwlen, i geisio cyfrannu at y mudiadau chwyldroadol yn yr Almaen. Fel rhan o’i swydd newydd yn olygydd y ''Neue Rheinische Zeitung'', cynhyrchodd Marx dros gant o erthyglau mewn blwyddyn, gan hybu democratiaeth, gweriniaetholdeb, pleidlais gyffredinol i bawb dros 21 oed, addysg am ddim i bawb, a threth incwm radical. Fodd bynnag, daeth Marx yn gynyddol ymwybodol mai dim ond drwy chwyldro sy’n cael ei arwain gan y [[dosbarth]] gweithiol y gellid gwireddu’r amcanion democrataidd hyn.  
 
Yn cyd-fynd â chyhoeddi’r llyfr, gwelwyd cyfres o chwyldroadau drwy Ewrop gyfan, gyda Louis-Phillipe yn cael ei ddiorseddu yn Ffrainc, a chafwyd chwyldroadau democrataidd yn Fienna a Berlin. Yn sgil pryder am ddylanwad Marx ar y mudiadau chwyldroadol, fe’i gorfodwyd gan y llywodraeth i adael Brwsel. Symudodd yn syth i’r Almaen, i Gwlen, i geisio cyfrannu at y mudiadau chwyldroadol yn yr Almaen. Fel rhan o’i swydd newydd yn olygydd y ''Neue Rheinische Zeitung'', cynhyrchodd Marx dros gant o erthyglau mewn blwyddyn, gan hybu democratiaeth, gweriniaetholdeb, pleidlais gyffredinol i bawb dros 21 oed, addysg am ddim i bawb, a threth incwm radical. Fodd bynnag, daeth Marx yn gynyddol ymwybodol mai dim ond drwy chwyldro sy’n cael ei arwain gan y [[dosbarth]] gweithiol y gellid gwireddu’r amcanion democrataidd hyn.  
Llinell 47: Llinell 47:
 
Ym mis Awst 1849, symudodd Marx a’i deulu i Lundain, lle y byddai’n byw’n alltud weddill ei fywyd. Cyfnod o dlodi a thristwch oedd y degawd cyntaf: rhwng 1850 a 1856, bu farw tri o’i blant. Byddai Marx yn cael ei gynnal yn bennaf drwy roddion ariannol gan Engels a thrwy ysgrifennu’n achlysurol i bapur newydd y ''New-York Daily Tribune''.  
 
Ym mis Awst 1849, symudodd Marx a’i deulu i Lundain, lle y byddai’n byw’n alltud weddill ei fywyd. Cyfnod o dlodi a thristwch oedd y degawd cyntaf: rhwng 1850 a 1856, bu farw tri o’i blant. Byddai Marx yn cael ei gynnal yn bennaf drwy roddion ariannol gan Engels a thrwy ysgrifennu’n achlysurol i bapur newydd y ''New-York Daily Tribune''.  
  
