Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Bandiau Pres"

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio
 
Llinell 10: Llinell 10:
 
Yng nghanol y ganrif llwyddodd dylunwyr (yn enwedig Adolphe Sax, y dylunydd Belgaidd) i wella gweithrediad offerynnau pres a dyfeisio prosesau gweithgynhyrchu a baratodd y ffordd ar gyfer masgynhyrchu offerynnau pres. Dyfeisiodd y diwydiant manwerthu gynlluniau busnes newydd i’w marchnata. Y ddwy elfen newydd oedd gwerthu ''setiau'' o offerynnau a oedd yn caniatáu i grwpiau  o ddynion nad oeddynt wedi canu offerynnau o’r blaen sefydlu bandiau yn ddiymdroi, a chyflwyno cynlluniau gohirio taliadau a oedd yn eu galluogi i gael yr offerynnau hynny cyn talu amdanynt. Roedd y trefniadau ariannol yn syml: byddai pobl bwysig neu gyflogwyr lleol yn gwarantu’r benthyciad, a châi arian ei godi i’w ad-dalu drwy gyfrwng cyngherddau cyhoeddus a gweithgareddau entrepreneuraidd bychain eraill. Digon rhwydd oedd cael hyd i warantwyr gan fod cerddoriaeth yn cael ei hystyried yn gyffredinol yn ‘weithgaredd hamdden rhesymol’: gweithgaredd a oedd yn cyd-fynd â chred oes Victoria y dylai amser hamdden gweithwyr gael ei neilltuo i weithgareddau moesol dderbyniol a llesol a oedd yn meithrin cymeriad.
 
Roedd bandiau’r 19g. yn cynnwys gwahanol gyfuniadau o offerynnau (yn aml byddent yn cynnwys clarinetau). Roedd [[arweinyddion]] bandiau (a elwid hefyd yn ‘athrawon bandiau’) yn gerddorion llythrennog lleol fel organyddion neu athrawon cerddoriaeth, neu’n fwy aml yn ddynion a oedd wedi eu hyfforddi mewn [[bandiau militaraidd]] o wahanol fathau. Erbyn dechrau’r 20g. roedd yr offeryniaeth wedi’i safoni o ganlyniad i lwyddiant cyflwyno cystadlaethau bandiau pres a’r angen yn sgil hynny i gyhoeddi cerddoriaeth a fyddai’n caniatáu i fandiau gystadlu ar seiliau cyfartal.
+
Roedd bandiau’r 19g. yn cynnwys gwahanol gyfuniadau o offerynnau (yn aml byddent yn cynnwys clarinetau). Roedd [[Arweinydd, Arweinyddion | arweinyddion]] bandiau (a elwid hefyd yn ‘athrawon bandiau’) yn gerddorion llythrennog lleol fel organyddion neu athrawon cerddoriaeth, neu’n fwy aml yn ddynion a oedd wedi eu hyfforddi mewn [[Bandiau Militaraidd | bandiau militaraidd]] o wahanol fathau. Erbyn dechrau’r 20g. roedd yr offeryniaeth wedi’i safoni o ganlyniad i lwyddiant cyflwyno cystadlaethau bandiau pres a’r angen yn sgil hynny i gyhoeddi cerddoriaeth a fyddai’n caniatáu i fandiau gystadlu ar seiliau cyfartal.
  
Dyma fu offeryniaeth safonol y band pres cystadleuol ers blynyddoedd cynnar yr 20g.: Cornet soprano ym meddalnod E; 4 cornet unawd ym meddalnod B; 2 ail gornet ym meddalnod B; 2 drydydd cornet ym meddalnod B; Cornet repiano ym meddalnod B; Corn ''flugel'' ym meddalnod B; 3 chorn tenor ym meddalnod E; 2 drombôn tenor; Trombôn bas; 2 fariton ym meddalnod B; 2 ewffoniwm ym meddalnod B; 2 fas dwbl ym meddalnod E; 2 fas dwbl ym meddalnod B; Offerynnau taro (ni chafodd chwaraewyr offerynnau taro eu cynnwys am gyfnod hir yng nghanol yr 20g.)
 
