Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Arwyddwr/arwyddedig"
Llinell 2: | Llinell 2: | ||
Er bod y berthynas yn fympwyol mae’r arwyddwr a’r arwyddedig yn hollol annatod, ac ni all unigolyn (heblaw bardd efallai) newid y berthynas. Felly nid yw’n briodol meddwl yn nhermau pa un ddaeth gyntaf, a gwelir nad yw’r cysyniad, neu’r gwrthrych o’r byd go-iawn, o angenrheidrwydd wedi bodoli cyn yr enw neu’r arwyddwr a ddefnyddir amdano. Pen draw’r ddadl hon yw’r syniad mai iaith ei hun sy’n creu realiti, a bod gan siaradwyr ieithoedd gwahanol eu ffyrdd arbennig eu hunain o weld y byd. Gellir olrhain y syniad hwn i ddialog Platon y ''Cratylws'', lle y mae Cratylws yn dadlau fod geiriau yn disgrifio pethau mewn modd mimetig, yn groes i Hermogenes sy’n dal eu bod yn gynnyrch hap a damwain, ond fe’i poblogeiddiwyd yn yr 20g. gan yr ieithydd Benjamin Lee Whorf. Mae i’r syniad apêl arbennig yng nghyd-destun ieithoedd lleiafrifol. | Er bod y berthynas yn fympwyol mae’r arwyddwr a’r arwyddedig yn hollol annatod, ac ni all unigolyn (heblaw bardd efallai) newid y berthynas. Felly nid yw’n briodol meddwl yn nhermau pa un ddaeth gyntaf, a gwelir nad yw’r cysyniad, neu’r gwrthrych o’r byd go-iawn, o angenrheidrwydd wedi bodoli cyn yr enw neu’r arwyddwr a ddefnyddir amdano. Pen draw’r ddadl hon yw’r syniad mai iaith ei hun sy’n creu realiti, a bod gan siaradwyr ieithoedd gwahanol eu ffyrdd arbennig eu hunain o weld y byd. Gellir olrhain y syniad hwn i ddialog Platon y ''Cratylws'', lle y mae Cratylws yn dadlau fod geiriau yn disgrifio pethau mewn modd mimetig, yn groes i Hermogenes sy’n dal eu bod yn gynnyrch hap a damwain, ond fe’i poblogeiddiwyd yn yr 20g. gan yr ieithydd Benjamin Lee Whorf. Mae i’r syniad apêl arbennig yng nghyd-destun ieithoedd lleiafrifol. | ||
− | Felly mae cyrchu ystyr yn broses broblematig, oherwydd bod y berthynas rhwng arwyddwr ac ystyr yn un gymhleth. Dyw chwilio am ddiffiniad o unrhyw arwyddwr mewn geiriadur yn fawr o help oherwydd dim ond rhagor o eiriau a geir yno, sydd yn bytholi’r broses. Yn eu cyfuniadau â’i gilydd (h.y. mewn cystrawen) y mae geiriau yn creu ystyr, ac felly gellir meddwl am arwyddwyr fel [[cadwyn]] ddiddiwedd sydd yn bodoli ar lefel amgen i’r arwyddedig. Dyma a olygai John Rowlands wrth ddatgan nad adlewyrchiad o’r byd mo llenyddiaeth: ‘gosod patrwm dynol ar y byd a wna iaith, nid darlunio’r byd fel y mae.’ Ni ddaw ystyr yn dwt allan o’r [[testun]], yn hytrach caiff ei blannu (disséminer yw’r gair Ffrangeg). | + | Felly mae cyrchu ystyr yn broses broblematig, oherwydd bod y berthynas rhwng arwyddwr ac ystyr yn un gymhleth. Dyw chwilio am ddiffiniad o unrhyw arwyddwr mewn geiriadur yn fawr o help oherwydd dim ond rhagor o eiriau a geir yno, sydd yn bytholi’r broses. Yn eu cyfuniadau â’i gilydd (h.y. mewn cystrawen) y mae geiriau yn creu ystyr, ac felly gellir meddwl am arwyddwyr fel [[cadwyn]] ddiddiwedd sydd yn bodoli ar lefel amgen i’r arwyddedig. Dyma a olygai John Rowlands wrth ddatgan nad adlewyrchiad o’r byd mo llenyddiaeth: ‘gosod patrwm dynol ar y byd a wna iaith, nid darlunio’r byd fel y mae.’ Ni ddaw ystyr yn dwt allan o’r [[testun]], yn hytrach caiff ei blannu (disséminer yw’r gair Ffrangeg). |
Aeth Jacques Lacan (1901-1981), seicdreiddiwr ôl-strwythurol, â syniadau Saussure ymhellach: iddo ef mae’r arwyddwr yn mynegi ystyr sydd yn ansefydlog, ac yn wir ar ffo. Cyflwyna Lacan syniadau Saussure ar yr arwyddwr ar ffurf fformiwla: S/s, ble mae’r ‘S’ fawr yn cyfleu goruchafiaeth yr arwyddwr (‘signifiant’) dros yr ‘s’ fach, yr arwyddedig sy’n llithrig, yn amhosib ei ddal ac yn wir yn rhithio. Yng nghyfieithiad Jane Aaron: ‘Yr ydym yn cael ein gorfodi i dderbyn y syniad fod yr arwyddedig yn sglefrio yn ddi-baid o dan yr arwyddwr’. Os oedd y ddwy ‘s’, yn syniadaeth