Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Powell, George (o Nanteos)(1842-82)"
CadiW (Sgwrs | cyfraniadau) |
CadiW (Sgwrs | cyfraniadau) |
||
Llinell 8: | Llinell 8: | ||
Credai Powell mai uchafbwynt ei fywyd byr oedd ei ymwneud clos â pherfformiad cyntaf ''Der Ring des Nibelungen'' Wagner yn Bayreuth yn 1876. Yn ystod y paratoadau maith ar gyfer y fenter chwyldroadol hon, roedd Powell yn un o bianyddion ymarfer Wagner. Ysgrifennodd adroddiadau brwdfrydig am y perfformiadau cyntaf, a ymddangosodd yn y wasg Saesneg, ac anfonodd gyfres o lythyrau at Swinburne yn sôn yn llawn cynnwrf am ei ymweliadau â thŷ Wagner a’i sgyrsiau â’r cyfansoddwr. Bu llawer o ddyfalu ynghylch y cysylltiad posibl rhwng y ffaith mai Powell oedd perchennog ‘Cwpan Nanteos’ (yr honnir mai ef oedd cwpan y Swper Olaf) ac opera olaf Wagner, ''Parsifal'', y seiliwyd ei [[libreto]] ar yr ymchwil am y Seint Greal. | Credai Powell mai uchafbwynt ei fywyd byr oedd ei ymwneud clos â pherfformiad cyntaf ''Der Ring des Nibelungen'' Wagner yn Bayreuth yn 1876. Yn ystod y paratoadau maith ar gyfer y fenter chwyldroadol hon, roedd Powell yn un o bianyddion ymarfer Wagner. Ysgrifennodd adroddiadau brwdfrydig am y perfformiadau cyntaf, a ymddangosodd yn y wasg Saesneg, ac anfonodd gyfres o lythyrau at Swinburne yn sôn yn llawn cynnwrf am ei ymweliadau â thŷ Wagner a’i sgyrsiau â’r cyfansoddwr. Bu llawer o ddyfalu ynghylch y cysylltiad posibl rhwng y ffaith mai Powell oedd perchennog ‘Cwpan Nanteos’ (yr honnir mai ef oedd cwpan y Swper Olaf) ac opera olaf Wagner, ''Parsifal'', y seiliwyd ei [[libreto]] ar yr ymchwil am y Seint Greal. | ||
− | Gadawodd Powell ei gasgliad helaeth o lyfrau, paentiadau a sbesimenau gwyddonol i [[archif]] Llyfrgell [[Prifysgol]] Aberystwyth. Rhoddwyd rhan o’i gasgliad i’r Llyfrgell yn 1872, cyn ei farwolaeth annhymig. Mae ei lyfr lloffion personol a 5 darlun o Wagner (sydd bellach wedi’u colli), y manion i gofio’i ymweliad â Bayreuth (1876) a chyfres o lythyrau gan gerddorion enwog, gan gynnwys 16 a ysgrifennwyd gan Mendelssohn, yn rhoi sawl cipolwg inni ar ei fywyd cerddorol cofiadwy. Efallai mai ei rodd bennaf i’r Brifysgol oedd rhyw 26 o lawysgrifau cerddoriaeth, rhai yn llawysgrifen y cyfansoddwyr, a gasglodd yn Llundain neu yn ystod ei deithiau tramor. | + | Gadawodd Powell ei gasgliad helaeth o lyfrau, paentiadau a sbesimenau gwyddonol i [[Archifau | archif]] Llyfrgell [[Prifysgolion a Cherddoriaeth yng Nghymru | Prifysgol]] Aberystwyth. Rhoddwyd rhan o’i gasgliad i’r Llyfrgell yn 1872, cyn ei farwolaeth annhymig. Mae ei lyfr lloffion personol a 5 darlun o Wagner (sydd bellach wedi’u colli), y manion i gofio’i ymweliad â Bayreuth (1876) a chyfres o lythyrau gan gerddorion enwog, gan gynnwys 16 a ysgrifennwyd gan Mendelssohn, yn rhoi sawl cipolwg inni ar ei fywyd cerddorol cofiadwy. Efallai mai ei rodd bennaf i’r Brifysgol oedd rhyw 26 o lawysgrifau cerddoriaeth, rhai yn llawysgrifen y cyfansoddwyr, a gasglodd yn Llundain neu yn ystod ei deithiau tramor. |
