Pryniant Blynyddoedd

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio

Wrth brisio tir ac eiddo a ddelir fel buddsoddiad, mabwysiadir proses lle bydd yr incwm net yn cael ei luosogi gan ffigwr sy’n adlewyrchu nifer y blynoedd y gall y buddsoddwr ddisgwyl derbyn yr incwm. Dyma yw Pryniant Blynyddoedd [sef "Years’ Purchase" neu YP]. Mae’r pryniant yn gyfystyr â Gwerth Presennol £1 y flwyddyn [Present Value of £1 per annum] ac yn gilyddol i’r blwydd-dal y bydd £1 yn ei brynu.

I bob pwrpas mae tablau pryniant un ai’n gyfradd sengl neu’n gyfradd ddeuol. Defnyddir canran pellach yng nghyd-destun cyfradd ddeuol i adlewyrchu cronfa ad-dalu i ailgyflenwi gwerth yr ased ar ddiwedd y tymor. Gellir hefyd ychwanegu elfennau pellach mewn prisiannau mwy soffistigedig er mwyn adlewyrchu treth ar yr incwm.

Owain Llywelyn

Llyfryddiaeth

“Property Development”, Sara Wilkinson a Richard Reed, Routledge Publishing, pumed argraffiad, tudalen 96



Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.