Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Gwerin, Dawnswyr"

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio
Llinell 2: Llinell 2:
 
'''Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn [https://www.ylolfa.com/cynnyrch/9781784616250/cydymaith-i-gerddoriaeth-cymru''Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru''], cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.'''
 
'''Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn [https://www.ylolfa.com/cynnyrch/9781784616250/cydymaith-i-gerddoriaeth-cymru''Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru''], cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.'''
  
Ers sefydlu [[Cymdeithas Ddawns Werin Cymru]] (bellach Cymdeithas Genedlaethol Dawns Werin Cymru (CGDWC)) yn 1949, mae nifer o ddawnswyr a charedigion y ddawns werin Gymreig wedi’u hamlygu eu hunain. Mae’r canlynol ymhlith y mwyaf blaenllaw a dylanwadol ohonynt.
+
Ers sefydlu [[Gwerin, Dawnswyr | Cymdeithas Ddawns Werin Cymru]] (bellach Cymdeithas Genedlaethol Dawns Werin Cymru (CGDWC)) yn 1949, mae nifer o ddawnswyr a charedigion y ddawns werin Gymreig wedi’u hamlygu eu hunain. Mae’r canlynol ymhlith y mwyaf blaenllaw a dylanwadol ohonynt.
  
  
 
'''Howell Wood''' (1882–1967)
 
'''Howell Wood''' (1882–1967)
  
Crythor, dawnsiwr a physgotwr. Roedd yn un o deulu Romani’r [[Woodiaid]] ac yn glocsiwr penigamp. Fe’i dewiswyd i glocsio ar ben bwrdd yn y ffilm ''The Last Days of Dolwyn'' (1949). Bu ar hyd ei oes yn was i deulu Pantyneuadd, Parc, Y Bala (gw. Jarman a Jarman, 1979).
+
Crythor, dawnsiwr a physgotwr. Roedd yn un o deulu Romani’r [[Woodiaid, Teulu’r (Y Sipsiwn Cymreig) | Woodiaid]] ac yn glocsiwr penigamp. Fe’i dewiswyd i glocsio ar ben bwrdd yn y ffilm ''The Last Days of Dolwyn'' (1949). Bu ar hyd ei oes yn was i deulu Pantyneuadd, Parc, Y Bala (gw. Jarman a Jarman, 1979).
  
  
 
'''Lois Blake''' (1890–1974)
 
'''Lois Blake''' (1890–1974)
  
Y wraig hon, a hanai o Loegr lle’r oedd yn weithgar gyda’r English Folk Dance and Song Society (EFDSS), a fu’n gyfrifol am adfer y bri ar ddawnsio gwerin Cymru yn dilyn y cyfnod o edwino yn yr arferiad oherwydd agweddau anghymeradwyol yr Anghydffurfwyr a newidiadau cymdeithasol yn sgil y Chwyldro Diwydiannol. Symudodd i Sir Ddinbych yn 1930 a mynd ati, gyda chefnogaeth y cerddor [[W. S. Gwynn Williams]] (1896–1978), Llangollen, i ymchwilio i’r maes a chyhoeddi dawnsiau gwerin Cymreig. Fe’i gwahoddwyd gan Urdd Gobaith Cymru i gynnal cyrsiau dawnsio gwerin a pharhaodd y rhain am rai blynyddoedd. Ysgogodd sefydlu CGDWC ac enwyd y brif gystadleuaeth dawnsio gwerin yn yr [[Eisteddfod]] Genedlaethol ar ei hôl.
+
Y wraig hon, a hanai o Loegr lle’r oedd yn weithgar gyda’r English Folk Dance and Song Society (EFDSS), a fu’n gyfrifol am adfer y bri ar ddawnsio gwerin Cymru yn dilyn y cyfnod o edwino yn yr arferiad oherwydd agweddau anghymeradwyol yr Anghydffurfwyr a newidiadau cymdeithasol yn sgil y Chwyldro Diwydiannol. Symudodd i Sir Ddinbych yn 1930 a mynd ati, gyda chefnogaeth y cerddor [[Williams, W. S. Gwynn (Gwynn o'r Llan; 1896-1978) | W. S. Gwynn Williams]] (1896–1978), Llangollen, i ymchwilio i’r maes a chyhoeddi dawnsiau gwerin Cymreig. Fe’i gwahoddwyd gan Urdd Gobaith Cymru i gynnal cyrsiau dawnsio gwerin a pharhaodd y rhain am rai blynyddoedd. Ysgogodd sefydlu CGDWC ac enwyd y brif gystadleuaeth dawnsio gwerin yn yr [[Eisteddfod, Cerddoriaeth a'r | Eisteddfod]] Genedlaethol ar ei hôl.
  
