Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Newyddiaduraeth radical"
(Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'Saesneg: ''Radical journalism'' Newyddiaduraeth sydd wedi ymrwymo i herio’r sefyllfa bresennol drwy ddod â newid cymdeithasol, a thrwy hynny aildd...') |
|||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
Saesneg: ''Radical journalism'' | Saesneg: ''Radical journalism'' | ||
− | [[Newyddiaduraeth]] sydd wedi ymrwymo i herio’r sefyllfa bresennol drwy ddod â newid cymdeithasol, a thrwy hynny ailddosbarthu pŵer er lles y rhai hynny sy’n cael eu hecsbloetio neu eu gormesu gan gyfalafiaeth. Mae rôl y newyddiadurwr yn golygu mwy na adrodd ar y byd o’n cwmpas; mae newyddiaduraeth radical, yn ôl ei chefnogwyr, yn cyfrannu at newid y byd mewn modd gwleidyddol blaengar. | + | [[Newyddiaduraeth]] sydd wedi ymrwymo i herio’r sefyllfa bresennol drwy ddod â newid cymdeithasol, a thrwy hynny ailddosbarthu pŵer er lles y rhai hynny sy’n cael eu hecsbloetio neu eu gormesu gan gyfalafiaeth. Mae rôl y newyddiadurwr yn golygu mwy na adrodd ar y byd o’n cwmpas; mae [[newyddiaduraeth]] radical, yn ôl ei chefnogwyr, yn cyfrannu at newid y byd mewn modd gwleidyddol blaengar. |
Datblygodd newyddiaduraeth radical er mwyn gwrthsefyll gwrthrychedd cynyddol yn negawdau cynnar y bedwaredd ganrif ar bymtheg, a gwelwyd y newyddiaduraeth radical newydd hon mewn cyhoeddiadau fel y ''Penny Press'' yn Unol Daleithiau America a’r Wasg Dosbarth Gweithiol Saesneg ''(Pauper Press'') ym Mhrydain. | Datblygodd newyddiaduraeth radical er mwyn gwrthsefyll gwrthrychedd cynyddol yn negawdau cynnar y bedwaredd ganrif ar bymtheg, a gwelwyd y newyddiaduraeth radical newydd hon mewn cyhoeddiadau fel y ''Penny Press'' yn Unol Daleithiau America a’r Wasg Dosbarth Gweithiol Saesneg ''(Pauper Press'') ym Mhrydain. | ||
Llinell 11: | Llinell 11: | ||
O ganlyniad, yn hytrach na dechrau cyfnod newydd o ryddid y wasg, yn y cyfnod hwn gwelwyd system llawer mwy effeithiol o [[sensoriaeth]]. Dadleuodd Curran a Seaton (2003: 9) bod y farchnad wedi llwyddo i orfodi’r wasg i ddilyn y drefn lle’r oedd gorthrwm cyfreithiol wedi methu. | O ganlyniad, yn hytrach na dechrau cyfnod newydd o ryddid y wasg, yn y cyfnod hwn gwelwyd system llawer mwy effeithiol o [[sensoriaeth]]. Dadleuodd Curran a Seaton (2003: 9) bod y farchnad wedi llwyddo i orfodi’r wasg i ddilyn y drefn lle’r oedd gorthrwm cyfreithiol wedi methu. | ||
− | Heddiw, mae’r traddodiad o fynegi anghydfod trwy newyddiaduraeth radical yn parhau mewn ystod eang o wasanaethau newyddion anfasnachol, gan gynnwys papurau newydd (megis papurau Sosialaidd wythnosol) a chylchgronau (sy’n dibynnu ar ddaliadau neu danysgrifiadau fel arfer), yn ogystal â thrwy gyfrwng teledu mynediad cymunedol a darpariaeth radio cyhoeddus. Mae newyddiaduraeth radical yn ffynnu fwyaf, fodd bynnag, ar y rhyngrwyd, e.e gwefannau fel ''IndyMedia'', blogiau personol a gwefannau eraill. | + | Heddiw, mae’r traddodiad o fynegi anghydfod trwy newyddiaduraeth radical yn parhau mewn ystod eang o wasanaethau [[newyddion]] anfasnachol, gan gynnwys papurau newydd (megis papurau Sosialaidd wythnosol) a chylchgronau (sy’n dibynnu ar ddaliadau neu danysgrifiadau fel arfer), yn ogystal â thrwy gyfrwng teledu mynediad cymunedol a darpariaeth radio cyhoeddus. Mae newyddiaduraeth radical yn ffynnu fwyaf, fodd bynnag, ar y rhyngrwyd, e.e gwefannau fel ''IndyMedia'', blogiau personol a gwefannau eraill. |
Diwygiad 09:16, 2 Mai 2019
Saesneg: Radical journalism
Newyddiaduraeth sydd wedi ymrwymo i herio’r sefyllfa bresennol drwy ddod â newid cymdeithasol, a thrwy hynny ailddosbarthu pŵer er lles y rhai hynny sy’n cael eu hecsbloetio neu eu gormesu gan gyfalafiaeth. Mae rôl y newyddiadurwr yn golygu mwy na adrodd ar y byd o’n cwmpas; mae newyddiaduraeth radical, yn ôl ei chefnogwyr, yn cyfrannu at newid y byd mewn modd gwleidyddol blaengar.
