Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Cenedlaetholdeb ethnig a chenedlaetholdeb dinesig"

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio
(Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda '(Saesneg: ''Ethnic nationalism and civic nationalism'') Yn ystod ail hanner yr ugeinfed ganrif daeth yn ffasiynol ymhlith ysgolheigion oedd yn astudio ...')
 
 
Llinell 20: Llinell 20:
 
Fodd bynnag, mae peryg rhoi gormod o bwyslais ar y rhaniad ething-dinesig wrth drafod cenedlaetholdeb, gan fod dadleuon a gweithredoedd dydd-i-ddydd cenedlaetholwyr yn aml yn medru bod yn gyfuniad cymhleth o’r ethnig a’r dinesig.
 
Fodd bynnag, mae peryg rhoi gormod o bwyslais ar y rhaniad ething-dinesig wrth drafod cenedlaetholdeb, gan fod dadleuon a gweithredoedd dydd-i-ddydd cenedlaetholwyr yn aml yn medru bod yn gyfuniad cymhleth o’r ethnig a’r dinesig.
  
Cymerer, er enghraiff yr achos Cymreig. Mae [[tuedd]] gyffredin yn y llenyddiaeth academaidd i labeli cenedlaetholdeb Cymreig fel un diwylliannol ac ethnig ei natur  (gweler Davies 2010).  Deillia hyn o’r ffaith fod yr iaith Gymraeg wedi’i thrin fel elfen mor bwysig o’n hunaniaeth genedlaethol dros y canrifoedd a hefyd y ffaith fod y mudiad cenedlaethol cyfoes wedi rhoi cymaint o bwyslais ar yr angen i gynnal ac adfywio’r iaith. Fodd bynnag, mae’r angen i adeiladu sefydliadau dinesig Cymreig hefyd wedi bod yn amcan pwysig i genedlaetholwyr ers diwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg (Brooks 2015). Mae hyn wedi cynnwys creu prifysgol genedlaethol, amgueddfa genedlaethol, llyfrgell genedlaethol, ac yn fwy diweddar senedd genedlaethol. O ystyried hyn, onid yw cenedlaetholdeb Cymreig yn ystod y cyfnod modern wedi bod yn gyfuniad cymhleth o’r ethnig a’r dinesig?
+
Cymerer, er enghraiff yr achos Cymreig. Mae <nowiki>tuedd</nowiki> gyffredin yn y llenyddiaeth academaidd i labeli cenedlaetholdeb Cymreig fel un diwylliannol ac ethnig ei natur  (gweler Davies 2010).  Deillia hyn o’r ffaith fod yr iaith Gymraeg wedi’i thrin fel elfen mor bwysig o’n hunaniaeth genedlaethol dros y canrifoedd a hefyd y ffaith fod y mudiad cenedlaethol cyfoes wedi rhoi cymaint o bwyslais ar yr angen i gynnal ac adfywio’r iaith. Fodd bynnag, mae’r angen i adeiladu sefydliadau dinesig Cymreig hefyd wedi bod yn amcan pwysig i genedlaetholwyr ers diwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg (Brooks 2015). Mae hyn wedi cynnwys creu prifysgol genedlaethol, amgueddfa genedlaethol, llyfrgell genedlaethol, ac yn fwy diweddar senedd genedlaethol. O ystyried hyn, onid yw cenedlaetholdeb Cymreig yn ystod y cyfnod modern wedi bod yn gyfuniad cymhleth o’r ethnig a’r dinesig?
  
 
Fe welir tueddiadau tebyg wrth droi i ystyried y math o genedlaetholdeb a gaiff ei arddel gan rai o genedl-wladwriaethau mawr y Gorllewin, er enghraifft Ffrainc, Prydain a’r Unol Daeleithiau. Y duedd gyffredinol fu tybio mai cenedlaetholdeb sifig a gaiff ei arddel yn y mannau hyn, gan fod aelodaeth o’r ‘genedl’ yn agored i unrhyw unigolyn sy’n meddu ar ddinasyddiaeth (er enghraifft, gweler Pickus 2015).  Fodd bynnag, mae’r amodau y mae’n rhaid eu bodloni er mwyn ennill y ddinasyddiaeth hon yn aml yn cynnwys meddu ar rai nodweddion diwylliannol neu ethnig. Fe welir hyn yn bennaf mewn perthynas â pholisïau mewnfudo y gwledydd hyn, lle bo meddu ar y gallu i siarad iaith benodol (Ffrangeg neu Saesneg) yn rhagamod ar gyfer ennill [[dinasyddiaeth]] (gweler Extra, Spotti, a Van Avermaet 2009).
 