Os nodweddwyd gweithiau cynnar Marx gan drafodaethau athronyddol estynedig, yn y cyfnod hwn gwelwn Marx yn troi’n gynyddol at ddadansoddiadau empirig a hanesyddol o ddatblygiad ffurfiannau economaidd a gwleidyddol. Ni welir trafodaeth uniongyrchol athronyddol eto yn ei weithiau. Ym 1850 aeth Marx ati i ailymroi i’w astudiaethau economaidd mewn manylder, gan astudio’n ddyfal yn ystafell ddarllen y Llyfrgell Brydeinig. Dyma ddechrau ei brosiect olaf, sef creu dadansoddiad manwl o broblemau mewnol economaidd [[cyfalafiaeth]], a lluniodd sawl testun pwysig yn y cyfnod hwn. Rhwng 1857 a 1858 ysgrifennodd y ''Grundrisse'', llyfr y gwrthododd Marx ei gyhoeddi oherwydd nad oedd yn fodlon ar fynegiant ei syniadau yn y testun. Cyhoeddwyd ''A Contribution to the Critique of Political Economy'' (Marx 1859/2009) hefyd, â’r rhagair enwog yn cynnig crynhoad dwys o ddatblygiad deallusol Marx a ffurf gryno o’i ddadansoddiad o [[fateroliaeth hanesyddol]]. Fodd bynnag, mae’n amlwg nad oedd holl waith y cyfnod yn ddim mwy na pharatoad ar gyfer cynhyrchu campwaith Marx (1867/2005), sef cyfrol gyntaf ''Capital''.  
+
Os nodweddwyd gweithiau cynnar Marx gan drafodaethau athronyddol estynedig, yn y cyfnod hwn gwelwn Marx yn troi’n gynyddol at ddadansoddiadau empirig a hanesyddol o ddatblygiad ffurfiannau economaidd a gwleidyddol. Ni welir trafodaeth uniongyrchol athronyddol eto yn ei weithiau. Ym 1850 aeth Marx ati i ailymroi i’w astudiaethau economaidd mewn manylder, gan astudio’n ddyfal yn ystafell ddarllen y Llyfrgell Brydeinig. Dyma ddechrau ei brosiect olaf, sef creu dadansoddiad manwl o broblemau mewnol economaidd [[cyfalafiaeth]], a lluniodd sawl <nowiki>testun</nowiki> pwysig yn y cyfnod hwn. Rhwng 1857 a 1858 ysgrifennodd y ''Grundrisse'', llyfr y gwrthododd Marx ei gyhoeddi oherwydd nad oedd yn fodlon ar fynegiant ei syniadau yn y <nowiki>testun</nowiki>. Cyhoeddwyd ''A Contribution to the Critique of Political Economy'' (Marx 1859/2009) hefyd, â’r rhagair enwog yn cynnig crynhoad dwys o ddatblygiad deallusol Marx a ffurf gryno o’i ddadansoddiad o [[Materoliaeth Hanesyddol|fateroliaeth hanesyddol]]. Fodd bynnag, mae’n amlwg nad oedd holl waith y cyfnod yn ddim mwy na pharatoad ar gyfer cynhyrchu campwaith Marx (1867/2005), sef cyfrol gyntaf ''Capital''.  
  
Prif nod testun ''Capital'' yw datgelu’r cyfreithiau economaidd sy’n llywodraethu cymdeithas gyfalafol. Mae’n amhosib crynhoi’r testun yn syml; ynddo, gwelir Marx yn symud o ddadansoddiadau empirig o sut y crëir gwerth mewn [[cyfalafiaeth]] yn y broses o gyfnewid nwyddau at seiliau gwerth ecsbloetio llafur y gweithiwr a disgrifiad hanesyddol o darddiad [[cyfalafiaeth]] a damcaniaethau am raniad llafur a [[dosbarth]]. Mae’r gyfrol hon hefyd yn cynnwys damcaniaeth Marx ar ansefydlogrwydd [[cyfalafiaeth]]: y bydd yr elw sydd ar gael i’r cyfalafwr yn lleihau dros amser, gan arwain at argyfyngau economaidd cyson.  
+
Prif nod <nowiki>testun</nowiki> ''Capital'' yw datgelu’r cyfreithiau economaidd sy’n llywodraethu cymdeithas [[cyfalafiaeth|gyfalafol]]. Mae’n amhosib crynhoi’r <nowiki> testun</nowiki> yn syml; ynddo, gwelir Marx yn symud o ddadansoddiadau empirig o sut y crëir gwerth mewn [[cyfalafiaeth]] yn y broses o gyfnewid nwyddau at seiliau gwerth ecsbloetio llafur y gweithiwr a disgrifiad hanesyddol o darddiad [[cyfalafiaeth]] a damcaniaethau am [[Rhaniad Llafur|raniad llafur]] a [[dosbarth]]. Mae’r gyfrol hon hefyd yn cynnwys damcaniaeth Marx ar ansefydlogrwydd [[cyfalafiaeth]]: y bydd yr elw sydd ar gael i’r cyfalafwr yn lleihau dros amser, gan arwain at argyfyngau economaidd cyson.  
  
 
Er bod Marx wedi gweithio ar ddrafftiau o ail a thrydedd gyfrol ''Capital'' ym 1864–5, ni orffennwyd y cyfrolau hyn cyn ei farwolaeth ym 1883. Er bod afiechyd wedi effeithio ar Marx drwy gydol ei oes, yn negawd olaf ei fywyd gwelwyd ei iechyd yn gwaethygu’n sylweddol ac ychydig iawn o waith y llwyddodd i’w gwblhau; prin yw’r cyhoeddiadau nodedig yn y cyfnod hwn hefyd. Cyhoeddwyd ail a thrydedd gyfrol ''Capital'' wedi ei farwolaeth, wedi eu golygu gan Friedrich Engels ym 1893 a 1894 (gweler Marx [1863–1878/2007] a Marx [1863–1883/2010]).
 
