Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Weber, Max"

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio
 
(Ni ddangosir y 2 olygiad yn y canol gan yr un defnyddiwr)
Llinell 7: Llinell 7:
 
'''2. Methodoleg Weber '''
 
'''2. Methodoleg Weber '''
  
Cysylltir dull methodolegol Weber â’r persbectif micro (Prys a Hodges 2020). Credai Weber (1921/1999) fod angen i ymchwilwyr astudio unigolion a deall y ffordd maen nhw’n dehongli’r byd o’u cwmpas yn hytrach nag astudio [[strwythurau]] cymdeithasol a sut mae cymdeithas yn dylanwadu ar yr unigolion (sy’n gysylltiedig â’r persbectif macro a gyda damcaniaethwyr fel [[Émile Durkheim]] a [[Karl Marx]]). Er mwyn gallu deall ein byd cymdeithasol, pwysleisiai Weber ei bod hi’n bwysig i ymchwilwyr ddatblygu ''verstehen'', sef dealltwriaeth o’r ystyron y mae unigolion yn eu rhoi i wahanol agweddau o gymdeithas. Mewn geiriau eraill, credai Weber fod angen i ymchwilwyr geisio’u rhoi eu hunain yn esgidiau’r unigolion maen nhw’n eu hastudio (Roberts 1982/2015).
+
Cysylltir dull methodolegol Weber â’r persbectif micro (Prys a Hodges 2020). Credai Weber (1921/1999) fod angen i ymchwilwyr astudio unigolion a deall y ffordd maen nhw’n dehongli’r byd o’u cwmpas yn hytrach nag astudio [[strwythur cymdeithasol| strwythurau]] cymdeithasol a sut mae cymdeithas yn dylanwadu ar yr unigolion (sy’n gysylltiedig â’r persbectif macro a gyda damcaniaethwyr fel [[Émile Durkheim]] a [[Karl Marx]]). Er mwyn gallu deall ein byd cymdeithasol, pwysleisiai Weber ei bod hi’n bwysig i ymchwilwyr ddatblygu ''verstehen'', sef dealltwriaeth o’r ystyron y mae unigolion yn eu rhoi i wahanol agweddau o gymdeithas. Mewn geiriau eraill, credai Weber fod angen i ymchwilwyr geisio’u rhoi eu hunain yn esgidiau’r unigolion maen nhw’n eu hastudio (Roberts 1982/2015).
  
 
Yn wahanol i [[Émile Durkheim]], dadleuai Weber ei bod hi’n anodd cael gwybodaeth wrthrychol (''objective knowledge'') am ein byd cymdeithasol gan fod unigolion yn dehongli cymdeithas mewn ffyrdd gwahanol (1904/2012). Yn ogystal, cydnabu Weber ei bod yn bosib i’n [[gwerthoedd]] gael effaith ar wahanol gamau yn y broses ymchwil, er enghraifft, yr hyn rydyn ni’n dewis ei astudio, y broses o gasglu data a’u dadansoddi. Pwysleisiodd Weber fod angen i ymchwilwyr anelu at fod mor ddiduedd (''unbiased'') a niwtral ag sy’n bosib er mwyn sicrhau bod canfyddiadau’r ymchwil yn adlewyrchiad teg o’r hyn maen nhw’n ei astudio (1917/2012).
 
Yn wahanol i [[Émile Durkheim]], dadleuai Weber ei bod hi’n anodd cael gwybodaeth wrthrychol (''objective knowledge'') am ein byd cymdeithasol gan fod unigolion yn dehongli cymdeithas mewn ffyrdd gwahanol (1904/2012). Yn ogystal, cydnabu Weber ei bod yn bosib i’n [[gwerthoedd]] gael effaith ar wahanol gamau yn y broses ymchwil, er enghraifft, yr hyn rydyn ni’n dewis ei astudio, y broses o gasglu data a’u dadansoddi. Pwysleisiodd Weber fod angen i ymchwilwyr anelu at fod mor ddiduedd (''unbiased'') a niwtral ag sy’n bosib er mwyn sicrhau bod canfyddiadau’r ymchwil yn adlewyrchiad teg o’r hyn maen nhw’n ei astudio (1917/2012).
Llinell 13: Llinell 13:
 
Gan fod Weber yn credu bod cael gwybodaeth wrthrychol am ein byd cymdeithasol yn heriol, gwelai ei bod yn anodd <nowiki>datblygu</nowiki> cysyniadau sy’n adlewyrchu’n union beth sy’n digwydd mewn cymdeithas. Er hyn, awgrymodd Weber y dylai gwyddonwyr cymdeithasol ddatblygu’r hyn a alwai’n deip ideal (''ideal type'', 1904/2012), sy’n rhoi syniad i ni o nodweddion mwyaf hanfodol neu gyffredin ffenomen gymdeithasol. Fel mae Prys a Hodges (2018) yn nodi, wrth astudio’r <nowiki>teulu</nowiki> mae ymchwilwyr wedi <nowiki> datblygu</nowiki> categorïau cyffredinol neu deipiau ideal o deuluoedd gwahanol, er enghraifft, y <nowiki>teulu</nowiki> cnewyllol (''nuclear family'') a’r [[teulu]] estynedig (''extended family''), gan ei bod hi’n anodd disgrifio pob un [[teulu]] yn unigol. Mae’n bosib na fyddwn yn dod ar draws tystiolaeth yn ein byd cymdeithasol sy’n adlewyrchu’r teipiau ideal hyn yn union, ond mae teipiau ideal yn rhoi syniad i ni o’r gwahaniaethau sy’n bodoli mewn cymdeithas. Ceir nifer o enghreifftiau o deipiau ideal yng ngwaith Weber, gan gynnwys ei gysyniad o resymoliad (''rationalisation'') sy’n cael ei drafod yn yr adran nesaf.
 
Gan fod Weber yn credu bod cael gwybodaeth wrthrychol am ein byd cymdeithasol yn heriol, gwelai ei bod yn anodd <nowiki>datblygu</nowiki> cysyniadau sy’n adlewyrchu’n union beth sy’n digwydd mewn cymdeithas. Er hyn, awgrymodd Weber y dylai gwyddonwyr cymdeithasol ddatblygu’r hyn a alwai’n deip ideal (''ideal type'', 1904/2012), sy’n rhoi syniad i ni o nodweddion mwyaf hanfodol neu gyffredin ffenomen gymdeithasol. Fel mae Prys a Hodges (2018) yn nodi, wrth astudio’r <nowiki>teulu</nowiki> mae ymchwilwyr wedi <nowiki> datblygu</nowiki> categorïau cyffredinol neu deipiau ideal o deuluoedd gwahanol, er enghraifft, y <nowiki>teulu</nowiki> cnewyllol (''nuclear family'') a’r [[teulu]] estynedig (''extended family''), gan ei bod hi’n anodd disgrifio pob un [[teulu]] yn unigol. Mae’n bosib na fyddwn yn dod ar draws tystiolaeth yn ein byd cymdeithasol sy’n adlewyrchu’r teipiau ideal hyn yn union, ond mae teipiau ideal yn rhoi syniad i ni o’r gwahaniaethau sy’n bodoli mewn cymdeithas. Ceir nifer o enghreifftiau o deipiau ideal yng ngwaith Weber, gan gynnwys ei gysyniad o resymoliad (''rationalisation'') sy’n cael ei drafod yn yr adran nesaf.
  
