Telyn Deires

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio

Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.

Telyn ac iddi dair rhes o dannau coludd gyda chwmpas o oddeutu pum wythfed. Gelwir y tair rhes yn rhes fas, rhes ganol a rhes drebl. Ceir oddeutu 30 o dannau yn y rhes fas, sy’n cael eu chwarae â’r llaw dde, a thua 34 o dannau yn y rhes ganol. Yn y rhes drebl ceir tua 27 o dannau a gaiff eu chwarae â’r llaw chwith. Mae’r ddwy res allanol yn gyfochrog ac wedi’u tiwnio i’r un nodau yn y raddfa ddiatonig. Y nodau cromatig sydd yn y rhes ganol. Mae’r sain atseiniol a geir wrth chwarae’r ddwy res allanol gyda’i gilydd yn unigryw i’r delyn deires.

Rhaid gwthio’r bysedd i mewn ac allan er mwyn cyrraedd y tannau canol. Cenir yr offeryn ar yr ysgwydd chwith yn draddodiadol, yn wahanol i’r delyn glasurol Ewropeaidd, ac mae’n ysgafnach o lawer na’r delyn honno; nodwedd a’i gwnâi’n haws i delynorion ei chario ar eu cefnau ar hyd a lled y wlad wrth glera mewn tafarndai a phlastai. Ar droad y 18g. y dechreuwyd priodoli’r delyn deires i Gymru, wedi iddi gael ei dyfeisio yn yr Eidal, yn ninas Bologna tua diwedd yr 16g. Dau o brif wneuthurwyr y delyn deires yn y 18g. a’r 19g. oedd John Richard (1711-89), Llanrwst, a Bassett Jones (1809-69), Caerdydd. Yn 1755 creodd John Richard delyn deires ar gyfer John Parry (Parry Ddall). O ganlyniad i arbenigrwydd y delyn hon, gwahoddwyd John Richard i dreulio’i flynyddoedd olaf ym mhlasty Sackville Gwynn, yng Nglanbrân, Llanymddyfri, fel gwneuthurwr telynau teires, a bu hynny’n allweddol o ran hyrwyddo poblogrwydd yr offeryn a lledaenu gwybodaeth amdano. Roedd Sackville Gwynn ei hun yn canu’r delyn deires, a rhoddai’r offerynnau fel anrhegion i gerddorion a pherfformwyr a ddeuai i’w blasty.

Bu 1833 yn flwyddyn bwysig yn hanes yr offeryn oherwydd dyna pryd y sefydlwyd Cymdeithas Cymreigyddion y Fenni, cymdeithas a fu’n hyrwyddo’r delyn deires yn ddiwyd dan nawdd ac anogaeth Augusta Hall, Arglwyddes Llanofer (1802-96), yn bennaf. Daeth y delyn deires yn arwydd ac yn symbol o Gymreictod yng Nghymdeithas Cymreigyddion y Fenni, ac fe’i dyrchafwyd yn offeryn cenedlaethol y Cymry. Sefydlwyd cystadlaethau ar gyfer yr offeryn yn Eisteddfodau’r Fenni a chyflwynwyd cynifer â 37 o delynau teires fel gwobrau dros gyfnod o 20 mlynedd, telynau a grëwyd yn bennaf gan Bassett Jones, Caerdydd. Cyflogai Augusta Hall ei hun wneuthurwr telynau teires yn Llanofer, gan gynnig ysgoloriaethau ar gyfer disgyblion y delyn honno. Un o selogion pennaf yr achos oedd y Parch Thomas Price (Carnhuanawc).

Yn ôl Ann Rosser roedd gan y telynorion swyddogaeth ddeublyg, sef cynnig adloniant yn yr eisteddfodau ac atgoffa’r Cymry o’u gwreiddiau cerddorol (Rosser 1981). Mae lle i gredu mai yn y tafarndai y gwnâi’r telynorion eu bywoliaeth yn bennaf, er eu bod hefyd yn perfformio’n gyson ym mhlastai bonedd megis Syr Watkin Williams Wynn yn Wynnstay, Rhiwabon.

