Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Hoddinott, Alun (1929-2008)"

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio
Llinell 1: Llinell 1:
 
+
__NOAUTOLINKS__
 
'''Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn [https://www.ylolfa.com/cynnyrch/9781784616250/cydymaith-i-gerddoriaeth-cymru''Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru''], cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.'''
 
'''Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn [https://www.ylolfa.com/cynnyrch/9781784616250/cydymaith-i-gerddoriaeth-cymru''Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru''], cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.'''
  
Un o brif gyfansoddwyr Cymru yn ail hanner yr 20g. ac un o’r ychydig i ennill bri rhyngwladol. Wedi’i eni ym Margoed, dysgodd chwarae’r [[ffidil]] a’r fiola yn blentyn ac aeth i Ysgol Ramadeg Tregŵyr gan elwa o’r traddodiad cerddorol cryf yno dan Cynwyd Watkins. Yn 1946 bu’n aelod o gwrs cyntaf Cerddorfa Genedlaethol Ieuenctid Cymru ac aeth ymlaen i astudio ym Mhrifysgol [[Caerdydd]] gan raddio yn 1949. Bu’n astudio cyfansoddi yn breifat yn Llundain hefyd, gydag Arthur Benjamin.
+
Un o brif gyfansoddwyr Cymru yn ail hanner yr 20g. ac un o’r ychydig i ennill bri rhyngwladol. Wedi’i eni ym Margoed, dysgodd chwarae’r [[ffidil]] a’r fiola yn blentyn ac aeth i Ysgol Ramadeg Tregŵyr gan elwa o’r traddodiad cerddorol cryf yno dan Cynwyd Watkins. Yn 1946 bu’n aelod o gwrs cyntaf Cerddorfa Genedlaethol Ieuenctid Cymru ac aeth ymlaen i astudio ym Mhrifysgol Caerdydd gan raddio yn 1949. Bu’n astudio cyfansoddi yn breifat yn Llundain hefyd, gydag Arthur Benjamin.
  
Yn 1951 fe’i penodwyd yn ddarlithydd yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a [[Drama]]  Cymru  ac yno y bu hyd 1959 pan ymaelododd ag adran gerdd [[Prifysgol]] Caerdydd gan gael ei ddyrchafu’n Athro a phennaeth yr adran yn 1967. Yr un flwyddyn sefydlodd Ŵyl Cerddoriaeth yr 20g. yng Nghaerdydd gyda’i gyfaill, y pianydd athrylithgar John Ogdon (1937-89), ac am ugain mlynedd a mwy Hoddinott oedd yn llywio bywyd cerddorol y brifddinas i bob pwrpas; roedd ei ddylanwad yn allweddol hefyd yn y BBC, [[Opera]] Cenedlaethol Cymru, [[Gŵyl]] Llandaf a Chyngor y Celfyddydau. Wedi ymddeol o bob cyfrifoldeb swyddogol erbyn 1989 gallodd ganolbwyntio ar gyfansoddi gan ddychwelyd i’w gynefin yn 1997 ac ymgartrefu yn y Crwys ar benrhyn Gŵyr. Cwblhaodd ei waith olaf, ''Taliesin,'' yn 2007.
+
Yn 1951 fe’i penodwyd yn ddarlithydd yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru  ac yno y bu hyd 1959 pan ymaelododd ag adran gerdd [[Prifysgol]] Caerdydd gan gael ei ddyrchafu’n Athro a phennaeth yr adran yn 1967. Yr un flwyddyn sefydlodd Ŵyl Cerddoriaeth yr 20g. yng Nghaerdydd gyda’i gyfaill, y pianydd athrylithgar John Ogdon (1937-89), ac am ugain mlynedd a mwy Hoddinott oedd yn llywio bywyd cerddorol y brifddinas i bob pwrpas; roedd ei ddylanwad yn allweddol hefyd yn y BBC, Opera Cenedlaethol Cymru, [[Gŵyl]] Llandaf a Chyngor y Celfyddydau. Wedi ymddeol o bob cyfrifoldeb swyddogol erbyn 1989 gallodd ganolbwyntio ar gyfansoddi gan ddychwelyd i’w gynefin yn 1997 ac ymgartrefu yn y Crwys ar benrhyn Gŵyr. Cwblhaodd ei waith olaf, ''Taliesin,'' yn 2007.
  