Er bod Marx wedi gweithio ar ddrafftiau o ail a thrydedd gyfrol ''Capital'' ym 1864–5, ni orffennwyd y cyfrolau hyn cyn ei farwolaeth ym 1883. Er bod afiechyd wedi effeithio ar Marx drwy gydol ei oes, yn negawd olaf ei fywyd gwelwyd ei iechyd yn gwaethygu’n sylweddol ac ychydig iawn o waith y llwyddodd i’w gwblhau; prin yw’r cyhoeddiadau nodedig yn y cyfnod hwn hefyd. Cyhoeddwyd ail a thrydedd gyfrol ''Capital'' wedi ei farwolaeth, wedi eu golygu gan Friedrich Engels ym 1893 a 1894 (gweler Marx [1863–1878/2007] a Marx [1863–1883/2010]).
Llinell 87: Llinell 87:
 
Marx, K. ac Engels, F. (1848/2014), ''Maniffesto’r Blaid Gomiwnyddol'', https://llyfrgell.porth.ac.uk/View.aspx?id=1982~4u~vx7iUPMZ [Cyrchwyd: 13 Mai 2021].
 
Marx, K. ac Engels, F. (1848/2014), ''Maniffesto’r Blaid Gomiwnyddol'', https://llyfrgell.porth.ac.uk/View.aspx?id=1982~4u~vx7iUPMZ [Cyrchwyd: 13 Mai 2021].
  
McLehan, D. (2007), ''Marxism after Marx'' (New York: Palgrave Macmillan).
+
McLellan, D. (2007), ''Marxism after Marx'' (New York: Palgrave Macmillan).
  
 
Williams, H. (1980/2015). ''Marx'', https://llyfrgell.porth.ac.uk/View.aspx?id=1758~4v~69mREL7f [Cyrchwyd: 13 Mai 2021].
 
Williams, H. (1980/2015). ''Marx'', https://llyfrgell.porth.ac.uk/View.aspx?id=1758~4v~69mREL7f [Cyrchwyd: 13 Mai 2021].

Y diwygiad cyfredol, am 11:09, 25 Mai 2023

1. Cyflwyniad: Trosolwg o syniadaeth Marx

Un o feddylwyr mwyaf dylanwadol yr oes fodern oedd Karl Marx (1818–83) a hynny ym mhob math o feysydd, boed gymdeithaseg, athroniaeth, llenyddiaeth, theori gwleidyddiaeth, hanesyddiaeth neu economeg. Gan feddwl am eangfrydedd ei ddiddordebau a chan ddeall iddo ysgrifennu dros filiwn o eiriau, wedi’u casglu ynghyd mewn 50 o gyfrolau (â rhai gweithiau’n dal heb eu casglu a’u cyhoeddi), tasg amhosib yw cynnig crynhoad syml o’i weithiau.

Wedi dweud hynny, medrwn ddweud mai prif nod ei weithiau oedd beirniadu’r amgylchiadau economaidd a chymdeithasol yr ydym yn byw ynddynt, sef cyfalafiaeth. Wrth iddo ddatblygu’r theori gymdeithasol hon, mae’n cyflwyno safbwyntiau am natur realiti, y natur ddynol, moeseg, natur y wladwriaeth a gwleidyddiaeth, datblygiad hanesyddol, diwylliant, natur crefydd a phob math o themâu eraill. Craidd beirniadaeth Marx o gyfalafiaeth yw bod y rhaniad rhwng dosbarthiadau a’r gyfundrefn eiddo preifat sy’n nodweddu cyfalafiaeth yn atal ffyniant a rhyddid y rhan fwyaf o unigolion sy’n rhan o’r gymdeithas. Mewn cyfalafiaeth, gwelir bod un dosbarth, sef y bourgeoisie, yn crynhoi eiddo ar raddfa eang, tra mae’r rhan fwyaf o unigolion, sy’n gorfod gwerthu eu llafur er mwyn goroesi, yn dioddef tlodi enbyd, a dulliau gweithio beichus, diflas ac ailadroddus.