Llinell 16: Llinell 16:
 
O 1913 cyhoeddwyd ‘darnau prawf’ (a gafodd yr enw hwnnw oherwydd y defnydd ohonynt mewn cystadlaethau) wedi eu cyfansoddi’n benodol ar gyfer bandiau pres, ond parhaodd yr arfer cynharach o drefnu gweithiau a fodolai eisoes, fel cerddoriaeth ddawns a cherddoriaeth yn deillio o operâu. Y gwaith gwreiddiol cyntaf ar gyfer band pres (yn hytrach na threfniant o waith a fodolai eisoes) oedd ''Labour and Love'' (1913), gan Percy Fletcher, arweinydd theatr gerdd yn Llundain.
 
Yn yr 20g. ac wedi hynny bu  bandiau pres  yn flaenllaw ym myd cerddoriaeth amatur yng Nghymru, a chynhelir cystadlaethau bandiau pres yn yr [[Eisteddfod]] Genedlaethol ar un diwrnod penodol. Y band pres mwyaf cyson lwyddiannus yn y cyfnod modern, mewn cystadlaethau yng Nghymru, Prydain ac Ewrop, yw Band y Cory, Pentre, y Rhondda; ymhlith y bandiau eraill y mae’r Park & Dare (Treorci), Tredegar a Point of Ayre. Bu bandiau ieuenctid hefyd yn amlwg yng Nghymru: band ysgolion Treorci oedd y cyntaf i gystadlu yn rownd derfynol yr adran uchaf o’r bencampwriaeth genedlaethol.
+
Yn yr 20g. ac wedi hynny bu  bandiau pres  yn flaenllaw ym myd cerddoriaeth amatur yng Nghymru, a chynhelir cystadlaethau bandiau pres yn yr [[Eisteddfod, Cerddoriaeth a'r | Eisteddfod]] Genedlaethol ar un diwrnod penodol. Y band pres mwyaf cyson lwyddiannus yn y cyfnod modern, mewn cystadlaethau yng Nghymru, Prydain ac Ewrop, yw Band y Cory, Pentre, y Rhondda; ymhlith y bandiau eraill y mae’r Park & Dare (Treorci), Tredegar a Point of Ayre. Bu bandiau ieuenctid hefyd yn amlwg yng Nghymru: band ysgolion Treorci oedd y cyntaf i gystadlu yn rownd derfynol yr adran uchaf o’r bencampwriaeth genedlaethol.
  
Bandiau pres i raddau helaeth sydd wedi cyflenwi chwaraewyr offerynnau pres proffesiynol i gerddorfeydd Llundain a mannau eraill, a bu chwaraewyr o Gymru yn arbennig o flaenllaw. Er hynny, nid yw’r pontio rhwng chwarae mewn band ac mewn cerddorfa mor syml â hynny. Ar wahân i’r gwahaniaethau yn yr offeryniaeth (ni cheir trwmpedi a chyrn Ffrengig mewn band pres), mae’r arddulliau perfformio’n gwbl wahanol.
 
Y diwygiad cyfredol, am 15:24, 28 Mai 2021

Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.

Ensemble offerynnol o offerynnau chwyth pres yn unig neu’n bennaf yw band pres. Mewn cyd- destunau ac mewn gwledydd eraill defnyddir y term yn llac, ond yng Nghymru ac yng ngweddill Prydain mae’n cyfeirio at gyfuniad penodol o offerynnau ac mae ei repertoire yn genre diffiniedig. Gweithgaredd amatur ydyw yn ei hanfod, ond mae’r safonau a gyrhaeddir gan y bandiau pres gorau yn eithriadol o uchel.

Datblygodd bandiau pres ddiwedd yr 1840au fel ffurf ddosbarth gweithiol ar gerddoriaeth. Fe’u disgrifiwyd fel ffenomen drefol yn bennaf, ac i raddau mae hynny’n wir, ond mae digon o dystiolaeth eu bod i’w cael mewn cymunedau gwledig, neu o leiaf mewn aneddiadau (fel trefi marchnad) a fu’n ganolfannau i gymunedau gwledig mwy gwasgaredig. Ffurfiwyd y rhan fwyaf o fandiau pres mewn perthynas â menter gymunedol, grefyddol neu ddiwydiannol. Dyna pam y mae’r rhan fwyaf ohonynt yn dwyn enw ffatri, pwll glo, eglwys, capel neu fudiad dirwest.

