Blog

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio

Saesneg: Blog/Weblog

Dyddiadur neu sylwadau ar-lein gan unigolion yw blog, sef talfyriad o Weblog. Fformat nodweddiadol blog yw bod cofnod newydd yn ymddangos ar frig y dudalen, gyda dyddiad ac amser yn cael ei nodi’n glir er mwyn dangos pa bryd y cafodd ei bostio. Mae’r drefn wrthgronolegol hon yn hwylus nid yn unig i’r awdur (a elwir yn ‘ddyddiadurwr cyhoeddus’ (public diarist) neu ‘un sy’n cadw dyddlyfr’ (journaller) yn y dyddiau cynnar), ond mae hefyd yn caniatáu i ddefnyddwyr weld yn syth a yw’r blog wedi’i ddiweddaru ai peidio ers eu hymweliad diwethaf.

Cydiodd y fformat hwn yn nychymyg y cyhoedd yn gyflym oherwydd ei fod yn hawdd i’w ddefnyddio, yn galluogi awdur i bostio’n rheolaidd, hyd yn oed bob dydd, a bod y postiadau hyn yn ymddangos mewn trefn resymegol. Pan fydd nifer y cofnodion yn rhy fawr ar gyfer sgrolio cyfleus, yna gellid eu harchifo ar gyfer cyfeirio atynt yn y dyfodol.

Roedd y mwyafrif o’r blogiau cynnar yn wefannau ‘personol’, hynny yw, wedi’u hysgrifennu gan un person er bod rhai blogiau – sydd yn gweithredu fel pyrth i wefannau eraill (portal-like) neu ‘gyd-gasglwyr cynnwys’ (content aggregators) – yn dangos cyfraniadau cyfunol newydd gan grŵp o bobl sydd o’r un anian â’i gilydd.

Bu cryn ddadlau hyd heddiw ynghylch pa blog oedd y cyntaf i ymddangos. Mae’n dibynnu, wrth gwrs, ar sut y diffinnir ‘weblog’. I rai, efallai taw’r wefan gyntaf oedd y blog cyntaf, ac os felly, mae’r wefan a adeiladwyd gan Tim Berners-Lee yn CERN yn haeddu cydnabyddiaeth briodol. Ymhlith y lleill, mae tudalennau hollbresennol fel What’s New?, a gynhelir gan y ganolfan genedlaethol National Centre for Supercomputing Applications (NCSA). Mae eraill yn parhau i ddewis ‘pyrth’(microportals) neu ‘fyfyrdodau gwe’ (y tybiwyd iddynt gael eu hysgrifennu am y tro cyntaf gan ddyfeisiwr Netscape, Marc Andreeson) a ddechreuodd ymddangos yn rheolaidd yn 1993.

Mae’n ymddangos bod rhywfaint o gonsensws - i’r graddau y mae’n bosibl darganfod un ym myd y blogiau - mai’r person a ddyfeisiodd y term ‘weblog’ ei hun oedd Jorn Barger o Chicago. Cyflwynodd y term ym mis Rhagfyr 1997 fel ffordd o ddisgrifio fformat a oedd yn cael ei ffurfioli’n araf mewn cyfnodolyn dyddiol ar y we (gan ddisodli’r gair ‘weblog’ a oedd yn cael ei ddefnyddio ar y pryd i ddisgrifio cofnod traffig gweinydd gwe). Daeth y gair ‘log’ yn ‘weblog’ a ddehonglir fel gair sy’n cyfeirio at y cofnod o wefannau y mae person yn ymweld â nhw wrth syrffio’r we, ar ffurf casgliad o ddolenni i leoliadau eraill ar-lein. Er bod hanesion amgen ynghylch tarddiad blogiau yn parhau i sbarduno’r ddadl, does fawr o amheuaeth bod gweflogiau wedi dod i’r amlwg mewn sawl ffurf gwahanol cyn i’r term ei hun gael ei fathu (Allan 2006).

Llyfryddiaeth

Allen, S. 2006. Online News: Journalism and the Internet. Maidenhead and New York: Open University Press.



Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.