Fe welir tueddiadau tebyg wrth droi i ystyried y math o genedlaetholdeb a gaiff ei arddel gan rai o genedl-wladwriaethau mawr y Gorllewin, er enghraifft Ffrainc, Prydain a’r Unol Daeleithiau. Y duedd gyffredinol fu tybio mai cenedlaetholdeb sifig a gaiff ei arddel yn y mannau hyn, gan fod aelodaeth o’r ‘genedl’ yn agored i unrhyw unigolyn sy’n meddu ar ddinasyddiaeth (er enghraifft, gweler Pickus 2015).  Fodd bynnag, mae’r amodau y mae’n rhaid eu bodloni er mwyn ennill y ddinasyddiaeth hon yn aml yn cynnwys meddu ar rai nodweddion diwylliannol neu ethnig. Fe welir hyn yn bennaf mewn perthynas â pholisïau mewnfudo y gwledydd hyn, lle bo meddu ar y gallu i siarad iaith benodol (Ffrangeg neu Saesneg) yn rhagamod ar gyfer ennill [[dinasyddiaeth]] (gweler Extra, Spotti, a Van Avermaet 2009).
Llinell 31: Llinell 31:
 
==Llyfryddiaeth==
 
==Llyfryddiaeth==
  
Brooks, S. (2015). ''Pam na fu Cymru? Methiant Cenedlaetholdeb Cymreig''. ([[Caerdydd]]: Gwasg Prifysgol Cymru)  
+
Brooks, S. (2015). ''Pam na fu Cymru? Methiant Cenedlaetholdeb Cymreig''. <nowiki>Caerdydd</nowiki>: Gwasg Prifysgol Cymru)  
  
Davies, C. (2010), ‘Nationalism and the Welsh Language’, yn Mackay, H. (gol.) ''Understanding Contemporary Wales''. (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru)
+
Davies, C. (2010), ‘Nationalism and the Welsh Language’, yn Mackay, H. (gol.) ''Understanding Contemporary Wales''. ([[Caerdydd]]: Gwasg Prifysgol Cymru)
  
 
Denitch, B. (1996). ''Ethnic Nationalism: The Tragic Death of Yugoslavia''. (Minneapolis: University of Minnesota Press)  
 
Denitch, B. (1996). ''Ethnic Nationalism: The Tragic Death of Yugoslavia''. (Minneapolis: University of Minnesota Press)  

Y diwygiad cyfredol, am 13:11, 7 Medi 2024

(Saesneg: Ethnic nationalism and civic nationalism)

Yn ystod ail hanner yr ugeinfed ganrif daeth yn ffasiynol ymhlith ysgolheigion oedd yn astudio cenedlaetholdeb i wahaniaethu rhwng gwahanol fathau o genedlaetholdeb trwy ddefnyddio’r categorïau cenedlaetholdeb ethnig a chenedlaetholdeb dinesig. Y gwahaniaeth rhwng y ddau ffurf yma ar genedlaetholdeb yw’r modd y caiff y genedl ei diffinio, ac yn sgil hynny, sut yr eir ati i ddynodi pwy sy’n medru cael eu cydnabod fel aelodau ohoni.