Daeth bandiau pres i fod am nifer o resymau cysylltiedig. Y pwysicaf oedd gwelliannau i fecanwaith falfiau offerynnau, a dulliau o weithgynhyrchu a dosbarthu. Dyfeisiwyd offerynnau falf yn wreiddiol yn ystod ail ddegawd y 19g. ac mae tystiolaeth iddynt gael eu defnyddio yn yr 1830au, ond ni ddechreuodd chwarae mewn bandiau pres fod yn weithgaredd torfol tan ddiwedd yr 1840au. Un o’r bandiau cynnar mwyaf arwyddocaol oedd Band Cyfarthfa ym Merthyr Tudful, a ddefnyddiai offerynnau falf a’r mathau hŷn o offerynnau bysellog. Fe’i ffurfiwyd fel band preifat Robert Crawshay, perchennog Gwaith Haearn Cyfarthfa. Roedd hwn yn fand eithriadol, ac mae ei daflenni erwydd o gerddoriaeth mewn llawysgrifen ymysg y casgliadau pwysicaf o’u math yn unrhyw ran o’r byd.

Yng nghanol y ganrif llwyddodd dylunwyr (yn enwedig Adolphe Sax, y dylunydd Belgaidd) i wella gweithrediad offerynnau pres a dyfeisio prosesau gweithgynhyrchu a baratodd y ffordd ar gyfer masgynhyrchu offerynnau pres. Dyfeisiodd y diwydiant manwerthu gynlluniau busnes newydd i’w marchnata. Y ddwy elfen newydd oedd gwerthu setiau o offerynnau a oedd yn caniatáu i grwpiau o ddynion nad oeddynt wedi canu offerynnau o’r blaen sefydlu bandiau yn ddiymdroi, a chyflwyno cynlluniau gohirio taliadau a oedd yn eu galluogi i gael yr offerynnau hynny cyn talu amdanynt. Roedd y trefniadau ariannol yn syml: byddai pobl bwysig neu gyflogwyr lleol yn gwarantu’r benthyciad, a châi arian ei godi i’w ad-dalu drwy gyfrwng cyngherddau cyhoeddus a gweithgareddau entrepreneuraidd bychain eraill. Digon rhwydd oedd cael hyd i warantwyr gan fod cerddoriaeth yn cael ei hystyried yn gyffredinol yn ‘weithgaredd hamdden rhesymol’: gweithgaredd a oedd yn cyd-fynd â chred oes Victoria y dylai amser hamdden gweithwyr gael ei neilltuo i weithgareddau moesol dderbyniol a llesol a oedd yn meithrin cymeriad.

Roedd bandiau’r 19g. yn cynnwys gwahanol gyfuniadau o offerynnau (yn aml byddent yn cynnwys clarinetau). Roedd arweinyddion bandiau (a elwid hefyd yn ‘athrawon bandiau’) yn gerddorion llythrennog lleol fel organyddion neu athrawon cerddoriaeth, neu’n fwy aml yn ddynion a oedd wedi eu hyfforddi mewn bandiau militaraidd o wahanol fathau. Erbyn dechrau’r 20g. roedd yr offeryniaeth wedi’i safoni o ganlyniad i lwyddiant cyflwyno cystadlaethau bandiau pres a’r angen yn sgil hynny i gyhoeddi cerddoriaeth a fyddai’n caniatáu i fandiau gystadlu ar seiliau cyfartal.

Dyma fu offeryniaeth safonol y band pres cystadleuol ers blynyddoedd cynnar yr 20g.: Cornet soprano ym meddalnod E; 4 cornet unawd ym meddalnod B; 2 ail gornet ym meddalnod B; 2 drydydd cornet ym meddalnod B; Cornet repiano ym meddalnod B; Corn flugel ym meddalnod B; 3 chorn tenor ym meddalnod E; 2 drombôn tenor; Trombôn bas; 2 fariton ym meddalnod B; 2 ewffoniwm ym meddalnod B; 2 fas dwbl ym meddalnod E; 2 fas dwbl ym meddalnod B; Offerynnau taro (ni chafodd chwaraewyr offerynnau taro eu cynnwys am gyfnod hir yng nghanol yr 20g.)