Nodweddir cyfalafiaeth, felly, gan wrthdaro rhwng dau ddosbarth: y proletariat (sef y gweithwyr) a’r bourgeoisie (sef y cyfalafwyr). Gan ddilyn damcaniaethau Marx am hanes, yn arbennig ei syniad o fateroliaeth hanesyddol, dadleuir y bydd y gwrthdaro cyson rhwng y ddau ddosbarth hyn, wrth iddynt geisio cyflawni eu buddiannau eu hunain, yn arwain at chwyldro cymdeithasol. Yn Maniffesto’r Blaid Gomiwnyddol, dadansoddir sut y bydd y proletariat yn dechrau’r symudiad fydd yn disodli cyfalafiaeth ac yn sefydlu comiwnyddiaeth, ac yn cael gwared ar y gorthrwm sy’n nodweddu cyfalafiaeth (Marx ac Engels 1848/2014: 39). Nid yw Marx yn amlygu union natur y gymdeithas gomiwnyddol hon, ond mae’n amlwg y bydd yn gymdeithas ddiddosbarth, ddiwladwriaeth, heb eiddo preifat (gweler comiwnyddiaeth). Yn y gymdeithas hon yn unig y gall pob unigolyn fod yn rhydd, a ffynnu. Pwysleisia Marx mai’r datblygiadau yng ngalluoedd cynhyrchu’r ddynoliaeth sydd i’w gweld mewn cyfalafiaeth sy’n gwneud cymdeithas decach, gomiwnyddol yn bosib. Yn y gymdeithas gomiwnyddol hon, yn hytrach na bod cyfoeth yn ymgasglu ar un pegwn yn unig i’r gymdeithas, bydd gallu’r ddynoliaeth i gynhyrchu digonedd yn gweithredu er budd pob unigolyn yn y gymdeithas.

Rhaid nodi mai Marx yw un o’r meddylwyr sy’n pegynnu barn damcaniaethwyr fwyaf: i rai, yn enwedig i feddylwyr yr asgell chwith, gwelir yn ei waith ddadansoddiadau manwl, cyfoes, sy’n datgelu erchyllter cyfalafiaeth a’r angen i’w disodli. Fodd bynnag, i feddylwyr eraill, yn enwedig meddylwyr ar yr asgell dde adweithiol, gellir olrhain llinell uniongyrchol o weithiau Marx at erchyllterau cymdeithasau comiwnyddol yr ugeinfed ganrif. Ceir trafodaeth ar rai agweddau o ddylanwad Marx ar feddylwyr eraill yn y cofnod ar Farcsaeth.

2. Bywyd a gweithiau Marx

2.1 Plentyndod ac addysg

Ganwyd Marx ym 1818 yn ninas Trier yn y Rheindir i deulu o dras Iddewig; roedd ei rieni’n ddinasyddion o linach estynedig o rabïaid. Hyd at bedair blynedd cyn genedigaeth Marx, roedd y ddinas dan weinyddiaeth Ffrainc a than ddylanwad syniadau rhyddfrydol y Chwyldro Ffrengig. Wrth i’r ddinas ddod dan reolaeth Teyrnas Prwsia, gorfodwyd ei dad i droi at Brotestaniaeth er mwyn parhau yn ei swydd fel cyfreithiwr. Er gwaethaf helyntion o’r fath, gellir dweud i Marx gael magwraeth led-gyfforddus, ddosbarth canol.

Ym 1835, dan ddylanwad ei dad, aeth Marx i astudio’r gyfraith ym Mhrifysgol Bonn. Yn y flwyddyn honno, dyweddïodd yn gyfrinachol â merch bonheddwr lleol, Jenny von Westphalen. Oherwydd anfodlonrwydd rhieni’r pâr ifanc, bu’r dyweddïad yn un hir, a phriodwyd y ddau saith mlynedd yn ddiweddarach ym 1843.

Ym mis Hydref 1836, symudodd Marx i Brifysgol Berlin gyda’r bwriad o barhau i astudio’r gyfraith, a dechrau ymddiddori fwyfwy mewn athroniaeth. Yn y cyfnod hwn gwelwn Marx yn gynyddol yn dod dan ddylanwad gweithiau’r athronydd G. W. F Hegel (1770–1831), dylanwad fyddai’n parhau drwy weithiau Marx. Fel rhan o’r symudiad hwn at athroniaeth, ymunodd Marx â grŵp o feddylwyr o’r enw’r Hegeliaid Ifanc, gan ddod yn gyfaill agos i’r darlithydd Bruno Bauer. Bu syniadau radical y grŵp yn ddylanwad mawr ar Marx, yn enwedig eu beirniadaeth ar grefydd a’u hymroddiad i ddelfrydau rhyddfrydol a democrataidd.