'''3. Rhesymoli'''
+
'''3. [[Rhesymoli]]'''
  
 
Mae’r cysyniad o resymoli yn cael ei weld fel un o’r cysyniadau pwysicaf yng ngwaith Weber. Cyfeiria rhesymoliad at broses lle mae penderfyniadau a gweithredoedd unigolion yn fwyfwy seiliedig ar resymoledd cyfryngol (''instrumental rationality'') yn hytrach nag ar ffactorau fel [[crefydd]], emosiynau, traddodiad a [[gwerthoedd]]. Pan fydd unigolyn yn defnyddio rhesymoledd cyfryngol, bydd yn ystyried gwahanol opsiynau ac yn dewis yr opsiwn mwyaf effeithlon, yn ei farn ef neu ei barn hi, i gyrraedd yr hyn mae eisiau ei gyflawni. Defnyddiodd Weber y cysyniad o resymoli er mwyn egluro newidiadau cymdeithasol, gan gynnwys y defnydd cynyddol o fiwrocratiaeth mewn [[sefydliadau]] gwahanol a datblygiad [[cyfalafiaeth]].
 
Mae’r cysyniad o resymoli yn cael ei weld fel un o’r cysyniadau pwysicaf yng ngwaith Weber. Cyfeiria rhesymoliad at broses lle mae penderfyniadau a gweithredoedd unigolion yn fwyfwy seiliedig ar resymoledd cyfryngol (''instrumental rationality'') yn hytrach nag ar ffactorau fel [[crefydd]], emosiynau, traddodiad a [[gwerthoedd]]. Pan fydd unigolyn yn defnyddio rhesymoledd cyfryngol, bydd yn ystyried gwahanol opsiynau ac yn dewis yr opsiwn mwyaf effeithlon, yn ei farn ef neu ei barn hi, i gyrraedd yr hyn mae eisiau ei gyflawni. Defnyddiodd Weber y cysyniad o resymoli er mwyn egluro newidiadau cymdeithasol, gan gynnwys y defnydd cynyddol o fiwrocratiaeth mewn [[sefydliadau]] gwahanol a datblygiad [[cyfalafiaeth]].
Llinell 23: Llinell 23:
 
'''3.2. Datblygiad [[cyfalafiaeth]]'''
 
'''3.2. Datblygiad [[cyfalafiaeth]]'''
  
Yn ei lyfr, ''The Protestant Ethic and the Spirit of Capitalism'', rhoddodd Weber (1905/2005) ddadansoddiad newydd o ddatblygiad [[cyfalafiaeth]] oedd yn wahanol i ddadansoddiad [[Karl Marx|Marx]]. Tra pwysleisiai [[Karl Marx]] ddylanwad yr economi ar gymdeithas (gweler y cofnod ar [[materoliaeth hanesyddol|fateroliaeth hanesyddol]]), credai Weber fod ffactorau eraill y tu hwnt i’r economi yn gallu arwain at newidiadau cymdeithasol. I Weber, un o’r ffactorau a gyfrannodd at ddatblygiad [[cyfalafiaeth]] oedd [[crefydd]], ac yn benodol syniadau crefyddol oedd yn gysylltiedig â Phrotestaniaeth. Eglurodd Weber fod syniadau Phrotestannaidd, er enghraifft cred mewn rhagordeiniad (''predestinatio''n) ac iachawdwriaeth (''salvation''), wedi arwain at ddatblygiad [[cyfalafiaeth]] gan fod Protestaniaid yn credu bod gweithio’n galed yn ffordd o ddangos i Dduw eu bod nhw’n haeddu mynd i’r nefoedd. Y term a ddefnyddiodd Weber am hyn oedd [[moeseg]] Brotestannaidd (''Protestant ethic''). Ond, dadleuai Weber fod rhesymeg unigolion dros weithio yn newid, yn raddol fach, o ganlyniad i resymoliad cynyddol a lleihad yn nylanwad [[crefydd]]. Yn hytrach na gweithio’n galed am resymau crefyddol, yn ôl Weber, mae unigolion heddiw yn gweithio’n galed oherwydd eu bod nhw’n gweld mai hon yw’r ffordd fwyaf effeithiol a rhesymegol o gael llawer o arian a chreu elw. Ysbryd [[cyfalafiaeth]] (''spirit of capitalism'') yw’r term am y rhesymeg hon.
+
Yn ei lyfr, ''The Protestant Ethic and the Spirit of Capitalism'', rhoddodd Weber (1905/2005) ddadansoddiad newydd o ddatblygiad [[cyfalafiaeth]] oedd yn wahanol i ddadansoddiad [[Karl Marx|Marx]]. Tra pwysleisiai [[Karl Marx]] ddylanwad yr economi ar gymdeithas (gweler y cofnod ar [[materoliaeth hanesyddol|fateroliaeth hanesyddol]]), credai Weber fod ffactorau eraill y tu hwnt i’r economi yn gallu arwain at newidiadau cymdeithasol. I Weber, un o’r ffactorau a gyfrannodd at ddatblygiad [[cyfalafiaeth]] oedd [[crefydd]], ac yn benodol syniadau crefyddol oedd yn gysylltiedig â Phrotestaniaeth. Eglurodd Weber fod syniadau Phrotestannaidd, er enghraifft cred mewn rhagordeiniad (''predestinatio''n) ac iachawdwriaeth (''salvation''), wedi arwain at ddatblygiad [[cyfalafiaeth]] gan fod Protestaniaid yn credu bod gweithio’n galed yn ffordd o ddangos i Dduw eu bod nhw’n haeddu mynd i’r nefoedd. Y term a ddefnyddiodd Weber am hyn oedd <nowiki>moeseg</nowiki> Brotestannaidd (''Protestant ethic''). Ond, dadleuai Weber fod rhesymeg unigolion dros weithio yn newid, yn raddol fach, o ganlyniad i resymoliad cynyddol a lleihad yn nylanwad [[crefydd]]. Yn hytrach na gweithio’n galed am resymau crefyddol, yn ôl Weber, mae unigolion heddiw yn gweithio’n galed oherwydd eu bod nhw’n gweld mai hon yw’r ffordd fwyaf effeithiol a rhesymegol o gael llawer o arian a chreu elw. Ysbryd [[cyfalafiaeth]] (''spirit of capitalism'') yw’r term am y rhesymeg hon.
  
