Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Rhesymoli"
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
(Saesneg: ''Rationalisation'') | (Saesneg: ''Rationalisation'') | ||
− | Rhesymoli yw’r broses sy’n digwydd pan fydd penderfyniadau a gweithredoedd unigolion yn fwyfwy seiliedig ar resymoledd cyfryngol (''instrumental rationality'') yn hytrach na ffactorau fel [[crefydd]], emosiynau, traddodiad a [[gwerthoedd]]. Pan fydd unigolyn yn defnyddio rhesymoledd cyfryngol, bydd yn ystyried gwahanol opsiynau ac yn dewis yr opsiwn sy’n cynnig y ffordd fwyaf effeithiol i gyrraedd yr hyn y mae ef neu hi eisiau ei gyflawni. Cysylltir rhesymoli cynyddol mewn cymdeithas â’r [[Ymoleuo]], mudiad diwylliannol a deallusol a ddaeth i amlygrwydd yn ystod y 18g ganrif, gan arwain at danseilio dehongliadau traddodiadol o grefydd, gwleidyddiaeth a dysg drwy ddyrchafu cred yng ngallu pobl i ddefnyddio’u gallu i resymu er mwyn deall y byd (Hamilton 1992). | + | Rhesymoli yw’r broses sy’n digwydd pan fydd penderfyniadau a gweithredoedd unigolion yn fwyfwy seiliedig ar resymoledd cyfryngol (''instrumental rationality'') yn hytrach na ffactorau fel [[crefydd]], emosiynau, traddodiad a [[gwerthoedd]]. Pan fydd unigolyn yn defnyddio rhesymoledd cyfryngol, bydd yn ystyried gwahanol opsiynau ac yn dewis yr opsiwn sy’n cynnig y ffordd fwyaf effeithiol i gyrraedd yr hyn y mae ef neu hi eisiau ei gyflawni. Cysylltir rhesymoli cynyddol mewn cymdeithas â’r [[Yr Ymoleuo|Ymoleuo]], mudiad diwylliannol a deallusol a ddaeth i amlygrwydd yn ystod y 18g ganrif, gan arwain at danseilio dehongliadau traddodiadol o grefydd, gwleidyddiaeth a dysg drwy ddyrchafu cred yng ngallu pobl i ddefnyddio’u gallu i resymu er mwyn deall y byd (Hamilton 1992). |
− | Cysylltir y cysyniad o resymoli â [[Max Weber]], a’i ddefnyddiodd er mwyn egluro sut roedd cymdeithas wedi moderneiddio. Un enghraifft y mae Weber (1921/2019) yn ei chynnig o resymoli cynyddol mewn cymdeithas yw [[biwrocratiaeth]] (''bureaucracy''), sef system weinyddu a gynhelir gan weithwyr proffesiynol wedi’u hyfforddi sy’n dilyn rheolau sefydlog mewn [[sefydliadau]] fel y llywodraeth, ac mewn [[sefydliadau]] cyhoeddus fel ysgolion ac ysbytai neu gwmnïau preifat. Yn ogystal, defnyddiodd Weber (1905/2005) y cysyniad o resymoli er mwyn egluro datblygiad [[cyfalafiaeth]] yn ei lyfr, ''Protestant Ethic and the Spirit of Capitalism''. Dadleuai Weber fod syniadau crefyddol oedd yn gysylltiedig â Phrotestaniaeth wedi cyfrannu at ddatblygiad [[cyfalafiaeth]] ar y dechrau gan fod Protestaniaid yn credu yn y syniad o ragordeiniad (''predestiniation''), iachawdwriaeth (''salvation'') a bod angen gweithio’n galed er mwyn dangos i Dduw eu bod nhw’n haeddu mynd i’r nefoedd. Y foeseg Brotestannaidd (''Protestant ethic'') yw’r term yr oedd Weber yn ei ddefnyddio ar gyfer hyn. Ond, o ganlyniad i resymoli cynyddol a lleihad yn nylanwad [[crefydd]], canfu Weber fod rheswm unigolion dros weithio’n galed yn newid dros amser. Yn hytrach na gweithio’n galed am resymau crefyddol, yn ôl Weber, mae unigolion heddiw yn gweithio’n galed oherwydd eu bod nhw’n gweld mai hon yw’r ffordd fwyaf effeithiol a rhesymegol o gael llawer o arian a chreu elw. Gelwir hyn yn ysbryd [[cyfalafiaeth]] (''spirit of capitalism''). | + | Cysylltir y cysyniad o resymoli â [[Weber,_Max|Max Weber]], a’i ddefnyddiodd er mwyn egluro sut roedd cymdeithas wedi moderneiddio. Un