Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Affaith"

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio
(Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda ' Mae’r cysyniad o Affaith (''Affect'') bellach yn enwog am fod yn rhywbeth sy’n anodd i’w ddisgrifio. Er hyn, mae’n gysyniad awgrymog a chyfoethog...')
 
Llinell 1: Llinell 1:
  
Mae’r cysyniad o Affaith (''Affect'') bellach yn enwog am fod yn rhywbeth sy’n anodd i’w ddisgrifio. Er hyn, mae’n gysyniad awgrymog a chyfoethog, sydd yn codi cwestiynau a syniadau pellach. Yn y gwyddorau cymdeithasol a phynciau celfyddydol, mae dau brif drywydd i drwch y gwaith a gyhoeddir ar y cysyniad o affaith: mae’r cyntaf yn dilyn ôl gwaith y beirniad llenyddol a chwiyr Eve Kosofsky Sedgwick, gan gynnwys ei hymdriniaeth, ar y cyd ag Adam Frank, o ganfyddiadau y seicolegwr Silvan Tomkins (1911-1991) . Mae’r ail yn dilyn yr athronydd Brian Massumi, sydd yn ei dro yn dilyn gwaith Giles Deleuze (Massumi yw cyfieithydd nifer helaeth o lyfrau Giles Deleuze (1925-1995), a Deleuze a Félix Guattari (1930-1992) i'r Saesneg).  
+
Mae’r cysyniad o Affaith (''Affect'') bellach yn enwog am fod yn rhywbeth sy’n anodd i’w ddisgrifio. Er hyn, mae’n gysyniad awgrymog a chyfoethog, sydd yn codi cwestiynau a syniadau pellach. Yn y gwyddorau cymdeithasol a phynciau celfyddydol, mae dau brif drywydd i drwch y gwaith a gyhoeddir ar y cysyniad o affaith: mae’r cyntaf yn dilyn ôl gwaith [[Y Beirniad|y beirniad]] llenyddol a chwiyr Eve Kosofsky Sedgwick, gan gynnwys ei hymdriniaeth, ar y cyd ag Adam Frank, o ganfyddiadau y seicolegwr Silvan Tomkins (1911-1991) . Mae’r ail yn dilyn yr athronydd Brian Massumi, sydd yn ei dro yn dilyn gwaith Giles Deleuze (Massumi yw cyfieithydd nifer helaeth o lyfrau Giles Deleuze (1925-1995), a Deleuze a Félix Guattari (1930-1992) i'r Saesneg).  
  
Pwysleisia’r ddau drywydd elfennau gwahanol, ac maent wedi dylanwadu ar feysydd pwnc gwahanol – gan gynnwys Daearyddiaeth, Astudiaethau Cwiyr, Llenyddiaeth Saesneg, Astudiaethau [[Ffeminyddiaeth]] ac Astudiaethau Diwylliannol. Yn y ddau drywydd, fodd bynnag, mae affaith yn enwi galluoedd corfforol (bodily capacities): hynny yw, y modd y mae’r corff yn ymateb i’r byd - tu hwnt i ddimensiwn llafar neu’r hyn ry’n ni’n ymwybodol ohono. Un enghraifft syml fyddai’r modd y byddwn ni'n dechrau canu neu symud i gerddoriaeth, cyn i ni fod yn ymwybodol ein bod ni yn canu, neu wedi sylwi ein bod ni’n adnabod a chofio cân arbennig. Deellir affaith felly, fel ‘bodily capacities to affect and be affected’ (Clough 2007, 2). Yn ôl Gregg a Siegworth mae affeithiau yn rymoedd perfeddol (‘visceral forces’) sy’n gweithio oddi tan gwybodaeth ymwybodol, wrth ei hochr neu ar wahân iddi. (Gregg a Siegworth, 2010: 1).
 