− | Mae’r casgliad yn un amrywiol, yn cynnwys cerddoriaeth eglwysig a siambr, [[opera]], [[oratorio]], bale, a cherddoriaeth gerddorfaol o’r 17g. i’r 19g. Mae’r [[llawysgrifau]]’n cynnwys cerddoriaeth gan Benevoli, Blow, Bononcini, Corelli, Alessandro Scarlatti, Albinoni, Croft, D’Astorga, Handel, Porpora, Leo, Hasse, Boyce, Glück, Puglielmi, Sarti, Martini, Salieri, Paisiello, Salomon, Portogallo, Tomaschek, Neukomm, Mendelssohn ac Ouseley. Cedwir llythyrau eraill o’i eiddo, a | + | Mae’r casgliad yn un amrywiol, yn cynnwys cerddoriaeth eglwysig a siambr, [[opera]], [[Oratorio, Yr | oratorio]], bale, a cherddoriaeth gerddorfaol o’r 17g. i’r 19g. Mae’r [[Amgueddfeydd a Llyfrgelloedd | llawysgrifau]]’n cynnwys cerddoriaeth gan Benevoli, Blow, Bononcini, Corelli, Alessandro Scarlatti, Albinoni, Croft, D’Astorga, Handel, Porpora, Leo, Hasse, Boyce, Glück, Puglielmi, Sarti, Martini, Salieri, Paisiello, Salomon, Portogallo, Tomaschek, Neukomm, Mendelssohn ac Ouseley. Cedwir llythyrau eraill o’i eiddo, a llawysgrif o gerddoriaeth eglwysig gan Bononcini, yn [[Amgueddfeydd a Llyfrgelloedd | Llyfrgell Genedlaethol Cymru]]. Cedwir llawysgrif un o [[Cantata | gantatas]] Handel, ''Languia di bocca lusinghiera'', a fu unwaith yn eiddo i Powell, yn Llyfrgell Gyhoeddus Efrog Newydd. |
'''David Evans''' | '''David Evans''' |
Y diwygiad cyfredol, am 17:43, 7 Awst 2021
Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.
George Powell oedd unig fab y Cyrnol W. T. R. Powell, ysgwier Nanteos, ger Aberystwyth. Astudiodd yn Eton ac aeth i Goleg Brasenose, Rhydychen, yn 1860, lle’r oedd ei ddiddordebau’n rhai amrywiol iawn; dangosodd yn arbennig gryn allu mewn llenyddiaeth Saesneg, Hen Islandeg a cherddoriaeth. Cynhyrchodd Powell dair cyfrol o farddoniaeth Saesneg a dwy gyfrol o gyfieithiadau o sagâu Islandeg rhwng 1861 ac 1866. Daeth hefyd yn gyfaill agos i’r bardd Swinburne, yr oedd yn edmygu ei gerddi synhwyrus yn fawr.
Mae’r dystiolaeth ddogfennol gynharaf o’i weithgareddau cerddorol yn dyddio o 1865. Roedd Powell yn bianydd o allu gwell na’r cyffredin a roddai ddatganiadau cyhoeddus yn gyson, gan gynnwys yn aml yn ei raglenni gerddoriaeth gan gyfansoddwyr fel Robert Schumann. Cadwai dŷ yn Llundain gan feithrin cylch eang o gyfeillion cerddorol dylanwadol gartref a thramor, yn eu plith Richard Wagner, Clara Schumann, Syr John Stainer, S. S. Wesley a Syr Frederick Gore Ouseley. Dengys llythyrau gan ei gyfeillion cerddorol proffesiynol ei fod yn fwy na diletant, ac y gallai drafod materion cerddorol technegol ar yr un lefel â hwy.