enghraifft y mae Weber (1921/2019) yn ei chynnig o resymoli cynyddol mewn cymdeithas yw [[biwrocratiaeth]] (''bureaucracy''), sef system weinyddu a gynhelir gan weithwyr proffesiynol wedi’u hyfforddi sy’n dilyn rheolau sefydlog mewn [[sefydliadau]] fel y llywodraeth, ac mewn [[sefydliadau]] cyhoeddus fel ysgolion ac ysbytai neu gwmnïau preifat. Yn ogystal, defnyddiodd Weber (1905/2005) y cysyniad o resymoli er mwyn egluro datblygiad [[cyfalafiaeth]] yn ei lyfr, ''Protestant Ethic and the Spirit of Capitalism''. Dadleuai Weber fod syniadau crefyddol oedd yn gysylltiedig â Phrotestaniaeth wedi cyfrannu at ddatblygiad [[cyfalafiaeth]] ar y dechrau gan fod Protestaniaid yn credu yn y syniad o ragordeiniad (''predestiniation''), iachawdwriaeth (''salvation'') a bod angen gweithio’n galed er mwyn dangos i Dduw eu bod nhw’n haeddu mynd i’r nefoedd. Y foeseg Brotestannaidd (''Protestant ethic'') yw’r term yr oedd Weber yn ei ddefnyddio ar gyfer hyn. Ond, o ganlyniad i resymoli cynyddol a lleihad yn nylanwad [[crefydd]], canfu Weber fod rheswm unigolion dros weithio’n galed yn newid dros amser. Yn hytrach na gweithio’n galed am resymau crefyddol, yn ôl Weber, mae unigolion heddiw yn gweithio’n galed oherwydd eu bod nhw’n gweld mai hon yw’r ffordd fwyaf effeithiol a rhesymegol o gael llawer o arian a chreu elw. Gelwir hyn yn ysbryd [[cyfalafiaeth]] (''spirit of capitalism''). |
Er bod Weber yn gweld bod yna fanteision i resymoli gan fod defnyddio rhesymoledd cyfryngol yn helpu unigolion i wneud penderfyniadau a chyflawni gweithredoedd mewn modd effeithiol, ar yr un pryd roedd yn poeni ynghylch rhesymoli cynyddol mewn cymdeithas. Pryderai Weber (1905/2005; 1921/2019) y byddai rhesymoli’n meddiannu bywydau unigolion ac yn eu caethiwo mewn cawell haearn (iron cage). O ganlyniad, byddai’r cawell haearn yn cyfyngu unigolion i weithredu a gwneud penderfyniadau’n seiliedig ar resymoledd (''rationality'') yn unig, yn hytrach na’u bod yn seiliedig ar ffactorau eraill. | Er bod Weber yn gweld bod yna fanteision i resymoli gan fod defnyddio rhesymoledd cyfryngol yn helpu unigolion i wneud penderfyniadau a chyflawni gweithredoedd mewn modd effeithiol, ar yr un pryd roedd yn poeni ynghylch rhesymoli cynyddol mewn cymdeithas. Pryderai Weber (1905/2005; 1921/2019) y byddai rhesymoli’n meddiannu bywydau unigolion ac yn eu caethiwo mewn cawell haearn (iron cage). O ganlyniad, byddai’r cawell haearn yn cyfyngu unigolion i weithredu a gwneud penderfyniadau’n seiliedig ar resymoledd (''rationality'') yn unig, yn hytrach na’u bod yn seiliedig ar ffactorau eraill. |
Y diwygiad cyfredol, am 18:52, 7 Medi 2024
(Saesneg: Rationalisation)
Rhesymoli yw’r broses sy’n digwydd pan fydd penderfyniadau a gweithredoedd unigolion yn fwyfwy seiliedig ar resymoledd cyfryngol (instrumental rationality) yn hytrach na ffactorau fel crefydd, emosiynau, traddodiad a gwerthoedd. Pan fydd unigolyn yn defnyddio rhesymoledd cyfryngol, bydd yn ystyried gwahanol opsiynau ac yn dewis yr opsiwn sy’n cynnig y ffordd fwyaf effeithiol i gyrraedd yr hyn y mae ef neu hi eisiau ei gyflawni. Cysylltir rhesymoli cynyddol mewn cymdeithas â’r Ymoleuo, mudiad diwylliannol a deallusol a ddaeth i amlygrwydd yn ystod y 18g ganrif, gan arwain at danseilio dehongliadau traddodiadol o grefydd, gwleidyddiaeth a dysg drwy ddyrchafu cred yng ngallu pobl i ddefnyddio’u gallu i resymu er mwyn deall y byd (Hamilton 1992).