 
'''3.3. Cawell haearn'''
 
'''3.3. Cawell haearn'''
  
Roedd Weber yn cydnabod bod rhesymoli i ryw raddau o fudd i gymdeithas. Er enghraifft, gwelai Weber fod [[biwrocratiaeth]] yn un o’r ffyrdd mwyaf effeithlon a rhesymegol o drefnu [[sefydliadau]] cymhleth. Ond ar yr un pryd, roedd Weber yn poeni ynghylch y cynnydd mewn rhesymoli o fewn cymdeithas. Pryderai Weber y byddai rhesymoli’n meddiannu bywydau unigolion ac na fyddent yn gweithredu nac yn gwneud penderfyniadau, ac eithrio pan fyddai hynny’n seiliedig ar resymoledd cyfryngol (''instrumental rationality''). Byddai hyn yn caethiwo unigolion mewn cawell haearn (''iron cage''). Mae rhai fel Baehr (2001) wedi dadlau bod ''shell as hard as steel'' yn well cyfieithiad o’r term a ddefnyddiodd Weber ar gyfer y cysyniad hwn mewn Almaeneg, sef ''Stahlhartes Gehäuse''. O ganlyniad i’r cawell haearn, nid yw unigolion yn gallu gweld ei bod yn bosib byw mewn system wahanol i system fiwrocrataidd neu system gyfalafol, er enghraifft, oherwydd eu bod nhw’n credu mai’r systemau hyn sydd yn gwneud y mwyaf o synnwyr.
+
Roedd Weber yn cydnabod bod [[rhesymoli]] i ryw raddau o fudd i gymdeithas. Er enghraifft, gwelai Weber fod [[biwrocratiaeth]] yn un o’r ffyrdd mwyaf effeithlon a rhesymegol o drefnu [[sefydliadau]] cymhleth. Ond ar yr un pryd, roedd Weber yn poeni ynghylch y cynnydd mewn [[rhesymoli]] o fewn cymdeithas. Pryderai Weber y byddai rhesymoli’n meddiannu bywydau unigolion ac na fyddent yn gweithredu nac yn gwneud penderfyniadau, ac eithrio pan fyddai hynny’n seiliedig ar resymoledd cyfryngol (''instrumental rationality''). Byddai hyn yn caethiwo unigolion mewn cawell haearn (''iron cage''). Mae rhai fel Baehr (2001) wedi dadlau bod ''shell as hard as steel'' yn well cyfieithiad o’r term a ddefnyddiodd Weber ar gyfer y cysyniad hwn mewn Almaeneg, sef ''Stahlhartes Gehäuse''. O ganlyniad i’r cawell haearn, nid yw unigolion yn gallu gweld ei bod yn bosib byw mewn system wahanol i system fiwrocrataidd neu system gyfalafol, er enghraifft, oherwydd eu bod nhw’n credu mai’r systemau hyn sydd yn gwneud y mwyaf o synnwyr.
  
 
'''4. Weber a’r mathau gwahanol o weithredoedd cymdeithasol'''
 
'''4. Weber a’r mathau gwahanol o weithredoedd cymdeithasol'''
Llinell 39: Llinell 39:
 
Ysgrifennodd Weber hefyd ynghylch anghydraddoldebau a haeniad cymdeithasol (''social stratification''), hynny yw sut mae unigolion yn cael eu lleoli mewn safleoedd gwahanol o fewn hierarchaeth cymdeithas. Gwelodd Weber fod [[dosbarth cymdeithasol]] yn achosi anghydraddoldebau cymdeithasol, a phwysleisiodd fod unigolion o’r un grŵp [[dosbarth cymdeithasol]] yn cael yr un cyfleoedd mewn bywyd (1921/2019). Cytunai Weber â Marx ac Engels (1848/2014) fod bod yn berchen ar eiddo yn effeithio ar gyfleoedd bywyd unigolyn. Ond, dadleuodd Weber fod cyfleoedd bywyd hefyd yn cael eu pennu gan gyfleoedd unigolion i greu incwm. Yn ôl Weber, gallai nodweddion fel profiad, sgiliau a chymwysterau ffurfiol hefyd roi mantais economaidd i unigolyn.
 
Ysgrifennodd Weber hefyd ynghylch anghydraddoldebau a haeniad cymdeithasol (''social stratification''), hynny yw sut mae unigolion yn cael eu lleoli mewn safleoedd gwahanol o fewn hierarchaeth cymdeithas. Gwelodd Weber fod [[dosbarth cymdeithasol]] yn achosi anghydraddoldebau cymdeithasol, a phwysleisiodd fod unigolion o’r un grŵp [[dosbarth cymdeithasol]] yn cael yr un cyfleoedd mewn bywyd (1921/2019). Cytunai Weber â Marx ac Engels (1848/2014) fod bod yn berchen ar eiddo yn effeithio ar gyfleoedd bywyd unigolyn. Ond, dadleuodd Weber fod cyfleoedd bywyd hefyd yn cael eu pennu gan gyfleoedd unigolion i greu incwm. Yn ôl Weber, gallai nodweddion fel profiad, sgiliau a chymwysterau ffurfiol hefyd roi mantais economaidd i unigolyn.
  
Yn wahanol i Marx ac Engels, cydnabu Weber fod adnoddau tu hwnt i adnoddau economaidd hefyd yn gallu effeithio ar safle unigolyn mewn cymdeithas. Un o’r ffactorau hyn yw [[statws]]. Cysylltodd Weber [[statws]] â diwylliant, gan nodi bod unigolion o’r un grŵp [[statws]] yn rhannu nodweddion tebyg, er enghraifft ffordd o fyw a chwaeth ddiwylliannol (1921/2019). Credai Weber fod grwpiau [[statws]] yn cael eu trin yn wahanol mewn cymdeithas, gyda grwpiau â statws cymharol uchel yn debygol o gael mwy o barch a bri gan gymdeithas o’u cymharu â grwpiau â statws cymharol isel.
+
Yn wahanol i Marx ac Engels, cydnabu Weber fod adnoddau tu hwnt i adnoddau economaidd hefyd yn gallu effeithio ar safle unigolyn mewn cymdeithas. Un o’r ffactorau hyn yw [[statws]]. Cysylltodd Weber [[statws]] â diwylliant, gan nodi bod unigolion o’r un grŵp [[statws]] yn rhannu nodweddion tebyg, er enghraifft ffordd o fyw a chwaeth ddiwylliannol (1921/2019). Credai Weber fod grwpiau [[statws]] yn cael eu trin yn wahanol mewn cymdeithas, gyda grwpiau â [[statws]] cymharol uchel yn debygol o gael mwy o barch a bri gan gymdeithas o’u cymharu â grwpiau â [[statws]] cymharol isel.
  
 
Ffactor arall y teimlai Weber oedd yn bwysig er mwyn deall sut roedd cymdeithas wedi ei threfnu oedd [[plaid]] (''party''). I Weber, roedd y term ‘plaid’ yn cyfeirio at grwpiau ag aelodau sy’n rhannu’r un buddiannau ac yn ceisio cael effaith ar wleidyddiaeth a pholisïau gwahanol. Nid yn unig yr oedd Weber yn cyfri pleidiau gwleidyddol yn enghreifftiau o bleidiau, ond hefyd garfanau pwyso, cyrff proffesiynol, undebau llafur a charfanau ymgyrchu. Gan fod y carfanau hyn yn ceisio cael effaith ar wleidyddiaeth a pholisïau, ystyriai Weber fod pleidiau’n effeithio ar bŵer mewn cymdeithas.
 