  
Llinell 24: Llinell 24:
 
Un o sefydlwyr CGDWC ac un a fu’n gadeirydd, yn drysorydd ac yn llywydd arni. Er nad oedd ef ei hun yn ddawnsiwr bu’n frwd ei anogaeth i’r gelfyddyd.
 
Un o sefydlwyr CGDWC ac un a fu’n gadeirydd, yn drysorydd ac yn llywydd arni. Er nad oedd ef ei hun yn ddawnsiwr bu’n frwd ei anogaeth i’r gelfyddyd.
  
Roedd yn ffigwr adnabyddus ym myd cerddoriaeth werin Cymru ac yn ganwr [[baledi]], yn ogystal â bod yn actor, yn ddramodydd, yn ymchwilydd ac yn ddarlledwr.
+
Roedd yn ffigwr adnabyddus ym myd cerddoriaeth werin Cymru ac yn ganwr [[Baled | baledi]], yn ogystal â bod yn actor, yn ddramodydd, yn ymchwilydd ac yn ddarlledwr.
  
  
Llinell 49: Llinell 49:
 
'''Alice E. Williams''' (g.1925)
 
'''Alice E. Williams''' (g.1925)
  
Dawnswraig, hyfforddwraig a beirniad cenedlaethol o Frynrefail, Gwynedd. Bu’n athrawes mewn amryw
+
Dawnswraig, hyfforddwraig a beirniad cenedlaethol o Frynrefail, Gwynedd. Bu’n athrawes mewn amryw o ysgolion yn Arfon, Llundain ac Ellesmere Port. Fel trefnydd yr Urdd yn Arfon (1950–56), gwnaeth yn fawr o’r cyfle i hyrwyddo a phoblogeiddio dawnsio gwerin. Bu’n aelod o CGDWC o’r dechrau gan lenwi nifer o swyddi yn y Gymdeithas, yn eu plith swydd y llywydd am naw mlynedd. Fe’i hanrhydeddwyd gyda Medal CGDWC yn 1987.
o ysgolion yn Arfon, Llundain ac Ellesmere Port. Fel trefnydd yr Urdd yn Arfon (1950–56), gwnaeth yn fawr o’r cyfle i hyrwyddo a phoblogeiddio dawnsio gwerin. Bu’n   aelod   o   CGDWC   o’r   dechrau gan lenwi nifer o swyddi yn y Gymdeithas, yn eu plith swydd y llywydd am naw mlynedd. Fe’i hanrhydeddwyd gyda Medal CGDWC yn 1987.
 
  
  
Llinell 65: Llinell 64:
 
'''Owen Huw Roberts''' (g.1931)
 
'''Owen Huw Roberts''' (g.1931)
  
