Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Williams, Grace (1906-77)"

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio
Llinell 1: Llinell 1:
 
+
__NOAUTOLINKS__
 
'''Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn [https://www.ylolfa.com/cynnyrch/9781784616250/cydymaith-i-gerddoriaeth-cymru''Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru''], cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.'''
 
Fe’i ganed i rieni Cymraeg eu hiaith ym mis Chwefror 1906, a bu gweithgareddau ei thad, W. M. (William Matthew) Williams, yn ddylanwad mawr iawn ar ei phlentyndod cerddorol: roedd yn gasglwr recordiau brwd, yn bianydd yn y triawd teuluol ac yn [[arweinydd]] y Romilly Boys Choir byd-enwog. Yn 1920 roedd W. M. Williams yn allweddol yn y gwaith o drefnu digwyddiad tra phwysig a llwyddiannus, sef yr [[Eisteddfod]] Genedlaethol a ymwelodd â’r Barri y flwyddyn honno (Allsobrook 1992). Mae [[Heward Rees]] (1977) wedi honni i W. M. Williams ddod â Cherddorfa Symffoni Llundain i’r Barri i berfformio cyfres Stravinsky o ''Yr Aderyn Tân'' yn groes i ddymuniadau [[Walford Davies]]: os gwir hynny, rhaid bod ei ymroddiad i gerddoriaeth gyfoes yn allweddol i ddatblygiad cerddorol ei ferch.
 
Dechreuodd Grace Williams gyfansoddi a hithau’n dal yn yr ysgol, a diau iddi deimlo bod yr amgylchedd cerddorol yno’n llawer mwy creadigol na’r hyn a brofodd wedi iddi symud i Goleg Prifysgol De Cymru a Mynwy ([[Prifysgol]] [[Caerdydd]] bellach) yn 1923. Er bod y Coleg cyn hynny wedi cynhyrchu doniau mor nodedig â [[Morfydd Owen]], roedd y cwricwlwm yn hynod geidwadol o dan oruchwyliaeth yr Athro David Evans, yr honnir iddo’i rhybuddio rhag ysgrifennu ‘unrhyw beth y tu hwnt i 13eg y llywydd’: ‘Fy ngeneth annwyl, phasiwch chi fyth mo’ch arholiad os ysgrifennwch chi gordiau fel yna’ (dyfynnwyd mewn [[llythyr]] gan Grace Williams at [[Daniel Jones]], 1940). Ac ystyried hynny, nid oes fawr ryfedd mai ychydig iawn o gerddoriaeth Grace Williams o’r cyfnod a oroesodd, na bod ei hatgofion am astudiaethau ôl-radd yn y Coleg Cerdd Brenhinol mor gyfan gwbl wahanol.
+
Dechreuodd Grace Williams gyfansoddi a hithau’n dal yn yr ysgol, a diau iddi deimlo bod yr amgylchedd cerddorol yno’n llawer mwy creadigol na’r hyn a brofodd wedi iddi symud i Goleg Prifysgol De Cymru a Mynwy ([[Prifysgol]] Caerdydd bellach) yn 1923. Er bod y Coleg cyn hynny wedi cynhyrchu doniau mor nodedig â [[Morfydd Owen]], roedd y cwricwlwm yn hynod geidwadol o dan oruchwyliaeth yr Athro David Evans, yr honnir iddo’i rhybuddio rhag ysgrifennu ‘unrhyw beth y tu hwnt i 13eg y llywydd’: ‘Fy ngeneth annwyl, phasiwch chi fyth mo’ch arholiad os ysgrifennwch chi gordiau fel yna’ (dyfynnwyd mewn llythyr gan Grace Williams at [[Daniel Jones]], 1940). Ac ystyried hynny, nid oes fawr ryfedd mai ychydig iawn o gerddoriaeth Grace Williams o’r cyfnod a oroesodd, na bod ei hatgofion am astudiaethau ôl-radd yn y Coleg Cerdd Brenhinol mor gyfan gwbl wahanol.
  