Ffactor arall y teimlai Weber oedd yn bwysig er mwyn deall sut roedd cymdeithas wedi ei threfnu oedd [[plaid]] (''party''). I Weber, roedd y term ‘plaid’ yn cyfeirio at grwpiau ag aelodau sy’n rhannu’r un buddiannau ac yn ceisio cael effaith ar wleidyddiaeth a pholisïau gwahanol. Nid yn unig yr oedd Weber yn cyfri pleidiau gwleidyddol yn enghreifftiau o bleidiau, ond hefyd garfanau pwyso, cyrff proffesiynol, undebau llafur a charfanau ymgyrchu. Gan fod y carfanau hyn yn ceisio cael effaith ar wleidyddiaeth a pholisïau, ystyriai Weber fod pleidiau’n effeithio ar bŵer mewn cymdeithas.
  
Mae’n rhaid cydnabod bod yna orgyffwrdd rhwng cysyniadau Weber o ddosbarth, statws a phlaid. Un enghraifft o hyn yw [[plaid]] sy’n gysylltiedig â grŵp [[dosbarth cymdeithasol]] a grŵp statws, er enghraifft [[plaid]] sosialaidd sy’n hyrwyddo buddiannau’r grŵp dosbarth gweithiol ac yn cynrychioli diwylliant grŵp statws y dosbarth gweithiol.
+
Mae’n rhaid cydnabod bod yna orgyffwrdd rhwng cysyniadau Weber o ddosbarth, [[statws]] a phlaid. Un enghraifft o hyn yw [[plaid]] sy’n gysylltiedig â grŵp [[dosbarth cymdeithasol]] a grŵp statws, er enghraifft [[plaid]] sosialaidd sy’n hyrwyddo buddiannau’r grŵp dosbarth gweithiol ac yn cynrychioli diwylliant grŵp statws y dosbarth gweithiol.
  
 
'''6. Awdurdod'''
 
'''6. Awdurdod'''
Llinell 49: Llinell 49:
 
Roedd gan Weber hefyd ddiddordeb ynghylch pa unigolion a grwpiau oedd ag awdurdod a phwy oedd â rheolaeth dros wneud penderfyniadau mewn cymdeithas. Yn ôl Weber, er mwyn i unigolyn allu bod yn drechol mewn cymdeithas, mae’n rhaid iddyn nhw gyfiawnhau i eraill eu bod nhw’n haeddu bod mewn safle o awdurdod (1921/2019). Nododd dri math o awdurdod (1921/2019). Y math cyntaf o awdurdod yw awdurdod traddodiadol (''traditional authority''), sef awdurdod sy’n cael ei gyfiawnhau ar seiliau hanesyddol a thraddodiadol, er enghraifft, y frenhiniaeth (''monarchy''). Gyda’r ail fath o awdurdod, awdurdod carismatig (''charismatic authority''), rydyn ni’n derbyn awdurdod yr unigolyn oherwydd ein bod yn gweld bod gan yr unigolyn rinweddau arbennig sy’n gallu swyno ac ysbrydoli eraill. Y trydydd math o awdurdod yw awdurdod cyfreithiol-rhesymegol (''rational-legal authority''). I Weber, dyma’r math o awdurdod sydd fwyaf gweladwy yn ein cymdeithas heddiw oherwydd ei fod yn gysylltiedig â rhesymoli cynyddol mewn cymdeithas. Cysylltir y math hwn o awdurdod â phrif weinidogion a gweinidogion y llywodraeth. Er ei bod hi’n bosib i wleidydd fod yn garismatig, rydyn ni’n derbyn awdurdod gwleidyddion yn bennaf oherwydd eu bod wedi eu hethol trwy brosesau cyfreithiol a chywir sy’n gysylltiedig â [[democratiaeth]].
 
Roedd gan Weber hefyd ddiddordeb ynghylch pa unigolion a grwpiau oedd ag awdurdod a phwy oedd â rheolaeth dros wneud penderfyniadau mewn cymdeithas. Yn ôl Weber, er mwyn i unigolyn allu bod yn drechol mewn cymdeithas, mae’n rhaid iddyn nhw gyfiawnhau i eraill eu bod nhw’n haeddu bod mewn safle o awdurdod (1921/2019). Nododd dri math o awdurdod (1921/2019). Y math cyntaf o awdurdod yw awdurdod traddodiadol (''traditional authority''), sef awdurdod sy’n cael ei gyfiawnhau ar seiliau hanesyddol a thraddodiadol, er enghraifft, y frenhiniaeth (''monarchy''). Gyda’r ail fath o awdurdod, awdurdod carismatig (''charismatic authority''), rydyn ni’n derbyn awdurdod yr unigolyn oherwydd ein bod yn gweld bod gan yr unigolyn rinweddau arbennig sy’n gallu swyno ac ysbrydoli eraill. Y trydydd math o awdurdod yw awdurdod cyfreithiol-rhesymegol (''rational-legal authority''). I Weber, dyma’r math o awdurdod sydd fwyaf gweladwy yn ein cymdeithas heddiw oherwydd ei fod yn gysylltiedig â rhesymoli cynyddol mewn cymdeithas. Cysylltir y math hwn o awdurdod â phrif weinidogion a gweinidogion y llywodraeth. Er ei bod hi’n bosib i wleidydd fod yn garismatig, rydyn ni’n derbyn awdurdod gwleidyddion yn bennaf oherwydd eu bod wedi eu hethol trwy brosesau cyfreithiol a chywir sy’n gysylltiedig â [[democratiaeth]].
  