Yn ei gerddoriaeth gynharaf dengys Hoddinott ddylanwad naturiol prif gyfansoddwyr Seisnig ei gyfnod, megis Vaughan Williams, Walton a Berkeley, ond ymwybyddiaeth hefyd o neo-glasuriaeth gyfandirol Hindemith, Bartók a Stravinsky. Roedd ganddo dechneg ystwyth o’r dechrau a chlywir tinc personol hyd yn oed yn y gwaith cyntaf o’i eiddo sy’n cael ei berfformio’n rheolaidd, y Concerto Clarinet Op. 3 (1950), a ddaeth i sylw cenedlaethol yng Ngŵyl Cheltenham yn 1953, gyda Gervase de Peyer yn unawdydd a John Barbirolli yn arwain Cerddorfa’r Hallé, ac a oedd wedi’i ddarlledu eisoes gan y BBC o Gaerdydd yn 1951 gyda Jack Brymer yn unawdydd. Datblygodd enw Hoddinott yn gyflym a thrwy ennill cytundeb fel cyfansoddwr ‘preswyl’ i Wasg Prifysgol Rhydychen daeth yn un o gyfansoddwyr mwyaf blaenllaw ei genhedlaeth. Erbyn y Concerto [[Telyn]] Op. 11, a berfformiodd [[Osian Ellis]] yng Ngŵyl Cheltenham 1958, roedd ei [[arddull]] wedi datblygu’n rhyfeddol o gyflym trwy hepgor yr elfennau traddodiadol eu natur a chan ddatblygu ieithwedd gliriach a thynnach sy’n fwy personol a modernaidd ei mynegiant.
+
Yn ei gerddoriaeth gynharaf dengys Hoddinott ddylanwad naturiol prif gyfansoddwyr Seisnig ei gyfnod, megis Vaughan Williams, Walton a Berkeley, ond ymwybyddiaeth hefyd o neo-glasuriaeth gyfandirol Hindemith, Bartók a Stravinsky. Roedd ganddo dechneg ystwyth o’r dechrau a chlywir tinc personol hyd yn oed yn y gwaith cyntaf o’i eiddo sy’n cael ei berfformio’n rheolaidd, y Concerto Clarinet Op. 3 (1950), a ddaeth i sylw cenedlaethol yng Ngŵyl Cheltenham yn 1953, gyda Gervase de Peyer yn unawdydd a John Barbirolli yn arwain Cerddorfa’r Hallé, ac a oedd wedi’i ddarlledu eisoes gan y BBC o Gaerdydd yn 1951 gyda Jack Brymer yn unawdydd. Datblygodd enw Hoddinott yn gyflym a thrwy ennill cytundeb fel cyfansoddwr ‘preswyl’ i Wasg Prifysgol Rhydychen daeth yn un o gyfansoddwyr mwyaf blaenllaw ei genhedlaeth. Erbyn y Concerto [[Telyn]] Op. 11, a berfformiodd [[Osian Ellis]] yng Ngŵyl Cheltenham 1958, roedd ei arddull wedi datblygu’n rhyfeddol o gyflym trwy hepgor yr elfennau traddodiadol eu natur a chan ddatblygu ieithwedd gliriach a thynnach sy’n fwy personol a modernaidd ei mynegiant.
  
 
Er i’w Symffoni Gyntaf Op. 7 gael ei pherfformio yn [[Eisteddfod]] Genedlaethol Pwllheli 1955 gan Gerddorfa Ffilharmonig Frenhinol Lerpwl, o’r tu hwnt i Gymru y daeth y comisiynau a’r ysgogiad ar gyfer y mwyafrif o lwyddiannau cerddorfaol pwysig Hoddinott rhwng 1959 ac 1973. Cyfansoddodd bedair symffoni bellach ar gyfer [[cerddorfeydd]] y BBC a’r Hallé a’r Gerddorfa Ffilharmonig Frenhinol (RPO), ynghyd â nifer o ddarnau cerddorfaol sylweddol – ''Variants, Fioriture;'' maent yn dangos disgleirdeb a chywreinrwydd wrth ymdrin â’r gerddorfa a oedd yn unigryw yn hanes cerddoriaeth Cymru ar y pryd ond a oedd hefyd yn eithriadol ymysg cyfansoddwyr Prydeinig y cyfnod.
 
