Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Jones, Daniel (1912-93)"

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio
(Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda '__NOAUTOLINKS__ '''Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn [https://www.ylolfa.com/cynnyrch/9781784616250/cydymaith-i-gerddoriaeth-cymru''Cydy...')
 
Llinell 1: Llinell 1:
__NOAUTOLINKS__
+
 
'''Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn [https://www.ylolfa.com/cynnyrch/9781784616250/cydymaith-i-gerddoriaeth-cymru''Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru''], cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.'''
 
Daniel Jenkyn Jones oedd un o gyfansoddwyr amlycaf Cymru yn y cyfnod wedi’r Ail Ryfel Byd. Fe’i hystyrir hefyd yn un o gyfansoddwyr mwyaf blaenllaw Prydain y cyfnod mewn [[ffurfiau offerynnol]] megis y symffoni a’r pedwarawd llinynnol.
 
Daeth i’r amlwg yn gynnar yn ei yrfa a bu’n hynod gynhyrchiol ar hyd ei oes. Fe’i ganed yn nhref Penfro ond symudodd y teulu’n fuan wedyn i Abertawe. Cafodd ei addysgu gartref cyn mynd, yn un ar ddeg oed, i Ysgol Ramadeg Abertawe lle cyfarfu â’r bardd Dylan Thomas. Anfarwolwyd y cyfarfod cyntaf hwnnw gan y bardd yn ei stori fer ‘The Fight’, a bu’r ddau’n gyfeillion mynwesol hyd at farwolaeth Dylan Thomas yn Efrog Newydd yn 1953. Ysgrifennent gerddi ar y cyd, a Daniel Jones a gyfansoddodd y gerddoriaeth ar gyfer y perfformiad cyntaf o’r ddrama radio, ''Under Milk Wood'' (1954), cerddoriaeth a sicrhaodd iddo Wobr Italia. Yn ddiweddarach, golygodd y cerddi ''(The Poems'', 1971) ac yn 1977, cyhoeddodd ''My Friend Dylan Thomas'', cyfrol liwgar sy’n datgelu cymaint am y cerddor ag y mae am y bardd.
+
Daeth i’r amlwg yn gynnar yn ei yrfa a bu’n hynod gynhyrchiol ar hyd ei oes. Fe’i ganed yn nhref Penfro ond symudodd y teulu’n fuan wedyn i Abertawe. Cafodd ei addysgu gartref cyn mynd, yn un ar ddeg oed, i Ysgol Ramadeg Abertawe lle cyfarfu â’r bardd Dylan Thomas. Anfarwolwyd y cyfarfod cyntaf hwnnw gan y bardd yn ei [[stori]] fer ‘The Fight’, a bu’r ddau’n gyfeillion mynwesol hyd at farwolaeth Dylan Thomas yn Efrog Newydd yn 1953. Ysgrifennent gerddi ar y cyd, a Daniel Jones a gyfansoddodd y gerddoriaeth ar gyfer y perfformiad cyntaf o’r ddrama radio, ''[[Under Milk Wood]]'' (1954), cerddoriaeth a sicrhaodd iddo Wobr Italia. Yn ddiweddarach, golygodd y cerddi ''(The Poems'', 1971) ac yn 1977, cyhoeddodd ''My Friend Dylan Thomas'', cyfrol liwgar sy’n datgelu cymaint am y cerddor ag y mae am y bardd.
  
Cyfansoddodd dros 350 o ddarnau amrywiol (gweithiau siambr a phiano gan fwyaf) cyn iddo gyrraedd ei ben blwydd yn ugain oed, ac maent yn arddangos ystod eang o gyfeiriadaeth gerddorol a dylanwadau amrywiol. Diystyrodd y gweithiau hynny yn ddiweddarach (mae’r [[llawysgrifau]] ar gadw yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru): fe’i rhybuddiwyd gan [[Henry Walford Davies]] (1869–1941) am beryglon gorgynhyrchu digyfeiriad. Oherwydd pwysau o du ei rieni, astudiodd Saesneg ym Mhrifysgol Cymru Abertawe a graddiodd gydag anrhydedd dosbarth cyntaf yn 1934, gan ennill gradd MA yn 1939 am ei waith ymchwil ar gerddi cyfnod Elizabeth I. Yn dilyn hyn, astudiodd y grefft o arwain cerddorfaol yn yr Academi Gerdd Frenhinol, Llundain (1935-9), o dan gyfarwyddyd Syr Henry Wood (1869-1944), ac yn ystod ei yrfa bu’n arwain nifer o berfformiadau cyntaf o’i gyfansoddiadau ef ei hun. Enillodd Ysgoloriaeth Mendelssohn yn 1935 a’i galluogodd i deithio ledled Ewrop yn y cyfnod cyn yr Ail Ryfel Byd.
 