Wedi cyrraedd Llundain yn 1926 cafodd gysur yn hyfforddiant Ralph Vaughan Williams ac yng nghwmni cylch o gyd-fyfyrwyr a oedd yn cynnwys Elizabeth Maconchy a Dorothy Gow, y daeth y ddwy ohonynt yn gyfeillion oes iddi. Mae ei Sonata i’r [[Ffidil]], ei Sonatina i’r Ffliwt a’i Chwechawd o’r cyfnod hwn yn ymdrechu i gyfuno dylanwadau ei hathrawon Prydeinig â dylanwadau Egon Wellesz, y treuliodd gyfnod yn astudio wrth ei draed yn Fienna yn 1930-31.
 
Os mai cosmopolitaidd oedd diddordebau Grace Williams yn aml cyn yr Ail Ryfel Byd, mae cysylltiad annatod â Chymru yn llawer o’i gweithiau a gyfansoddwyd yn niwedd yr 1930au a dechrau’r 1940au. Yr enwocaf o’r rhain, yn sicr, yw’r ''Fantasia on Welsh Nursery Tunes:'' mae gweithiau eraill cerddorfaol sy’n fwy uchelgeisiol yn cynnwys y lled-symffonig ''Four Illustrations for the Legend of Rhiannon'' a ''Symphonic Impressions''. Yn 1947 gorfodwyd Grace Williams gan afiechyd i ddychwelyd i dde Cymru, ac yn y Barri y bu fyw weddill ei hoes. Gan nad oedd ganddi waith amser llawn, trodd am fywoliaeth at ysgrifennu sgriptiau a threfnu [[alawon gwerin]] ar gyfer darllediadau plant i’r BBC, ond cyfansoddodd gerddoriaeth hefyd ar gyfer y sinema; hi oedd y fenyw gyntaf o Brydain i gyfansoddi sgôr ar gyfer [[ffilm]] nodwedd lawn-hyd ''(Blue Scar,'' 1948). O ganlyniad, nid yw’n syndod mai nifer cymharol fychan a geir ganddi o weithiau creadigol pur: dim ond y Concerto i’r Ffidil (1950) a ''The Dancers'' (1951) sy’n llwyddiannau mawr amlwg, er bod caneuon fel ‘To Death’, ‘When thou dost dance’ a ‘Flight’ ynghyd â’r darn i ddau biano, ''Three Nocturnes'', hefyd yn haeddu ailystyriaeth.
+
Os mai cosmopolitaidd oedd diddordebau Grace Williams yn aml cyn yr Ail Ryfel Byd, mae cysylltiad annatod â Chymru yn llawer o’i gweithiau a gyfansoddwyd yn niwedd yr 1930au a dechrau’r 1940au. Yr enwocaf o’r rhain, yn sicr, yw’r ''Fantasia on Welsh Nursery Tunes:'' mae gweithiau eraill cerddorfaol sy’n fwy uchelgeisiol yn cynnwys y lled-symffonig ''Four Illustrations for the Legend of Rhiannon'' a ''Symphonic Impressions''. Yn 1947 gorfodwyd Grace Williams gan afiechyd i ddychwelyd i dde Cymru, ac yn y Barri y bu fyw weddill ei hoes. Gan nad oedd ganddi waith amser llawn, trodd am fywoliaeth at ysgrifennu sgriptiau a threfnu [[alawon gwerin]] ar gyfer darllediadau plant i’r BBC, ond cyfansoddodd gerddoriaeth hefyd ar gyfer y sinema; hi oedd y fenyw gyntaf o Brydain i gyfansoddi sgôr ar gyfer ffilm nodwedd lawn-hyd ''(Blue Scar,'' 1948). O ganlyniad, nid yw’n syndod mai nifer cymharol fychan a geir ganddi o weithiau creadigol pur: dim ond y Concerto i’r Ffidil (1950) a ''The Dancers'' (1951) sy’n llwyddiannau mawr amlwg, er bod caneuon fel ‘To Death’, ‘When thou dost dance’ a ‘Flight’ ynghyd â’r darn i ddau biano, ''Three Nocturnes'', hefyd yn haeddu ailystyriaeth.
  