Er i’w Symffoni Gyntaf Op. 7 gael ei pherfformio yn [[Eisteddfod]] Genedlaethol Pwllheli 1955 gan Gerddorfa Ffilharmonig Frenhinol Lerpwl, o’r tu hwnt i Gymru y daeth y comisiynau a’r ysgogiad ar gyfer y mwyafrif o lwyddiannau cerddorfaol pwysig Hoddinott rhwng 1959 ac 1973. Cyfansoddodd bedair symffoni bellach ar gyfer [[cerddorfeydd]] y BBC a’r Hallé a’r Gerddorfa Ffilharmonig Frenhinol (RPO), ynghyd â nifer o ddarnau cerddorfaol sylweddol – ''Variants, Fioriture;'' maent yn dangos disgleirdeb a chywreinrwydd wrth ymdrin â’r gerddorfa a oedd yn unigryw yn hanes cerddoriaeth Cymru ar y pryd ond a oedd hefyd yn eithriadol ymysg cyfansoddwyr Prydeinig y cyfnod.
Llinell 12: Llinell 12:
 
Ochr yn ochr â’r datblygiad ieithyddol a strwythurol gymhleth a amlygir yn y gweithiau hyn, dangosodd Hoddinott hefyd fod ganddo’r ddawn i gyfansoddi darnau ysgafnach megis y ''Dawnsiau Cymreig'' (1959 ac 1966) a ''Dawnsiau’r Arwisgo'' (1969), sy’n llwyddo i greu ysbryd Cymreig trwy efelychu patrymau a rhythmau cerddoriaeth werin Cymru heb eu dyfynnu’n uniongyrchol. Roedd wedi meistroli pob ''genre'' cerddorol posibl erbyn dechrau’r 1970au, ac eithrio [[opera]] – ac roedd hynny hefyd i ddod.
 
Ochr yn ochr â’r datblygiad ieithyddol a strwythurol gymhleth a amlygir yn y gweithiau hyn, dangosodd Hoddinott hefyd fod ganddo’r ddawn i gyfansoddi darnau ysgafnach megis y ''Dawnsiau Cymreig'' (1959 ac 1966) a ''Dawnsiau’r Arwisgo'' (1969), sy’n llwyddo i greu ysbryd Cymreig trwy efelychu patrymau a rhythmau cerddoriaeth werin Cymru heb eu dyfynnu’n uniongyrchol. Roedd wedi meistroli pob ''genre'' cerddorol posibl erbyn dechrau’r 1970au, ac eithrio [[opera]] – ac roedd hynny hefyd i ddod.
  
Ac yntau wedi dilyn datblygiad Opera Cenedlaethol Cymru yng Nghaerdydd ers sefydlu’r cwmni yn 1946, roedd hi’n naturiol i Hoddinott droi ei olygon at y ffurf fel cyfansoddwr ac yn 1974 perfformiwyd ei opera gyntaf, ''The Beach of Falesá,'' i [[libreto]] gan Gwyn Jones yn seiliedig ar [[stori]] fer gan Robert Louis Stevenson. Roedd rhan ganolog yn yr opera i’r bariton [[Geraint Evans]] a dyma’r opera gyflawn gyntaf i’w chomisiynu yn benodol gan y cwmni.
+
Ac yntau wedi dilyn datblygiad Opera Cenedlaethol Cymru yng Nghaerdydd ers sefydlu’r cwmni yn 1946, roedd hi’n naturiol i Hoddinott droi ei olygon at y ffurf fel cyfansoddwr ac yn 1974 perfformiwyd ei opera gyntaf, ''The Beach of Falesá,'' i [[libreto]] gan Gwyn Jones yn seiliedig ar stori fer gan Robert Louis Stevenson. Roedd rhan ganolog yn yr opera i’r bariton [[Geraint Evans]] a dyma’r opera gyflawn gyntaf i’w chomisiynu yn benodol gan y cwmni.
  
