Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Telyn"
CadiW (Sgwrs | cyfraniadau) |
CadiW (Sgwrs | cyfraniadau) |
||
Llinell 6: | Llinell 6: | ||
Ceir saith o bedalau ar y delyn sy’n cysylltu gyda pheirianwaith yn ei gwddf. Trwy symud y pedalau gyda’r traed, gellir newid y donyddiaeth wrth dynhau a llacio’r tannau, yn hytrach nag aildiwnio’r delyn i’r cyweirnod gofynnol bob tro. Georges Cousineau a Jean Henri Naderman oedd dau o wneuthurwyr cyntaf y delyn bedal ym Mharis yn y 18g., ac iddynt hwy y priodolir dyfais y bachau sy’n gyfrifol am hapnodau a newid cyweirnodau. Er gwaethaf yr addasiadau a wnaethpwyd i’r telynau arwaith-sengl ''(single-action)'' wrth eu datblygu, cyfyngid ar y gerddoriaeth y gellid ei chwarae gan y ffaith mai wyth cywair mwyaf a phum cywair lleiaf yn unig a oedd ar gael i delynorion yr adeg honno. Mewn ymateb i anfodlonrwydd y telynorion, datblygodd teulu Cousineau delyn a fedrai gael ei chanu mewn unrhyw gyweirnod. Roedd 14 o bedalau, wedi’u gosod ar ben ei gilydd mewn dwy res, yn nodweddu’r delyn honno. | Ceir saith o bedalau ar y delyn sy’n cysylltu gyda pheirianwaith yn ei gwddf. Trwy symud y pedalau gyda’r traed, gellir newid y donyddiaeth wrth dynhau a llacio’r tannau, yn hytrach nag aildiwnio’r delyn i’r cyweirnod gofynnol bob tro. Georges Cousineau a Jean Henri Naderman oedd dau o wneuthurwyr cyntaf y delyn bedal ym Mharis yn y 18g., ac iddynt hwy y priodolir dyfais y bachau sy’n gyfrifol am hapnodau a newid cyweirnodau. Er gwaethaf yr addasiadau a wnaethpwyd i’r telynau arwaith-sengl ''(single-action)'' wrth eu datblygu, cyfyngid ar y gerddoriaeth y gellid ei chwarae gan y ffaith mai wyth cywair mwyaf a phum cywair lleiaf yn unig a oedd ar gael i delynorion yr adeg honno. Mewn ymateb i anfodlonrwydd y telynorion, datblygodd teulu Cousineau delyn a fedrai gael ei chanu mewn unrhyw gyweirnod. Roedd 14 o bedalau, wedi’u gosod ar ben ei gilydd mewn dwy res, yn nodweddu’r delyn honno. | ||
− | Sebastian Erard o Baris a fu’n gyfrifol am ddatblygu’r | + | Sebastian Erard o Baris a fu’n gyfrifol am ddatblygu’r delyn arwaith-dwbl ''(double-action)'' yn 1810, cynllun sy’n cael ei efelychu o hyd yn nhelynau heddiw i raddau helaeth. Gyda’r cynllun hwn, gellid addasu traw pob tant o’r llonnod, i’r naturiol, ac i’r meddalnod, gan gynnig amrywiaeth o gyweirnodau, yn ogystal â’r gallu i chwarae hapnodau yn ystod y darn. |
− | delyn arwaith-dwbl ''(double-action)'' yn 1810, cynllun sy’n cael ei efelychu o hyd yn nhelynau heddiw i raddau helaeth. Gyda’r cynllun hwn, gellid addasu traw pob tant o’r llonnod, i’r naturiol, ac i’r meddalnod, gan gynnig amrywiaeth o gyweirnodau, yn ogystal â’r gallu i chwarae hapnodau yn ystod y darn. | ||
