Cadwyn

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio

Cadwyn o englynion yw cyfres o englynion sydd wedi eu cysylltu â’i gilydd trwy ailadrodd gair neu ymadrodd ar ddiwedd llinell olaf un englyn a dechrau llinell gyntaf yr englyn sy’n ei ddilyn. Ailadroddir gair neu ymadrodd a geir ar ddechrau’r englyn cyntaf ar ddiwedd yr englyn olaf wedyn, i sicrhau fod yr englyn yn creu cadwyn gron. Gellir cynnwys faint a fynner o englynion mewn cadwyn. Cyrch-gymeriad y gelwir y gair neu’r ymadrodd sy’n cydio’r naill englyn wrth y llall. Byddai Beirdd yr Uchelwyr yn defnyddio’r dechneg hon i greu undod oddi mewn i’r awdl gyfan, trwy beri i air neu ymadrodd ar ddiwedd adran gydio wrth air neu ymadrodd ar ddechrau’r adran olynol. Cyngogion yw’r hen derm am gadwyn o englynion. Ar y llaw arall, gosteg o englynion oedd y term a ddefnyddid am gyfres o englynion wedi eu canu ar yr un odl.

Alan Llwyd

Llyfryddiaeth

Llwyd, A. (2007), Anghenion y Gynghanedd (Llandybïe: Cyhoeddiadau Barddas).

Morris-Jones, J. (1925), Cerdd Dafod sef Celfyddyd Barddoniaeth Gymraeg (Rhydychen: Gwasg Clarendon).


Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.