Gweithiau Grace Williams o ganol yr 1950au ymlaen, pan oedd yn ennill digon trwy ei gwaith cyfansoddi i ganiatáu iddi ganolbwyntio arno’n gyfan gwbl, sy’n cynrychioli orau ei gwaddol parhaol fel cyfansoddwr o sylwedd a weithiai mewn cyfryngau gwreiddiol. Er mai ''Penillion'' (1955) sydd fwyaf adnabyddus, mewn gwirionedd mae ei dehongliad offerynnol o gystrawennau barddonol traddodiadol Cymraeg a rhythmau a melodïau yr iaith lafar yn amlycach a mwy bwriadus yn ''Ballads'' (1968) a ''Four Mediaeval Welsh Poems'' (1962). Yno, mae ffurfiau penillion a’r cyfuno ar ‘gainc’ a ‘datgeiniad’ yn asio â [[jazz]] a ‘chelfyddyd pop ddoe a heddiw’ (Grace Williams at Elizabeth Maconchy, 1967–8) i greu cerddoriaeth sy’n chwarae â thraddodiad mewn ffordd sy’n unigryw ymhlith cyfansoddwyr Cymru.
 
Llawer llai eglur yw ‘Cymreigrwydd’ tybiedig gweithiau diweddarach fel ''Castell Caernarfon'' (1969) a ''Missa Cambrensis'' (1971). Ymhlith ei gweithiau sylweddol eraill y mae ail symffoni (1956), [[opera]] ''(The Parlour,'' 1961), ''concerti'' ar gyfer trwmped ac obo (1963, 1965) a sgorau lleisiol fel ''The Billows of the Sea'' (cylch o ganeuon, 1969) ac ''Ave Maris Stella'' (i gôr, 1973). Pan fu farw ym mis Chwefror 1977 gadawodd osodiadau anghyflawn o ''Le Roi a fait batter tambour'' a ''Simon the High Priest''; mae [[Heward Rees]] hefyd wedi darganfod brasluniau o ganeuon cynharach. Er mai ychydig o ddisgyblion a adawodd ac na ddaeth yn enwog iawn y tu allan i Gymru, cafodd gryn ddylanwad ar y sefydliad cerddorol Cymreig (yn enwedig y BBC), ac mae’r geiriau hyn o gofiant gwreiddiol Boyd yn hynod addas: ‘Uwchlaw popeth, gadawodd lawer o weithiau tra gwreiddiol a safonol y byddai’n dda i Gymry, ac ''nid Cymry yn unig'' [ychwanegwyd y pwyslais], eu coleddu a’u perfformio’ (Boyd 1980, 10).
+
Llawer llai eglur yw ‘Cymreigrwydd’ tybiedig gweithiau diweddarach fel ''Castell Caernarfon'' (1969) a ''Missa Cambrensis'' (1971). Ymhlith ei gweithiau sylweddol eraill y mae ail symffoni (1956), [[opera]] ''(The Parlour,'' 1961), ''concerti'' ar gyfer trwmped ac obo (1963, 1965) a sgorau lleisiol fel ''The Billows of the Sea'' (cylch o ganeuon, 1969) ac ''Ave Maris Stella'' (i gôr, 1973). Pan fu farw ym mis Chwefror 1977 gadawodd osodiadau anghyflawn o ''Le Roi a fait batter tambour'' a ''Simon the High Priest''; mae Heward Rees hefyd wedi darganfod brasluniau o ganeuon cynharach. Er mai ychydig o ddisgyblion a adawodd ac na ddaeth yn enwog iawn y tu allan i Gymru, cafodd gryn ddylanwad ar y sefydliad cerddorol Cymreig (yn enwedig y BBC), ac mae’r geiriau hyn o gofiant gwreiddiol Boyd yn hynod addas: ‘Uwchlaw popeth, gadawodd lawer o weithiau tra gwreiddiol a safonol y byddai’n dda i Gymry, ac ''nid Cymry yn unig'' [ychwanegwyd y pwyslais], eu coleddu a’u perfformio’ (Boyd 1980, 10).
  
