Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Blog"
(Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'Saesneg: ''Blog/Weblog'' Dyddiadur neu sylwadau ar-lein gan unigolion yw blog, sef talfyriad o ''Weblog''. Fformat nodweddiadol blog yw bod cofnod ne...') |
|||
Llinell 11: | Llinell 11: | ||
Mae’n ymddangos bod rhywfaint o gonsensws - i’r graddau y mae’n bosibl darganfod un ym myd y blogiau - mai’r person a ddyfeisiodd y term ‘''weblog''’ ei hun oedd Jorn Barger o Chicago. Cyflwynodd y term ym mis Rhagfyr 1997 fel ffordd o ddisgrifio fformat a oedd yn cael ei ffurfioli’n araf mewn cyfnodolyn dyddiol ar y we (gan ddisodli’r gair ‘weblog’ a oedd yn cael ei ddefnyddio ar y pryd i ddisgrifio cofnod traffig gweinydd gwe). Daeth y gair ‘''log''’ yn ‘''weblog''’ a ddehonglir fel gair sy’n cyfeirio at y cofnod o wefannau y mae person yn ymweld â nhw wrth syrffio’r we, ar ffurf casgliad o ddolenni i leoliadau eraill ar-lein. Er bod hanesion amgen ynghylch tarddiad blogiau yn parhau i sbarduno’r ddadl, does fawr o amheuaeth bod gweflogiau wedi dod i’r amlwg mewn sawl ffurf gwahanol cyn i’r term ei hun gael ei fathu (Allan 2006). | Mae’n ymddangos bod rhywfaint o gonsensws - i’r graddau y mae’n bosibl darganfod un ym myd y blogiau - mai’r person a ddyfeisiodd y term ‘''weblog''’ ei hun oedd Jorn Barger o Chicago. Cyflwynodd y term ym mis Rhagfyr 1997 fel ffordd o ddisgrifio fformat a oedd yn cael ei ffurfioli’n araf mewn cyfnodolyn dyddiol ar y we (gan ddisodli’r gair ‘weblog’ a oedd yn cael ei ddefnyddio ar y pryd i ddisgrifio cofnod traffig gweinydd gwe). Daeth y gair ‘''log''’ yn ‘''weblog''’ a ddehonglir fel gair sy’n cyfeirio at y cofnod o wefannau y mae person yn ymweld â nhw wrth syrffio’r we, ar ffurf casgliad o ddolenni i leoliadau eraill ar-lein. Er bod hanesion amgen ynghylch tarddiad blogiau yn parhau i sbarduno’r ddadl, does fawr o amheuaeth bod gweflogiau wedi dod i’r amlwg mewn sawl ffurf gwahanol cyn i’r term ei hun gael ei fathu (Allan 2006). | ||
− | + | ==Llyfryddiaeth== | |
Allen, S. 2006. ''Online News: Journalism and the Internet''. Maidenhead and New York: Open University Press. | Allen, S. 2006. ''Online News: Journalism and the Internet''. Maidenhead and New York: Open University Press. | ||
{{CC BY-SA}} | {{CC BY-SA}} | ||
− | |||
[[Categori:Newyddiaduraeth]] | [[Categori:Newyddiaduraeth]] |
Diwygiad 15:06, 1 Awst 2018
Saesneg: Blog/Weblog
Dyddiadur neu sylwadau ar-lein gan unigolion yw blog, sef talfyriad o Weblog. Fformat nodweddiadol blog yw bod cofnod newydd yn ymddangos ar frig y dudalen, gyda dyddiad ac amser yn cael ei nodi’n glir er mwyn dangos pa bryd y cafodd ei bostio. Mae’r drefn wrthgronolegol hon yn hwylus nid yn unig i’r awdur (a elwir yn ‘ddyddiadurwr cyhoeddus’ (public diarist) neu ‘un sy’n cadw dyddlyfr’ (journaller) yn y dyddiau cynnar), ond mae hefyd yn caniatáu i ddefnyddwyr weld yn syth a yw’r blog wedi’i ddiweddaru ai peidio ers eu hymweliad diwethaf.
Cydiodd y fformat hwn yn nychymyg y cyhoedd yn gyflym oherwydd ei fod yn hawdd i’w ddefnyddio, yn galluogi awdur i bostio’n rheolaidd, hyd yn oed bob dydd, a bod y postiadau hyn yn ymddangos mewn trefn resymegol. Pan fydd nifer y cofnodion yn rhy fawr ar gyfer sgrolio cyfleus, yna gellid eu harchifo ar gyfer cyfeirio atynt yn y dyfodol.
Roedd y mwyafrif o’r blogiau cynnar yn wefannau ‘personol’, hynny yw, wedi’u hysgrifennu gan un person er bod rhai blogiau – sydd yn gweithredu fel pyrth i wefannau eraill (portal-like) neu ‘gyd-gasglwyr cynnwys’ (content aggregators) – yn dangos cyfraniadau cyfunol newydd gan grŵp o bobl sydd o’r un anian â’i gilydd.
Bu cryn ddadlau hyd heddiw ynghylch pa blog oedd y cyntaf i ymddangos. Mae’n dibynnu, wrth gwrs, ar sut y diffinnir ‘weblog’. I rai, efallai taw’r wefan gyntaf oedd y blog cyntaf, ac os felly, mae’r wefan a adeiladwyd gan Tim Berners-Lee yn CERN (<http://info.cern.ch/>) yn haeddu cydnabyddiaeth briodol. Ymhlith y lleill, mae tudalennau hollbresennol fel What’s New?, a gynhelir gan y ganolfan genedlaethol National Centre for Supercomputing Applications (NCSA). Mae eraill yn parhau i ddewis ‘pyrth’(microportals) neu ‘fyfyrdodau gwe’ (y tybiwyd iddynt gael eu hysgrifennu am y tro cyntaf gan ddyfeisiwr Netscape, Marc Andreeson) a ddechreuodd ymddangos yn rheolaidd yn 1993.
Mae’n ymddangos bod rhywfaint o gonsensws - i’r graddau y mae’n bosibl darganfod un ym myd y blogiau - mai’r person a ddyfeisiodd y term ‘weblog’ ei hun oedd Jorn Barger o Chicago. Cyflwynodd y term ym mis Rhagfyr 1997 fel ffordd o ddisgrifio fformat a oedd yn cael ei ffurfioli’n araf mewn cyfnodolyn dyddiol ar y we (gan ddisodli’r gair ‘weblog’ a oedd yn cael ei ddefnyddio ar y pryd i ddisgrifio cofnod traffig gweinydd gwe). Daeth y gair ‘log’ yn ‘weblog’ a ddehonglir fel gair sy’n cyfeirio at y cofnod o wefannau y mae person yn ymweld â nhw wrth syrffio’r we, ar ffurf casgliad o ddolenni i leoliadau eraill ar-lein. Er bod hanesion amgen ynghylch tarddiad blogiau yn parhau i sbarduno’r ddadl, does fawr o amheuaeth bod gweflogiau wedi dod i’r amlwg mewn sawl ffurf gwahanol cyn i’r term ei hun gael ei fathu (Allan 2006).
Llyfryddiaeth
Allen, S. 2006. Online News: Journalism and the Internet. Maidenhead and New York: Open University Press.
- Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.