Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Fflur, Elin (g.1984)"
CadiW (Sgwrs | cyfraniadau) |
CadiW (Sgwrs | cyfraniadau) |
||
Llinell 14: | Llinell 14: | ||
==Disgyddiaeth== | ==Disgyddiaeth== | ||
− | + | *Elin Fflur a’r Moniars, ''Harbwr Diogel'' (Sain SCD2380, 2002) | |
− | + | *''Dim Gair'' (Sain SCD2403, 2003) | |
− | + | *''Cysgodion'' (Sain, SCD2475, 2004) | |
− | + | *''Ysbryd Efnisien'' [EP] (Sain SCD2497, 2006) | |
− | + | *''Hafana'' (Grawnffrwyth, 2008) | |
− | + | *''Y Goreuon'' (Sain SCD2614, 2009) | |
− | + | *''Lleuad Llawn'' (Sain SCD2711, 2014) | |
{{CC BY-SA Cydymaith}} | {{CC BY-SA Cydymaith}} | ||
+ | [[Categori:Cerddoriaeth]] |
Diwygiad 09:48, 26 Mawrth 2021
Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.
Cantores a chyfansoddwraig ym maes canu roc a phop a ddaeth i amlygrwydd yn negawd cyntaf yr 21g. Fe’i ganed yn Llanfairpwllgwyngyll, Ynys Môn, i deulu cerddorol. Roedd ei mam, Nest Llewelyn Jones, yn gantores gyda’r grŵp roc-gwerin blaengar Brân rhwng 1975 ac 1976.
Bu Elin Fflur yn cystadlu mewn eisteddfodau er pan oedd yn ifanc, ac yn ei harddegau ffurfiodd y grŵp pop Carlotta gyda’i brawd Ioan Llywelyn. Daeth i sylw cenedlaethol am y tro cyntaf yng nghystadleuaeth Cân i Gymru 2002, pan gipiodd y wobr gyntaf gyda’i pherfformiad o gân Arfon Wyn ‘Harbwr Diogel’. Yn dilyn llwyddiant ‘Harbwr Diogel’ bu’n canu gyda grŵp Arfon Wyn, Y Moniars, gan ryddhau record hir o dan yr un teitl yn 2002.
Flwyddyn yn ddiweddarach, rhyddhaodd ei record hir unigol gyntaf Dim Gair (Sain, 2003), a ddangosai ystod ei gallu fel cantores wrth symud yn gymharol ddidrafferth o roc grymus y gân deitl i faledi roc anthemig megis ‘Y Llwybr Lawr i’r Dyffryn’ ac ‘Mae’r Ysbryd yn Troi’. Dilynwyd y record honno gan ail record hir o’r enw Cysgodion, a oedd yn cynnwys fersiwn Elin Fflur o’r alaw gofiadwy ‘Colli Iaith’, a ganwyd yn wreiddiol gan Heather Jones yn 1971. Erbyn hyn roedd yn perfformio’n gyson ledled Cymru gyda’i band, a oedd yn cynnwys Siôn Llwyd ar y gitâr fas, y gitâr acwstig a’r allweddellau, Jason Huxley ar y gitâr flaen a Deian Elfryn ar y drymiau. Rhyddhawyd Cysgodion yn 2004 gyda Rob Reed yn cynhyrchu, ac EP boblogaidd yn cynnwys y gân ‘Ysbryd Efnisien’ yn 2006.
Ar ôl treulio cyfnod yn Efrog Newydd yn gweithio gyda chyn-gynhyrchydd Bonnie Tyler a Meatloaf, Jim Steinman, dychwelodd Elin Fflur i Gymru a rhyddhau ei thrydedd record hir, Hafana, ar label Grawnffrwyth yn 2008. Bu hefyd yn wyneb cyfarwydd ar S4C, gan gyflwyno rhaglenni megis Trac, Heno a Cân i Gymru 2014, ac yn fwy diweddar rhyddhaodd ei phedwaredd record unigol, Lleuad Llawn (Sain, 2014).
Pwyll ap Siôn
Disgyddiaeth
- Elin Fflur a’r Moniars, Harbwr Diogel (Sain SCD2380, 2002)
- Dim Gair (Sain SCD2403, 2003)
- Cysgodion (Sain, SCD2475, 2004)
- Ysbryd Efnisien [EP] (Sain SCD2497, 2006)
- Hafana (Grawnffrwyth, 2008)
- Y Goreuon (Sain SCD2614, 2009)
- Lleuad Llawn (Sain SCD2711, 2014)
- Comisiynwyd y cofnod hwn ar gyfer Y Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol a fydd yn cael ei chyhoeddi gan Y Lolfa yn 2018. Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.