Heb amheuaeth, Grace Williams oedd un o gyfansoddwyr mwyaf blaenllaw Cymru’r 20g.. Er hynny, dim ond detholiad pur gyfyngedig o’i gwaith sy’n gyfarwydd i gerddorion ac i eraill sydd â diddordeb mewn cerddoriaeth. Mae ‘hwyl’ y ''Fantasia on Welsh Nursery Tunes'', y disgrifiad o arfordir Morgannwg yn ''Sea Sketches'' a’r ailddehongli ar hen gelfyddyd yn ''Penillion'' yn haeddiannol adnabyddus, ond dim ond yn ddiweddar iawn y cymerwyd unrhyw gamau i fynd i’r afael â’r swmp o’i gwaith sy’n gorwedd yn ddisylw yn [[Llyfrgell Genedlaethol Cymru]].
 
Llinell 22: Llinell 22:
 
==Llyfryddiaeth==
 
==Llyfryddiaeth==
  
(ceir [[llyfryddiaeth]] lawn yn Cotterill, ‘Music in the Blood’, gw. isod)
+
(ceir llyfryddiaeth lawn yn Cotterill, ‘Music in the Blood’, gw. isod)
  
*A. J. Heward Rees, ‘Obituary: Grace Mary Williams (1906–1977)’, ''Welsh Music/Cerddoriaeth Cymru'', 5/6 (1977), 80–81
 
*A. J. Heward Rees, ‘Obituary: Grace Mary Williams (1906–1977)’, ''Welsh Music/Cerddoriaeth Cymru'', 5/6 (1977), 80–81

Diwygiad 21:33, 21 Ebrill 2021

Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.

Fe’i ganed i rieni Cymraeg eu hiaith ym mis Chwefror 1906, a bu gweithgareddau ei thad, W. M. (William Matthew) Williams, yn ddylanwad mawr iawn ar ei phlentyndod cerddorol: roedd yn gasglwr recordiau brwd, yn bianydd yn y triawd teuluol ac yn arweinydd y Romilly Boys Choir byd-enwog. Yn 1920 roedd W. M. Williams yn allweddol yn y gwaith o drefnu digwyddiad tra phwysig a llwyddiannus, sef yr Eisteddfod Genedlaethol a ymwelodd â’r Barri y flwyddyn honno (Allsobrook 1992). Mae Heward Rees (1977) wedi honni i W. M. Williams ddod â Cherddorfa Symffoni Llundain i’r Barri i berfformio cyfres Stravinsky o Yr Aderyn Tân yn groes i ddymuniadau Walford Davies: os gwir hynny, rhaid bod ei ymroddiad i gerddoriaeth gyfoes yn allweddol i ddatblygiad cerddorol ei ferch.

Dechreuodd Grace Williams gyfansoddi a hithau’n dal yn yr ysgol, a diau iddi deimlo bod yr amgylchedd cerddorol yno’n llawer mwy creadigol na’r hyn a brofodd wedi iddi symud i Goleg Prifysgol De Cymru a Mynwy (Prifysgol Caerdydd bellach) yn 1923. Er bod y Coleg cyn hynny wedi cynhyrchu doniau mor nodedig â Morfydd Owen, roedd y cwricwlwm yn hynod geidwadol o dan oruchwyliaeth yr Athro David Evans, yr honnir iddo’i rhybuddio rhag ysgrifennu ‘unrhyw beth y tu hwnt i 13eg y llywydd’: ‘Fy ngeneth annwyl, phasiwch chi fyth mo’ch arholiad os ysgrifennwch chi gordiau fel yna’ (dyfynnwyd mewn llythyr gan Grace Williams at Daniel Jones, 1940). Ac ystyried hynny, nid oes fawr ryfedd mai ychydig iawn o gerddoriaeth Grace Williams o’r cyfnod a oroesodd, na bod ei hatgofion am astudiaethau ôl-radd yn y Coleg Cerdd Brenhinol mor gyfan gwbl wahanol.