Llinell 8: Llinell 8:
 
Yn gyntaf: y berthynas rhwng yr unigolyn a’r gymuned. Yn aml, deellir bywyd cymdeithasol fel cyfuniad o nifer o bobl unigol. Yn aml hefyd yn y gwyddorau cymdeithasol, meddylir am unigolion fel gweithredwyr (agents) hunanddigonol ac annibynnol. Mae affaith yn herio’r ddealltwriaeth annigonol o natur pobl, gan ein gwahodd ni i dalu sylw i’r berthynas neu’r cyswllt rhwng un unigolyn ac un arall. Er enghraifft, mae’n caniatáu ni i dalu sylw i’r egnïoedd a’r affeithiau sy’n pasio rhwng cyrff, ‘enabling bindings and unbindings, jarring disorientations and rhythmic attunements’ (Seigworth a Gregg, 2010: 2). Felly, yn hytrach na chychwyn astudiaeth drwy astudio unigolyn neu gymuned, mae affaith yn ein harwain i feddwl am yr atyniadau a’r trawsyriadau rhwng un ac un arall, fel rhan o gynulliad o bobl. Mae gwaith Brian Massumi a Patricia Clough yn mynd ymhellach na hyn o ran datod y syniad o unigolyn, gan ystyried perthynas â pheiriannau a thechnoleg.  
 
Mae yna werth gwleidyddol amlwg mewn deall yn well sut mae tonnau o affaith yn cael eu trawsyrru a’u derbyn (Amin a Thrift, 2013: 167). Gall hyn esgor ar safbwyntiau newydd wrth i ni geisio deall ymddygiad torf neu gasgliad o bobl, wrth  wylio gêm bêl droed, er enghraifft, neu gymryd rhan mewn protest neu rannu cerbyd trên. Gall hyn hefyd ehangu ein dealltwriaeth o deimlad neu awyrgylch stryd, tref, [[dinas]] neu ardal. Mae’r syniad o dalu sylw i atyniadau a’r gallu i affeithio ac i gael ein haffeithio yn gallu ymestyn tu hwnt i’r berthynas rhwng pobl er mwyn cynnwys y clymiadau rhwng pobl ac adeiladau, gwrthrychau, is-adeiledd, tywydd ac yn y blaen. Mae hyn yn cyflwyno agoriadau yn ein dealltwriaeth o sut mae ymdrin ag eraill, yn enwedig mewn rhannau eraill o’r byd, a hynny tu hwnt i fframwaith hunaniaeth, cenhedloedd, neu ddaearyddiaeth sgalar (gweler Pedwell, 2014).       
+
Mae yna werth gwleidyddol amlwg mewn deall yn well sut mae tonnau o affaith yn cael eu trawsyrru a’u derbyn (Amin a Thrift, 2013: 167). Gall hyn esgor ar safbwyntiau newydd wrth i ni geisio deall ymddygiad torf neu gasgliad o bobl, wrth  wylio gêm bêl droed, er enghraifft, neu gymryd rhan mewn protest neu rannu cerbyd trên. Gall hyn hefyd ehangu ein dealltwriaeth o deimlad neu awyrgylch stryd, tref, (<nowiki>dinas</nowiki> neu ardal. Mae’r syniad o dalu sylw i atyniadau a’r gallu i affeithio ac i gael ein haffeithio yn gallu ymestyn tu hwnt i’r berthynas rhwng pobl er mwyn cynnwys y clymiadau rhwng pobl ac adeiladau, gwrthrychau, is-adeiledd, tywydd ac yn y blaen. Mae hyn yn cyflwyno agoriadau yn ein dealltwriaeth o sut mae ymdrin ag eraill, yn enwedig mewn rhannau eraill o’r byd, a hynny tu hwnt i fframwaith hunaniaeth, cenhedloedd, neu ddaearyddiaeth sgalar (gweler Pedwell, 2014).       
  