Saussure, yn sefyll bob ochr i’r llinell sy’n eu gwahanu, gan adlewyrchu ei gilydd mewn modd syml, i Lacan mae’r llinell sy’n gwahanu’r ‘S’ fawr a’r ‘s’ fach yn llai o linell derfyn ac yn fwy o wagle, neu yn fwlch na ellir ei groesi. Mae’r syniad yma o fwlch yn cyfleu’r ffordd y mae ‘ystyr’ (neu ein ‘dehongliad’) yn dod allan o destun. Mae’r arwyddwr neu’r gair yn bresennol, ond mae’r hyn a gyfeirir ato gan y gair yn absennol, oherwydd mae ar ffo, a bob amser gam o flaen y gair. Ni ellir deall ystyr mewn uniad taclus o’r arwyddwr a’r arwyddedig; mae ystyr yn hytrach yn gynnyrch y broses o basio ar hyd cadwyn o un arwyddwr i’r nesaf, neu o un gair i’r nesaf, ar draws gwagle o ddiffyg ystyr. | Aeth Jacques Lacan (1901-1981), seicdreiddiwr ôl-strwythurol, â syniadau Saussure ymhellach: iddo ef mae’r arwyddwr yn mynegi ystyr sydd yn ansefydlog, ac yn wir ar ffo. Cyflwyna Lacan syniadau Saussure ar yr arwyddwr ar ffurf fformiwla: S/s, ble mae’r ‘S’ fawr yn cyfleu goruchafiaeth yr arwyddwr (‘signifiant’) dros yr ‘s’ fach, yr arwyddedig sy’n llithrig, yn amhosib ei ddal ac yn wir yn rhithio. Yng nghyfieithiad Jane Aaron: ‘Yr ydym yn cael ein gorfodi i dderbyn y syniad fod yr arwyddedig yn sglefrio yn ddi-baid o dan yr arwyddwr’. Os oedd y ddwy ‘s’, yn syniadaeth Saussure, yn sefyll bob ochr i’r llinell sy’n eu gwahanu, gan adlewyrchu ei gilydd mewn modd syml, i Lacan mae’r llinell sy’n gwahanu’r ‘S’ fawr a’r ‘s’ fach yn llai o linell derfyn ac yn fwy o wagle, neu yn fwlch na ellir ei groesi. Mae’r syniad yma o fwlch yn cyfleu’r ffordd y mae ‘ystyr’ (neu ein ‘dehongliad’) yn dod allan o destun. Mae’r arwyddwr neu’r gair yn bresennol, ond mae’r hyn a gyfeirir ato gan y gair yn absennol, oherwydd mae ar ffo, a bob amser gam o flaen y gair. Ni ellir deall ystyr mewn uniad taclus o’r arwyddwr a’r arwyddedig; mae ystyr yn hytrach yn gynnyrch y broses o basio ar hyd cadwyn o un arwyddwr i’r nesaf, neu o un gair i’r nesaf, ar draws gwagle o ddiffyg ystyr. |
Diwygiad 13:31, 5 Mehefin 2018
Cyfetyb y geiriau hyn i’r Saesneg ‘signifier’/ ‘signified’ a’r Ffrangeg ‘signifiant/ signifié’. I ddilynwyr yr ieithydd Ferdinand de Saussure (1857-1913), ceir dwy ochr i bob arwydd ieithyddol: yr arwyddwr, sef y sain (neu’r gyfres o seiniau) neu’r marciau du ar bapur (h.y. llythrennau) ar un llaw, a’r hyn y cyfeirir ato, neu’r arwyddedig, ar y llaw arall. Mae strwythuraeth ac ôl-strwythuraeth wedi ei seilio i raddau ar syniad Saussure bod y berthynas rhwng y ddwy ochr, neu rhwng yr arwyddwr a’r arwyddedig, yn un fympwyol, h.y. nid yw’n berthynas annatod neu naturiol. Felly heblaw am eiriau onomatopeig fel ‘crawc’, sy’n efelychu sain go-iawn yr aderyn, mae’r berthynas rhwng geiriau a gwrthrychau neu gysyniadau yn hollol fympwyol, sy’n arwain at sefyllfa ble mae ‘equus’, ‘cheval’, ‘horse’ a ‘ceffyl’ oll yn cyfeirio at yr un peth. Ceir crynodeb defnyddiol o syniadau Saussure ar hyn gan Jane Aaron yn Sglefrio ar Eiriau. Er bod y berthynas yn fympwyol mae’r arwyddwr a’r arwyddedig yn hollol annatod, ac ni all unigolyn (heblaw bardd efallai) newid y berthynas. Felly nid yw’n briodol meddwl yn nhermau pa un ddaeth gyntaf, a gwelir nad yw’r cysyniad, neu’r gwrthrych o’r byd go-iawn, o angenrheidrwydd wedi bodoli cyn yr enw neu’r arwyddwr a ddefnyddir amdano. Pen draw’r ddadl hon yw’r syniad mai iaith ei hun sy’n creu realiti, a bod gan siaradwyr ieithoedd gwahanol eu ffyrdd arbennig eu hunain o weld y byd. Gellir olrhain y syniad hwn i ddialog Platon y Cratylws, lle y mae Cratylws yn dadlau fod geiriau yn disgrifio pethau mewn modd mimetig, yn groes i Hermogenes sy’n dal eu bod yn gynnyrch hap a damwain, ond fe’i poblogeiddiwyd yn yr 20g. gan yr ieithydd Benjamin Lee Whorf. Mae i’r syniad apêl arbennig yng nghyd-destun ieithoedd lleiafrifol.