Wedi cyrraedd Llundain yn 1926 cafodd gysur yn hyfforddiant Ralph Vaughan Williams ac yng nghwmni cylch o gyd-fyfyrwyr a oedd yn cynnwys Elizabeth Maconchy a Dorothy Gow, y daeth y ddwy ohonynt yn gyfeillion oes iddi. Mae ei Sonata i’r Ffidil, ei Sonatina i’r Ffliwt a’i Chwechawd o’r cyfnod hwn yn ymdrechu i gyfuno dylanwadau ei hathrawon Prydeinig â dylanwadau Egon Wellesz, y treuliodd gyfnod yn astudio wrth ei draed yn Fienna yn 1930-31.

Os mai cosmopolitaidd oedd diddordebau Grace Williams yn aml cyn yr Ail Ryfel Byd, mae cysylltiad annatod â Chymru yn llawer o’i gweithiau a gyfansoddwyd yn niwedd yr 1930au a dechrau’r 1940au. Yr enwocaf o’r rhain, yn sicr, yw’r Fantasia on Welsh Nursery Tunes: mae gweithiau eraill cerddorfaol sy’n fwy uchelgeisiol yn cynnwys y lled-symffonig Four Illustrations for the Legend of Rhiannon a Symphonic Impressions. Yn 1947 gorfodwyd Grace Williams gan afiechyd i ddychwelyd i dde Cymru, ac yn y Barri y bu fyw weddill ei hoes. Gan nad oedd ganddi waith amser llawn, trodd am fywoliaeth at ysgrifennu sgriptiau a threfnu alawon gwerin ar gyfer darllediadau plant i’r BBC, ond cyfansoddodd gerddoriaeth hefyd ar gyfer y sinema; hi oedd y fenyw gyntaf o Brydain i gyfansoddi sgôr ar gyfer ffilm nodwedd lawn-hyd (Blue Scar, 1948). O ganlyniad, nid yw’n syndod mai nifer cymharol fychan a geir ganddi o weithiau creadigol pur: dim ond y Concerto i’r Ffidil (1950) a The Dancers (1951) sy’n llwyddiannau mawr amlwg, er bod caneuon fel ‘To Death’, ‘When thou dost dance’ a ‘Flight’ ynghyd â’r darn i ddau biano, Three Nocturnes, hefyd yn haeddu ailystyriaeth.

Gweithiau Grace Williams o ganol yr 1950au ymlaen, pan oedd yn ennill digon trwy ei gwaith cyfansoddi i ganiatáu iddi ganolbwyntio arno’n gyfan gwbl, sy’n cynrychioli orau ei gwaddol parhaol fel cyfansoddwr o sylwedd a weithiai mewn cyfryngau gwreiddiol. Er mai Penillion (1955) sydd fwyaf adnabyddus, mewn gwirionedd mae ei dehongliad offerynnol o gystrawennau barddonol traddodiadol Cymraeg a rhythmau a melodïau yr iaith lafar yn amlycach a mwy bwriadus yn Ballads (1968) a Four Mediaeval Welsh Poems (1962). Yno, mae ffurfiau penillion a’r cyfuno ar ‘gainc’ a ‘datgeiniad’ yn asio â jazz a ‘chelfyddyd pop ddoe a heddiw’ (Grace Williams at Elizabeth Maconchy, 1967–8) i greu cerddoriaeth sy’n chwarae â thraddodiad mewn ffordd sy’n unigryw ymhlith cyfansoddwyr Cymru.