Ysgogwyd gan yr [[addysgwraig]] Kate Davies – a fu’n feirniad dawnsio cenedlaethol, yn hyfforddwraig amryw o dimau ac yn arweinydd Parti Dawns Hiraethog – i ddysgu dawnsio pan oedd y ddau yn athrawon yn Ysgol Caledfryn, Dinbych. Dawnsiwr unigol, athro a beirniad cenedlaethol o Lanfaelog, Ynys Môn, ac un o linach bwysig clocswyr Cymru. Dysgodd glocsio gyda Len Roberts, Llanfyllin, yn yr 1950au i gyfeiliant [[telyn]] [[Nansi Richards]]. Enillodd amryw o wobrau cenedlaethol a rhyngwladol a bu’n gyfrifol am fideo ''Camau Cyntaf Clocsio'' (CGDWC, 2002; ceir fersiwn DVD hefyd). Bu’n aelod o sawl grŵp dawnsio gwerin dros y blynyddoedd, gan gynnwys Dawnswyr Môn.
+
Ysgogwyd gan yr [[Diwylliant a'r Diwydiant Cerddoriaeth | addysgwraig]] Kate Davies – a fu’n feirniad dawnsio cenedlaethol, yn hyfforddwraig amryw o dimau ac yn arweinydd Parti Dawns Hiraethog – i ddysgu dawnsio pan oedd y ddau yn athrawon yn Ysgol Caledfryn, Dinbych. Dawnsiwr unigol, athro a beirniad cenedlaethol o Lanfaelog, Ynys Môn, ac un o linach bwysig clocswyr Cymru. Dysgodd glocsio gyda Len Roberts, Llanfyllin, yn yr 1950au i gyfeiliant [[telyn]] [[Richards, Nansi (Telynores Maldwyn; 1888-1979) | Nansi Richards]]. Enillodd amryw o wobrau cenedlaethol a rhyngwladol a bu’n gyfrifol am fideo ''Camau Cyntaf Clocsio'' (CGDWC, 2002; ceir fersiwn DVD hefyd). Bu’n aelod o sawl grŵp dawnsio gwerin dros y blynyddoedd, gan gynnwys Dawnswyr Môn.
  
  
Llinell 95: Llinell 94:
 
'''Huw Williams''' (g.1959)
 
'''Huw Williams''' (g.1959)
  
Clocsiwr, canwr-gyfansoddwr a darlledwr. Mae’n cydnabod ei ddyled i Jessie Williams (gw. uchod) am ei ddysgu i ddawnsio a chlocsio. Dechreuodd glocsio pan oedd yn ddeuddeg oed. Mae’n aelod o’r grwpiau gwerin [[Crasdant]] a’r [[Glerorfa]] ac ef yw rheolwr y [[grŵp gwerin]] [[Calan]]. Bu’n hyfforddi ''corps de ballet'' Ballet Cymru i glocsio yn eu cynhyrchiad o ''Romeo and Juliet'' yn 2013.
+
Clocsiwr, canwr-gyfansoddwr a darlledwr. Mae’n cydnabod ei ddyled i Jessie Williams (gw. uchod) am ei ddysgu i ddawnsio a chlocsio. Dechreuodd glocsio pan oedd yn ddeuddeg oed. Mae’n aelod o’r grwpiau gwerin [[Crasdant]] a’r [[Glerorfa, Y | Glerorfa]] ac ef yw rheolwr y [[Gwerin, grwpiau | grŵp gwerin]] [[Calan]]. Bu’n hyfforddi ''corps de ballet'' Ballet Cymru i glocsio yn eu cynhyrchiad o ''Romeo and Juliet'' yn 2013.
  
  

Diwygiad 16:03, 8 Gorffennaf 2021

Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.

Ers sefydlu Cymdeithas Ddawns Werin Cymru (bellach Cymdeithas Genedlaethol Dawns Werin Cymru (CGDWC)) yn 1949, mae nifer o ddawnswyr a charedigion y ddawns werin Gymreig wedi’u hamlygu eu hunain. Mae’r canlynol ymhlith y mwyaf blaenllaw a dylanwadol ohonynt.


Howell Wood (1882–1967)

Crythor, dawnsiwr a physgotwr. Roedd yn un o deulu Romani’r Woodiaid ac yn glocsiwr penigamp. Fe’i dewiswyd i glocsio ar ben bwrdd yn y ffilm The Last Days of Dolwyn (1949). Bu ar hyd ei oes yn was i deulu Pantyneuadd, Parc, Y Bala (gw. Jarman a Jarman, 1979).