Yn y degawd dilynol ymserchodd Hoddinott fwyfwy yn y ffurf a chyfansoddodd bedair opera arall cyn 1981 – dwy opera un-act ar gyfer teledu, ''The Magician'' (1976) a ''The Rajah’s Diamond'' (1979), ac un i gynnwys plant yng Ngŵyl Abergwaun 1977, ''What the Old Man Does is Always Right,'' ill [[tair]] yn cynnwys rhannau eto i Geraint Evans. Opera dair-act yw ''The Trumpet Major'' Op. 103 (1981) i libreto gan Myfanwy Piper (awdur libreto’r ddwy opera flaenorol hefyd), yn seiliedig ar [[nofel]] Thomas Hardy o’r un enw; fe’i cyfansoddwyd ar gyfer adnoddau Coleg Cerdd Brenhinol y Gogledd ym Manceinion ond fe’i perfformiwyd hefyd yng Nghaerdydd. Nid tan 1999 y cyfansoddodd ei opera olaf, ''Tower'' Op. 170, i libreto gan John Owen, yn adrodd hanes prynu glofa’r Tŵr gan Tyrone O’Sullivan a’i weithwyr, a hynny mewn arddull opera-ddogfen i gwmni Opera Box o Abertawe.
+
Yn y degawd dilynol ymserchodd Hoddinott fwyfwy yn y ffurf a chyfansoddodd bedair opera arall cyn 1981 – dwy opera un-act ar gyfer teledu, ''The Magician'' (1976) a ''The Rajah’s Diamond'' (1979), ac un i gynnwys plant yng Ngŵyl Abergwaun 1977, ''What the Old Man Does is Always Right,'' ill tair yn cynnwys rhannau eto i Geraint Evans. Opera dair-act yw ''The Trumpet Major'' Op. 103 (1981) i libreto gan Myfanwy Piper (awdur libreto’r ddwy opera flaenorol hefyd), yn seiliedig ar nofel Thomas Hardy o’r un enw; fe’i cyfansoddwyd ar gyfer adnoddau Coleg Cerdd Brenhinol y Gogledd ym Manceinion ond fe’i perfformiwyd hefyd yng Nghaerdydd. Nid tan 1999 y cyfansoddodd ei opera olaf, ''Tower'' Op. 170, i libreto gan John Owen, yn adrodd hanes prynu glofa’r Tŵr gan Tyrone O’Sullivan a’i weithwyr, a hynny mewn arddull opera-ddogfen i gwmni Opera Box o Abertawe.
  
Prin fod unrhyw gyfansoddwr [[clasurol]] Cymreig arall wedi cynhyrchu catalog mor faith â Hoddinott gan lwyddo i gynnal safon gyson [[aruchel]] drwyddi draw. Un o’i hoff gyfryngau oedd cerddoriaeth siambr a cheir 13 sonata i’r piano, er enghraifft, yn rhedeg fel gwythïen loyw ar hyd ei yrfa o 1959 hyd 2003. Er nad oedd yn bianydd ei hun, roedd ganddo amgyffrediad arbennig o natur gynhenid offeryn ac mae ei sonatas niferus i’r ffliwt, y clarinet, y piano a’r soddgrwth ymysg offerynnau eraill yn amlygu hyn; felly hefyd y ''concerti'' sy’n cwmpasu bron pob offeryn cerddorfaol.
+
Prin fod unrhyw gyfansoddwr [[clasurol]] Cymreig arall wedi cynhyrchu catalog mor faith â Hoddinott gan lwyddo i gynnal safon gyson aruchel drwyddi draw. Un o’i hoff gyfryngau oedd cerddoriaeth siambr a cheir 13 sonata i’r piano, er enghraifft, yn rhedeg fel gwythïen loyw ar hyd ei yrfa o 1959 hyd 2003. Er nad oedd yn bianydd ei hun, roedd ganddo amgyffrediad arbennig o natur gynhenid offeryn ac mae ei sonatas niferus i’r ffliwt, y clarinet, y piano a’r soddgrwth ymysg offerynnau eraill yn amlygu hyn; felly hefyd y ''concerti'' sy’n cwmpasu bron pob offeryn cerddorfaol.
  