Datblygodd newyddiaduraeth radical er mwyn gwrthsefyll gwrthrychedd cynyddol yn negawdau cynnar y bedwaredd ganrif ar bymtheg, a gwelwyd y newyddiaduraeth radical newydd hon mewn cyhoeddiadau fel y Penny Press yn Unol Daleithiau America a’r Wasg Dosbarth Gweithiol Saesneg (Pauper Press) ym Mhrydain.
Cafodd y ddwy wasg honno eu lansio er mwyn sicrhau darllenwyr màs a oedd yn ymddiddori yn y mathau o newyddion yr oedd y papurau newydd traddodiadol, ‘uchel ael’, wedi’u hesgeuluso i raddau helaeth. Roedd llywodraethau’r dydd yn ofni’r bygythiad i’r sefydliadau grymus breintiedig o du’r elfennau mwy radical o fewn newyddiaduraeth boblogaidd. Ar yr un pryd, roedd perchenogion y wasg ‘barchus’ am leihau’r gystadleuaeth ar gyfer darllenwyr. Felly, roedd y ddau grŵp yn gweld manteision pwysig i’w hennill trwy gyfyngu perchnogaeth papurau newydd i aelodau o’r dosbarth a oedd yn berchen eiddo.
Roedd dau ffactor yn arwyddocaol yma: yn gyntaf, roedd hysbysebwyr fel arfer yn awyddus i osgoi unrhyw gysylltiad â chyhoeddiadau dadleuol. Yn ail, roeddent yn fodlon gosod eu hysbysebion gyda’r teitlau hynny yn unig a oedd yn denu cynulleidfa yr oedd ganddynt y modd ariannol i brynu eu cynhyrchion. O’r herwydd, roedd y difreintiedig, gan eu bod wedi’u heithrio, yn tueddu i gefnogi’r wasg radical. Ychydig o deitlau radical oedd yn meddu ar gynnwys golygyddol cystal â’u cystadleuwyr ‘parchus’. Nid oeddent chwaith yn gallu fforddio buddsoddi’r cyfalaf sydd ei angen er mwyn prynu’r gweisg diweddaraf a defnyddio inc gwell i hwyluso’r gwaith o brintio’r papur a’i wneud yn atyniadol.
O ganlyniad, yn hytrach na dechrau cyfnod newydd o ryddid y wasg, yn y cyfnod hwn gwelwyd system llawer mwy effeithiol o sensoriaeth. Dadleuodd Curran a Seaton (2003: 9) bod y farchnad wedi llwyddo i orfodi’r wasg i ddilyn y drefn lle’r oedd gorthrwm cyfreithiol wedi methu.
Heddiw, mae’r traddodiad o fynegi anghydfod trwy newyddiaduraeth radical yn parhau mewn ystod eang o wasanaethau newyddion anfasnachol, gan gynnwys papurau newydd (megis papurau Sosialaidd wythnosol) a chylchgronau (sy’n dibynnu ar ddaliadau neu danysgrifiadau fel arfer), yn ogystal â thrwy gyfrwng teledu mynediad cymunedol a darpariaeth radio cyhoeddus. Mae newyddiaduraeth radical yn ffynnu fwyaf, fodd bynnag, ar y rhyngrwyd, e.e gwefannau fel IndyMedia, blogiau personol a gwefannau eraill.
Curran, J. a Seaton, J. 2003. Power Without Responsibility: The Press and Broadcasting in Britain. 6ed arg. London: Routledge.
- Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.