Caiff cenedlaetholdeb ethnig ei ddiffinio fel ffurf ar genedlaetholdeb sy’n dehongli’r genedl fel cymuned naturiol ac oesol sy’n seiliedig ar nodweddion ethnig neu ddiwylliannol penodol, er enghraifft hil, tras, crefydd neu iaith gyffredin. Yn ogystal, tybir bod aelodaeth person o’r genedl yn dibynnu ar y graddau y mae’n rhannu y nodwedd ethnig neu ddiwylliannol hyn â’i gyd-aelodau. Er enghraifft, meddai Michael Ignatieff (1993: 4-5) am y cysyniad o genedlaetholdeb ethnig:

Ethnic nationalism claims...than an individual’s deepest attachments are inhereted, not chosen. It is the national community which defines the individual, not the individual who define the national community.

Caiff cenedlaetholdeb dinesig ei ddiffinio fel ffurf ar genedlaetholdeb sy’n dehongli’r genedl fel cymuned o bobl sydd wedi dewis dod ynghyd i fyw o dan sefydliadau gwleidyddol a dinesig cyffredin. Yn wir, y dewis yma i fyw gydag eraill, gan rannu ymrwymiadau cymdeithasol a gwleidyddol – hynny yw i rannu dinasyddiaeth gyffredin– sy’n esgor ar aelodaeth o’r genedl, yn hytrach na’r graddau y mae person yn meddu ar nodweddion ethnig neu ddiwylliannol penodol. Mae Michael Ignatieff (1993: 3-4) yn cynnig disgrifiad cynhwysfawr o genedlaetholdeb dinesig:

...it envisages the nation as a community of equal, rights-bearing individuals who are united in patriotic attachment to a shared set of political practices and values. This nationalism is necessarily democratic since it vests sovereignty in all of the people.

Datblygodd y categorïau dinesig ac ethnig i fod yn rhai poblogaidd iawn ymhlith ysgolheigion academaidd oedd yn astudio cenedlaetholdeb. Yn bennaf, fe’u defnyddiwyd fel categorïau a oedd yn caniatáu gwahaniaethu rhwng ffurfiau cul ac anoddefgar ar genedlaetholdeb a ffurfiau mwy agored a goleuedig.

Ar y naill llaw, tueddwyd i drin cenedlaetholdeb ethnig fel traddodiad peryglus a niweidiol, yn sgil ei bwyslais ar yr angen i aelodau’r genedl rannu rhai clymau ethnig a diwylliannol penodol. Honnwyd, er enghraifft, mai dyma’r math o genedlaetholdeb a oedd wedi sbarduno’r rhyfela rhyng-ethnig gwaedlyd a welwyd yn yr hen Iwgoslafia yn ystod y 1990au (Denitch 1996).

Mae cenedlaetholdeb ethnig yn ymhlygu mewn ymagwedd ethnoganolog sef y syniad bod ethnigrwydd neu genedligrwydd rhywun yn uwchraddol i eraill. Ynghyd â hyn yn aml ceir fynegiant o gasineb, ac elyniaeth tuag at y rhai y tu allan i'r grŵp. Fel disgrifai William Sumner (1906: 13) ‘this view of things in which one’s own group is the centre of everything, and all others are scaled and rated with reference to it’.

Ar y llaw arall, tueddwyd i drin cenedlaetholdeb dinesig fel traddodiad mwy blaengar a chadarnhaol, yn sgil ei bwyslais ar ddinasyddiaeth a sefydliadau, a’i barodrwydd i ddehongli’r genedl mewn termau mwy cynhwysol. Dyma, er enghraifft, oedd y math o genedlaetholdeb a gâi ei gysylltu â gwladwriaethau rhyddfrydol-ddemocrataidd mawr megis Unol Daleithiau America a Ffrainc. Fodd bynnag, mae peryg rhoi gormod o bwyslais ar y rhaniad ething-dinesig wrth drafod cenedlaetholdeb, gan fod dadleuon a gweithredoedd dydd-i-ddydd cenedlaetholwyr yn aml yn medru bod yn gyfuniad cymhleth o’r ethnig a’r dinesig.

