Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Pryniant Blynyddoedd"
(Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'Wrth brisio tir ac eiddo a ddelir fel buddsoddiad, mabwysiadir proses lle bydd yr incwm net yn cael ei luosogi gan ffigwr sy’n adlewyrchu nifer y blynoe...') |
B |
||
Llinell 6: | Llinell 6: | ||
==Llyfryddiaeth== | ==Llyfryddiaeth== | ||
− | “Property Development”, Sara Wilkinson a Richard Reed, Routledge Publishing, pumed argraffiad, tudalen 96 | + | ''“Property Development”'', Sara Wilkinson a Richard Reed, Routledge Publishing, pumed argraffiad, tudalen 96 |
+ | |||
{{CC BY-SA}} | {{CC BY-SA}} | ||
[[Categori:Tirfesureg]] | [[Categori:Tirfesureg]] | ||
[[Categori:Tir ac Eiddo]] | [[Categori:Tir ac Eiddo]] |
Y diwygiad cyfredol, am 06:58, 14 Mehefin 2021
Wrth brisio tir ac eiddo a ddelir fel buddsoddiad, mabwysiadir proses lle bydd yr incwm net yn cael ei luosogi gan ffigwr sy’n adlewyrchu nifer y blynoedd y gall y buddsoddwr ddisgwyl derbyn yr incwm. Dyma yw Pryniant Blynyddoedd [sef "Years’ Purchase" neu YP]. Mae’r pryniant yn gyfystyr â Gwerth Presennol £1 y flwyddyn [Present Value of £1 per annum] ac yn gilyddol i’r blwydd-dal y bydd £1 yn ei brynu.
I bob pwrpas mae tablau pryniant un ai’n gyfradd sengl neu’n gyfradd ddeuol. Defnyddir canran pellach yng nghyd-destun cyfradd ddeuol i adlewyrchu cronfa ad-dalu i ailgyflenwi gwerth yr ased ar ddiwedd y tymor. Gellir hefyd ychwanegu elfennau pellach mewn prisiannau mwy soffistigedig er mwyn adlewyrchu treth ar yr incwm.
Owain Llywelyn
Llyfryddiaeth
“Property Development”, Sara Wilkinson a Richard Reed, Routledge Publishing, pumed argraffiad, tudalen 96
- Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.