Câi ei ysbrydoli’n aml gan lenyddiaeth neu gelfyddyd weledol, ac roedd ganddo allu arbennig i gyfleu lliw ac awyrgylch mewn cerddoriaeth. Mae ''The Heaventree of Stars'' Op. 102 (1980), i [[ffidil]] a cherddorfa, yn un o’r esiamplau gorau o’i ddawn delynegol lesmeiriol, gyda’r teitl yn deillio o waith James Joyce, fel sy’n wir hefyd am ''The Sun, the great luminary of the universe'' Op. 76 (1970), i gerddorfa. Un o uchafbwyntiau ei yrfa oedd y gwahoddiad i gyfansoddi gwaith ar gyfer y chwaraewr soddgrwth o Rwsia, Mstislav Rostropovich, a pherfformiwyd ''Noctis Equi'' Op. 132 gyda Cherddorfa Symffoni Llundain yn y Barbican i ddathlu pen-blwydd y cyfansoddwr yn 60 yn 1989.
+
Câi ei ysbrydoli’n aml gan lenyddiaeth neu gelfyddyd weledol, ac roedd ganddo allu arbennig i gyfleu lliw ac awyrgylch mewn cerddoriaeth. Mae ''The Heaventree of Stars'' Op. 102 (1980), i ffidil a cherddorfa, yn un o’r esiamplau gorau o’i ddawn delynegol lesmeiriol, gyda’r teitl yn deillio o waith James Joyce, fel sy’n wir hefyd am ''The Sun, the great luminary of the universe'' Op. 76 (1970), i gerddorfa. Un o uchafbwyntiau ei yrfa oedd y gwahoddiad i gyfansoddi gwaith ar gyfer y chwaraewr soddgrwth o Rwsia, Mstislav Rostropovich, a pherfformiwyd ''Noctis Equi'' Op. 132 gyda Cherddorfa Symffoni Llundain yn y Barbican i ddathlu pen-blwydd y cyfansoddwr yn 60 yn 1989.
  
 
Nid oedd Hoddinott yn or-hoff o unrhyw awgrym mai cyfansoddwr ‘Cymreig’ yn benodol ydoedd; cyfeiriai ato’i hun yn syml fel ‘cyfansoddwr sy’n byw yng Nghymru’. Ei ddelfryd gerddorol ar hyd ei oes oedd dwyn y Cymry i ymwybyddiaeth ehangach o’r gorau yn rhyngwladol gan godi safon cerddoriaeth Gymreig hefyd er mwyn teilyngu sylw cyfartal. Datblygodd berthynas agos gyda [[Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC]] wedi iddi dyfu i’w llawn faint a chyfansoddodd ei symffonïau 6,7,9 a 10 ar ei chyfer, ynghyd â gweithiau meistrolgar megis ''Star Children, Lizard'' a ''Taliesin''. Cyn iddo farw cafodd wybod am y penderfyniad i alw cartref newydd y Gerddorfa yng Nghanolfan Mileniwm Cymru yn Neuadd Hoddinott a dyma gofeb berffaith bellach i gawr o gyfansoddwr Cymreig.
 
Nid oedd Hoddinott yn or-hoff o unrhyw awgrym mai cyfansoddwr ‘Cymreig’ yn benodol ydoedd; cyfeiriai ato’i hun yn syml fel ‘cyfansoddwr sy’n byw yng Nghymru’. Ei ddelfryd gerddorol ar hyd ei oes oedd dwyn y Cymry i ymwybyddiaeth ehangach o’r gorau yn rhyngwladol gan godi safon cerddoriaeth Gymreig hefyd er mwyn teilyngu sylw cyfartal. Datblygodd berthynas agos gyda [[Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC]] wedi iddi dyfu i’w llawn faint a chyfansoddodd ei symffonïau 6,7,9 a 10 ar ei chyfer, ynghyd â gweithiau meistrolgar megis ''Star Children, Lizard'' a ''Taliesin''. Cyn iddo farw cafodd wybod am y penderfyniad i alw cartref newydd y Gerddorfa yng Nghanolfan Mileniwm Cymru yn Neuadd Hoddinott a dyma gofeb berffaith bellach i gawr o gyfansoddwr Cymreig.