Yn ail: mae affaith yn newid y modd y meddyliwn am bŵer. Yn hytrach nag ystyried pŵer fel rhywbeth yr ydym yn ymwybodol o’i gyrchu, ac yn adnabod ei ffurf â’i rym, mae’r gwaith ar affaith yn ein gwahodd i ni feddwl am bwer fel rhywbeth gwasgaredig a mwy amwys. Er enghraifft, dadleua Stuart Hall (1932-2014) yn ei ysgrifau ar Thatcheriaeth fod y polisïau, y penderfyniadau, y cymeriadau a’r llinellau a weithiodd gyda’i gilydd i wneud Thatcheriaeth yn boblogaidd yn meddu grym affeithiol (''affective force'') (Hall a Jacques, 1982). O’r herwydd, dywedodd na fyddai Thatcheriaeth yn cael ei oresgyn drwy symudiad naturiol nôl i’r asgell chwith, megis pendil cloc. Dadleuai y byddai angen meddwl yn llawer ehangach am y modd yr oedd gwleidyddiaeth wedi newid yn sgil Thatcheriaeth. Un o’i bwyntiau mwyaf pwerus yn yr ysgrifau yma yw nad oedd Thatcheriaeth wedi llwyddo trwy dwyllo pobl (‘''to dupe unsuspecting folk''’, 1979: 20). Roedd grym Thatcheriaeth yn bwerus yn rhannol am ei fod yn gweithio ar ddealltwriaeth pobl ohonynt eu hunain, ar ein dealltwriaeth o’n perthynas â’n gilydd, ynghyd â’r modd y meddyliwn am ein lle yn y byd – hynny yw, materion sydd am lawer mwy na phenderfyniadau a wneir ar sail rheswm. I grynhoi, mae pŵer yn gallu cael ei deimlo fel awyrgylch, llawn cymaint â’i adnabod ar ffurf giat, camera neu ddogfen. Yn hyn o beth mae affaith yn cyd-fynd â gwaith Michel Foucault (1926-1984) ar ''governmentality'' (Walters, 2012).   
 
Llinell 14: Llinell 14:
 
Yn drydydd, mae affaith yn arwain at ffordd newydd o adnabod a deall gofod gwleidyddol. Wrth feddwl am ofod drwy affeithiau, neu’r trawsyriadau rhwng cyrff, adeiledd, ac is-adeiledd gwelwn ein bod yn ymdrin â gofod fel rhywbeth sy’n cronni o amgylch pwyntiau o ddwyster neu wefrau, yn hytrach na fel rhywbeth â ffurf ffiniedig. Felly, yn wahanol i feddwl am bŵer fel rhywbeth sy’n perthyn i’r canol ac nid yr ymylon neu i un grŵp ac nid grŵp arall, adnabyddwn natur, ffurf a chyrhaeddiad gofod trwy sylwi ar fannau cyfarfod, dwysedd, adweithiau, prosesau tiriogaethu, crynoadau neu gasglfeydd o bobl ac o bethau. Gellir meddwl am hyn ymhellach drwy’r cysyniad cyfagos o awyrgylch (Closs Stephens 2016). Cyflwyna awyrgylch ddelwedd o ofod gwasgaredig a niwlaidd. Nid yw’n hawdd nodi canolfan nac ymylon awyrgylch: mewn awyrgylch, mae’n debygol bod y canolfannau a’r ymylon yn niferus. Yn wahanol i’r llinellau cadarn y byddwn ni'n cyplysu â’r cysyniad o ofod ffiniol, felly, mae’r llinellau yma yn aneglur, anffurfiedig ac yn symud. Gellid meddwl am y diffiniad hwn o ofod gwleidyddol fel y profiad o symud trwy ddinas: gellwch deithio am oriau drwy ddinas fawr heb brofi ffin gadarn ar ei diwedd hi. Gallwn hefyd deimlo’r awyrgylch yn newid tra’n deithio ar drên metro drwy sylwi ar newid mewn gwisg, lliw croen, iechyd, nerth neu hyder corfforol – olion cyfoeth a thlodi. Mae’r olion hyn yn rhai cynnil, aneithafol. Mae hi’n anodd pwyntio at, neu fesur y llinellau sy’n nodi’r math yma o symudiad o un awyrgylch i un arall. Ond yn gyffredinol, mae’n pwyntio at cysyniad o ofod fel strwythur ansefydlog sy’n symud ac sy’n lluosog. Ceir ymdriniaeth fanwl â methodoleg astudio affaith, gan gynnwys y syniad o ddarlleniad affeithiol (affective reading) gan Sedgwick (2003).  
 