Gyda’r bwriad o ddilyn gyrfa academaidd, cynhyrchodd Marx ddoethuriaeth ar weithiau Democritus ac Epicurus, testun sy’n dangos ôl dylanwad Hegelaidd yn glir, gan ei orffen ym Mhrifysgol Jena ym 1841. Fodd bynnag, gwelwyd adwaith cryf yn erbyn radicaliaeth yr Hegeliaid Ifanc, â gwladwriaeth Prwsia’n diswyddo nifer ohonynt o’u swyddi academaidd. Wedi i’w gyfaill Bruno Bauer gael ei ddiswyddo yn sgil ei anffyddiaeth ym 1841, sylweddolodd Marx na fyddai gyrfa academaidd yn bosib iddo.

Ceir mwy o wybodaeth am blentyndod ac addysg Marx yn llyfr Howard Williams, Marx (1980/2015).

2.2 Gweithiau cynnar Marx: 1843–8

Gan dderbyn na fyddai swydd academaidd yn bosibl iddo, dechreuodd Marx ei yrfa fel newyddiadurwr gyda’r Rheinische Zeitung ym 1842, cyn dod yn brif olygydd y papur ym 1843. Er bod ysgrifau Marx o’r cyfnod hwn yn dangos dylanwad syniadaeth yr Hegeliaid Ifanc, gwelwn agendor yn dechrau agor rhyngddynt. Felly, gallwn leoli’r cyfnod hwn fel cam pwysig yn y broses o radicaleiddio Marx tuag at gomiwnyddiaeth a’i safbwyntiau diweddarach. Tra oedd trafodaethau’r Hegeliaid Ifanc am wleidyddiaeth yn tueddu i fod yn haniaethol ac yn athronyddol, fel newyddiadurwr, bu’n rhaid i Marx ganolbwyntio ar drafodaethau diriaethol, gwleidyddol. Wrth ymwneud â thrafodaethau o blaid cyflwyno cyfreithiau llymach i gosbi’r rheini oedd yn dwyn pren a sylwi ar dlodi enbyd y gweithwyr yng ngwinllannoedd ardal afon Mosél, daeth Marx yn ymwybodol o felltith eiddo preifat a’r anghydraddoldeb cymdeithasol sy’n cael ei achosi yn sgil rhannu cymdeithas yn ddosbarthiadau (gweler Marx, K. 2010: 332–58).

Cynhyrchodd dri gwaith o bwys yn ystod 1843/44. Yn ei feirniadaeth ar athroniaeth iawnderau Hegel (Critique of Hegel’s Philosophy of Right), gwelwyd Marx (1843/2000) yn ymwrthod yn glir ag amddiffyniad Hegel o geidwadaeth gwladwriaeth Prwsia. Yn On the Jewish Question, gwelwyd Marx (1843/2008–9) yn ymwrthod â syniad yr Hegeliaid Ifanc fod rhyddfreiniad gwleidyddol yn ddigonol er mwyn gwireddu rhyddid; yn hytrach, rhaid cael gwared ar eiddo preifat yn ogystal. Yn olaf, yn ei gyfraniad i’r feirniadaeth ar athroniaeth iawnderau Hegel (A Contribution to the Critique of Hegel’s Philosophy of Right), gwelir Marx (1844/2009) am y tro cyntaf yn pwysleisio mai’r proletariat fydd yn rhyddfreinio’r ddynoliaeth gyfan wrth iddynt ddiddymu eiddo preifat. Dechreuwn, felly, weld egin y themâu fyddai o ddiddordeb i Marx weddill ei fywyd.

Pan waharddwyd y papur rhag cael ei gyhoeddi ym 1843, symudodd Marx i olygu’r cylchgrawn Deutsch-Franzözische Jahrbücher, gydag Arnold Ruge. Un o’r cyfranwyr cyntaf i’r cylchgrawn oedd Friedrich Engels (1820–95), â’i draethawd, Outlines of a Critique of Political Economy (Engels 1844/1996). Tynnwyd sylw Marx, drwy’r traethawd hwn, at natur ideolegol amddiffyniadau economegwyr gwleidyddol o gyfalafiaeth. Sbardunwyd ei ddiddordeb yng ngweithiau’r economegwyr clasurol, a dechreuodd astudio’u gweithiau (yn enwedig gweithiau Adam Smith a David Ricardo) yn fanwl. Dyma oedd dechrau cyfeillgarwch Marx gydag Engels – cyfeillgarwch a phartneriaeth ddeallusol a barodd hyd ei farwolaeth.