Llinell 11: Llinell 11:
 
weithiau siambr wedi derbyn gwrandawiad ffafriol yn Llundain. Cafodd wersi cyfansoddi gyda Goffredo Petrassi (1904-2003) yn Rhufain, a diau iddo hefyd brofi bywyd diwylliannol y gwahanol wledydd (yn ei ddyddiaduron mae’n sôn am glywed Hitler yn areithio yn Berlin ac yn rhestru’n fanwl yr holl ddarluniau a welodd mewn orielau celf). Priododd a ganed iddo ef a’i wraig gyntaf dair merch, ond fe’u hysgarwyd ar ddechrau’r rhyfel (ail-briododd flynyddoedd yn ddiweddarach a ganed iddynt ferch a bachgen mewn perthynas hir a hapus).
 
Fel Capten yng nghorfflu cudd-wybodaeth y Fyddin, bu’n gwasanaethu yn Bletchley Park, gan ddefnyddio ei allu fel ieithydd yn yr Adran Japanaeg a Rwmaneg i ddehongli negeseuon yr Almaenwyr. Dyma’r adeg y pwyllodd fel cyfansoddwr ac aeth ati i arbrofi ymhellach gyda mydr a rhythm - y ‘mydrau cymhleth’ a ddenodd gryn sylw iddo’n ddiweddarach. Ymhlith gweithiau nodedig y cyfnod hwn ceir y gyfres o ddarnau cerddorfaol sy’n seiliedig ar themâu o Geinciau’r Mabinogi.
+
Fel Capten yng nghorfflu cudd-wybodaeth y Fyddin, bu’n gwasanaethu yn Bletchley Park, gan ddefnyddio ei allu fel ieithydd yn yr Adran Japanaeg a Rwmaneg i ddehongli negeseuon yr Almaenwyr. Dyma’r adeg y pwyllodd fel cyfansoddwr ac aeth ati i arbrofi ymhellach gyda [[mydr]] a rhythm - y ‘mydrau cymhleth’ a ddenodd gryn sylw iddo’n ddiweddarach. Ymhlith gweithiau nodedig y cyfnod hwn ceir y gyfres o ddarnau cerddorfaol sy’n seiliedig ar themâu o Geinciau’r Mabinogi.
  
Yn dilyn prentisiaeth faith yng nghyfnod arbrofol yr 1930au, fe’i hail-lansiodd ei hun fel cyfansoddwr wedi diwedd y Rhyfel. Dychwelodd i Abertawe lle bu’n ennill bywoliaeth drwy weithio’n llawrydd a hynny dan amgylchiadau digon anodd. Yn ystod y cyfnod hwn, ailgydiodd yng nghyfeillgarwch y ‘Kardomah Set’ - beirdd megis Dylan Thomas a Vernon Watkins, yr arlunwyr Alfred Janes a Mervyn Levy ac eraill.
 
Mae ei arddull yn geidwadol ac o fewn terfynau tonyddol gan amlaf, gyda’r pwyslais yn aml ar y trithon yn hytrach nag ar berthynas tonydd-llywydd fel y gwelir yn arddull llawer o’i gyfoeswyr yn Ewrop. Cyfansoddwr greddfol ydoedd. Y prif ddylanwadau cerddorol arno oedd Joseph Haydn, Henry Purcell a Leos Janáček ac er mawr syndod, nid oedd ganddo lawer o ddiddordeb yng ngherddoriaeth ei gyfoeswyr. Prin yw’r dylanwadau gwerinol yn ei waith, ac eithrio ar brydiau, fel yn ei ddarn cerddorfaol ''Dobra Niva'' (1956).
+
Mae ei [[arddull]] yn geidwadol ac o fewn terfynau tonyddol gan amlaf, gyda’r pwyslais yn aml ar y trithon yn hytrach nag ar berthynas tonydd-llywydd fel y gwelir yn arddull llawer o’i gyfoeswyr yn Ewrop. Cyfansoddwr greddfol ydoedd. Y prif ddylanwadau cerddorol arno oedd Joseph Haydn, Henry Purcell a Leos Janáček ac er mawr syndod, nid oedd ganddo lawer o ddiddordeb yng ngherddoriaeth ei gyfoeswyr. Prin yw’r dylanwadau gwerinol yn ei waith, ac eithrio ar brydiau, fel yn ei ddarn cerddorfaol ''Dobra Niva'' (1956).
  