Diwygiad 21:14, 16 Mai 2021

Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.

Un o brif gyfansoddwyr Cymru yn ail hanner yr 20g. ac un o’r ychydig i ennill bri rhyngwladol. Wedi’i eni ym Margoed, dysgodd chwarae’r ffidil a’r fiola yn blentyn ac aeth i Ysgol Ramadeg Tregŵyr gan elwa o’r traddodiad cerddorol cryf yno dan Cynwyd Watkins. Yn 1946 bu’n aelod o gwrs cyntaf Cerddorfa Genedlaethol Ieuenctid Cymru ac aeth ymlaen i astudio ym Mhrifysgol Caerdydd gan raddio yn 1949. Bu’n astudio cyfansoddi yn breifat yn Llundain hefyd, gydag Arthur Benjamin.

Yn 1951 fe’i penodwyd yn ddarlithydd yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru ac yno y bu hyd 1959 pan ymaelododd ag adran gerdd Prifysgol Caerdydd gan gael ei ddyrchafu’n Athro a phennaeth yr adran yn 1967. Yr un flwyddyn sefydlodd Ŵyl Cerddoriaeth yr 20g. yng Nghaerdydd gyda’i gyfaill, y pianydd athrylithgar John Ogdon (1937-89), ac am ugain mlynedd a mwy Hoddinott oedd yn llywio bywyd cerddorol y brifddinas i bob pwrpas; roedd ei ddylanwad yn allweddol hefyd yn y BBC, Opera Cenedlaethol Cymru, Gŵyl Llandaf a Chyngor y Celfyddydau. Wedi ymddeol o bob cyfrifoldeb swyddogol erbyn 1989 gallodd ganolbwyntio ar gyfansoddi gan ddychwelyd i’w gynefin yn 1997 ac ymgartrefu yn y Crwys ar benrhyn Gŵyr. Cwblhaodd ei waith olaf, Taliesin, yn 2007.

Yn ei gerddoriaeth gynharaf dengys Hoddinott ddylanwad naturiol prif gyfansoddwyr Seisnig ei gyfnod, megis Vaughan Williams, Walton a Berkeley, ond ymwybyddiaeth hefyd o neo-glasuriaeth gyfandirol Hindemith, Bartók a Stravinsky. Roedd ganddo dechneg ystwyth o’r dechrau a chlywir tinc personol hyd yn oed yn y gwaith cyntaf o’i eiddo sy’n cael ei berfformio’n rheolaidd, y Concerto Clarinet Op. 3 (1950), a ddaeth i sylw cenedlaethol yng Ngŵyl Cheltenham yn 1953, gyda Gervase de Peyer yn unawdydd a John Barbirolli yn arwain Cerddorfa’r Hallé, ac a oedd wedi’i ddarlledu eisoes gan y BBC o Gaerdydd yn 1951 gyda Jack Brymer yn unawdydd. Datblygodd enw Hoddinott yn gyflym a thrwy ennill cytundeb fel cyfansoddwr ‘preswyl’ i Wasg Prifysgol Rhydychen daeth yn un o gyfansoddwyr mwyaf blaenllaw ei genhedlaeth. Erbyn y Concerto Telyn Op. 11, a berfformiodd Osian Ellis yng Ngŵyl Cheltenham 1958, roedd ei arddull wedi datblygu’n rhyfeddol o gyflym trwy hepgor yr elfennau traddodiadol eu natur a chan ddatblygu ieithwedd gliriach a thynnach sy’n fwy personol a modernaidd ei mynegiant.