I gloi, mae ymdriniaeth ysgrifenwyr ag affaith yn mynd tu hwnt i waith seicoddadansoddwyr ar yr isymwybod ac uwchlaw beirniaid tyrfa yr 20 ganrif. Fel y dadleua Teresa Brennan yn The Transmission of Affect (2004), tueddiad y beirniaid hyn yw ymdrin ag emosiynau fel pethau sy’n cael eu dal o fewn y croen. Yr her a gyflwynir gan Brennan yw ceisio meddwl am emosiynau, teimladau, egnïon a thrawsyriadau fel pethau sy’n teithio tu hwnt i’r croen. Gwahaniaeth arall rhwng gwaith ar affaith a gwaith seicoddamcaniaeth yw’r modd y mae Silvan Tomkins yn gwahaniaethu rhwng ‘drives’ y mae pobl yn eu teimlo (e.e. y rhai sy’n ein harwain ni i fwyta neu i garu), a’n profiad ni o affeithiau (gan gynnwys ofn a dicter) – sydd yn gallu bod yn hunan-gyfiawnhaol ac sy’n tarddu o unrhyw wrthrych – nid yn unig o bobl eraill. Tra bod rhai yn mynnu gwahaniaethu rhwng affaith ac emosiwn, mae’r traddodiad o waith yn Astudiaethau Ffeminyddiaeth yn enwedig yn ddrwgdybus o ymdrech i wahanu ac o bosib i israddio emosiynau (gweler gwaith Sara Ahmed ar hyn).   
+
I gloi, mae ymdriniaeth ysgrifenwyr ag affaith yn mynd tu hwnt i waith seicoddadansoddwyr ar yr isymwybod ac uwchlaw beirniaid tyrfa yr 20 ganrif. Fel y dadleua Teresa Brennan yn The Transmission of Affect (2004), tueddiad y beirniaid hyn yw ymdrin ag emosiynau fel pethau sy’n cael eu dal o fewn y croen. Yr her a gyflwynir gan Brennan yw ceisio meddwl am emosiynau, teimladau, egnïon a thrawsyriadau fel pethau sy’n teithio tu hwnt i’r croen. Gwahaniaeth arall rhwng gwaith ar affaith a gwaith seicoddamcaniaeth yw’r modd y mae Silvan Tomkins yn gwahaniaethu rhwng ‘drives’ y mae pobl yn eu teimlo (e.e. y rhai sy’n ein harwain ni i fwyta neu i garu), a’n profiad ni o affeithiau (gan gynnwys ofn a dicter) – sydd yn gallu bod yn hunan-gyfiawnhaol ac sy’n tarddu o unrhyw wrthrych – nid yn unig o bobl eraill. Tra bod rhai yn mynnu gwahaniaethu rhwng affaith ac emosiwn, mae’r traddodiad o waith yn Astudiaethau [[Ffeminyddiaeth]] yn enwedig yn ddrwgdybus o ymdrech i wahanu ac o bosib i israddio emosiynau (gweler gwaith Sara Ahmed ar hyn).   
  
Y diwygiad cyfredol, am 18:35, 20 Ebrill 2020

Mae’r cysyniad o Affaith (Affect) bellach yn enwog am fod yn rhywbeth sy’n anodd i’w ddisgrifio. Er hyn, mae’n gysyniad awgrymog a chyfoethog, sydd yn codi cwestiynau a syniadau pellach. Yn y gwyddorau cymdeithasol a phynciau celfyddydol, mae dau brif drywydd i drwch y gwaith a gyhoeddir ar y cysyniad o affaith: mae’r cyntaf yn dilyn ôl gwaith y beirniad llenyddol a chwiyr Eve Kosofsky Sedgwick, gan gynnwys ei hymdriniaeth, ar y cyd ag Adam Frank, o ganfyddiadau y seicolegwr Silvan Tomkins (1911-1991) . Mae’r ail yn dilyn yr athronydd Brian Massumi, sydd yn ei dro yn dilyn gwaith Giles Deleuze (Massumi yw cyfieithydd nifer helaeth o lyfrau Giles Deleuze (1925-1995), a Deleuze a Félix Guattari (1930-1992) i'r Saesneg).