Cysylltir y cysyniad o resymoli â Max Weber, a’i ddefnyddiodd er mwyn egluro sut roedd cymdeithas wedi moderneiddio. Un enghraifft y mae Weber (1921/2019) yn ei chynnig o resymoli cynyddol mewn cymdeithas yw biwrocratiaeth (bureaucracy), sef system weinyddu a gynhelir gan weithwyr proffesiynol wedi’u hyfforddi sy’n dilyn rheolau sefydlog mewn sefydliadau fel y llywodraeth, ac mewn sefydliadau cyhoeddus fel ysgolion ac ysbytai neu gwmnïau preifat. Yn ogystal, defnyddiodd Weber (1905/2005) y cysyniad o resymoli er mwyn egluro datblygiad cyfalafiaeth yn ei lyfr, Protestant Ethic and the Spirit of Capitalism. Dadleuai Weber fod syniadau crefyddol oedd yn gysylltiedig â Phrotestaniaeth wedi cyfrannu at ddatblygiad cyfalafiaeth ar y dechrau gan fod Protestaniaid yn credu yn y syniad o ragordeiniad (predestiniation), iachawdwriaeth (salvation) a bod angen gweithio’n galed er mwyn dangos i Dduw eu bod nhw’n haeddu mynd i’r nefoedd. Y foeseg Brotestannaidd (Protestant ethic) yw’r term yr oedd Weber yn ei ddefnyddio ar gyfer hyn. Ond, o ganlyniad i resymoli cynyddol a lleihad yn nylanwad crefydd, canfu Weber fod rheswm unigolion dros weithio’n galed yn newid dros amser. Yn hytrach na gweithio’n galed am resymau crefyddol, yn ôl Weber, mae unigolion heddiw yn gweithio’n galed oherwydd eu bod nhw’n gweld mai hon yw’r ffordd fwyaf effeithiol a rhesymegol o gael llawer o arian a chreu elw. Gelwir hyn yn ysbryd cyfalafiaeth (spirit of capitalism).
Er bod Weber yn gweld bod yna fanteision i resymoli gan fod defnyddio rhesymoledd cyfryngol yn helpu unigolion i wneud penderfyniadau a chyflawni gweithredoedd mewn modd effeithiol, ar yr un pryd roedd yn poeni ynghylch rhesymoli cynyddol mewn cymdeithas. Pryderai Weber (1905/2005; 1921/2019) y byddai rhesymoli’n meddiannu bywydau unigolion ac yn eu caethiwo mewn cawell haearn (iron cage). O ganlyniad, byddai’r cawell haearn yn cyfyngu unigolion i weithredu a gwneud penderfyniadau’n seiliedig ar resymoledd (rationality) yn unig, yn hytrach na’u bod yn seiliedig ar ffactorau eraill.
Ar ôl marwolaeth Weber, parhaodd nifer o ddamcaniaethwyr eraill i archwilio effeithiau rhesymoli ar gymdeithas. Fe wnaeth rhai o ddamcaniaethwyr beirniadol Ysgol Frankfurt, er enghraifft, Max Horkheimer (1947/1992), Herbert Marcuse (1964) a Jürgen Habermas (1971) drafod effaith rhesymoli yn eu gwaith. Yn ogystal, dadleuodd George Ritzer (2004) fod yna fersiwn newydd o resymoli’n bodoli mewn cymdeithas, sef McDonaldeiddio (McDonaldization), gydag agweddau gwahanol o’r gymdeithas yn mabwysiadu rhai o egwyddorion y bwyty bwyd cyflym.
Siôn Jones
Llyfryddiaeth
Hamilton, P. (1992), ‘The Enlightenment and the Birth of Social Science’ yn: Hall, S. a Gieben, B. (goln), The Formations of Modernity: Understanding Modern Societies – Book I (Cambridge: Policy Press), tt. 15–69.
Habermas, J. (1971), Towards a Rational Society (London: Sphere Books).
Horkheimer, M. (1947/1992), Eclipse of Reason (New York: Continuum).
Ritzer, G. (2004), The McDonaldization of Society (Thousand Oaks, California: Pine Forge Press).
Weber, M. (1905/2005), The Protestant Ethic and the Spirit of Capitalism https://www.marxists.org/reference/archive/weber/protestant-ethic/index.htm [Cyrchwyd: 27 Mehefin 2022].
Weber, M. (1921/2019), Economy and Society; cyfieithwyd gan Keith Burns (Cambridge, MA: Harvard University Press).
- Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.