Credai Powell mai uchafbwynt ei fywyd byr oedd ei ymwneud clos â pherfformiad cyntaf Der Ring des Nibelungen Wagner yn Bayreuth yn 1876. Yn ystod y paratoadau maith ar gyfer y fenter chwyldroadol hon, roedd Powell yn un o bianyddion ymarfer Wagner. Ysgrifennodd adroddiadau brwdfrydig am y perfformiadau cyntaf, a ymddangosodd yn y wasg Saesneg, ac anfonodd gyfres o lythyrau at Swinburne yn sôn yn llawn cynnwrf am ei ymweliadau â thŷ Wagner a’i sgyrsiau â’r cyfansoddwr. Bu llawer o ddyfalu ynghylch y cysylltiad posibl rhwng y ffaith mai Powell oedd perchennog ‘Cwpan Nanteos’ (yr honnir mai ef oedd cwpan y Swper Olaf) ac opera olaf Wagner, Parsifal, y seiliwyd ei libreto ar yr ymchwil am y Seint Greal.
Gadawodd Powell ei gasgliad helaeth o lyfrau, paentiadau a sbesimenau gwyddonol i archif Llyfrgell Prifysgol Aberystwyth. Rhoddwyd rhan o’i gasgliad i’r Llyfrgell yn 1872, cyn ei farwolaeth annhymig. Mae ei lyfr lloffion personol a 5 darlun o Wagner (sydd bellach wedi’u colli), y manion i gofio’i ymweliad â Bayreuth (1876) a chyfres o lythyrau gan gerddorion enwog, gan gynnwys 16 a ysgrifennwyd gan Mendelssohn, yn rhoi sawl cipolwg inni ar ei fywyd cerddorol cofiadwy. Efallai mai ei rodd bennaf i’r Brifysgol oedd rhyw 26 o lawysgrifau cerddoriaeth, rhai yn llawysgrifen y cyfansoddwyr, a gasglodd yn Llundain neu yn ystod ei deithiau tramor.
Mae’r casgliad yn un amrywiol, yn cynnwys cerddoriaeth eglwysig a siambr, opera, oratorio, bale, a cherddoriaeth gerddorfaol o’r 17g. i’r 19g. Mae’r llawysgrifau’n cynnwys cerddoriaeth gan Benevoli, Blow, Bononcini, Corelli, Alessandro Scarlatti, Albinoni, Croft, D’Astorga, Handel, Porpora, Leo, Hasse, Boyce, Glück, Puglielmi, Sarti, Martini, Salieri, Paisiello, Salomon, Portogallo, Tomaschek, Neukomm, Mendelssohn ac Ouseley. Cedwir llythyrau eraill o’i eiddo, a llawysgrif o gerddoriaeth eglwysig gan Bononcini, yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Cedwir llawysgrif un o gantatas Handel, Languia di bocca lusinghiera, a fu unwaith yn eiddo i Powell, yn Llyfrgell Gyhoeddus Efrog Newydd.
David Evans
Llyfryddiaeth
- David R. A. Evans, ‘George Powell: “An enthusiast for the highest order of music”’, Welsh Music/Cerddoriaeth Cymru, 7/1 (1982), 41–48
- ———, ‘Wagner a Nanteos’, Taliesin, 62 (1988)
- ———, ‘The Powell Collection of Music Manuscripts’, Current Musicology, 52 (1993), 64–74
- David R. A. Evans, Larry Todd a Judith Olson, ‘A Welsh Collection of Mendelssohniana: Letters at Aberystwyth’, Current Musicology, 65 (2001) 116–140
- Gerald Morgan (gol.), Nanteos: A Welsh House and its Families (Llandysul, 2001)
- Comisiynwyd y cofnod hwn ar gyfer Y Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol a fydd yn cael ei chyhoeddi gan Y Lolfa yn 2018. Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.