Pwysleisia’r ddau drywydd elfennau gwahanol, ac maent wedi dylanwadu ar feysydd pwnc gwahanol – gan gynnwys Daearyddiaeth, Astudiaethau Cwiyr, Llenyddiaeth Saesneg, Astudiaethau Ffeminyddiaeth ac Astudiaethau Diwylliannol. Yn y ddau drywydd, fodd bynnag, mae affaith yn enwi galluoedd corfforol (bodily capacities): hynny yw, y modd y mae’r corff yn ymateb i’r byd - tu hwnt i ddimensiwn llafar neu’r hyn ry’n ni’n ymwybodol ohono. Un enghraifft syml fyddai’r modd y byddwn ni'n dechrau canu neu symud i gerddoriaeth, cyn i ni fod yn ymwybodol ein bod ni yn canu, neu wedi sylwi ein bod ni’n adnabod a chofio cân arbennig. Deellir affaith felly, fel ‘bodily capacities to affect and be affected’ (Clough 2007, 2). Yn ôl Gregg a Siegworth mae affeithiau yn rymoedd perfeddol (‘visceral forces’) sy’n gweithio oddi tan gwybodaeth ymwybodol, wrth ei hochr neu ar wahân iddi. (Gregg a Siegworth, 2010: 1).

Cyflwyna her i nifer o gategorïau sylfaenol yn y gwyddorau cymdeithasol, gan gynnwys y syniad o’r unigolyn, o reswm, pŵer, cymuned a chofio, gwrando a thalu sylw. Ffocysir yn y cofnod hwn ar dair elfen y mae affaith yn ein hysgogi ni i feddwl amdanynt ymhellach: i) yr unigolyn a chymuned, ii) pŵer, a iii) gofod gwleidyddol.

Yn gyntaf: y berthynas rhwng yr unigolyn a’r gymuned. Yn aml, deellir bywyd cymdeithasol fel cyfuniad o nifer o bobl unigol. Yn aml hefyd yn y gwyddorau cymdeithasol, meddylir am unigolion fel gweithredwyr (agents) hunanddigonol ac annibynnol. Mae affaith yn herio’r ddealltwriaeth annigonol o natur pobl, gan ein gwahodd ni i dalu sylw i’r berthynas neu’r cyswllt rhwng un unigolyn ac un arall. Er enghraifft, mae’n caniatáu ni i dalu sylw i’r egnïoedd a’r affeithiau sy’n pasio rhwng cyrff, ‘enabling bindings and unbindings, jarring disorientations and rhythmic attunements’ (Seigworth a Gregg, 2010: 2). Felly, yn hytrach na chychwyn astudiaeth drwy astudio unigolyn neu gymuned, mae affaith yn ein harwain i feddwl am yr atyniadau a’r trawsyriadau rhwng un ac un arall, fel rhan o gynulliad o bobl. Mae gwaith Brian Massumi a Patricia Clough yn mynd ymhellach na hyn o ran datod y syniad o unigolyn, gan ystyried perthynas â pheiriannau a thechnoleg.

Mae yna werth gwleidyddol amlwg mewn deall yn well sut mae tonnau o affaith yn cael eu trawsyrru a’u derbyn (Amin a Thrift, 2013: 167). Gall hyn esgor ar safbwyntiau newydd wrth i ni geisio deall ymddygiad torf neu gasgliad o bobl, wrth wylio gêm bêl droed, er enghraifft, neu gymryd rhan mewn protest neu rannu cerbyd trên. Gall hyn hefyd ehangu ein dealltwriaeth o deimlad neu awyrgylch stryd, tref, (dinas neu ardal. Mae’r syniad o dalu sylw i atyniadau a’r gallu i affeithio ac i gael ein haffeithio yn gallu ymestyn tu hwnt i’r berthynas rhwng pobl er mwyn cynnwys y clymiadau rhwng pobl ac adeiladau, gwrthrychau, is-adeiledd, tywydd ac yn y blaen. Mae hyn yn cyflwyno agoriadau yn ein dealltwriaeth o sut mae ymdrin ag eraill, yn enwedig mewn rhannau eraill o’r byd, a hynny tu hwnt i fframwaith hunaniaeth, cenhedloedd, neu ddaearyddiaeth sgalar (gweler Pedwell, 2014).