Ffrwyth llafur yr ymchwil economaidd hwn yw un o destunau pwysicaf Marx (1932/2009): Economic and Philosophic Manuscripts of 1844 (neu Paris Manuscripts). Ni chyhoeddwyd yr ysgrifau hyn yn ystod bywyd Marx, gyda’r testun yn ymddangos am y tro cyntaf bron hanner canrif wedi ei farwolaeth ym 1932. Yn y testun cyflwynir themâu sydd bellach yn ganolog mewn trafodaethau ar waith Marx, yn enwedig pwyslais yr ysgrifau ar ymddieithrio. Mae’n cynnwys beirniadaeth athronyddol ar gyfalafiaeth: y gwelir ffurf annynol ar lafur mewn cyfalafiaeth sydd, yn hytrach na rhoi rhyddid a boddhad i’r unigolyn, yn gynyddol yn ei gaethiwo mewn byd o wrthrychau y mae ef ei hun yn ei greu.

Ceir dadleuon brwd ynghylch pwysigrwydd yr ysgrifau hyn, er mai natur ddarniog sydd i’r testun. I rai, daw’r feirniadaeth o ymddieithrio yn llwyr sylfaenol i’n dealltwriaeth o Marx, yn enwedig i feddylwyr Marcsaeth Orllewinol fel Jean-Paul Sartre a Maurice Merleau-Ponty. Yn wir, cyfiawnheir un traddodiad cyfan o Farcsaeth, sef Marcsaeth ddyneiddiol, ar sail syniadau’r testun hwn (gweler McLellan 2007: 325–35). I eraill, er enghraifft y ffigwr Marcsaidd Louis Althusser, roedd beirniadaeth economaidd, fwy empirig, y Marx diweddarach (Althusser 2005: 227) yn disodli’r syniadau gorathronyddol yn y testun hwn. Fodd bynnag, byddai’n anodd gwadu parhad y thema ymddieithrio yn ei weithiau diweddarach: mae’r syniad o ffetisiaeth cynwyddau yng nghyfrol gyntaf Capital (1867/2005) yn addasiad amlwg o’r syniad (trafodir hyn oll yn y cofnod ar ymddieithrio).

Wedi cyhoeddi’r testunau hyn, yn Chwefror 1845, cafodd Marx ei yrru o Ffrainc, a symudodd i Frwsel. Dilynodd Friedrich Engels rai misoedd yn ddiweddarach, a gwelwyd partneriaeth ddeallusol y ddau yn dechrau o ddifri, gyda chyhoeddi cyfres o ymosodiadau egr ar weithiau’r Hegeliaid Ifanc: The Holy Family (Marx ac Engels, 1845/1956), Theses on Feuerbach (Marx ac Engels, 1845/2005) a The German Ideology (Marx ac Engels, 1845/1970). Cyflwynwyd sawl thema bwysig yn y testunau hyn: yn The German Ideology, gwelwn drafodaeth gyntaf Marx ar ideoleg, sef yr anallu i ddeall sail faterol a chymdeithasol damcaniaethu, ynghyd â rheolaeth ddeallusol y dosbarth llywodraethol mewn cymdeithas. Yn yr un testun, gwelir damcaniaeth Marx am ddatblygiad hanesyddol, yr hyn fydd yn cael ei alw’n ddiweddarach yn fateroliaeth hanesyddol. Craidd y ddamcaniaeth hon yw mai datblygiad grym cynhyrchu dynol sy’n symbylu datblygiadau cymdeithasol. Yn wir, pwysleisir yn glir y modd y mae’r broses gynhyrchu’n dylanwadu ar bob agwedd arall o gymdeithas, boed y wladwriaeth, y farnwriaeth neu ddamcaniaethu ei hun.

Yn cyd-fynd â chyhoeddi’r gweithiau hyn, gwelir gweithgaredd gwleidyddol brwd ar ran Marx wrth iddo ymuno â sawl mudiad gwleidyddol dosbarth gweithiol. Yn bwysicaf, gwelwn Marx ac Engels yn ymuno â Chynghrair y Comiwnyddion, a sefydlwyd ym 1847. Galwyd arnynt i gynhyrchu maniffesto ar gyfer y Gynghrair, ac ysgrifennodd y ddau eu testun enwocaf, Maniffesto’r Blaid Gomiwnyddol (Marx ac Engels, 1848/2014). Crynhoir nifer o brif syniadau Marx ac Engels yn y llyfr hwn, gyda phwyslais cryf ar hanes fel brwydr rhwng dosbarthiadau, ynghyd â phwyslais amlwg ar greu cymdeithas ddiddosbarth drwy chwyldro.