Y dull arferol o chwarae’r delyn yw gyda’r bys bawd a’r tri bys cyntaf ar y ddwy law. Ni ddefnyddir y bys bach o gwbl, yn bennaf oherwydd ei fyrder o’i gymharu â’r bysedd arall yn ogystal â’r ffaith nad yw’n ddigon cryf i dynnu’r tannau. | Y dull arferol o chwarae’r delyn yw gyda’r bys bawd a’r tri bys cyntaf ar y ddwy law. Ni ddefnyddir y bys bach o gwbl, yn bennaf oherwydd ei fyrder o’i gymharu â’r bysedd arall yn ogystal â’r ffaith nad yw’n ddigon cryf i dynnu’r tannau. | ||
Llinell 17: | Llinell 16: | ||
Dynion oedd y mwyafrif helaeth o delynorion proffesiynol hyd at ddiwedd y 19g. Ar yr aelwyd yn unig y gwelid y gwragedd yn chwarae’r offeryn o’r 17g. hyd at ddiwedd y 19g. Erbyn yr 21g. caiff y delyn ei chwarae gan ddynion a gwragedd fel ei gilydd ar hyd a lled y byd. | Dynion oedd y mwyafrif helaeth o delynorion proffesiynol hyd at ddiwedd y 19g. Ar yr aelwyd yn unig y gwelid y gwragedd yn chwarae’r offeryn o’r 17g. hyd at ddiwedd y 19g. Erbyn yr 21g. caiff y delyn ei chwarae gan ddynion a gwragedd fel ei gilydd ar hyd a lled y byd. | ||
− | Bu’r [[delyn deires]] a’r delyn bedal yn cydoesi am gyfnod yn y 19g. yng Nghymru ond yn y man disodlwyd y naill gan y llall. Trwy ddylanwad telynorion megis [[John Thomas]] ([[Pencerdd]] Gwalia) a [[John Parry]] (Bardd Alaw) y daethpwyd â’r delyn bedal i Gymru. Wrth i’r cerddorion hyn astudio yn Llundain a theithio i gyfandir Ewrop i berfformio, roedd yn ofynnol iddynt gydymffurfio â ffasiynau a datblygiadau cerddorol y cyfnod ac roedd y delyn bedal yn fwy addas na’r delyn deires ar gyfer perfformio [[cerddoriaeth glasurol a chelfyddydol]] y 19g. A hwythau mewn cysylltiad cyson gyda chymdeithasau ac unigolion yn eu mamwlad, arweiniodd eu brwdfrydedd dros y delyn bedal at ffafrio’r delyn honno yng Nghymru hefyd a chollodd y delyn deires ei bri. | + | Bu’r [[Telyn Deires | delyn deires]] a’r delyn bedal yn cydoesi am gyfnod yn y 19g. yng Nghymru ond yn y man disodlwyd y naill gan y llall. Trwy ddylanwad telynorion megis [[Thomas, John (Pencerdd Gwalia; 1826-1913) | John Thomas]] ([[Pencerdd]] Gwalia) a [[Parry, John (Bardd Alaw; 1776-1851) | John Parry]] (Bardd Alaw) y daethpwyd â’r delyn bedal i Gymru. Wrth i’r cerddorion hyn astudio yn Llundain a theithio i gyfandir Ewrop i berfformio, roedd yn ofynnol iddynt gydymffurfio â ffasiynau a datblygiadau cerddorol y cyfnod ac roedd y delyn bedal yn fwy addas na’r delyn deires ar gyfer perfformio [[Clasurol a Chelfyddydol, Cerddoriaeth | cerddoriaeth glasurol a chelfyddydol]] y 19g. A hwythau mewn cysylltiad cyson gyda chymdeithasau ac unigolion yn eu mamwlad, arweiniodd eu brwdfrydedd dros y delyn bedal at ffafrio’r delyn honno yng Nghymru hefyd a chollodd y delyn deires ei bri. |