Er i’w Symffoni Gyntaf Op. 7 gael ei pherfformio yn Eisteddfod Genedlaethol Pwllheli 1955 gan Gerddorfa Ffilharmonig Frenhinol Lerpwl, o’r tu hwnt i Gymru y daeth y comisiynau a’r ysgogiad ar gyfer y mwyafrif o lwyddiannau cerddorfaol pwysig Hoddinott rhwng 1959 ac 1973. Cyfansoddodd bedair symffoni bellach ar gyfer cerddorfeydd y BBC a’r Hallé a’r Gerddorfa Ffilharmonig Frenhinol (RPO), ynghyd â nifer o ddarnau cerddorfaol sylweddol – Variants, Fioriture; maent yn dangos disgleirdeb a chywreinrwydd wrth ymdrin â’r gerddorfa a oedd yn unigryw yn hanes cerddoriaeth Cymru ar y pryd ond a oedd hefyd yn eithriadol ymysg cyfansoddwyr Prydeinig y cyfnod.

Ochr yn ochr â’r datblygiad ieithyddol a strwythurol gymhleth a amlygir yn y gweithiau hyn, dangosodd Hoddinott hefyd fod ganddo’r ddawn i gyfansoddi darnau ysgafnach megis y Dawnsiau Cymreig (1959 ac 1966) a Dawnsiau’r Arwisgo (1969), sy’n llwyddo i greu ysbryd Cymreig trwy efelychu patrymau a rhythmau cerddoriaeth werin Cymru heb eu dyfynnu’n uniongyrchol. Roedd wedi meistroli pob genre cerddorol posibl erbyn dechrau’r 1970au, ac eithrio opera – ac roedd hynny hefyd i ddod.

Ac yntau wedi dilyn datblygiad Opera Cenedlaethol Cymru yng Nghaerdydd ers sefydlu’r cwmni yn 1946, roedd hi’n naturiol i Hoddinott droi ei olygon at y ffurf fel cyfansoddwr ac yn 1974 perfformiwyd ei opera gyntaf, The Beach of Falesá, i libreto gan Gwyn Jones yn seiliedig ar stori fer gan Robert Louis Stevenson. Roedd rhan ganolog yn yr opera i’r bariton Geraint Evans a dyma’r opera gyflawn gyntaf i’w chomisiynu yn benodol gan y cwmni.

Yn y degawd dilynol ymserchodd Hoddinott fwyfwy yn y ffurf a chyfansoddodd bedair opera arall cyn 1981 – dwy opera un-act ar gyfer teledu, The Magician (1976) a The Rajah’s Diamond (1979), ac un i gynnwys plant yng Ngŵyl Abergwaun 1977, What the Old Man Does is Always Right, ill tair yn cynnwys rhannau eto i Geraint Evans. Opera dair-act yw The Trumpet Major Op. 103 (1981) i libreto gan Myfanwy Piper (awdur libreto’r ddwy opera flaenorol hefyd), yn seiliedig ar nofel Thomas Hardy o’r un enw; fe’i cyfansoddwyd ar gyfer adnoddau Coleg Cerdd Brenhinol y Gogledd ym Manceinion ond fe’i perfformiwyd hefyd yng Nghaerdydd. Nid tan 1999 y cyfansoddodd ei opera olaf, Tower Op. 170, i libreto gan John Owen, yn adrodd hanes prynu glofa’r Tŵr gan Tyrone O’Sullivan a’i weithwyr, a hynny mewn arddull opera-ddogfen i gwmni Opera Box o Abertawe.

Prin fod unrhyw gyfansoddwr clasurol Cymreig arall wedi cynhyrchu catalog mor faith â Hoddinott gan lwyddo i gynnal safon gyson aruchel drwyddi draw. Un o’i hoff gyfryngau oedd cerddoriaeth siambr a cheir 13 sonata i’r piano, er enghraifft, yn rhedeg fel gwythïen loyw ar hyd ei yrfa o 1959 hyd 2003. Er nad oedd yn bianydd ei hun, roedd ganddo amgyffrediad arbennig o natur gynhenid offeryn ac mae ei sonatas niferus i’r ffliwt, y clarinet, y piano a’r soddgrwth ymysg offerynnau eraill yn amlygu hyn; felly hefyd y concerti sy’n cwmpasu bron pob offeryn cerddorfaol.