Yn cyd-fynd â chyhoeddi’r llyfr, gwelwyd cyfres o chwyldroadau drwy Ewrop gyfan, gyda Louis-Phillipe yn cael ei ddiorseddu yn Ffrainc, a chafwyd chwyldroadau democrataidd yn Fienna a Berlin. Yn sgil pryder am ddylanwad Marx ar y mudiadau chwyldroadol, fe’i gorfodwyd gan y llywodraeth i adael Brwsel. Symudodd yn syth i’r Almaen, i Gwlen, i geisio cyfrannu at y mudiadau chwyldroadol yn yr Almaen. Fel rhan o’i swydd newydd yn olygydd y Neue Rheinische Zeitung, cynhyrchodd Marx dros gant o erthyglau mewn blwyddyn, gan hybu democratiaeth, gweriniaetholdeb, pleidlais gyffredinol i bawb dros 21 oed, addysg am ddim i bawb, a threth incwm radical. Fodd bynnag, daeth Marx yn gynyddol ymwybodol mai dim ond drwy chwyldro sy’n cael ei arwain gan y dosbarth gweithiol y gellid gwireddu’r amcanion democrataidd hyn.

Erbyn 1849 yr oedd y cyfnod o chwyldroadau yn Ewrop wedi tawelu, a gwelwyd breniniaethau Prwsia ac Awstria yn adennill rheolaeth unwaith yn rhagor. Rhoddwyd Marx, a nifer o’i gyd-weithwyr yn y papur newydd, ar brawf am annog gwrthryfel, ond fe’u cafwyd yn ddieuog gan reithgorau mewn dau achos llys. Er hynny, gorfodwyd Marx i adael yr Almaen gan y llywodraeth, a theithiodd i Baris. Ymhen fawr o dro, gorfodwyd iddo adael gan lywodraeth Ffrainc.

2.3 Cyfnod Aeddfed Marx: 1849–83

Ym mis Awst 1849, symudodd Marx a’i deulu i Lundain, lle y byddai’n byw’n alltud weddill ei fywyd. Cyfnod o dlodi a thristwch oedd y degawd cyntaf: rhwng 1850 a 1856, bu farw tri o’i blant. Byddai Marx yn cael ei gynnal yn bennaf drwy roddion ariannol gan Engels a thrwy ysgrifennu’n achlysurol i bapur newydd y New-York Daily Tribune.

Os nodweddwyd gweithiau cynnar Marx gan drafodaethau athronyddol estynedig, yn y cyfnod hwn gwelwn Marx yn troi’n gynyddol at ddadansoddiadau empirig a hanesyddol o ddatblygiad ffurfiannau economaidd a gwleidyddol. Ni welir trafodaeth uniongyrchol athronyddol eto yn ei weithiau. Ym 1850 aeth Marx ati i ailymroi i’w astudiaethau economaidd mewn manylder, gan astudio’n ddyfal yn ystafell ddarllen y Llyfrgell Brydeinig. Dyma ddechrau ei brosiect olaf, sef creu dadansoddiad manwl o broblemau mewnol economaidd cyfalafiaeth, a lluniodd sawl testun pwysig yn y cyfnod hwn. Rhwng 1857 a 1858 ysgrifennodd y Grundrisse, llyfr y gwrthododd Marx ei gyhoeddi oherwydd nad oedd yn fodlon ar fynegiant ei syniadau yn y testun. Cyhoeddwyd A Contribution to the Critique of Political Economy (Marx 1859/2009) hefyd, â’r rhagair enwog yn cynnig crynhoad dwys o ddatblygiad deallusol Marx a ffurf gryno o’i ddadansoddiad o fateroliaeth hanesyddol. Fodd bynnag, mae’n amlwg nad oedd holl waith y cyfnod yn ddim mwy na pharatoad ar gyfer cynhyrchu campwaith Marx (1867/2005), sef cyfrol gyntaf Capital.