Ymhlith rhai o brif chwaraewyr y delyn deires yn y 18g. a’r 19g. yr oedd John Parry (Parry Ddall) a John Roberts (Telynor Cymru); roedd yr olaf yn ddisgynnydd i’r sipsiwn Cymreig a theulu Wood (gw. Woodiaid, Teulu’r). Bu’r ddau yn hynod bwysig o ran hybu poblogrwydd y delyn deires yng Nghymru, ac roeddynt ill dau hefyd yn datblygu’r delyn deires a cherddoriaeth werin ar gyfer y genhedlaeth nesaf.

Gwelwyd dirywiad sylweddol ym mhoblogrwydd y delyn deires wrth i ddylanwad y Methodistiaid gynyddu yng Nghymru. Bu eu gwrthwynebiad hwy i’r adloniant a berthynai i ddiwylliant y tafarndai yn ergyd enbyd i’r traddodiadau gwerin Cymreig, gan gynnwys yr arfer o ganu’r delyn deires. Lleihaodd nifer y telynorion wrth i nifer ohonynt brofi tröedigaeth grefyddol a gwadu eu swydd a’u gallu fel perfformwyr, gan wawdio’r offeryn a’i feirniadu fel offeryn pechod. Gwelwyd dylanwad y dirmyg hwn yn parhau hyd at droad yr 20g.

Wrth i’r delyn deires golli ei bri yn ystod y 19g. gwelwyd cynnydd ym mhoblogrwydd y delyn bedal fodern a ddyfeisiwyd gan Sebastian Erard c.1810. Am gyfnod bu’r ddwy delyn yn cydoesi yng Nghymru, ond yn raddol cadarnhawyd goruchafiaeth y delyn bedal.

Erbyn diwedd y 19g. roedd y telynorion a feddai’r ddawn i ganu’r delyn deires yn hynod brin, ac erbyn yr 20g. roedd y delyn deires wedi’i disodli ymron yn gyfan gwbl gan y delyn bedal. Tra oedd y delyn deires, gyda’i sain arbennig, yn ddelfrydol ar gyfer chwarae trefniannau o alawon traddodiadol, roedd y delyn bedal yn ei benthyg ei hun ar gyfer y gerddoriaeth glasurol a oedd yn ffasiynol yn y cyfnod, ac roedd hyblygrwydd y delyn bedal yn nhermau cyweiriau a hapnodau yn peri bod nifer o delynorion yn ei ffafrio dros y delyn deires.

Bu Nansi Richards (Telynores Maldwyn; 1888-1979) yn allweddol o safbwynt parhad yr arfer o ganu’r delyn deires. Meithrinwyd ei diddordeb mewn cerddoriaeth werin wrth iddi glywed y sipsiwn Cymreig yn canu’r alawon pan ddeuent i aros mewn sgubor ar fferm ym Mhen-y-bont-fawr ger Llanfyllin, a chafodd ei hyfforddi yn y dull traddodiadol o ganu’r delyn deires gan Thomas Lloyd (Telynor Ceiriog; 1848–1917). Yn ei thro dysgodd hi eraill i ganu’r offeryn; ymhlith ei disgyblion yr oedd Llio Rhydderch a Dafydd a Gwyndaf Roberts o Ar Log. Er na ellid dweud bod y delyn deires wedi’i hadfer yn llawn i’w hen fri, bu gwaith Nansi Richards, a’i dylanwad ar delynorion o’r genhedlaeth nesaf, yn allweddol o ran sicrhau goroesiad yr offeryn yn yr 21g.

Yn yr 20g. a’r 21g. mae’r delyn deires wedi dechrau adennill tir yng Nghymru. Ymysg y cenhadon amlycaf drosti y mae Llio Rhydderch a Robin Huw Bowen sydd wedi hybu a hyrwyddo’r offeryn yng Nghymru ac ar hyd a lled y byd. Yn ogystal â gwaith telynorion fel hyn yn perfformio hen gerddoriaeth draddodiadol o’r 18g., mae gweisg megis Teires yn datblygu repertoire newydd, ac mae’r delyn deires bellach yn hawlio ei lle yn yr 21g. fel offeryn y Cymry gyda’i sain a’i thechneg unigryw.

Gwawr Jones

Llyfryddiaeth

  • Ann Rosser, Telyn a Thelynor: Hanes y Delyn yng Nghymru (Caerdydd, 1981)



Comisiynwyd y cofnod hwn ar gyfer Y Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol a fydd yn cael ei chyhoeddi gan Y Lolfa yn 2018. Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.