− | Ffynnodd y delyn bedal yn ystod yr 20g. a gwelwyd unigolion megis [[Osian Ellis]], [[Elinor Bennett]], Ann Griffiths a [[Sioned Williams]] yn sicrhau statws rhyngwladol iddynt eu hunain fel telynorion ac yn cyfiawnhau lle’r delyn bedal fel offeryn cenedlaethol y Cymry. Mae’r offeryn yn parhau i ffynnu, ac ymysg rhai o delynorion amlycaf yr 21g. y mae [[Catrin Finch]], Claire Jones a Hannah Stone, ill tair yn eu tro wedi bod yn delynorion i Dywysog Cymru. | + | Ffynnodd y delyn bedal yn ystod yr 20g. a gwelwyd unigolion megis [[Ellis, Osian (1928-2021) | Osian Ellis]], [[Bennett, Elinor (g.1943) | Elinor Bennett]], Ann Griffiths a [[Williams, Sioned (g.1953) | Sioned Williams]] yn sicrhau statws rhyngwladol iddynt eu hunain fel telynorion ac yn cyfiawnhau lle’r delyn bedal fel offeryn cenedlaethol y Cymry. Mae’r offeryn yn parhau i ffynnu, ac ymysg rhai o delynorion amlycaf yr 21g. y mae [[Finch, Catrin (g.1980) | Catrin Finch]], Claire Jones a Hannah Stone, ill tair yn eu tro wedi bod yn delynorion i Dywysog Cymru. |
'''Gwawr Jones''' | '''Gwawr Jones''' |
Y diwygiad cyfredol, am 21:31, 7 Awst 2021
Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.
Offeryn cerdd gyda 47 o dannau a gaiff ei chwarae gyda chnawd y bysedd yw’r delyn bedal. Cyfeirir yn fwy rheolaidd at y delyn yn hanes llenyddiaeth Gymraeg nag unrhyw offeryn arall, ac fe’i hystyrir yn offeryn traddodiadol y Cymry. Credir mai’r term Nordig am offeryn llinynnol oedd y gair harpa yn wreiddiol, ond mae’r term wedi’i fathu ar gyfer yr offeryn penodol hwn bellach.
Ceir saith o bedalau ar y delyn sy’n cysylltu gyda pheirianwaith yn ei gwddf. Trwy symud y pedalau gyda’r traed, gellir newid y donyddiaeth wrth dynhau a llacio’r tannau, yn hytrach nag aildiwnio’r delyn i’r cyweirnod gofynnol bob tro. Georges Cousineau a Jean Henri Naderman oedd dau o wneuthurwyr cyntaf y delyn bedal ym Mharis yn y 18g., ac iddynt hwy y priodolir dyfais y bachau sy’n gyfrifol am hapnodau a newid cyweirnodau. Er gwaethaf yr addasiadau a wnaethpwyd i’r telynau arwaith-sengl (single-action) wrth eu datblygu, cyfyngid ar y gerddoriaeth y gellid ei chwarae gan y ffaith mai wyth cywair mwyaf a phum cywair lleiaf yn unig a oedd ar gael i delynorion yr adeg honno. Mewn ymateb i anfodlonrwydd y telynorion, datblygodd teulu Cousineau delyn a fedrai gael ei chanu mewn unrhyw gyweirnod. Roedd 14 o bedalau, wedi’u gosod ar ben ei gilydd mewn dwy res, yn nodweddu’r delyn honno.
Sebastian Erard o Baris a fu’n gyfrifol am ddatblygu’r delyn arwaith-dwbl (double-action) yn 1810, cynllun sy’n cael ei efelychu o hyd yn nhelynau heddiw i raddau helaeth. Gyda’r cynllun hwn, gellid addasu traw pob tant o’r llonnod, i’r naturiol, ac i’r meddalnod, gan gynnig amrywiaeth o gyweirnodau, yn ogystal â’r gallu i chwarae hapnodau yn ystod y darn.