Lois Blake (1890–1974)

Y wraig hon, a hanai o Loegr lle’r oedd yn weithgar gyda’r English Folk Dance and Song Society (EFDSS), a fu’n gyfrifol am adfer y bri ar ddawnsio gwerin Cymru yn dilyn y cyfnod o edwino yn yr arferiad oherwydd agweddau anghymeradwyol yr Anghydffurfwyr a newidiadau cymdeithasol yn sgil y Chwyldro Diwydiannol. Symudodd i Sir Ddinbych yn 1930 a mynd ati, gyda chefnogaeth y cerddor W. S. Gwynn Williams (1896–1978), Llangollen, i ymchwilio i’r maes a chyhoeddi dawnsiau gwerin Cymreig. Fe’i gwahoddwyd gan Urdd Gobaith Cymru i gynnal cyrsiau dawnsio gwerin a pharhaodd y rhain am rai blynyddoedd. Ysgogodd sefydlu CGDWC ac enwyd y brif gystadleuaeth dawnsio gwerin yn yr Eisteddfod Genedlaethol ar ei hôl.


Jessie Williams (1902–2003)

A hithau’n byw ym Mryn-mawr, aeth Jessie Williams ati gyda’i gŵr, Hector Williams, i sefydlu Dawnswyr Gwerin Cymru Bryn-mawr yn 1952. Roedd ei phwyslais mawr ar ddisgyblaeth yn cael ei adlewyrchu yn y dawnsio, yn y gwisgoedd (gan gynnwys hetiau traddodiadol a wnaed yn arbennig gan wneuthurwyr hetiau proffesiynol o Lundain) ac yn ymddygiad y tîm. Derbyniodd fedal gan CGDWC yn 1978 a thlws yn 1988 gan Gyngor Blaenau Gwent, fel cydnabyddiaeth o’i chyfraniad i ddawnsio gwerin yng Nghymru. Ym Mehefin 2002 fe’i hanrhydeddwyd gan CGDWC ar achlysur ei phen-blwydd yn gant oed.


Emrys Cleaver (1904–85)

Un o sefydlwyr CGDWC ac un a fu’n gadeirydd, yn drysorydd ac yn llywydd arni. Er nad oedd ef ei hun yn ddawnsiwr bu’n frwd ei anogaeth i’r gelfyddyd.

Roedd yn ffigwr adnabyddus ym myd cerddoriaeth werin Cymru ac yn ganwr baledi, yn ogystal â bod yn actor, yn ddramodydd, yn ymchwilydd ac yn ddarlledwr.


E. Cecily Howells (1908–88)

Ynghyd â Mary Hayes, sefydlydd Dawnswyr Glan Cleddau yn 1971 a’u harweinydd am flynyddoedd lawer. Cyfansoddodd nifer o ddawnsiau, yn arbennig ‘Pont Cleddau’ a fu’n fuddugol yn yr adran cyfansoddi dawns yn Eisteddfod Genedlaethol Aberteifi 1976. Fe’i cyfansoddwyd i ddathlu adeiladu’r bont dros afon Cleddau yn Sir Benfro. Trefnwyd y gerddoriaeth gan Rhiannon Herbert. Yn 1977–8 anrhydeddwyd Cecily Howells â medal CGDWC.


Gwennant Gillespie (née Davies; 1910–2013)

Dawnswraig, hyfforddwraig, beirniad ac un o brif swyddogion Urdd Gobaith Cymru. Trwy gyfundrefn yr Urdd bu’n weithgar yn adfer dawnsio gwerin i’w briod le ym mywyd y genedl. Gwahoddodd Lois Blake i ddysgu dawnsio gwerin ym Mhantyfedwen, Y Borth, yn 1948 ac arweiniodd hynny, flwyddyn yn ddiweddarach, at sefydlu CGDWC o dan lywyddiaeth yr olaf gyda Gwennant Gillespie, trwy’r Urdd, yn un o brif anogwyr y grefft.


Pat Shaw (Patrick Noel Shuldham Shaw) (1917– 77).

Cerddor dawnus, dawnsiwr, hyfforddwr, galwr a chyfansoddwr dawnsiau a cherddoriaeth. Fe’i ganed yn Lloegr i deulu o gerddorion gwerin. Trwy Lois Blake daeth i gysylltiad â CGDWC yn yr 1960au a bu’n aelod o’r pwyllgor gwaith. Darparodd gyfoeth o alawon i gerddorion. Bu’n llwyddiannus yn yr Eisteddfod Genedlaethol am gyfansoddi dawnsiau; mae Tý Coch Caerdydd, a fu’n fuddugol yn Aberafan yn 1966, yn un o’r rhai mwyaf poblogaidd yng Nghymru heddiw. Trefnodd amryw o ddawnsiau hefyd.


