Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Davies, Richard (Mynyddog; 1833-77)"
CadiW (Sgwrs | cyfraniadau) |
CadiW (Sgwrs | cyfraniadau) |
||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
− | |||
'''Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn [https://www.ylolfa.com/cynnyrch/9781784616250/cydymaith-i-gerddoriaeth-cymru''Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru''], cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.''' | '''Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn [https://www.ylolfa.com/cynnyrch/9781784616250/cydymaith-i-gerddoriaeth-cymru''Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru''], cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.''' | ||
− | Bardd a datgeinydd a hanai o blwyf Llanbryn-mair, Sir Drefaldwyn. Addysgwyd Mynyddog yn ysgol yr Hen Gapel yn Llanbryn-mair a dechreuodd farddoni a chystadlu’n ifanc. Cymerodd ei ffugenw o fryn Newydd Fynyddog yn ymyl ei gartref. | + | Bardd a datgeinydd a hanai o blwyf Llanbryn-mair, Sir Drefaldwyn. Addysgwyd Mynyddog yn ysgol yr Hen Gapel yn Llanbryn-mair a dechreuodd farddoni a chystadlu’n ifanc. Cymerodd ei [[ffugenw]] o fryn Newydd Fynyddog yn ymyl ei gartref. |
− | Dechreuodd ennill ei fara menyn fel datgeinydd, gan deithio i Lundain i glywed cantorion enwog y dydd, a byddai’n perfformio i gyfeiliant harmoniwm bychan, yn canu ei ganeuon ei hun, ar ddull yr hyn a elwid yn ‘dopicaliaid’ yn ddiweddarach. Roedd yn boblogaidd iawn fel arweinydd [[eisteddfodau]]. Cyhoeddwyd ei gerddi mewn nifer o gyfrolau: ''Caneuon Mynyddog'' (1866), ''Yr Ail Gynnyg'' (1870), ''Y Trydydd Cynnyg'' (1877) a chyfrol arall, ''Pedwerydd Llyfr Mynyddog'', yn 1882, wedi ei farw. | + | Dechreuodd ennill ei fara menyn fel datgeinydd, gan deithio i Lundain i glywed cantorion enwog y dydd, a byddai’n [[perfformio]] i gyfeiliant harmoniwm bychan, yn canu ei ganeuon ei hun, ar ddull yr hyn a elwid yn ‘dopicaliaid’ yn ddiweddarach. Roedd yn boblogaidd iawn fel arweinydd [[eisteddfodau]]. Cyhoeddwyd ei gerddi mewn nifer o gyfrolau: ''Caneuon Mynyddog'' (1866), ''Yr Ail Gynnyg'' (1870), ''Y Trydydd Cynnyg'' (1877) a chyfrol arall, ''Pedwerydd Llyfr Mynyddog'', yn 1882, wedi ei farw. |
− | O safbwynt cerddoriaeth, gorwedd pwysigrwydd Mynyddog yn y llu o eiriau a luniodd i ganeuon poblogaidd a gweithiau eraill ei gyfnod. Ef a greodd libreto’r [[opera]] ''Blodwen'' gan [[Joseph Parry]], a berfformiwyd gyntaf yn 1878. Ef hefyd a luniodd y geiriau Cymraeg i rangan enwog Joseph Parry, ''Myfanwy''. Ymhlith ei ganeuon ceir ‘Gwnewch bopeth yn Gymraeg’, ‘Dewch i America’, ‘Wyres fach Ned Puw’, ‘Dyma’r dyn a aiff â hi’, ‘Pistyll y llan’; ‘Cartref’ (i gerddoriaeth W. Trevor Evans); ‘Baner ein