Felly mae cyrchu ystyr yn broses broblematig, oherwydd bod y berthynas rhwng arwyddwr ac ystyr yn un gymhleth. Dyw chwilio am ddiffiniad o unrhyw arwyddwr mewn geiriadur yn fawr o help oherwydd dim ond rhagor o eiriau a geir yno, sydd yn bytholi’r broses. Yn eu cyfuniadau â’i gilydd (h.y. mewn cystrawen) y mae geiriau yn creu ystyr, ac felly gellir meddwl am arwyddwyr fel cadwyn ddiddiwedd sydd yn bodoli ar lefel amgen i’r arwyddedig. Dyma a olygai John Rowlands wrth ddatgan nad adlewyrchiad o’r byd mo llenyddiaeth: ‘gosod patrwm dynol ar y byd a wna iaith, nid darlunio’r byd fel y mae.’ Ni ddaw ystyr yn dwt allan o’r testun, yn hytrach caiff ei blannu (disséminer yw’r gair Ffrangeg).
Aeth Jacques Lacan (1901-1981), seicdreiddiwr ôl-strwythurol, â syniadau Saussure ymhellach: iddo ef mae’r arwyddwr yn mynegi ystyr sydd yn ansefydlog, ac yn wir ar ffo. Cyflwyna Lacan syniadau Saussure ar yr arwyddwr ar ffurf fformiwla: S/s, ble mae’r ‘S’ fawr yn cyfleu goruchafiaeth yr arwyddwr (‘signifiant’) dros yr ‘s’ fach, yr arwyddedig sy’n llithrig, yn amhosib ei ddal ac yn wir yn rhithio. Yng nghyfieithiad Jane Aaron: ‘Yr ydym yn cael ein gorfodi i dderbyn y syniad fod yr arwyddedig yn sglefrio yn ddi-baid o dan yr arwyddwr’. Os oedd y ddwy ‘s’, yn syniadaeth Saussure, yn sefyll bob ochr i’r llinell sy’n eu gwahanu, gan adlewyrchu ei gilydd mewn modd syml, i Lacan mae’r llinell sy’n gwahanu’r ‘S’ fawr a’r ‘s’ fach yn llai o linell derfyn ac yn fwy o wagle, neu yn fwlch na ellir ei groesi. Mae’r syniad yma o fwlch yn cyfleu’r ffordd y mae ‘ystyr’ (neu ein ‘dehongliad’) yn dod allan o destun. Mae’r arwyddwr neu’r gair yn bresennol, ond mae’r hyn a gyfeirir ato gan y gair yn absennol, oherwydd mae ar ffo, a bob amser gam o flaen y gair. Ni ellir deall ystyr mewn uniad taclus o’r arwyddwr a’r arwyddedig; mae ystyr yn hytrach yn gynnyrch y broses o basio ar hyd cadwyn o un arwyddwr i’r nesaf, neu o un gair i’r nesaf, ar draws gwagle o ddiffyg ystyr.
Heather Williams
Llyfryddiaeth
Aaron, J. (1992), ‘Darllen yn groes i’r drefn’, yn Sglefrio ar Eiriau, gol. John Rowlands (Llandysul: Gomer), 63-83.
Jonathan C. (1976), Saussure (Llundain: Fontana).
Lacan, J. ‘The insistence of the letter in the unconscious’, yn Modern Criticism and Theory: A Reader, ed. David Lodge (Llundain: Longman, 1988), 80-106.
Robey, D. (1982), ‘Modern linguistics and the language of literature’, yn Modern Literary Theory: A Comparative Introduction, gol. Ann Jefferson a David Robey (Llundain: Batsford), 46-72.
Rowlands, J. (1989), Cnoi Cil ar Lenyddiaeth (Llandysul: Gomer).
Rowlands, J. (1990), ‘Beirniadu’n groes i’r graen’, Taliesin 71, 55-65.
Saussure, F. (1988), ‘Nature of the linguistic sign’, yn Modern Criticism and Theory: A Reader, ed. David Lodge (Llundain: Longman), 10-14.
Whorf, B. (1956), Language, Thought, and Reality: Selected Writings of Benjamin Lee Whorf, gol. J. B. Caroll (Cambridge, Mass.: The MIT Press).
- Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.