Frances Môn Jones (1919–2000)

Telynores a chyfeilyddes dawnsio gwerin o Lanfair Caereinion. Bu’n ysgrifennydd CGDWC (1957–70) ac yn is-lywydd y Gymdeithas yn ddiweddarach. Yn 1983 cafodd MBE am ei chyfraniad i fyd alawon gwerin Cymru a dawnsio gwerin. Derbyniodd fedal CGDWC a Medal Goffa Syr T. H. Parry-Williams gan yr Eisteddfod Genedlaethol yn 1999.


Alice E. Williams (g.1925)

Dawnswraig, hyfforddwraig a beirniad cenedlaethol o Frynrefail, Gwynedd. Bu’n athrawes mewn amryw o ysgolion yn Arfon, Llundain ac Ellesmere Port. Fel trefnydd yr Urdd yn Arfon (1950–56), gwnaeth yn fawr o’r cyfle i hyrwyddo a phoblogeiddio dawnsio gwerin. Bu’n aelod o CGDWC o’r dechrau gan lenwi nifer o swyddi yn y Gymdeithas, yn eu plith swydd y llywydd am naw mlynedd. Fe’i hanrhydeddwyd gyda Medal CGDWC yn 1987.


Gwyn Williams (Gwyn Bangor) (1925–2013)

Yn ogystal â bod yn gynhyrchydd rhaglenni gyda Radio Cymru, roedd Gwyn Williams yn weithgar ym myd y ddawns, ac yntau’n feirniad cenedlaethol, yn alwr twmpath ac yn awdur nifer o ddawnsiau poblogaidd. Yr oedd hefyd yn hyfforddwr clocsio; roedd ei dad, Wil Williams, yn glocsiwr o fri. Bu’n un o drefnyddion yr Urdd ac roedd yn aelod o Grŵp Dawnsio Cenedlaethol yr Urdd yn yr 1950au. Fe’i hanrhydeddwyd gyda Medal Anrhydedd CGDWC yn 1988.


Eddie Jones (1930–2014)

Athro ysgol, beirniad cenedlaethol, hyfforddwr dawns a chyfansoddwr nifer o ddawnsiau a chyhoeddiadau perthnasol. Roedd yn un o hoelion wyth CGDWC. Bu’n aelod o dîm cyntaf Aberystwyth, a bu hefyd yn arwain tîm Aelwyd Rhydypennau ar y cyd â’i wraig, Bethan Jones. Roedd yn ysgolhaig ac yn arbenigwr ar y ddawns werin ac ar William Jones, Llangadfan.


Owen Huw Roberts (g.1931)

Ysgogwyd gan yr addysgwraig Kate Davies – a fu’n feirniad dawnsio cenedlaethol, yn hyfforddwraig amryw o dimau ac yn arweinydd Parti Dawns Hiraethog – i ddysgu dawnsio pan oedd y ddau yn athrawon yn Ysgol Caledfryn, Dinbych. Dawnsiwr unigol, athro a beirniad cenedlaethol o Lanfaelog, Ynys Môn, ac un o linach bwysig clocswyr Cymru. Dysgodd glocsio gyda Len Roberts, Llanfyllin, yn yr 1950au i gyfeiliant telyn Nansi Richards. Enillodd amryw o wobrau cenedlaethol a rhyngwladol a bu’n gyfrifol am fideo Camau Cyntaf Clocsio (CGDWC, 2002; ceir fersiwn DVD hefyd). Bu’n aelod o sawl grŵp dawnsio gwerin dros y blynyddoedd, gan gynnwys Dawnswyr Môn.


Jean Huw Jones (Siân Aman) (g.1938)

Dawnswraig o Rydaman. Bu’n aelod o Orsedd yr Eisteddfod Genedlaethol ac yn Feistres y Gwisgoedd hyd 2011. Bu hefyd yn llywydd CGDWC. Hi oedd y gyntaf i ddawnsio dawns ‘Morfa Rhuddlan’ yn yr Eisteddfod Genedlaethol (Llanelli 1962). Mae hi a’i gŵr, Huw Jones, yn gymwynaswyr ac yn noddwyr hael i ddawnsio gwerin.