gwlad’, ‘Cydgan y morwyr’ a ‘Mae Cymru’n barod’ (i gerddoriaeth Joseph Parry); ‘Y fam a’i baban’ (i gerddoriaeth [[John Thomas]] (Pencerdd Gwalia)); ‘Bedd Llewelyn’ (i gerddoriaeth [[D. Emlyn Evans]]); ‘Galwad y tywysog’ (i gerddoriaeth John Henry). | + | O safbwynt cerddoriaeth, gorwedd pwysigrwydd Mynyddog yn y llu o eiriau a luniodd i ganeuon poblogaidd a gweithiau eraill ei gyfnod. Ef a greodd libreto’r [[opera]] ''Blodwen'' gan [[Joseph Parry]], a berfformiwyd gyntaf yn 1878. Ef hefyd a luniodd y geiriau Cymraeg i rangan enwog Joseph Parry, ''Myfanwy''. Ymhlith ei ganeuon ceir ‘Gwnewch bopeth yn Gymraeg’, ‘Dewch i America’, ‘Wyres fach Ned Puw’, ‘Dyma’r dyn a aiff â hi’, ‘Pistyll y llan’; ‘Cartref’ (i gerddoriaeth W. Trevor Evans); ‘Baner ein gwlad’, ‘Cydgan y morwyr’ a ‘Mae Cymru’n barod’ (i gerddoriaeth Joseph Parry); ‘Y fam a’i baban’ (i gerddoriaeth [[John Thomas]] ([[Pencerdd]] Gwalia)); ‘Bedd Llewelyn’ (i gerddoriaeth [[D. Emlyn Evans]]); ‘Galwad y tywysog’ (i gerddoriaeth John Henry). |
− | At hynny, ef a ysgrifennodd eiriau Requiem gynulleidfaol Joseph Parry er cof am [[Ieuan Gwyllt]], ''Wylwn! wylwn!'' (1877). Cyfieithodd nifer o ganeuon Saesneg ac Americanaidd megis ‘Rhwyfa dy gwch dy hun’ (''‘Paddle your own canoe’'' | + | At hynny, ef a ysgrifennodd eiriau Requiem gynulleidfaol Joseph Parry er cof am [[Ieuan Gwyllt]], ''Wylwn! wylwn!'' (1877). Cyfieithodd nifer o ganeuon Saesneg ac Americanaidd megis ‘Rhwyfa dy gwch dy hun’ (''‘Paddle your own canoe’)'', a llunio geiriau ar alawon poblogaidd megis ‘Dacw’r bwthyn gwyn y’m ganwyd’ i ''‘Just before the battle, mother’'' a ‘Gwenno fwyn’ i ''‘Nelly Bly’'', a’u perfformio ei hun. |
− | Cydweithiodd â [[D. Emlyn Evans]] ar ganeuon ac ar [[gantatas]], yr opereta ''Y Tylwyth Teg'' a ‘Caneuon y Gwynfydau’, a chyfansoddodd Evans anthem er cof amdano, ''Pa fodd y cwympodd y cedyrn'' (1878). Cafwyd [[anthem]] hefyd gan [[R. S. Hughes]], ‘Gorphwysgan’ (1878), er cof amdano ef, Ieuan Gwyllt a John Griffith (Y Gohebydd). Priododd Mynyddog ag Ann Elizabeth Francis o’r Rhyl yn 1871. Wedi ei farw ailbriododd hi yn 1878 â D. Emlyn Evans. | + | Cydweithiodd â [[D. Emlyn Evans]] ar ganeuon ac ar [[gantatas]], yr opereta ''Y Tylwyth Teg'' a ‘Caneuon y Gwynfydau’, a chyfansoddodd Evans anthem er cof amdano, ''Pa fodd y cwympodd y cedyrn'' (1878). Cafwyd [[anthem]] hefyd gan [[R. S. Hughes]], ‘Gorphwysgan’ (1878), er cof amdano ef, Ieuan Gwyllt a John Griffith (Y [[Gohebydd]]). Priododd Mynyddog ag Ann Elizabeth Francis o’r Rhyl yn 1871. Wedi ei farw ailbriododd hi yn 1878 â D. Emlyn Evans. |
'''Rhidian Griffiths''' | '''Rhidian Griffiths''' |
Diwygiad 20:57, 16 Mawrth 2021
Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.