7. Dylanwad Max Weber
+
'''7. Dylanwad Max Weber'''
  
Mae Max Weber wedi cael dylanwad mawr ar wyddorau cymdeithas. Cyfrannodd ei syniadau at fethodoleg a’i gysyniad o Verstehen at sefydlu deongliadaeth (''interpretivism''), safbwynt sy’n pwysleisio pwysigrwydd deall yr ystyron tu ôl i benderfyniadau a gweithredoedd unigolion gan fod unigolion yn dehongli’r byd o’u cwmpas mewn ffyrdd gwahanol (gweler Prys a Hodges 2020). Mae Weber hefyd yn cael ei weld fel un a gyfrannodd at ddamcaniaeth [[rhyngweithiadaeth]] (''interactionism''), gan fod y ddamcaniaeth hon yn gweld pwysigrwydd astudio elfennau micro o gymdeithas, fel rhyngweithio rhwng unigolion ac [[ystyr]] agweddau gwahanol o gymdeithas sy’n [[datblygu]] o’r rhyngweithio hwn. Dylanwadodd gwaith Weber hefyd ar waith damcaniaethwyr beirniadol Ysgol Frankfurt, gydag, er enghraifft, Max Horkheimer (1947/1992), Herbert Marcuse (1964) a Jürgen Habermas (1971) yn trafod effeithiau rhesymoli yn eu gwaith. Un arall sydd wedi [[datblygu]] cysyniad Weber am resymoliad yw George Ritzer (2004). Ef fu’n gyfrifol am greu’r cysyniad o McDonaldeiddio (''McDonaldization'') er mwyn dangos bod cymdeithas wedi mabwysiadu rhai o egwyddorion y bwyty bwyd cyflym. Fel Weber, roedd y damcaniaethwr [[Pierre Bourdieu]] hefyd yn cytuno bod ffactorau’r tu hwnt i’r economi yn effeithio ar bŵer mewn cymdeithas. Datblygodd Bourdieu (1986/1997) y cysyniadau o [[cyfalaf|gyfalaf]] economaidd (economic capital), cyfalaf cymdeithasol (''social capital'') a [[cyfalaf diwyllianol|chyfalaf diwylliannol]] (''cultural capital'') er mwyn dangos hyn.  Yn ogystal, mae nifer o ymchwilwyr wedi defnyddio cysyniadau Max Weber er mwyn deall agweddau gwahanol o gymdeithas yng Nghymru. Er enghraifft, defnyddiodd Fevre, Denney a Borland (1997) gysyniadau Weber ynghylch [[dosbarth]], [[statws]] a [[phlaid]] er mwyn archwilio [[cenedlaetholdeb]] yng Nghymru.
+
Mae Max Weber wedi cael dylanwad mawr ar wyddorau cymdeithas. Cyfrannodd ei syniadau at fethodoleg a’i gysyniad o Verstehen at sefydlu deongliadaeth (''interpretivism''), safbwynt sy’n pwysleisio pwysigrwydd deall yr ystyron tu ôl i benderfyniadau a gweithredoedd unigolion gan fod unigolion yn dehongli’r byd o’u cwmpas mewn ffyrdd gwahanol (gweler Prys a Hodges 2020). Mae Weber hefyd yn cael ei weld fel un a gyfrannodd at ddamcaniaeth [[rhyngweithiadaeth]] (''interactionism''), gan fod y ddamcaniaeth hon yn gweld pwysigrwydd astudio elfennau micro o gymdeithas, fel rhyngweithio rhwng unigolion ac <nowiki>ystyr</nowiki> agweddau gwahanol o gymdeithas sy’n <nowiki>datblygu</nowiki> o’r rhyngweithio hwn. Dylanwadodd gwaith Weber hefyd ar waith damcaniaethwyr beirniadol Ysgol Frankfurt, gydag, er enghraifft, Max Horkheimer (1947/1992), Herbert Marcuse (1964) a Jürgen Habermas (1971) yn trafod effeithiau rhesymoli yn eu gwaith. Un arall sydd wedi [[datblygu]] cysyniad Weber am resymoliad yw George Ritzer (2004). Ef fu’n gyfrifol am greu’r cysyniad o McDonaldeiddio (''McDonaldization'') er mwyn dangos bod cymdeithas wedi mabwysiadu rhai o egwyddorion y bwyty bwyd cyflym. Fel Weber, roedd y damcaniaethwr [[Pierre Bourdieu]] hefyd yn cytuno bod ffactorau’r tu hwnt i’r economi yn effeithio ar bŵer mewn cymdeithas. Datblygodd Bourdieu (1986/1997) y cysyniadau o [[cyfalafiaeth|gyfalaf]] economaidd (economic capital), cyfalaf cymdeithasol (''social capital'') a [[cyfalaf diwyllianol|chyfalaf diwylliannol]] (''cultural capital'') er mwyn dangos hyn.  Yn ogystal, mae nifer o ymchwilwyr wedi defnyddio cysyniadau Max Weber er mwyn deall agweddau gwahanol o gymdeithas yng Nghymru. Er enghraifft, defnyddiodd Fevre, Denney a Borland (1997) gysyniadau Weber ynghylch [[dosbarth]], [[statws]] a [[plaid|phlaid]] er mwyn archwilio [[cenedlaetholdeb]] yng Nghymru.
  
 
Mae deunyddiau dysgu digidol ar Weber wedi’u creu gan Cynog Prys (2022) ar wefan Porth Adnoddau’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol.  
 
Mae deunyddiau dysgu digidol ar Weber wedi’u creu gan Cynog Prys (2022) ar wefan Porth Adnoddau’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol.  
Llinell 75: Llinell 75:
 
Prys, C. (2022), ''Max Weber ''https://www.porth.ac.uk/cy/collection/gwyddorau-cymdeithas-theori-gymdeithasegol [Cyrchwyd: 14 Ebrill 2022].
 
Prys, C. (2022), ''Max Weber ''https://www.porth.ac.uk/cy/collection/gwyddorau-cymdeithas-theori-gymdeithasegol [Cyrchwyd: 14 Ebrill 2022].
  
Prys, C. a Hodges, R. (2018), ''Pecyn Adnoddau Amlgyfrwng Cymdeithaseg: Y Teulu'' https://indd.adobe.com/view/0b0da3d8-e44e-4900-8475-a3c016add729 [Cyrchwyd: 21 Mehefin 2022].
+
Prys, C. a Hodges, R. (2018), ''Pecyn Adnoddau Amlgyfrwng Cymdeithaseg: Y [[Teulu]]'' https://indd.adobe.com/view/0b0da3d8-e44e-4900-8475-a3c016add729 [Cyrchwyd: 21 Mehefin 2022].
  
 
Prys, C. a Hodges, R. (2020), ''Pecyn Adnoddau Amlgyfrwng Cymdeithaseg: Cyflwyniad i Gymdeithaseg''  https://indd.adobe.com/view/0b0da3d8-e44e-4900-8475-a3c016add729 [Cyrchwyd: 21 Mehefin 2022].
 
Prys, C. a Hodges, R. (2020), ''Pecyn Adnoddau Amlgyfrwng Cymdeithaseg: Cyflwyniad i Gymdeithaseg''  https://indd.adobe.com/view/0b0da3d8-e44e-4900-8475-a3c016add729 [Cyrchwyd: 21 Mehefin 2022].

Y diwygiad cyfredol, am 18:57, 7 Medi 2024

1.Cyflwyniad i Max Weber

Gwelir Max Weber fel un o sylfaenwyr gwyddorau cymdeithas. Fe’i ganwyd yn Erfurt, yr Almaen, yn 1864. Yn dilyn cyfnod yn astudio am radd yn y Gyfraith a gwaith cyfreithiol yn llysoedd barn Berlin, cwblhaodd Weber ddoethuriaeth ar hanes cwmnïau masnachol yn yr Oesoedd Canol. Ar ôl hyn, cafodd Weber swydd fel darlithydd ym Mhrifysgol Berlin, cyn symud i weithio fel Athro mewn Economeg ym Mhrifysgol Freiburg ac wedyn yn Athro ym Mhrifysgol Heidelberg. Profodd Weber argyfwng personol ac o ganlyniad bu’n dioddef o anhwylderau iechyd meddwl. Er hyn, daliodd Weber ati i ysgrifennu a darlithio yn ystod y cyfnod hwn. Yn 1905 cyhoeddodd Weber un o’i weithiau enwocaf, The Protestant Ethic and the Spirit of Capitalism (1905/2007). Parhaodd Weber i roi darlithoedd ac ysgrifennu tan ei farwolaeth ym Mehefin 1920. Cafodd nifer o’i weithiau eu cyhoeddi ar ôl ei farwolaeth, gan gynnwys Economy and Society (Weber 1921/2019), un o’i weithiau mwyaf uchelgeisiol. Ceir trafodaeth fanylach o fywyd Weber gan Roberts (1982/2015).