Prif nod testun Capital yw datgelu’r cyfreithiau economaidd sy’n llywodraethu cymdeithas gyfalafol. Mae’n amhosib crynhoi’r testun yn syml; ynddo, gwelir Marx yn symud o ddadansoddiadau empirig o sut y crëir gwerth mewn cyfalafiaeth yn y broses o gyfnewid nwyddau at seiliau gwerth ecsbloetio llafur y gweithiwr a disgrifiad hanesyddol o darddiad cyfalafiaeth a damcaniaethau am raniad llafur a dosbarth. Mae’r gyfrol hon hefyd yn cynnwys damcaniaeth Marx ar ansefydlogrwydd cyfalafiaeth: y bydd yr elw sydd ar gael i’r cyfalafwr yn lleihau dros amser, gan arwain at argyfyngau economaidd cyson.

Er bod Marx wedi gweithio ar ddrafftiau o ail a thrydedd gyfrol Capital ym 1864–5, ni orffennwyd y cyfrolau hyn cyn ei farwolaeth ym 1883. Er bod afiechyd wedi effeithio ar Marx drwy gydol ei oes, yn negawd olaf ei fywyd gwelwyd ei iechyd yn gwaethygu’n sylweddol ac ychydig iawn o waith y llwyddodd i’w gwblhau; prin yw’r cyhoeddiadau nodedig yn y cyfnod hwn hefyd. Cyhoeddwyd ail a thrydedd gyfrol Capital wedi ei farwolaeth, wedi eu golygu gan Friedrich Engels ym 1893 a 1894 (gweler Marx [1863–1878/2007] a Marx [1863–1883/2010]).

Garmon Iago

Llyfryddiaeth

Althusser, L. (2005), For Marx (London: Penguin).

Engels, F. (1844/1996), Outlines of a Critique of Political Economy, https://www.marxists.org/archive/marx/works/1844/df-jahrbucher/outlines.htm [Cyrchwyd: 13 Mai 2021].

Marx, K. (1843/2000), Critique of Hegel’s Philosophy of Right, https://www.marxists.org/archive/marx/works/1843/critique-hpr/ [Cyrchwyd: 13 Mai 2021].

Marx, K. (1843/2008–9), On the Jewish Question, https://www.marxists.org/archive/marx/works/1844/jewish-question/ [Cyrchwyd: 13 Mai 2021].

Marx, K. (1844/2009), A Contribution to the Critique of Hegel’s Philosophy of Right, https://www.marxists.org/archive/marx/works/1843/critique-hpr/intro.htm [Cyrchwyd: 13 Mai 2021].

Marx, K. (1859/2009), A Contribution to the Critique of Political Economy, https://www.marxists.org/archive/marx/works/1859/critique-pol-economy/index.htm [Cyrchwyd: 13 Mai 2021].

Marx, K. (1867/2005), Capital: Volume One, https://www.marxists.org/archive/marx/works/1867-c1/ [Cyrchwyd: 13 Mai 2021].

Marx, K. (1863–1878/2007), Capital: Volume Two, https://www.marxists.org/archive/marx/works/1885-c2/index.htm [Cyrchwyd: 13 Mai 2021].

Marx, K. (1863–1883/2010)), Capital: Volume Three, https://www.marxists.org/archive/marx/works/1894-c3/ [Cyrchwyd: 13 Mai 2021].

Marx, K. (1932/2009), Economic and Philosophic Manuscripts of 1844) (neu Paris Manuscripts), https://www.marxists.org/archive/marx/works/1844/manuscripts/preface.htm [Cyrchwyd: 13 Mai 2021].

Marx, K. (2010), Collected Works: Volume 1 (London: Laurence and Wishart).

Marx, K. ac Engels, F. (1845/1956), The Holy Family, https://www.marxists.org/archive/marx/works/1845/holy-family/index.htm [Cyrchwyd: 13 Mai 2021].

Marx, K. ac Engels, F. (1845/1970), The German Ideology (New York: International Publishers).

Marx, K. ac Engels, F. (1845/2005), Theses On Feuerbach, https://www.marxists.org/archive/marx/works/1845/theses/theses.htm [Cyrchwyd: 13 Mai 2021].

Marx, K. ac Engels, F. (1848/2014), Maniffesto’r Blaid Gomiwnyddol, https://llyfrgell.porth.ac.uk/View.aspx?id=1982~4u~vx7iUPMZ [Cyrchwyd: 13 Mai 2021].

McLellan, D. (2007), Marxism after Marx (New York: Palgrave Macmillan).

Williams, H. (1980/2015). Marx, https://llyfrgell.porth.ac.uk/View.aspx?id=1758~4v~69mREL7f [Cyrchwyd: 13 Mai 2021].



Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.