O 1913 cyhoeddwyd ‘darnau prawf’ (a gafodd yr enw hwnnw oherwydd y defnydd ohonynt mewn cystadlaethau) wedi eu cyfansoddi’n benodol ar gyfer bandiau pres, ond parhaodd yr arfer cynharach o drefnu gweithiau a fodolai eisoes, fel cerddoriaeth ddawns a cherddoriaeth yn deillio o operâu. Y gwaith gwreiddiol cyntaf ar gyfer band pres (yn hytrach na threfniant o waith a fodolai eisoes) oedd Labour and Love (1913), gan Percy Fletcher, arweinydd theatr gerdd yn Llundain.

Yn yr 20g. ac wedi hynny bu bandiau pres yn flaenllaw ym myd cerddoriaeth amatur yng Nghymru, a chynhelir cystadlaethau bandiau pres yn yr Eisteddfod Genedlaethol ar un diwrnod penodol. Y band pres mwyaf cyson lwyddiannus yn y cyfnod modern, mewn cystadlaethau yng Nghymru, Prydain ac Ewrop, yw Band y Cory, Pentre, y Rhondda; ymhlith y bandiau eraill y mae’r Park & Dare (Treorci), Tredegar a Point of Ayre. Bu bandiau ieuenctid hefyd yn amlwg yng Nghymru: band ysgolion Treorci oedd y cyntaf i gystadlu yn rownd derfynol yr adran uchaf o’r bencampwriaeth genedlaethol.

Bandiau pres i raddau helaeth sydd wedi cyflenwi chwaraewyr offerynnau pres proffesiynol i gerddorfeydd Llundain a mannau eraill, a bu chwaraewyr o Gymru yn arbennig o flaenllaw. Er hynny, nid yw’r pontio rhwng chwarae mewn band ac mewn cerddorfa mor syml â hynny. Ar wahân i’r gwahaniaethau yn yr offeryniaeth (ni cheir trwmpedi a chyrn Ffrengig mewn band pres), mae’r arddulliau perfformio’n gwbl wahanol.

Bu arddull y band pres yn nodwedd barhaus mewn cerddoriaeth Brydeinig a Chymreig ers y 19g. Ym mhedwar degawd olaf yr 20g. bu rhai datblygiadau amlwg: datblygiad repertoire penodol sy’n ehangu’r arddull drwy iaith gerddorol fwy radicalaidd a mabwysiadu technegau chwarae wedi’u hysbrydoli gan yr avant-garde; a chynnwys merched mewn maes a fu’n un cwbl wrywaidd am y rhan helaethaf o ganrif (erbyn hyn mae rhai o’r chwaraewyr offerynnau pres amatur a phroffesiynol gorau yn ferched). Efallai mai datblygiad pwysicaf ail hanner yr 20g. oedd symud bandiau pres yn eu crynswth i’r traw A=440 safonol, o’r traw uwch a fu’n A=452.5 am dros gan mlynedd. Digwyddodd y newid yn niwedd yr 1960au pan gafodd cwmni cynhyrchu offerynnau Byddin yr Iachawdwriaeth ei ddirwyn i ben.

Mae bandiau pres Byddin yr Iachawdwriaeth wedi ffynnu er yr 1870au, ond deuant o draddodiad hollol wahanol i fandiau pres eraill. Cyflwynwyd y bandiau cyntaf i genhadaeth Byddin yr Iachawdwriaeth fel ffordd o ddenu sylw mewn cyfarfodydd crefyddol awyr agored. Un o’r bandiau cynharaf o’r math hwn oedd yr un a sefydlwyd ym Merthyr Tudful, ac wedi hynny lledaenodd bandiau tebyg bron ar unwaith ledled Cymru. Er mai’r un oedd yr offerynnau ag mewn bandiau eraill, byrfyfyr oedd yr offeryniaeth. At hynny, nid yw bandiau’r Fyddin yn cystadlu: cyhoeddodd eu sylfaenydd mai eu hunig ddiben oedd pwysleisio a phoblogeiddio’r genhadaeth greiddiol, sef iachawdwriaeth. I sicrhau purdeb y diben hwnnw, bu rhaniad clir rhwng bandiau’r Fyddin a bandiau eraill hyd yr 1970au.

Trevor Herbert

Llyfryddiaeth

  • Trevor Herbert, The British Brass Band: a Musical and Social History (Rhydychen, 2000)

Comisiynwyd y cofnod hwn ar gyfer Y Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol a fydd yn cael ei chyhoeddi gan Y Lolfa yn 2018. Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.