Gwnaeth Weber gyfraniad mawr i wyddorau cymdeithas. Ysgrifennodd ar amrywiaeth eang o themâu, gan gynnwys crefydd, economeg, gwleidyddiaeth a methodoleg (sy’n gysylltiedig â’r dulliau rydyn ni’n eu defnyddio er mwyn astudio ein byd cymdeithasol). Ceisiodd Weber hefyd egluro rhai o ddatblygiadau cymdeithasol mawr y cyfnod, gan gynnwys datblygiad cyfalafiaeth, ffurfiant biwrocratiaeth a gwladwriaethau modern.

2. Methodoleg Weber

Cysylltir dull methodolegol Weber â’r persbectif micro (Prys a Hodges 2020). Credai Weber (1921/1999) fod angen i ymchwilwyr astudio unigolion a deall y ffordd maen nhw’n dehongli’r byd o’u cwmpas yn hytrach nag astudio strwythurau cymdeithasol a sut mae cymdeithas yn dylanwadu ar yr unigolion (sy’n gysylltiedig â’r persbectif macro a gyda damcaniaethwyr fel Émile Durkheim a Karl Marx). Er mwyn gallu deall ein byd cymdeithasol, pwysleisiai Weber ei bod hi’n bwysig i ymchwilwyr ddatblygu verstehen, sef dealltwriaeth o’r ystyron y mae unigolion yn eu rhoi i wahanol agweddau o gymdeithas. Mewn geiriau eraill, credai Weber fod angen i ymchwilwyr geisio’u rhoi eu hunain yn esgidiau’r unigolion maen nhw’n eu hastudio (Roberts 1982/2015).

Yn wahanol i Émile Durkheim, dadleuai Weber ei bod hi’n anodd cael gwybodaeth wrthrychol (objective knowledge) am ein byd cymdeithasol gan fod unigolion yn dehongli cymdeithas mewn ffyrdd gwahanol (1904/2012). Yn ogystal, cydnabu Weber ei bod yn bosib i’n gwerthoedd gael effaith ar wahanol gamau yn y broses ymchwil, er enghraifft, yr hyn rydyn ni’n dewis ei astudio, y broses o gasglu data a’u dadansoddi. Pwysleisiodd Weber fod angen i ymchwilwyr anelu at fod mor ddiduedd (unbiased) a niwtral ag sy’n bosib er mwyn sicrhau bod canfyddiadau’r ymchwil yn adlewyrchiad teg o’r hyn maen nhw’n ei astudio (1917/2012).

Gan fod Weber yn credu bod cael gwybodaeth wrthrychol am ein byd cymdeithasol yn heriol, gwelai ei bod yn anodd datblygu cysyniadau sy’n adlewyrchu’n union beth sy’n digwydd mewn cymdeithas. Er hyn, awgrymodd Weber y dylai gwyddonwyr cymdeithasol ddatblygu’r hyn a alwai’n deip ideal (ideal type, 1904/2012), sy’n rhoi syniad i ni o nodweddion mwyaf hanfodol neu gyffredin ffenomen gymdeithasol. Fel mae Prys a Hodges (2018) yn nodi, wrth astudio’r teulu mae ymchwilwyr wedi datblygu categorïau cyffredinol neu deipiau ideal o deuluoedd gwahanol, er enghraifft, y teulu cnewyllol (nuclear family) a’r teulu estynedig (extended family), gan ei bod hi’n anodd disgrifio pob un teulu yn unigol. Mae’n bosib na fyddwn yn dod ar draws tystiolaeth yn ein byd cymdeithasol sy’n adlewyrchu’r teipiau ideal hyn yn union, ond mae teipiau ideal yn rhoi syniad i ni o’r gwahaniaethau sy’n bodoli mewn cymdeithas. Ceir nifer o enghreifftiau o deipiau ideal yng ngwaith Weber, gan gynnwys ei gysyniad o resymoliad (rationalisation) sy’n cael ei drafod yn yr adran nesaf.

3. Rhesymoli

Mae’r cysyniad o resymoli yn cael ei weld fel un o’r cysyniadau pwysicaf yng ngwaith Weber. Cyfeiria rhesymoliad at broses lle mae penderfyniadau a gweithredoedd unigolion yn fwyfwy seiliedig ar resymoledd cyfryngol (instrumental rationality) yn hytrach nag ar ffactorau fel crefydd, emosiynau, traddodiad a gwerthoedd. Pan fydd unigolyn yn defnyddio rhesymoledd cyfryngol, bydd yn ystyried gwahanol opsiynau ac yn dewis yr opsiwn mwyaf effeithlon, yn ei farn ef neu ei barn hi, i gyrraedd yr hyn mae eisiau ei gyflawni. Defnyddiodd Weber y cysyniad o resymoli er mwyn egluro newidiadau cymdeithasol, gan gynnwys y defnydd cynyddol o fiwrocratiaeth mewn sefydliadau gwahanol a datblygiad cyfalafiaeth.

3.1 Biwrocratiaeth

Un o sgileffeithiau rhesymoledd cynyddol mewn cymdeithas yw biwrocratiaeth (bureaucracy), sef system weinyddu sy’n cael ei chynnal gan weithwyr proffesiynol wedi’u hyfforddi sy’n dilyn rheolau sefydlog mewn gwahanol sefydliadau, fel y llywodraeth, sefydliadau cyhoeddus fel ysgolion ac ysbytai neu gwmnïau preifat. Yn ôl Weber (1921/2019), mewn system fiwrocrataidd mae aelodau staff yn dilyn yn ddiwyd set o reolau sy’n gysylltiedig â’u swyddi; mae staff yn cael eu penodi ar sail ar eu cymwysterau proffesiynol; ceir hierarchaeth glir o ran swyddi ac mae cyfrifoldebau swyddi unigolion wedi eu nodi’n glir (gweler Roberts 1982/2015).

3.2. Datblygiad cyfalafiaeth

Yn ei lyfr, The Protestant Ethic and the Spirit of Capitalism, rhoddodd Weber (1905/2005) ddadansoddiad newydd o ddatblygiad cyfalafiaeth oedd yn wahanol i ddadansoddiad Marx. Tra pwysleisiai Karl Marx ddylanwad yr economi ar gymdeithas (gweler y cofnod ar fateroliaeth hanesyddol), credai Weber fod ffactorau eraill y tu hwnt i’r economi yn gallu arwain at newidiadau cymdeithasol. I Weber, un o’r ffactorau a gyfrannodd at ddatblygiad cyfalafiaeth oedd crefydd, ac yn benodol syniadau crefyddol oedd yn gysylltiedig â Phrotestaniaeth. Eglurodd Weber fod syniadau Phrotestannaidd, er enghraifft cred mewn rhagordeiniad (predestination) ac iachawdwriaeth (salvation), wedi arwain at ddatblygiad cyfalafiaeth gan fod Protestaniaid yn credu bod gweithio’n galed yn ffordd o ddangos i Dduw eu bod nhw’n haeddu mynd i’r nefoedd. Y term a ddefnyddiodd Weber am hyn oedd moeseg Brotestannaidd (Protestant ethic). Ond, dadleuai Weber fod rhesymeg unigolion dros weithio yn newid, yn raddol fach, o ganlyniad i resymoliad cynyddol a lleihad yn nylanwad crefydd. Yn hytrach na gweithio’n galed am resymau crefyddol, yn ôl Weber, mae unigolion heddiw yn gweithio’n galed oherwydd eu bod nhw’n gweld mai hon yw’r ffordd fwyaf effeithiol a rhesymegol o gael llawer o arian a chreu elw. Ysbryd cyfalafiaeth (spirit of capitalism) yw’r term am y rhesymeg hon.

