Estroneiddio: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda '__NOAUTOLINKS__Dull cyfieithu yw estroneiddio, neu estronoli, lle y mae’r cyfieithydd yn rhoi pwyslais ar natur estron y testun a gyfieithir. Mae’r cy...' |
Dim crynodeb golygu |
||
| Llinell 1: | Llinell 1: | ||
__NOAUTOLINKS__Dull cyfieithu yw estroneiddio, neu estronoli, lle y mae’r cyfieithydd yn rhoi pwyslais ar natur estron y testun a gyfieithir. Mae’r cyfieithydd yn parchu bwriad yr awdur gwreiddiol gan adael y testun yng nghyd-destun yr iaith ffynhonnell. Er enghraifft, wrth gyfieithu nofel Ffrangeg i'r Gymraeg, y mae'r cyfieithiad yn aros yn Ffrengig o ran ei naws a’i gyd-destun. Ni wneir ymdrech i drosi cyfeiriadau diwylliannol ac elfennau ieithyddol megis idiomau er lles y gynulleidfa. Wrth estroneiddio blaenoriaethir gofynion yr awdur gwreiddiol yn hytrach na gofynion y gynulleidfa darged. Bathwyd y term gan Lawrence Venuti ym 1995 er bod y cysyniad yn bodoli ers canrifoedd, a chysylltir y theori yn bennaf â’r athronydd, Friederich Schleiermacher. Dadleua Schleiermacher y dylai cyfieithiad ddatgan yn glir mai cyfieithiad ydyw yn hytrach nag esgus | __NOAUTOLINKS__Dull cyfieithu yw estroneiddio, neu estronoli, lle y mae’r cyfieithydd yn rhoi pwyslais ar natur estron y testun a gyfieithir. Mae’r cyfieithydd yn parchu bwriad yr awdur gwreiddiol gan adael y testun yng nghyd-destun yr iaith ffynhonnell. Er enghraifft, wrth gyfieithu nofel Ffrangeg i'r Gymraeg, y mae'r cyfieithiad yn aros yn Ffrengig o ran ei naws a’i gyd-destun. Ni wneir ymdrech i drosi cyfeiriadau diwylliannol ac elfennau ieithyddol megis idiomau er lles y gynulleidfa. Wrth estroneiddio blaenoriaethir gofynion yr awdur gwreiddiol yn hytrach na gofynion y gynulleidfa darged. Bathwyd y term gan Lawrence Venuti ym 1995 er bod y cysyniad yn bodoli ers canrifoedd, a chysylltir y theori yn bennaf â’r athronydd, Friederich Schleiermacher. Dadleua Schleiermacher y dylai cyfieithiad ddatgan yn glir mai cyfieithiad ydyw yn hytrach nag esgus y ceir testun hollol newydd. At hynny, dylai cyfieithiad bwysleisio'r gwahaniaeth sydd rhwng yr ieithoedd yn ogystal â'r bwlch anochel sydd rhwng y cyfieithiad a'r gwreiddiol. Domestigeiddio yw'r dull cyfieithu cyferbyniol. | ||
'''Rhianedd Jewell''' | '''Rhianedd Jewell''' | ||
Fersiwn yn ôl 13:14, 26 Medi 2016
__NOAUTOLINKS__Dull cyfieithu yw estroneiddio, neu estronoli, lle y mae’r cyfieithydd yn rhoi pwyslais ar natur estron y testun a gyfieithir. Mae’r cyfieithydd yn parchu bwriad yr awdur gwreiddiol gan adael y testun yng nghyd-destun yr iaith ffynhonnell. Er enghraifft, wrth gyfieithu nofel Ffrangeg i'r Gymraeg, y mae'r cyfieithiad yn aros yn Ffrengig o ran ei naws a’i gyd-destun. Ni wneir ymdrech i drosi cyfeiriadau diwylliannol ac elfennau ieithyddol megis idiomau er lles y gynulleidfa. Wrth estroneiddio blaenoriaethir gofynion yr awdur gwreiddiol yn hytrach na gofynion y gynulleidfa darged. Bathwyd y term gan Lawrence Venuti ym 1995 er bod y cysyniad yn bodoli ers canrifoedd, a chysylltir y theori yn bennaf â’r athronydd, Friederich Schleiermacher. Dadleua Schleiermacher y dylai cyfieithiad ddatgan yn glir mai cyfieithiad ydyw yn hytrach nag esgus y ceir testun hollol newydd. At hynny, dylai cyfieithiad bwysleisio'r gwahaniaeth sydd rhwng yr ieithoedd yn ogystal â'r bwlch anochel sydd rhwng y cyfieithiad a'r gwreiddiol. Domestigeiddio yw'r dull cyfieithu cyferbyniol.
Rhianedd Jewell
Llyfryddiaeth
Schleiermacher, F. (1963), ‘Über die verschiedenen Methoden des Übersetzens’ yn Störig, H. J. (gol.), Das Problem des Übersetzens (Darmstadt: Wissenschaftliche Buchgesellschaft), tt. 38-70.
Venuti, L. (2008), The Translator's Invisibility: A History of Translation, ail argraffiad (London and New York: Routledge).