Golygyddol

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio

Yng nghyd-destun cyhoeddiad, mae erthygl olygyddol yn ddarn barn dienw a ysgrifennir gan olygydd ac sydd yn cynrychioli safbwynt papur newydd neu gylchgrawn ar faterion y dydd. Dylid gwahaniaethu rhwng erthyglau golygyddol a darnau barn a gyfrennir gan eraill, yr hyn a elwir yn Saesneg yn ‘op-ed’ o ganlyniad i’r arfer o’u gosod ar y dudalen gyferbyn â’r prif erthyglau golygyddol.

Am na cheir papur dyddiol yn y Gymraeg, ceir tueddiad i roi lle blaenllaw i ddadansoddi newyddion yn hytrach nag adrodd ffeithiau. O ganlyniad, mae gogwydd golygyddol y cyfnodolion yn tueddu i fod yn amlycach, a cheir hanes amlwg o osod erthyglau golygyddol mewn mannau blaenllaw. Er enghraifft, hyd nes ail ddegawd yr 20g. roedd yn arferiad gan Baner ac Amserau Cymru osod erthygl olygyddol hirfaith ar y dudalen flaen. Yng nghylchgrawn Golwg, ceir yn wythnosol yr erthygl olygyddol ar y dudalen gyntaf ar ôl y clawr a’r hysbysebion.

Mae cynnwys erthyglau golygyddol yn tueddu i lynu’n agos at safbwyntiau gwleidyddol y cyfnodolyn, fel nad ydynt yn pechu eu darllenwyr, tra gall cyfraniadau dan enwau cyfranwyr neu ohebwyr unigol fod yn fwy heriol. Er enghraifft, awgryma Ieuan Wyn Jones bod Thomas Gee, wrth ysgrifennu erthyglau golygyddol Baner ac Amserau Cymru, wedi bod yn ofalus wrth leddfu rhywfaint ar ei wleidyddiaeth radical yn ei erthyglau golygyddol, a hynny am ei fod am adeiladu’r gynulleidfa fwyaf posib. Ar yr un pryd, gallai roi llwyfan i eraill megis Emrys ap Iwan ddadlau o blaid newidiadau a oedd y tu hwnt i brif ffrwd gwleidyddiaeth y cyfnod.

Serch hynny, cyfyngir cyfranwyr yn aml gan farn y golygydd ynglŷn â natur cynulleidfa’r cyfnodolyn. Er enghraifft, roedd Saunders Lewis yn ymwybodol wrth gyfrannu ei erthyglau ‘Cwrs y Byd’ yn ystod yr Ail Ryfel Byd o’r angen i gydymffurfio â pholisi golygyddol papur newydd Y Faner ar y rhyfel.

Awgryma Mike Cormack fod yr angen i fabwysiadu safbwyntiau golygyddol na fyddai’n eithrio darllenwyr neu wrandawyr wedi atal cyfryngau mewn ieithoedd lleiafrifol rhag mynegi rhaglen wleidyddol radical.

Ar bwnc beirniadeth lenyddol yn benodol, efallai mai’r esiampl amlycaf o erthyglau golygyddol oedd rhai W. J. Gruffydd yng nghylchgrawn chwarterol Y Llenor, a ymddangosai rhwng 1922 ac 1951 dan y pennawd ‘Nodiadau’r Golygydd’ yn ymdrin â materion y dydd. Ymysg y testunau bu ymosod cyson ar ffaeleddau trefniadaeth yr Eisteddfod Genedlaethol, a gwrthdaro â Saunders Lewis ar bwnc gwleidyddiaeth, crefydd, Cymreigrwydd, Ewropeaeth a’u hagweddau at lenyddiaeth.

Ceir sawl cyfrol sy’n casglu ynghyd erthyglau golygyddol, e.e. ysgrifau W. J. Gruffydd yn Y Llenor, rhai Alwyn D. Rees a Simon Brooks yn Barn, a Dylan Iorwerth yn Golwg.

Ifan Morgan Jones

Llyfryddiaeth

Brooks, S. (2009), Yr Hawl i Oroesi: Ysgrifau Gwleidyddol a Diwylliannol (Llanrwst: Gwasg Carreg Gwalch).

Chapman, T. R. (1993), W. J. Gruffydd (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru).

Cormack, M. (2000), ‘Minority languages, nationalism and broadcasting: the British and Irish examples’, Nations and Nationalism, 6 (3), tt. 383-398.

Iorwerth, D. (2007), Nabod y Teip: Ysgrifau 12 Mlynedd (Llanrwst: Gwasg Carreg Gwalch).

Gruffydd, W. J. (1986) yn Chapman, T.R. (gol.), Nodiadau'r golygydd : detholiad o nodiadau golygyddol 'Y Llenor' (Llandybïe: Christopher Davies).

Gwyn, R. (1994), ‘Cwrs y Byd: Dylanwad Athroniaeth Saunders Lewis ar ei Ysgrifau Newyddiadurol 1930-1950’ (Prifysgol Cymru: M. Phil).

Jones, I. W. (1998), Y Llinyn Arian: Agweddau o Fywyd Thomas Gee (Dinbych: Gwasg Gee).

Rees, A. D. (1976), yn Jones, B. (gol.) Ym Marn (Abertawe: Christopher Davies).


Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.