Câi ei ysbrydoli’n aml gan lenyddiaeth neu gelfyddyd weledol, ac roedd ganddo allu arbennig i gyfleu lliw ac awyrgylch mewn cerddoriaeth. Mae The Heaventree of Stars Op. 102 (1980), i ffidil a cherddorfa, yn un o’r esiamplau gorau o’i ddawn delynegol lesmeiriol, gyda’r teitl yn deillio o waith James Joyce, fel sy’n wir hefyd am The Sun, the great luminary of the universe Op. 76 (1970), i gerddorfa. Un o uchafbwyntiau ei yrfa oedd y gwahoddiad i gyfansoddi gwaith ar gyfer y chwaraewr soddgrwth o Rwsia, Mstislav Rostropovich, a pherfformiwyd Noctis Equi Op. 132 gyda Cherddorfa Symffoni Llundain yn y Barbican i ddathlu pen-blwydd y cyfansoddwr yn 60 yn 1989.

Nid oedd Hoddinott yn or-hoff o unrhyw awgrym mai cyfansoddwr ‘Cymreig’ yn benodol ydoedd; cyfeiriai ato’i hun yn syml fel ‘cyfansoddwr sy’n byw yng Nghymru’. Ei ddelfryd gerddorol ar hyd ei oes oedd dwyn y Cymry i ymwybyddiaeth ehangach o’r gorau yn rhyngwladol gan godi safon cerddoriaeth Gymreig hefyd er mwyn teilyngu sylw cyfartal. Datblygodd berthynas agos gyda Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC wedi iddi dyfu i’w llawn faint a chyfansoddodd ei symffonïau 6,7,9 a 10 ar ei chyfer, ynghyd â gweithiau meistrolgar megis Star Children, Lizard a Taliesin. Cyn iddo farw cafodd wybod am y penderfyniad i alw cartref newydd y Gerddorfa yng Nghanolfan Mileniwm Cymru yn Neuadd Hoddinott a dyma gofeb berffaith bellach i gawr o gyfansoddwr Cymreig.

Geraint Lewis

Llyfryddiaeth

  • D. Wynne, ‘Alun Hoddinott: a Survey’, Cerddoriaeth Cymru, 3/8 (1970), 2–12
  • M. Boyd, ‘The Beach of Falesá’, Musical Times, cxv (1974), 207–9
  • A. J. Heward Rees ac A. Hoddinott, ‘The Beach of Falesá’, Cerddoriaeth Cymru, 4/6 (1974), 8–19
  • M. Oliver, ‘Two Welsh Composers: Alun Hoddinott and William Mathias’, British Music Now, gol. L. Foreman (Llundain, 1975), 86–96
  • M. Burtch, ‘What the old man does is always right: Hoddinott’s New Opera for Children’, Cerddoriaeth Cymru, 5/7 (1977), 77–81
  • R. Walker, ‘Alun Hoddinott’, Music and Musicians, xxvi/5 (1977–8), 28–32
  • B. Deane, Alun Hoddinott (Caerdydd, 1978)
  • ———, ‘Alun Hoddinott: the Seventies and After’, Soundings [Caerdydd], ix [recte viii] (1979–80), 6–13
  • M. Boyd, ‘The Trumpet Major’, Musical Times, cxxii (1981), 237–9
  • G. Lewis, ‘First Night’, The Strad [1989], 822–6
  • ———, ‘Hoddinott and the Symphony’, Musical Times, cxxx (1989), 455–9
  • ———, ‘Hoddinott at 60’, Music and Musicians International, xxxvii (Ebrill, 1989), 16–19
  • ———, ‘The Limit of a Vast Empire: Some of Hoddinott’s Recent Music’, Cerddoriaeth Cymru, 9/1 (1989–90), 6–16
  • ———, ‘Praise the Lord! We are a Musical Nation’, The New Wales (gol. D. Cole) (Caerdydd, 1990), 123–40
  • S. R. Craggs, Alun Hoddinott: a Bio-Bibliography (Connectitut, 1993)
  • R. Matthew-Walker, Alun Hoddinott on Record: a Composer and the Gramophone (St Austell, 1993)
  • ———, ‘Hoddinott’s Programmatic Structuralization’, Tempo, 209 (1999), 22–5



Comisiynwyd y cofnod hwn ar gyfer Y Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol a fydd yn cael ei chyhoeddi gan Y Lolfa yn 2018. Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.