Bardd a datgeinydd a hanai o blwyf Llanbryn-mair, Sir Drefaldwyn. Addysgwyd Mynyddog yn ysgol yr Hen Gapel yn Llanbryn-mair a dechreuodd farddoni a chystadlu’n ifanc. Cymerodd ei ffugenw o fryn Newydd Fynyddog yn ymyl ei gartref.
Dechreuodd ennill ei fara menyn fel datgeinydd, gan deithio i Lundain i glywed cantorion enwog y dydd, a byddai’n perfformio i gyfeiliant harmoniwm bychan, yn canu ei ganeuon ei hun, ar ddull yr hyn a elwid yn ‘dopicaliaid’ yn ddiweddarach. Roedd yn boblogaidd iawn fel arweinydd eisteddfodau. Cyhoeddwyd ei gerddi mewn nifer o gyfrolau: Caneuon Mynyddog (1866), Yr Ail Gynnyg (1870), Y Trydydd Cynnyg (1877) a chyfrol arall, Pedwerydd Llyfr Mynyddog, yn 1882, wedi ei farw.
O safbwynt cerddoriaeth, gorwedd pwysigrwydd Mynyddog yn y llu o eiriau a luniodd i ganeuon poblogaidd a gweithiau eraill ei gyfnod. Ef a greodd libreto’r opera Blodwen gan Joseph Parry, a berfformiwyd gyntaf yn 1878. Ef hefyd a luniodd y geiriau Cymraeg i rangan enwog Joseph Parry, Myfanwy. Ymhlith ei ganeuon ceir ‘Gwnewch bopeth yn Gymraeg’, ‘Dewch i America’, ‘Wyres fach Ned Puw’, ‘Dyma’r dyn a aiff â hi’, ‘Pistyll y llan’; ‘Cartref’ (i gerddoriaeth W. Trevor Evans); ‘Baner ein gwlad’, ‘Cydgan y morwyr’ a ‘Mae Cymru’n barod’ (i gerddoriaeth Joseph Parry); ‘Y fam a’i baban’ (i gerddoriaeth John Thomas (Pencerdd Gwalia)); ‘Bedd Llewelyn’ (i gerddoriaeth D. Emlyn Evans); ‘Galwad y tywysog’ (i gerddoriaeth John Henry).
At hynny, ef a ysgrifennodd eiriau Requiem gynulleidfaol Joseph Parry er cof am Ieuan Gwyllt, Wylwn! wylwn! (1877). Cyfieithodd nifer o ganeuon Saesneg ac Americanaidd megis ‘Rhwyfa dy gwch dy hun’ (‘Paddle your own canoe’), a llunio geiriau ar alawon poblogaidd megis ‘Dacw’r bwthyn gwyn y’m ganwyd’ i ‘Just before the battle, mother’ a ‘Gwenno fwyn’ i ‘Nelly Bly’, a’u perfformio ei hun.
Cydweithiodd â D. Emlyn Evans ar ganeuon ac ar gantatas, yr opereta Y Tylwyth Teg a ‘Caneuon y Gwynfydau’, a chyfansoddodd Evans anthem er cof amdano, Pa fodd y cwympodd y cedyrn (1878). Cafwyd anthem hefyd gan R. S. Hughes, ‘Gorphwysgan’ (1878), er cof amdano ef, Ieuan Gwyllt a John Griffith (Y Gohebydd). Priododd Mynyddog ag Ann Elizabeth Francis o’r Rhyl yn 1871. Wedi ei farw ailbriododd hi yn 1878 â D. Emlyn Evans.
Rhidian Griffiths
Llyfryddiaeth
- T. R. Roberts (Asaph), Mynyddog: ei fywyd a’i waith (Dinbych, 1909)
- Comisiynwyd y cofnod hwn ar gyfer Y Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol a fydd yn cael ei chyhoeddi gan Y Lolfa yn 2018. Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.