Mavis Williams Roberts (g.1941)

Gwyddonydd a daearegydd sy’n hanu o Sir Benfro, ac sydd wedi gwneud cyfraniad ym myd y ddawns fel beirniad cenedlaethol a chyfansoddwraig amryw o ddawnsiau pwysig. Enillodd yr wobr gyntaf am gyfansoddi bum gwaith yn yr Eisteddfod Genedlaethol. Bu’n hyfforddi Dawnswyr Tawerin (1978–2010) a bu’n hyfforddi’n rhyngwladol hefyd. Y mae bellach wedi ymgartrefu yn Swydd Gaerloyw.


Christine Jones (g.1945)

Dawnswraig, hyfforddwraig a beirniad cenedlaethol. Gyda’i gŵr, Rhodri Jones (yntau’n ddawnsiwr, yn feirniad cenedlaethol a hefyd yn hanesydd dawnsio gwerin), Elinor Jones a Gill James, sefydlodd Gwmni Dawns Werin Caerdydd yn 1968. Bu’n arweinydd arno am gyfnod maith a bu’n athrawes dawnsio gwerin i’r Welsh Heritage Week yn America ers sawl blwyddyn. Bu Rhodri Jones yn llyfrgellydd, yn gadeirydd ac yn llywydd CGDWC.


Eirlys Britton (g.1949)

Athrawes ac actores; beirniad cenedlaethol a hyfforddwraig Dawnswyr Nantgarw. Ynghyd â’i gŵr, Cliff Jones (clocsiwr, hyfforddwr a beirniad cenedlaethol), sefydlodd Ddawnswyr Nantgarw yn 1980 ac yn ddiweddarach Ysgol Bro Taf yn ardal Caerdydd i hyfforddi ieuenctid. Hi a gyfansoddodd y ddawns ar gyfer seremoni’r Prif Lenor yn yr Eisteddfod Genedlaethol. Yn 2012 enillodd Fedal Goffa Syr T. H. Parry-Williams yr Eisteddfod Genedlaethol am ei gwaith gyda dawnsio gwerin yn ardal Pontypridd dros gyfnod o fwy na deng mlynedd ar hugain.


Mansel Phillips (g.1951) ac Eirlys Phillips (g.1952)

Y cwpl hwn o Fryn Iwan ger Cynwyl Elfed a sefydlodd Ddawnswyr Talog (https://dawnswyrtalog.org.uk) yn 1979 gan eu harwain hefyd. Maent wedi ennill cystadlaethau lu. Mae’r ddau yn ddawnswyr ac yn feirniaid cenedlaethol, ac mae Eirlys yn gerddor medrus sydd hefyd yn llunio dawnsiau. Enillodd Eirlys Fedal Syr T. H. Parry-Williams yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn 2004 am ei gwasanaeth i ddawnsio gwerin. Mae eu plant, Tudur, Cerian a Lleucu, wedi ennill amryw o gystadlaethau dawnsio unigol.


Huw Williams (g.1959)

Clocsiwr, canwr-gyfansoddwr a darlledwr. Mae’n cydnabod ei ddyled i Jessie Williams (gw. uchod) am ei ddysgu i ddawnsio a chlocsio. Dechreuodd glocsio pan oedd yn ddeuddeg oed. Mae’n aelod o’r grwpiau gwerin Crasdant a’r Glerorfa ac ef yw rheolwr y grŵp gwerin Calan. Bu’n hyfforddi corps de ballet Ballet Cymru i glocsio yn eu cynhyrchiad o Romeo and Juliet yn 2013.


Eiry Palfrey

Llyfryddiaeth

  • Eldra Jarman ac A. O. H. Jarman, Y Sipsiwn Cymreig: teulu Abram Wood (Caerdydd, 1979)



Comisiynwyd y cofnod hwn ar gyfer Y Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol a fydd yn cael ei chyhoeddi gan Y Lolfa yn 2018. Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.