Ethnigrwydd

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio

(English: Ethnicity)

1. Cyflwyno ethnigrwydd

Cysyniad sy’n cyfeirio at hunaniaeth yn gysylltiedig â diwylliant yw ethnigrwydd. Gan mai lluniad cymdeithasol sy’n disgrifio hunaniaeth ddiwylliannol ydyw, gall ethnigrwydd gynnwys nodweddion megis iaith a chrefydd. O ganlyniad, gellir dangos ethnigrwydd mewn ffyrdd gwahanol. Nid yw eich ethnigrwydd wedi’i seilio ar nodweddion biolegol; yn hytrach, mae wedi’i sylfaenu ar agweddau neu ddulliau o ymddwyn sydd wedi’u dysgu (Fenton, 2010). Cyfeiria hil at gategori o bobl sy’n rhannu rhai nodweddion corfforol etifeddol, megis lliw croen, er enghraifft. Felly, mae hil yn gysyniad oedd eisoes wedi ei wreiddio mewn bioleg, er ei fod yn cael ei gydnabod erbyn heddiw mai lluniad cymdeithasol yw hil. Mae ystyr ehangach, ar y llaw arall, i’r term ethnigrwydd – cysyniad sy’n cyfeirio at brofiadau cymdeithasol, diwylliannol a hanesyddol a rennir gan grŵp o bobl. Mae Llywodraeth Prydain (Gov.uk, 2021) yn cydnabod bodolaeth deunaw o grwpiau ethnig, sydd wedi eu grwpio yn bum brif grŵp, sef: · gwyn; · ethnig cymysg neu amlethnig; · Asiaidd neu Asiaidd Brydeinig; · du, Affricanaidd, Caribïaidd neu ddu Prydeinig; · unrhyw grŵp ethnig arall.

2. Ethnigrwydd a hil

Mae’r cysyniad o ethnigrwydd wedi’i gydblethu â’r diffiniad o hil, ac weithiau’n cael ei ddefnyddio yn ei le. Tra oedd hil yn cael ei gysylltu â bioleg, a bellach â lluniad cymdeithasol, mae ethnigrwydd yn cael ei gysylltu â diwylliant. Yn wahanol i hil, sydd i raddau helaeth yn weledol, gellir arddangos neu guddio ethnigrwydd, yn dibynnu ar ddewisiadau personol yr unigolyn (Laux, 2019). Ond mae angen cofio hefyd fod hil yn lluniad cymdeithasol, oherwydd pobl sydd wedi penderfynu sut rydym yn diffinio hil ac yn grwpio unigolion yn grwpiau hil gwahanol.

3. Ethnigrwydd, hil a chenedligrwydd

Cenedligrwydd yw statws yr unigolyn sy’n uniaethu â chenedl benodol. Mae ethnigrwydd, hil a chenedligrwydd eisoes wedi’u defnyddio gyda’i gilydd ac awgryma Brubaker (2009) fod modd cryfhau ystyr ethnigrwydd gan ddefnyddio’r tri gyda’i gilydd. Er hyn, mae academyddion megis Jenkins (1997) a Bonilla-Silva (1997) yn dadlau ei bod hi’n anodd gwahaniaethu rhwng cysyniadau cenedligrwydd, hil ac ethnigrwydd.

4. Grwpiau ethnig lleiafrifol

Mae ethnigrwydd hefyd yn gysylltiedig â’r term ‘ethnig lleiafrifol’, sy’n cydnabod grwpiau nad ydynt yn cynrychioli’r mwyafrif o fewn poblogaeth benodol. Nodwyd mai’r gair ethnigrwydd sy’n dod yn gyntaf cyn y gair lleiafrifol, gan fod gan bawb ethnigrwydd (Gov.uk, 2021). Mae’r term yn gymhleth yn y Gymraeg gan fod y cysylltiad â’r iaith yn hanesyddol yn golygu bod Cymry wedi medru datgan eu hunain yn grŵp ‘ethnig lleiafrifol’ mewn rhai sefyllfaoedd cymdeithasol (Brooks, 2021). Hynny yw, gall unigolyn datgan ei fod yn rhan o grŵp ethnig lleiafrifol oherwydd ei hunaniaeth wahanol ar sail iaith, sy’n wahanol i fwyafrif y boblogaeth (Fishman, 1999). Mae Brooks (2021) wedi archwilio sefyllfa’r Cymry fel grŵp ethnig lleiafrifol yn Lloegr, gan gynnig safbwynt gwahanol i’r ddadl gymhleth hon.

Serch hyn, yn y Deyrnas Unedig, mae’r term grwpiau ethnig lleiafrifol yn tueddu i gael ei ddefnyddio i gyfeirio at bobl ddu, Asiaidd, hil gymysg a grwpiau lleiafrifol gwyn, megis sipsiwn, teithwyr a Roma. Er hyn, mae grwpiau o bobl sy’n cael eu hadnabod yn grwpiau ethnig lleiafrifol yn y Deyrnas Unedig yn cynrychioli’r rhan fwyaf o’r boblogaeth ar draws y byd. Mae grwpiau ethnig lleiafrifol yn y Deyrnas Unedig yn cyfateb i tua 80% o boblogaeth y byd (Campbell-Stevens, 2020), ac felly nid ydynt yn cael eu hystyried fel grwpiau lleiafrifol yn rhyngwladol. Mae rhai’n defnyddio’r term grwpiau ethnig lleiafrifiedig (ethnically minoritised groups) oherwydd hyn.

Savanna Jones

Llyfryddiaeth

Bonilla-Silva, E. (1997), ‘Rethinking racism: towards a structural interpretation’, American Sociological Review, 62(3), 465–80.

Brooks, S. (2021), Lleiafrifoedd Ethnig a’r Gwareiddiad Cymraeg (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru).

Brubaker, R. (2009), ‘Ethnicity, race, and nationalism’, Annual Review of Sociology, 35(1), 21–42.

Campbell-Stevens, R. (2020), ‘Global majority: decolonising the language and reframing around the conversation about race’, https://www.leedsbeckett.ac.uk/-/media/files/schools/school-of-education/final-leeds-beckett-1102-global-majority.pdf [Cyrchwyd: 26 Ebrill 2021].

Fenton, S. (2010), Ethnicity (Cambridge: Policy Press).

Fishman, J. A. (1999), Language and Ethnic Identity (Oxford: Oxford University Press).

Government UK (2021), List of Ethnic Groups, https://www.ethnicity-facts-figures.service.gov.uk/style-guide/ethnic-groups [Cyrchwyd 26 Ebrill 2021].

Jenkins, R. (1997), Rethinking Ethnicity: Arguments and Explorations (London: Sage).

Laux, R. (2019), 50 years of collecting ethnicity data, https://history.blog.gov.uk/2019/03/07/50-years-of-collecting-ethnicity-data/ [Cyrchwyd; 26 Ebrill 2021].


Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.