Cân i Gymru

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio

Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.

Cystadleuaeth flynyddol bwysig ers 1969 a fu’n rhaglen deledu boblogaidd ar y BBC ac yna ar S4C. Amcan wreiddiol Cân i Gymru oedd darganfod cân ar gyfer cystadleuaeth yr Eurovision Song Contest, ond roedd hyn yn mynd yn groes i bolisi’r BBC. Yn lle hyn, penderfynwyd defnyddio’r gystadleuaeth i ddatgelu pa gân fyddai’n cynrychioli Cymru yn yr Ŵyl Ban-Geltaidd a gynhaliwyd yn Iwerddon, a sefydlwyd ar ddechrau’r 1970au.

Ni dderbyniodd y gystadleuaeth lawer o sylw gan y cyfryngau yn ystod yr 1970au. Ni chafwyd darllediadau byw, a phanel o arbenigwyr a benderfynai pwy fyddai’n fuddugol yn hytrach na phleidlais dros y ffôn. Gyda sefydlu S4C yn 1982, fodd bynnag, daeth ‘Cân i Gymru’ yn rhaglen deledu, ac er i’r fformat amrywio o flwyddyn i flwyddyn, at ei gilydd mae natur y rhaglen wedi aros yr un fath: rhaglen fyw gyda chynulleidfa yn y stiwdio a chyfle i’r cyhoedd bleidleisio, weithiau ar y cyd gyda phanel o feirniaid.

Profodd y rhaglen yn hynod boblogaidd i’r pwynt lle’r oedd perfformio yn yr Ŵyl Ban-Geltaidd ei hun yn gymhelliad eilaidd i’r nod o ennill y gystadleuaeth, gan fod y wobr ariannol ar gyfer ‘Cân i Gymru’ yn rhai miloedd o bunnoedd – tipyn uwch na’r hyn a geid yn Iwerddon. (Yn wir, yn aml nid oedd gan y cwmnïau teledu fu’n cynhyrchu’r rhaglen unrhyw ddiddordeb yn nyfodol y gân fuddugol, ymhellach na’i llwyddiant ar y rhaglen ei hun.)

Ni fu’r gystadleuaeth heb ei phroblemau na’i beirniaid. Tra’r oedd nifer wedi croesawu’r system ‘ddemocrataidd’ a ddaeth i’w lle yn ystod yr 1980au i adael i’r cyhoedd benderfynu ar y gân orau, yn aml profwyd problemau technegol, gyda nifer o bobl yn methu cyrraedd y rhif er mwyn cofrestru eu pleidlais. Gan fod y bleidlais ar gyfer y caneuon salaf yn gymharol isel (ac i raddau yn datgelu bod ffigyrau gwylio’r rhaglen dipyn yn llai na’r hyn a gredid), bu amheuaeth hefyd ynglŷn â’u cywirdeb.

Bu rhai yn feirniadol hefyd o natur, ansawdd ac apêl ganol-y-ffordd y rhaglen, arddull y caneuon ynghyd â’r trefniannau a oedd ar brydiau yn lastwraidd a di- ddychymyg. Fodd bynnag, dros y blynyddoedd fe gafwyd nifer o ganeuon buddugol cofiadwy, megis ‘Nwy yn y Nen’ gan Dewi ‘Pws’ Morris (1971), ‘Pan Ddaw’r Dydd’ gan Geraint Jarman (1972), ‘Nid Llwynog oedd yr Haul’ gan Geraint Løvgreen a Myrddin ap Dafydd (1982), ‘Twll Triongl’ gan Hefin Huws a Les Morrison (1989), ‘Y Cwm’ (1984) gan Huw Chiswell, ac yn fwy diweddar, ‘Mynd i Gorwen Hefo Alys’ (2013) gan Rhys Gwynfor ac Osian Huw Williams. Y gyfrinach yn aml iawn yn achos y caneuon hyn oedd eu bod nhw’n ymwrthod â phatrwm arferol nifer o ganeuon fformwläig y rhaglen.

Gwelwyd hyn yn 2013 yng nghân ‘Mynd i Gorwen Hefo Alys’ – cân blues 12-bar a berfformiwyd gan Jessop a’r Sgweiri a safai ar wahân i weddill y caneuon ar y noson. Cafwyd hefyd rai caneuon a ddaeth yn boblogaidd iawn ar donfeddi Radio Cymru er na fu’r gân ei hun yn fuddugol, megis ‘Dwi’n Amau Dim’ gan Celt, ‘Mordaith’ gan John Williams a Tony Llewelyn Roberts, a ‘Tŷ Coz’ gan Elwyn Williams ac Iwan Llwyd, yr olaf mewn perfformiad cofiadwy gan y canwr a’r sacsoffonydd Dafydd Dafis.

Yn ogystal, fe ddaeth y gystadleuaeth yn llwyfan ar gyfer cyflwyno talent newydd, megis perfformiad Siân James o ‘Ceiliog y Gwynt’ (Euros Rhys Evans, 1985), Iwcs a Doyle o ‘Cerrig yr Afon’ (Iwan Roberts a John Doyle, 1996), Elin Fflur o ‘Harbwr Diogel’ (Arfon Wyn, 2002), ac Elin Angharad yn ‘Y Lleuad a’r Sêr’ (Elin Angharad, Arfon Wyn, 2015). Waeth beth am y feirniadaeth, mae’r gystadleuaeth wedi parhau yn boblogaidd ers bron i hanner can mlynedd, ac yn ddyddiad pwysig i nifer yng nghalendr cerddorol Cymru.

Pwyll ap Siôn



Comisiynwyd y cofnod hwn ar gyfer Y Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol a fydd yn cael ei chyhoeddi gan Y Lolfa yn 2018. Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.