Mae ei arbrofion rhythmig yn adleisio ond nid yn efelychu tueddiadau tebyg yng ngweithiau cyfansoddwyr fel Boris Blacher, Elliott Carter a Witold Lutosławski. Roedd ei uniondeb fel cyfansoddwr yn debyg i’w gyfaill agos, [[Grace Williams]], a gwrthodai waith comisiwn os oedd hynny’n golygu y byddai’n rhaid iddo ysgrifennu’n groes i’w reddf. Gadawodd 13 symffoni, 8 pedwarawd llinynnol, dwy [[opera]] ''(The Knife ac Orestes), concerti'' ar gyfer [[ffidil]], obo a ''cello'' ynghyd â chorff sylweddol o gerddoriaeth siambr o bob math, darnau ar gyfer organ a phiano, [[cantatas]] fel ''The Country Beyond the Stars,'' Sonata i ddrymiau digyfeiliant, [[oratorio]] ''St. Peter'' a darnau cerddorfaol fel y ''Pum Darn i Gerddorfa'', ''Cloud Messenger, Agorawd Cyngerdd, Agorawd ‘Ieuenctid’, Adar Rhiannon, Agorawd Orpheus & Bacchus'' a chyfres nodedig o ''Bagatelles'' i’r piano.
 
Diwygiad 17:05, 11 Mai 2021

Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.

Daniel Jenkyn Jones oedd un o gyfansoddwyr amlycaf Cymru yn y cyfnod wedi’r Ail Ryfel Byd. Fe’i hystyrir hefyd yn un o gyfansoddwyr mwyaf blaenllaw Prydain y cyfnod mewn ffurfiau offerynnol megis y symffoni a’r pedwarawd llinynnol.

Daeth i’r amlwg yn gynnar yn ei yrfa a bu’n hynod gynhyrchiol ar hyd ei oes. Fe’i ganed yn nhref Penfro ond symudodd y teulu’n fuan wedyn i Abertawe. Cafodd ei addysgu gartref cyn mynd, yn un ar ddeg oed, i Ysgol Ramadeg Abertawe lle cyfarfu â’r bardd Dylan Thomas. Anfarwolwyd y cyfarfod cyntaf hwnnw gan y bardd yn ei stori fer ‘The Fight’, a bu’r ddau’n gyfeillion mynwesol hyd at farwolaeth Dylan Thomas yn Efrog Newydd yn 1953. Ysgrifennent gerddi ar y cyd, a Daniel Jones a gyfansoddodd y gerddoriaeth ar gyfer y perfformiad cyntaf o’r ddrama radio, Under Milk Wood (1954), cerddoriaeth a sicrhaodd iddo Wobr Italia. Yn ddiweddarach, golygodd y cerddi (The Poems, 1971) ac yn 1977, cyhoeddodd My Friend Dylan Thomas, cyfrol liwgar sy’n datgelu cymaint am y cerddor ag y mae am y bardd.

Cyfansoddodd dros 350 o ddarnau amrywiol (gweithiau siambr a phiano gan fwyaf) cyn iddo gyrraedd ei ben blwydd yn ugain oed, ac maent yn arddangos ystod eang o gyfeiriadaeth gerddorol a dylanwadau amrywiol. Diystyrodd y gweithiau hynny yn ddiweddarach (mae’r llawysgrifau ar gadw yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru): fe’i rhybuddiwyd gan Henry Walford Davies (1869–1941) am beryglon gorgynhyrchu digyfeiriad. Oherwydd pwysau o du ei rieni, astudiodd Saesneg ym Mhrifysgol Cymru Abertawe a graddiodd gydag anrhydedd dosbarth cyntaf yn 1934, gan ennill gradd MA yn 1939 am ei waith ymchwil ar gerddi cyfnod Elizabeth I. Yn dilyn hyn, astudiodd y grefft o arwain cerddorfaol yn yr Academi Gerdd Frenhinol, Llundain (1935-9), o dan gyfarwyddyd Syr Henry Wood (1869-1944), ac yn ystod ei yrfa bu’n arwain nifer o berfformiadau cyntaf o’i gyfansoddiadau ef ei hun. Enillodd Ysgoloriaeth Mendelssohn yn 1935 a’i galluogodd i deithio ledled Ewrop yn y cyfnod cyn yr Ail Ryfel Byd.