Y dull arferol o chwarae’r delyn yw gyda’r bys bawd a’r tri bys cyntaf ar y ddwy law. Ni ddefnyddir y bys bach o gwbl, yn bennaf oherwydd ei fyrder o’i gymharu â’r bysedd arall yn ogystal â’r ffaith nad yw’n ddigon cryf i dynnu’r tannau.
Ceir nifer o dechnegau amrywiol y gellir eu defnyddio ar gyfer y delyn bedal, gan gynnwys taro’r seinfwrdd; chwarae gyda’r ewinedd yn hytrach na chnawd y bysedd; a chwarae’r tant wrth y seinfwrdd sy’n creu sain wahanol iawn i’r hyn a geir wrth chwarae yng nghanol y tannau yn unol â’r arfer. Techneg a ddefnyddir yn rheolaidd, yn enwedig mewn cyd-destun cerddorfaol, yw glissando, lle mae’r bysedd yn sgubo dros y tannau. Gellir hefyd greu glissando gyda’r pedalau a ddefnyddir yn gyson, yn enwedig mewn genres megis jazz. Drwy symud pedal wrth i’r tant ddirgrynu, clywir atsain yr ail nodyn yn canu. Mae’r defnydd o arpeggios a chordiau wedi’u taenu yn nodwedd arall o ganu’r delyn, un sy’n gweddu i’r offeryn ac i siâp y llaw wrth chwarae.
Yr unig gyfyngiad technegol ar y delyn yw’r ffaith na ellir chwarae gwahanol hapnodau mewn wythawdau gwahanol. Er enghraifft, ni ellir chwarae F llonnod ac F naturiol ar yr un pryd oni bai fod y perfformiwr yn defnyddio nodau enharmonig.
Dynion oedd y mwyafrif helaeth o delynorion proffesiynol hyd at ddiwedd y 19g. Ar yr aelwyd yn unig y gwelid y gwragedd yn chwarae’r offeryn o’r 17g. hyd at ddiwedd y 19g. Erbyn yr 21g. caiff y delyn ei chwarae gan ddynion a gwragedd fel ei gilydd ar hyd a lled y byd.
Bu’r delyn deires a’r delyn bedal yn cydoesi am gyfnod yn y 19g. yng Nghymru ond yn y man disodlwyd y naill gan y llall. Trwy ddylanwad telynorion megis John Thomas (Pencerdd Gwalia) a John Parry (Bardd Alaw) y daethpwyd â’r delyn bedal i Gymru. Wrth i’r cerddorion hyn astudio yn Llundain a theithio i gyfandir Ewrop i berfformio, roedd yn ofynnol iddynt gydymffurfio â ffasiynau a datblygiadau cerddorol y cyfnod ac roedd y delyn bedal yn fwy addas na’r delyn deires ar gyfer perfformio cerddoriaeth glasurol a chelfyddydol y 19g. A hwythau mewn cysylltiad cyson gyda chymdeithasau ac unigolion yn eu mamwlad, arweiniodd eu brwdfrydedd dros y delyn bedal at ffafrio’r delyn honno yng Nghymru hefyd a chollodd y delyn deires ei bri.
Ffynnodd y delyn bedal yn ystod yr 20g. a gwelwyd unigolion megis Osian Ellis, Elinor Bennett, Ann Griffiths a Sioned Williams yn sicrhau statws rhyngwladol iddynt eu hunain fel telynorion ac yn cyfiawnhau lle’r delyn bedal fel offeryn cenedlaethol y Cymry. Mae’r offeryn yn parhau i ffynnu, ac ymysg rhai o delynorion amlycaf yr 21g. y mae Catrin Finch, Claire Jones a Hannah Stone, ill tair yn eu tro wedi bod yn delynorion i Dywysog Cymru.
Gwawr Jones
- Comisiynwyd y cofnod hwn ar gyfer Y Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol a fydd yn cael ei chyhoeddi gan Y Lolfa yn 2018. Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.