Llawer llai eglur yw ‘Cymreigrwydd’ tybiedig gweithiau diweddarach fel Castell Caernarfon (1969) a Missa Cambrensis (1971). Ymhlith ei gweithiau sylweddol eraill y mae ail symffoni (1956), opera (The Parlour, 1961), concerti ar gyfer trwmped ac obo (1963, 1965) a sgorau lleisiol fel The Billows of the Sea (cylch o ganeuon, 1969) ac Ave Maris Stella (i gôr, 1973). Pan fu farw ym mis Chwefror 1977 gadawodd osodiadau anghyflawn o Le Roi a fait batter tambour a Simon the High Priest; mae Heward Rees hefyd wedi darganfod brasluniau o ganeuon cynharach. Er mai ychydig o ddisgyblion a adawodd ac na ddaeth yn enwog iawn y tu allan i Gymru, cafodd gryn ddylanwad ar y sefydliad cerddorol Cymreig (yn enwedig y BBC), ac mae’r geiriau hyn o gofiant gwreiddiol Boyd yn hynod addas: ‘Uwchlaw popeth, gadawodd lawer o weithiau tra gwreiddiol a safonol y byddai’n dda i Gymry, ac nid Cymry yn unig [ychwanegwyd y pwyslais], eu coleddu a’u perfformio’ (Boyd 1980, 10).

Heb amheuaeth, Grace Williams oedd un o gyfansoddwyr mwyaf blaenllaw Cymru’r 20g.. Er hynny, dim ond detholiad pur gyfyngedig o’i gwaith sy’n gyfarwydd i gerddorion ac i eraill sydd â diddordeb mewn cerddoriaeth. Mae ‘hwyl’ y Fantasia on Welsh Nursery Tunes, y disgrifiad o arfordir Morgannwg yn Sea Sketches a’r ailddehongli ar hen gelfyddyd yn Penillion yn haeddiannol adnabyddus, ond dim ond yn ddiweddar iawn y cymerwyd unrhyw gamau i fynd i’r afael â’r swmp o’i gwaith sy’n gorwedd yn ddisylw yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Mae llawer o’i chynnyrch sylweddol yn dal i aros am sylw difrif. Yn ddiweddar, bu’r ysgolhaig Dr Rhiannon Mathias yn paratoi cofiant amdani. Fe fydd yn sicr o ychwanegu at gyhoeddiad Malcolm Boyd ddeng mlynedd ar hugain yn ôl. Hyd nes y cyhoeddir llyfr Rhiannon, cyfeirir y darllenydd at yr erthyglau achlysurol sydd wedi ymddangos mewn cylchgronau yn y cyfamser, astudiaeth Rhiannon Mathias o Grace Williams a ymddangosodd yn Lutyens, Maconchy, Williams and Twentieth-Century British Music (2012); a thraethodau ymchwil ôl-radd anghyhoeddedig awdur yr erthygl hon (2007, 2012).

Graeme Cotterill

Llyfryddiaeth

(ceir llyfryddiaeth lawn yn Cotterill, ‘Music in the Blood’, gw. isod)

  • A. J. Heward Rees, ‘Obituary: Grace Mary Williams (1906–1977)’, Welsh Music/Cerddoriaeth Cymru, 5/6 (1977), 80–81
  • Malcolm Boyd, Grace Williams (Caerdydd, 1980)
  • D. I. Allsobrook, Music for Wales (Caerdydd, 1992)
  • Graeme Cotterill, ‘Ambition Overshadowed: Grace Williams’s symphonies evaluated’, traethawd MPhil anghyhoeddedig ynghyd â chymar argraffiadau ysgolheigaidd, Prifysgol Cymru, Bangor, 2007
  • ———, ‘Music in the Blood & Poetry in the Soul?: National identity in the life and music of Grace Williams’ (traethawd PhD Prifysgol Bangor, 2012)
  • Rhiannon Mathias, Lutyens, Maconchy, Williams and Twentieth-Century British Music (Aldershot, 2012)

Comisiynwyd y cofnod hwn ar gyfer Y Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol a fydd yn cael ei chyhoeddi gan Y Lolfa yn 2018. Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.