Cyn iddo fynd i’r cyfandir, roedd nifer helaeth o’i weithiau siambr wedi derbyn gwrandawiad ffafriol yn Llundain. Cafodd wersi cyfansoddi gyda Goffredo Petrassi (1904-2003) yn Rhufain, a diau iddo hefyd brofi bywyd diwylliannol y gwahanol wledydd (yn ei ddyddiaduron mae’n sôn am glywed Hitler yn areithio yn Berlin ac yn rhestru’n fanwl yr holl ddarluniau a welodd mewn orielau celf). Priododd a ganed iddo ef a’i wraig gyntaf dair merch, ond fe’u hysgarwyd ar ddechrau’r rhyfel (ail-briododd flynyddoedd yn ddiweddarach a ganed iddynt ferch a bachgen mewn perthynas hir a hapus).

Fel Capten yng nghorfflu cudd-wybodaeth y Fyddin, bu’n gwasanaethu yn Bletchley Park, gan ddefnyddio ei allu fel ieithydd yn yr Adran Japanaeg a Rwmaneg i ddehongli negeseuon yr Almaenwyr. Dyma’r adeg y pwyllodd fel cyfansoddwr ac aeth ati i arbrofi ymhellach gyda mydr a rhythm - y ‘mydrau cymhleth’ a ddenodd gryn sylw iddo’n ddiweddarach. Ymhlith gweithiau nodedig y cyfnod hwn ceir y gyfres o ddarnau cerddorfaol sy’n seiliedig ar themâu o Geinciau’r Mabinogi.

Yn dilyn prentisiaeth faith yng nghyfnod arbrofol yr 1930au, fe’i hail-lansiodd ei hun fel cyfansoddwr wedi diwedd y Rhyfel. Dychwelodd i Abertawe lle bu’n ennill bywoliaeth drwy weithio’n llawrydd a hynny dan amgylchiadau digon anodd. Yn ystod y cyfnod hwn, ailgydiodd yng nghyfeillgarwch y ‘Kardomah Set’ - beirdd megis Dylan Thomas a Vernon Watkins, yr arlunwyr Alfred Janes a Mervyn Levy ac eraill.

Mae ei arddull yn geidwadol ac o fewn terfynau tonyddol gan amlaf, gyda’r pwyslais yn aml ar y trithon yn hytrach nag ar berthynas tonydd-llywydd fel y gwelir yn arddull llawer o’i gyfoeswyr yn Ewrop. Cyfansoddwr greddfol ydoedd. Y prif ddylanwadau cerddorol arno oedd Joseph Haydn, Henry Purcell a Leos Janáček ac er mawr syndod, nid oedd ganddo lawer o ddiddordeb yng ngherddoriaeth ei gyfoeswyr. Prin yw’r dylanwadau gwerinol yn ei waith, ac eithrio ar brydiau, fel yn ei ddarn cerddorfaol Dobra Niva (1956).

Mae ei arbrofion rhythmig yn adleisio ond nid yn efelychu tueddiadau tebyg yng ngweithiau cyfansoddwyr fel Boris Blacher, Elliott Carter a Witold Lutosławski. Roedd ei uniondeb fel cyfansoddwr yn debyg i’w gyfaill agos, Grace Williams, a gwrthodai waith comisiwn os oedd hynny’n golygu y byddai’n rhaid iddo ysgrifennu’n groes i’w reddf. Gadawodd 13 symffoni, 8 pedwarawd llinynnol, dwy opera (The Knife ac Orestes), concerti ar gyfer ffidil, obo a cello ynghyd â chorff sylweddol o gerddoriaeth siambr o bob math, darnau ar gyfer organ a phiano, cantatas fel The Country Beyond the Stars, Sonata i ddrymiau digyfeiliant, oratorio St. Peter a darnau cerddorfaol fel y Pum Darn i Gerddorfa, Cloud Messenger, Agorawd Cyngerdd, Agorawd ‘Ieuenctid’, Adar Rhiannon, Agorawd Orpheus & Bacchus a chyfres nodedig o Bagatelles i’r piano.