3.3. Cawell haearn

Roedd Weber yn cydnabod bod rhesymoli i ryw raddau o fudd i gymdeithas. Er enghraifft, gwelai Weber fod biwrocratiaeth yn un o’r ffyrdd mwyaf effeithlon a rhesymegol o drefnu sefydliadau cymhleth. Ond ar yr un pryd, roedd Weber yn poeni ynghylch y cynnydd mewn rhesymoli o fewn cymdeithas. Pryderai Weber y byddai rhesymoli’n meddiannu bywydau unigolion ac na fyddent yn gweithredu nac yn gwneud penderfyniadau, ac eithrio pan fyddai hynny’n seiliedig ar resymoledd cyfryngol (instrumental rationality). Byddai hyn yn caethiwo unigolion mewn cawell haearn (iron cage). Mae rhai fel Baehr (2001) wedi dadlau bod shell as hard as steel yn well cyfieithiad o’r term a ddefnyddiodd Weber ar gyfer y cysyniad hwn mewn Almaeneg, sef Stahlhartes Gehäuse. O ganlyniad i’r cawell haearn, nid yw unigolion yn gallu gweld ei bod yn bosib byw mewn system wahanol i system fiwrocrataidd neu system gyfalafol, er enghraifft, oherwydd eu bod nhw’n credu mai’r systemau hyn sydd yn gwneud y mwyaf o synnwyr.

4. Weber a’r mathau gwahanol o weithredoedd cymdeithasol

Datblygodd Weber ddamcaniaeth ynghylch gweithredoedd cymdeithasol unigolion, gan nodi pedwar math o weithredu (1921/2009) . Y math cyntaf yw gweithred draddodiadol (traditional action), un sy’n cael ei dylanwadu gan arferion hirsefydlog. Yr ail fath yw gweithred affeithiol (affectual action), sy’n cael ei gyrru gan ein teimladau a’n hemosiynau. Mae’r trydydd math o weithred – gweithred werth-resymegol (value-rational action neu Wertrational yn yr Almaeneg) – yn cyfeirio at bethau mae unigolion yn eu gwneud oherwydd y profiad a’r mwynhad mae’r weithred hon yn eu rhoi iddynt. Y pedwerydd math o weithred yw gweithred resymegol-bwrpasol (purpose-rational action neu Zweckrational yn yr Almaeneg), sef rhywbeth y mae unigolion yn ei wneud oherwydd eu bod yn teimlo y byddai’r weithred honno o gymorth iddyn nhw gyflawni nod arbennig.

Gellir dadlau ei bod hi’n anodd gwahaniaethu rhwng gweithred werth-resymegol a gweithred resymegol-bwrpasol oherwydd ei bod yn bosib i unigolyn wneud rhywbeth nid yn unig oherwydd y byddai’r weithred honno’n ei helpu i gyrraedd nod, ond hefyd oherwydd ei bod yn rhoi boddhad. Enghraifft o hyn yw chwaraewr piano proffesiynol sy’n chwarae’r piano nid yn unig er mwyn ennill bywoliaeth, ond hefyd oherwydd ei fod yn mwynhau chwarae’r piano. Yn sgil rhesymoli cynyddol yn y gymdeithas, dadleuodd Weber fod unigolion yn blaenoriaethu purpose-rational action dros value-rational action ac yn fwy tebygol o wneud pethau maen nhw’n teimlo fydd yn eu helpu i gyflawni nod yn hytrach na gwneud pethau maen nhw’n mwynhau eu gwneud (1921/2009).

5. Dosbarth, statws a phlaid

Ysgrifennodd Weber hefyd ynghylch anghydraddoldebau a haeniad cymdeithasol (social stratification), hynny yw sut mae unigolion yn cael eu lleoli mewn safleoedd gwahanol o fewn hierarchaeth cymdeithas. Gwelodd Weber fod dosbarth cymdeithasol yn achosi anghydraddoldebau cymdeithasol, a phwysleisiodd fod unigolion o’r un grŵp dosbarth cymdeithasol yn cael yr un cyfleoedd mewn bywyd (1921/2019). Cytunai Weber â Marx ac Engels (1848/2014) fod bod yn berchen ar eiddo yn effeithio ar gyfleoedd bywyd unigolyn. Ond, dadleuodd Weber fod cyfleoedd bywyd hefyd yn cael eu pennu gan gyfleoedd unigolion i greu incwm. Yn ôl Weber, gallai nodweddion fel profiad, sgiliau a chymwysterau ffurfiol hefyd roi mantais economaidd i unigolyn.

Yn wahanol i Marx ac Engels, cydnabu Weber fod adnoddau tu hwnt i adnoddau economaidd hefyd yn gallu effeithio ar safle unigolyn mewn cymdeithas. Un o’r ffactorau hyn yw statws. Cysylltodd Weber statws â diwylliant, gan nodi bod unigolion o’r un grŵp statws yn rhannu nodweddion tebyg, er enghraifft ffordd o fyw a chwaeth ddiwylliannol (1921/2019). Credai Weber fod grwpiau statws yn cael eu trin yn wahanol mewn cymdeithas, gyda grwpiau â statws cymharol uchel yn debygol o gael mwy o barch a bri gan gymdeithas o’u cymharu â grwpiau â statws cymharol isel.

Ffactor arall y teimlai Weber oedd yn bwysig er mwyn deall sut roedd cymdeithas wedi ei threfnu oedd plaid (party). I Weber, roedd y term ‘plaid’ yn cyfeirio at grwpiau ag aelodau sy’n rhannu’r un buddiannau ac yn ceisio cael effaith ar wleidyddiaeth a pholisïau gwahanol. Nid yn unig yr oedd Weber yn cyfri pleidiau gwleidyddol yn enghreifftiau o bleidiau, ond hefyd garfanau pwyso, cyrff proffesiynol, undebau llafur a charfanau ymgyrchu. Gan fod y carfanau hyn yn ceisio cael effaith ar wleidyddiaeth a pholisïau, ystyriai Weber fod pleidiau’n effeithio ar bŵer mewn cymdeithas.

Mae’n rhaid cydnabod bod yna orgyffwrdd rhwng cysyniadau Weber o ddosbarth, statws a phlaid. Un enghraifft o hyn yw plaid sy’n gysylltiedig â grŵp dosbarth cymdeithasol a grŵp statws, er enghraifft plaid sosialaidd sy’n hyrwyddo buddiannau’r grŵp dosbarth gweithiol ac yn cynrychioli diwylliant grŵp statws y dosbarth gweithiol.