Yn ail: mae affaith yn newid y modd y meddyliwn am bŵer. Yn hytrach nag ystyried pŵer fel rhywbeth yr ydym yn ymwybodol o’i gyrchu, ac yn adnabod ei ffurf â’i rym, mae’r gwaith ar affaith yn ein gwahodd i ni feddwl am bwer fel rhywbeth gwasgaredig a mwy amwys. Er enghraifft, dadleua Stuart Hall (1932-2014) yn ei ysgrifau ar Thatcheriaeth fod y polisïau, y penderfyniadau, y cymeriadau a’r llinellau a weithiodd gyda’i gilydd i wneud Thatcheriaeth yn boblogaidd yn meddu grym affeithiol (affective force) (Hall a Jacques, 1982). O’r herwydd, dywedodd na fyddai Thatcheriaeth yn cael ei oresgyn drwy symudiad naturiol nôl i’r asgell chwith, megis pendil cloc. Dadleuai y byddai angen meddwl yn llawer ehangach am y modd yr oedd gwleidyddiaeth wedi newid yn sgil Thatcheriaeth. Un o’i bwyntiau mwyaf pwerus yn yr ysgrifau yma yw nad oedd Thatcheriaeth wedi llwyddo trwy dwyllo pobl (‘to dupe unsuspecting folk’, 1979: 20). Roedd grym Thatcheriaeth yn bwerus yn rhannol am ei fod yn gweithio ar ddealltwriaeth pobl ohonynt eu hunain, ar ein dealltwriaeth o’n perthynas â’n gilydd, ynghyd â’r modd y meddyliwn am ein lle yn y byd – hynny yw, materion sydd am lawer mwy na phenderfyniadau a wneir ar sail rheswm. I grynhoi, mae pŵer yn gallu cael ei deimlo fel awyrgylch, llawn cymaint â’i adnabod ar ffurf giat, camera neu ddogfen. Yn hyn o beth mae affaith yn cyd-fynd â gwaith Michel Foucault (1926-1984) ar governmentality (Walters, 2012).

Yn drydydd, mae affaith yn arwain at ffordd newydd o adnabod a deall gofod gwleidyddol. Wrth feddwl am ofod drwy affeithiau, neu’r trawsyriadau rhwng cyrff, adeiledd, ac is-adeiledd gwelwn ein bod yn ymdrin â gofod fel rhywbeth sy’n cronni o amgylch pwyntiau o ddwyster neu wefrau, yn hytrach na fel rhywbeth â ffurf ffiniedig. Felly, yn wahanol i feddwl am bŵer fel rhywbeth sy’n perthyn i’r canol ac nid yr ymylon neu i un grŵp ac nid grŵp arall, adnabyddwn natur, ffurf a chyrhaeddiad gofod trwy sylwi ar fannau cyfarfod, dwysedd, adweithiau, prosesau tiriogaethu, crynoadau neu gasglfeydd o bobl ac o bethau. Gellir meddwl am hyn ymhellach drwy’r cysyniad cyfagos o awyrgylch (Closs Stephens 2016). Cyflwyna awyrgylch ddelwedd o ofod gwasgaredig a niwlaidd. Nid yw’n hawdd nodi canolfan nac ymylon awyrgylch: mewn awyrgylch, mae’n debygol bod y canolfannau a’r ymylon yn niferus. Yn wahanol i’r llinellau cadarn y byddwn ni'n cyplysu â’r cysyniad o ofod ffiniol, felly, mae’r llinellau yma yn aneglur, anffurfiedig ac yn symud. Gellid meddwl am y diffiniad hwn o ofod gwleidyddol fel y profiad o symud trwy ddinas: gellwch deithio am oriau drwy ddinas fawr heb brofi ffin gadarn ar ei diwedd hi. Gallwn hefyd deimlo’r awyrgylch yn newid tra’n deithio ar drên metro drwy sylwi ar newid mewn gwisg, lliw croen, iechyd, nerth neu hyder corfforol – olion cyfoeth a thlodi. Mae’r olion hyn yn rhai cynnil, aneithafol. Mae hi’n anodd pwyntio at, neu fesur y llinellau sy’n nodi’r math yma o symudiad o un awyrgylch i un arall. Ond yn gyffredinol, mae’n pwyntio at cysyniad o ofod fel strwythur ansefydlog sy’n symud ac sy’n lluosog. Ceir ymdriniaeth fanwl â methodoleg astudio affaith, gan gynnwys y syniad o ddarlleniad affeithiol (affective reading) gan Sedgwick (2003).