Mae Symffonïau rhif 1–12 yn seiliedig ar bob un o’r nodau cromatig posibl (yr unig gyfansoddwr i wneud hynny) tra saif Symffoni Rhif 13, Er Cof am John Fussell ar wahân. Yn Symffonïau 1–5, mae’r raddfa’n eang a braidd yn rhamantaidd sy’n adlewyrchu’r cyfansoddwr Rhamantaidd, Anton Bruckner, yn amlwg ar brydiau yn y symudiadau araf. Yn y Scherzi y ceir y mydrau cymhleth (er enghraifft, grwpiau o 6/4+4/4+3/4+2/4 a’r naill yn dilyn y llall) ac yn yr un modd yn symudiadau cyflym nifer o’i weithiau eraill. Mae offeryniaeth y symffonïau’n sylweddol lle mae Jones yn defnyddio’r gerddorfa symffoni lawn. Yn dilyn hyn, mae Symffonïau 6–9 yn fwy cynnil mewn mynegiant ac yn arbrofi o fewn i’r strwythurau Sonata Allegro symffonig arferol. Erbyn Symffonïau 10–12, mae’r mynegiant yn fwy cynnil fyth, gyda thuedd gyffredinol i’r gweithiau hyn fod yn fyrrach.

Yn y gyfres o wyth pedwarawd llinynnol, ceir meddylfryd Daniel Jones ar ei orau. Mae hanes cyfansoddi’r wyth pedwarawd yn cwmpasu pob cyfnod o’i fywyd – yn wir, bu farw wrth ei ddesg tra’n gorffen yr olaf. Yn y cyntaf o’i bedwarawdau, fe’i gwelir yn creu cyfanwaith clos yn thematig gyda’r cymhleth yn amlwg yn y symudiadau cyflym a’r gwahanol amserau yn dilyn ei gilydd fesur wrth fesur ac yna’n ailadrodd mewn grwpiau gan greu amrywiaeth acennog. Mae’r ail a’r trydydd pedwarawd yn ffurfiol tra bod y pedwerydd yn amlygu newidiadau mawr yn naws a natur y ddadl gerddorol. Yn y pumed, mae’r awyrgylch yn ddifrifol ond mae’r chweched yn amlygu dylanwad ‘tad’ y cyfrwng, Haydn, gyda’r ail symudiad yn seiliedig ar ddwy thema gan y cyfansoddwr hwnnw. Mae dwyster mynegiant yn dychwelyd yn y seithfed pedwarawd. Yn yr olaf o’r gyfres, crynhoir llawer o’i ddiddordebau cerddorol (cwblhawyd y gwaith gan Giles Easterbrook a Malcolm Binney).

Roedd Daniel Jones hefyd yn barod i ysgrifennu ar gyfer amaturiaid. Mae ei gantata The Country Beyond the Stars (1958) yn osodiad hynod effeithiol o gerddi Henry Vaughan. Mae agoriad y gwaith yn gwbl gydnaws â’r geiriau. Cyfansoddwyd y gantata gydag adnoddau lleisiol corau de Cymru mewn golwg.

Enillodd Jones wobr gyntaf y Gymdeithas Frenhinol Ffilharmonig yn 1950 a Gwobr Goffa John Edwards Cymdeithas Cerddoriaeth Cymru. Enillodd radd DMus Prifysgol Cymru ynghyd â gradd DLitt er anrhydedd; gwnaethpwyd ef yn FRSL a derbyniodd yr OBE yn 1968. Bu’n cyfansoddi ar gyfer cerddorfeydd o’r tu hwnt i Gymru a manteisiodd yn ogystal ar y fframwaith proffesiynol a ddatblygodd yn raddol yng Nghymru wedi 1945. Roedd ei gyfraniad unigryw yn rhan o’r deffro cyffredinol ar adeg allweddol. Yn y cyfnod diweddaraf, lle daeth tonyddiaeth eto’n ffasiynol, hwyrach y bydd ei lais yn denu’r sylw a’r parch y mae ei grefft a’i reddf gerddorol yn eu haeddu.

Lyn Davies

Disgyddiaeth

  • Symphony No. 6, Symphony No. 9, The Country Beyond the Stars (Lyrita SRCD326, 1996)
  • Complete String Quartets [Delmé String Quartet] (Chandos Chan9535(2), 1996)
  • Symphonies Nos. 4, 7 & 8 (Lyrita SRCD329, 2007)

Llyfryddiaeth

  • Daniel Jones, ‘Some Metrical Experiments’, The Score, 3 (1950), 32–48
  • ———, ‘Music In Wales’ (Darlith Flynyddol y BBC yng Nghymru, 1961)
  • ———, My Friend Dylan Thomas (Llundain, 1977)
  • Lyn Davies, nodiadau ar gyfer recordiau Lyrita SRCD326 a Lyrita SRCD329

Comisiynwyd y cofnod hwn ar gyfer Y Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol a fydd yn cael ei chyhoeddi gan Y Lolfa yn 2018. Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.