6. Awdurdod

Roedd gan Weber hefyd ddiddordeb ynghylch pa unigolion a grwpiau oedd ag awdurdod a phwy oedd â rheolaeth dros wneud penderfyniadau mewn cymdeithas. Yn ôl Weber, er mwyn i unigolyn allu bod yn drechol mewn cymdeithas, mae’n rhaid iddyn nhw gyfiawnhau i eraill eu bod nhw’n haeddu bod mewn safle o awdurdod (1921/2019). Nododd dri math o awdurdod (1921/2019). Y math cyntaf o awdurdod yw awdurdod traddodiadol (traditional authority), sef awdurdod sy’n cael ei gyfiawnhau ar seiliau hanesyddol a thraddodiadol, er enghraifft, y frenhiniaeth (monarchy). Gyda’r ail fath o awdurdod, awdurdod carismatig (charismatic authority), rydyn ni’n derbyn awdurdod yr unigolyn oherwydd ein bod yn gweld bod gan yr unigolyn rinweddau arbennig sy’n gallu swyno ac ysbrydoli eraill. Y trydydd math o awdurdod yw awdurdod cyfreithiol-rhesymegol (rational-legal authority). I Weber, dyma’r math o awdurdod sydd fwyaf gweladwy yn ein cymdeithas heddiw oherwydd ei fod yn gysylltiedig â rhesymoli cynyddol mewn cymdeithas. Cysylltir y math hwn o awdurdod â phrif weinidogion a gweinidogion y llywodraeth. Er ei bod hi’n bosib i wleidydd fod yn garismatig, rydyn ni’n derbyn awdurdod gwleidyddion yn bennaf oherwydd eu bod wedi eu hethol trwy brosesau cyfreithiol a chywir sy’n gysylltiedig â democratiaeth.

7. Dylanwad Max Weber

Mae Max Weber wedi cael dylanwad mawr ar wyddorau cymdeithas. Cyfrannodd ei syniadau at fethodoleg a’i gysyniad o Verstehen at sefydlu deongliadaeth (interpretivism), safbwynt sy’n pwysleisio pwysigrwydd deall yr ystyron tu ôl i benderfyniadau a gweithredoedd unigolion gan fod unigolion yn dehongli’r byd o’u cwmpas mewn ffyrdd gwahanol (gweler Prys a Hodges 2020). Mae Weber hefyd yn cael ei weld fel un a gyfrannodd at ddamcaniaeth rhyngweithiadaeth (interactionism), gan fod y ddamcaniaeth hon yn gweld pwysigrwydd astudio elfennau micro o gymdeithas, fel rhyngweithio rhwng unigolion ac ystyr agweddau gwahanol o gymdeithas sy’n datblygu o’r rhyngweithio hwn. Dylanwadodd gwaith Weber hefyd ar waith damcaniaethwyr beirniadol Ysgol Frankfurt, gydag, er enghraifft, Max Horkheimer (1947/1992), Herbert Marcuse (1964) a Jürgen Habermas (1971) yn trafod effeithiau rhesymoli yn eu gwaith. Un arall sydd wedi datblygu cysyniad Weber am resymoliad yw George Ritzer (2004). Ef fu’n gyfrifol am greu’r cysyniad o McDonaldeiddio (McDonaldization) er mwyn dangos bod cymdeithas wedi mabwysiadu rhai o egwyddorion y bwyty bwyd cyflym. Fel Weber, roedd y damcaniaethwr Pierre Bourdieu hefyd yn cytuno bod ffactorau’r tu hwnt i’r economi yn effeithio ar bŵer mewn cymdeithas. Datblygodd Bourdieu (1986/1997) y cysyniadau o gyfalaf economaidd (economic capital), cyfalaf cymdeithasol (social capital) a chyfalaf diwylliannol (cultural capital) er mwyn dangos hyn. Yn ogystal, mae nifer o ymchwilwyr wedi defnyddio cysyniadau Max Weber er mwyn deall agweddau gwahanol o gymdeithas yng Nghymru. Er enghraifft, defnyddiodd Fevre, Denney a Borland (1997) gysyniadau Weber ynghylch dosbarth, statws a phlaid er mwyn archwilio cenedlaetholdeb yng Nghymru.

Mae deunyddiau dysgu digidol ar Weber wedi’u creu gan Cynog Prys (2022) ar wefan Porth Adnoddau’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol.

Siôn Jones

Llyfryddiaeth

Baehr, P. (2001), ‘The “Iron Cage” and the “Shell as Hard as Steel”, Parsons, Weber and the Stahlhartes Gehäuse metaphor in the Protestant ethic and the spirit of Capitalism’, History and Theory 40, 153–69.

Bourdieu, P. (1986/1997), ‘The Forms of Capital’ yn: Halsey, A. et al (goln), Education: Culture, Economy and Society (Oxford: Oxford University Press), tt. 46–58.

Habermas, J. (1971), Towards a Rational Society (London: Sphere Books).

Horkheimer, M. (1947/1992), Eclipse of Reason (New York: Continuum).

Marcuse, H. (1964), One-dimensional man: studies in the ideology of advanced industrial society (London: Routledge and Kegan Paul).

Marx, K. ac Engels, F. (1848/2014), Maniffesto’r Blaid Gomiwnyddol https://llyfrgell.porth.ac.uk/View.aspx?id=1982~4u~vx7iUPMZ [Cyrchwyd: 13 Mai 2021].

Fevre, R., Denney, D. a Borland, J. (1997), ‘Class, status and party in the analysis of nationalism: lessons from Max Weber’, Nations and Nationalism 3(4), tt. 559–77.

Prys, C. (2022), Max Weber https://www.porth.ac.uk/cy/collection/gwyddorau-cymdeithas-theori-gymdeithasegol [Cyrchwyd: 14 Ebrill 2022].

Prys, C. a Hodges, R. (2018), Pecyn Adnoddau Amlgyfrwng Cymdeithaseg: Y Teulu https://indd.adobe.com/view/0b0da3d8-e44e-4900-8475-a3c016add729 [Cyrchwyd: 21 Mehefin 2022].

Prys, C. a Hodges, R. (2020), Pecyn Adnoddau Amlgyfrwng Cymdeithaseg: Cyflwyniad i Gymdeithaseg https://indd.adobe.com/view/0b0da3d8-e44e-4900-8475-a3c016add729 [Cyrchwyd: 21 Mehefin 2022].

Ritzer, G. (2004), The McDonaldization of Society (Thousand Oaks, California: Pine Forge Press).

Weber, M. (1904/2012), ‘The “Objectivity” of knowledge in Social Science and Social Policy’, cyfieithwyd gan Hans Henrik Bruun, yn: Bruun, H. H. a Whimster, S. (goln), Max Weber: Collected Methodological Writings (Abingdon: Routledge), tt. 100–138.

Weber, M. (1905/2005), The Protestant Ethic and the Spirit of Capitalism https://www.marxists.org/reference/archive/weber/protestant-ethic/index.htm [Cyrchwyd: 27 Mehefin 2022].

Weber, M. (1917/2012), ‘The Meaning of “Value Freedom” in the Sociological and Economic Sciences’, cyfieithwyd gan Hans Henrik Bruun, yn: Bruun, H. H. a Whimster, S. (goln), Max Weber: Collected Methodological Writings (Abingdon: Routledge), tt. 304–34.

Weber, M. (1921/1999), Definition of Sociology https://www.marxists.org/reference/subject/philosophy/works/ge/weber.htm [Cyrchwyd: 27 Mehefin 2022].

Weber, M. (1921/2019), Economy and Society, cyfieithwyd gan Keith Burns (Cambridge, MA: Harvard University Press).


Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.