I gloi, mae ymdriniaeth ysgrifenwyr ag affaith yn mynd tu hwnt i waith seicoddadansoddwyr ar yr isymwybod ac uwchlaw beirniaid tyrfa yr 20 ganrif. Fel y dadleua Teresa Brennan yn The Transmission of Affect (2004), tueddiad y beirniaid hyn yw ymdrin ag emosiynau fel pethau sy’n cael eu dal o fewn y croen. Yr her a gyflwynir gan Brennan yw ceisio meddwl am emosiynau, teimladau, egnïon a thrawsyriadau fel pethau sy’n teithio tu hwnt i’r croen. Gwahaniaeth arall rhwng gwaith ar affaith a gwaith seicoddamcaniaeth yw’r modd y mae Silvan Tomkins yn gwahaniaethu rhwng ‘drives’ y mae pobl yn eu teimlo (e.e. y rhai sy’n ein harwain ni i fwyta neu i garu), a’n profiad ni o affeithiau (gan gynnwys ofn a dicter) – sydd yn gallu bod yn hunan-gyfiawnhaol ac sy’n tarddu o unrhyw wrthrych – nid yn unig o bobl eraill. Tra bod rhai yn mynnu gwahaniaethu rhwng affaith ac emosiwn, mae’r traddodiad o waith yn Astudiaethau Ffeminyddiaeth yn enwedig yn ddrwgdybus o ymdrech i wahanu ac o bosib i israddio emosiynau (gweler gwaith Sara Ahmed ar hyn).

Angharad Closs Stephens

Llyfryddiaeth

Ahmed, S. (2010), The Promise of Happiness (Durham NC: Duke University Press.

Ahmed, S. (2004), The Cultural Politics of Emotion (Edinburgh: Edinburgh University Press).

Amin, A. & Thrift, N. (2013) Arts of the Political: New Openings for the Left (Durham, NC: Duke University Press).

Anderson, B. (2014), Encountering Affect: Capacities, Apparatuses, Conditions (London, NY: Routledge).

Blackman,L. & Venn,C. (2010) ,golygyddion rhifyn arbennig o Body & Society, 16 (1).

Brennan, T.(2004), The Transmission of Affect (New York: Cornell University Press).

Closs Stephens, A., ‘The Affective Atmospheres of Nationalism’, Cultural Geographies, 23: 181-198.

Clough, P. C., gyda Halley, J (2007), The Affective Turn: theorizing the social (Durham NC: Duke University Press).

Gregg,M a Seigworth, G. J. (eds) (2010), The Affect Theory Reader (Durham NC: Duke University Press).

Hall, S., ‘The Great Moving Right Show’, Marxism Today, January 1979: 14-20.

Hall, S. & Jacques,M. (1990), ‘Introduction’, yn Hall a Jacques, eds., The Politics of Thatcherism (London: Lawrence and Wishart), 9-18.

Massumi, B. (2015), The Politics of Affect (Cambridge: Polity Press).

Massumi, B. (2002), Parables for the Virtual: Movement, Affect, Sensation (Durham NC: Duke University Press).

Massumi, B. (1995), ‘The Autonomy of Affect’, Cultural Critique, 31: 83-109.

Pedwell, C. (2014), Affective Relations. The Transnational Politics of Empathy (Palgrave Macmillan).

Sedgwick, E. K. (2003), Touching Feeling, Affect, Pedagogy, Performativity (Durham NC: Duke University Press).

Sedgwick, E. K. a Frank, A. (1995), Shame and its Sisters: A Silvan Tomkins Reader (Durham NC: Duke University Press).

Walters, W. (2012), Governmentality: Critical Encounters (London, NY: Routledge).

Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.