Cymerer, er enghraiff yr achos Cymreig. Mae tuedd gyffredin yn y llenyddiaeth academaidd i labeli cenedlaetholdeb Cymreig fel un diwylliannol ac ethnig ei natur (gweler Davies 2010). Deillia hyn o’r ffaith fod yr iaith Gymraeg wedi’i thrin fel elfen mor bwysig o’n hunaniaeth genedlaethol dros y canrifoedd a hefyd y ffaith fod y mudiad cenedlaethol cyfoes wedi rhoi cymaint o bwyslais ar yr angen i gynnal ac adfywio’r iaith. Fodd bynnag, mae’r angen i adeiladu sefydliadau dinesig Cymreig hefyd wedi bod yn amcan pwysig i genedlaetholwyr ers diwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg (Brooks 2015). Mae hyn wedi cynnwys creu prifysgol genedlaethol, amgueddfa genedlaethol, llyfrgell genedlaethol, ac yn fwy diweddar senedd genedlaethol. O ystyried hyn, onid yw cenedlaetholdeb Cymreig yn ystod y cyfnod modern wedi bod yn gyfuniad cymhleth o’r ethnig a’r dinesig?

Fe welir tueddiadau tebyg wrth droi i ystyried y math o genedlaetholdeb a gaiff ei arddel gan rai o genedl-wladwriaethau mawr y Gorllewin, er enghraifft Ffrainc, Prydain a’r Unol Daeleithiau. Y duedd gyffredinol fu tybio mai cenedlaetholdeb sifig a gaiff ei arddel yn y mannau hyn, gan fod aelodaeth o’r ‘genedl’ yn agored i unrhyw unigolyn sy’n meddu ar ddinasyddiaeth (er enghraifft, gweler Pickus 2015). Fodd bynnag, mae’r amodau y mae’n rhaid eu bodloni er mwyn ennill y ddinasyddiaeth hon yn aml yn cynnwys meddu ar rai nodweddion diwylliannol neu ethnig. Fe welir hyn yn bennaf mewn perthynas â pholisïau mewnfudo y gwledydd hyn, lle bo meddu ar y gallu i siarad iaith benodol (Ffrangeg neu Saesneg) yn rhagamod ar gyfer ennill dinasyddiaeth (gweler Extra, Spotti, a Van Avermaet 2009).

O ganlyniad, er na ellir gwadu bod i’r rhaniad rhwng cenedlaetholdeb sifig werth dadansoddol pwysig, dylid gochel rhag dibynnu’n ormodol ar y categoriau hyn. Y gwir amdani yw mai anaml y bydd enghreifftiau o genedlaetholdeb yn syrthio’n daclus i’r naill gategori neu’r llall. Yn amlach na pheidio, bydd cenedlaetholdeb yn gymysgedd gymhleth o’r ddwy elfen.


Mae’r cofnod yma yn seiliedig ar Cenedlaetholdeb: Ffrydiau Amrywiol gan Dr. Huw Lewis (rhan o e-lawlyfrau Cyflwyniad i Syniadau Gwleidyddol sydd ar gael ym Mhorth Adnoddau’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol), wedi’i addasu gan Adam Pierce a Dr. Siôn Jones o Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol, Prifysgol Caerdydd.

Llyfryddiaeth

Brooks, S. (2015). Pam na fu Cymru? Methiant Cenedlaetholdeb Cymreig. Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru)

Davies, C. (2010), ‘Nationalism and the Welsh Language’, yn Mackay, H. (gol.) Understanding Contemporary Wales. (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru)

Denitch, B. (1996). Ethnic Nationalism: The Tragic Death of Yugoslavia. (Minneapolis: University of Minnesota Press)

Extra, G., Spotti, M a Van Avermaet, P. (goln.) (2009), Language Testing, Migration and Citizenship : Cross-National Perspectives on Integration Regimes. (Llundain: Continuum)

Ignatieff, M. (1993), Blood and Belonging: Journeys into the New Nationalism(Llundain: Farrar)

Pickus, N. (2015). True Faith and Allegiance: Immigration and American Civic Nationalism. (Princeton: Princeton University Press)

Sumner, W. (1906), Folkways: A Study of the Sociological Importance of Usages, Manners, Customs, Mores and Morals, (Boston: The Athenaeum Press)


Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.