Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Ymddieithrio"
Llinell 3: | Llinell 3: | ||
Term canolog yng ngwaith cynnar [[Karl Marx]] (1932/2009) yw ymddieithrio (''alienation''), sy’n cael ei gyflwyno yn ''Economic and Philosophic Manuscripts of 1844'' (neu ''Paris Manuscripts''). Mae [[Karl Marx|Marx]] yn benthyg y gair o waith dau athronydd fu’n ddylanwadol iawn arno, sef y delfrydwr G. W. F. Hegel (1770–1831) a’r Hegelydd Ifanc (a’r materolydd) Ludwig Feuerbach (1804–72). Yng ngweithiau’r meddylwyr blaenorol, ffurf ar [[Ymwybyddiaeth Ffug]] yw ymddieithrio: camddealltwriaeth y gellir ei chywiro drwy wir ddirnadaeth o’r sefyllfa. Fodd bynnag, yn addasiad [[Karl Marx|Marx]], ffenomenon gymdeithasol yw ymddieithrio: term a ddefnyddir i ddisgrifio a beirniadu effeithiau cymdeithas gyfalafol ar aelodau’r gymdeithas honno. Gan hynny, er mwyn ei oresgyn, rhaid rhagori ar y ffurf gymdeithasol sy’n peri’r ymddieithrio. | Term canolog yng ngwaith cynnar [[Karl Marx]] (1932/2009) yw ymddieithrio (''alienation''), sy’n cael ei gyflwyno yn ''Economic and Philosophic Manuscripts of 1844'' (neu ''Paris Manuscripts''). Mae [[Karl Marx|Marx]] yn benthyg y gair o waith dau athronydd fu’n ddylanwadol iawn arno, sef y delfrydwr G. W. F. Hegel (1770–1831) a’r Hegelydd Ifanc (a’r materolydd) Ludwig Feuerbach (1804–72). Yng ngweithiau’r meddylwyr blaenorol, ffurf ar [[Ymwybyddiaeth Ffug]] yw ymddieithrio: camddealltwriaeth y gellir ei chywiro drwy wir ddirnadaeth o’r sefyllfa. Fodd bynnag, yn addasiad [[Karl Marx|Marx]], ffenomenon gymdeithasol yw ymddieithrio: term a ddefnyddir i ddisgrifio a beirniadu effeithiau cymdeithas gyfalafol ar aelodau’r gymdeithas honno. Gan hynny, er mwyn ei oresgyn, rhaid rhagori ar y ffurf gymdeithasol sy’n peri’r ymddieithrio. | ||
− | Awgryma’r term ‘ymddieithrio’ fod rhywbeth a ddylai berthyn i’w gilydd wedi cael ei rwygo ar wahân, neu fod yr hyn a ddylai fod yn gyfarwydd wedi mynd yn beth estron. Beth, felly, sydd wedi’i ymddieithrio mewn [[cyfalafiaeth| cyfalafiaeth]]? Pwysleisia [[Karl Marx|Marx]] ac Engels (1845/1970), yn Yr ''<nowiki>Ideoleg</nowiki> Almaenig'', mai llafur yw’r hyn sy’n nodweddu’r bod dynol: yr hyn sy’n gwahaniaethu bodau dynol oddi wrth anifeiliaid eraill yw eu gallu i gynhyrchu moddion eu cynhaliaeth mewn modd hunanymwybodol a phwrpasol ([[Karl Marx|Marx]], cyfieithwyd gan Rees, 2014: 17). Dylai llafur, felly, fod yn rhywbeth boddhaus, sy’n caniatáu hunanfynegiant i’r bod dynol. Dan [[gyfalafiaeth]], fodd bynnag, mae llafur a’r broses gynhyrchu yn sylfaenol ''annynol'': yn hytrach na bod yn rhywbeth boddhaus, mae llafur wedi’i wyrdroi yn rhywbeth sy’n ein gorthrymu. Medrwn ddweud bod pedair prif ffurf ar ymddieithrio mewn [[cyfalafiaeth]]: fod bod dynol wedi’i <nowiki>dieithrio</nowiki> oddi wrth gynnyrch ei lafur, wedi’i ddieithrio oddi wrth y broses gynhyrchu, wedi’i ddieithrio oddi wrth ‘hanfod-ei-rywogaeth’ (''gattungswesen'') ac wedi’i ddieithrio oddi wrth fodau dynol eraill. | + | Awgryma’r term ‘ymddieithrio’ fod rhywbeth a ddylai berthyn i’w gilydd wedi cael ei rwygo ar wahân, neu fod yr hyn a ddylai fod yn gyfarwydd wedi mynd yn beth estron. Beth, felly, sydd wedi’i ymddieithrio mewn [[cyfalafiaeth| cyfalafiaeth]]? Pwysleisia [[Karl Marx|Marx]] ac Engels (1845/1970), yn Yr ''<nowiki>Ideoleg</nowiki> Almaenig'', mai llafur yw’r hyn sy’n nodweddu’r bod dynol: yr hyn sy’n gwahaniaethu bodau dynol oddi wrth anifeiliaid eraill yw eu gallu i gynhyrchu moddion eu cynhaliaeth mewn modd hunanymwybodol a phwrpasol ([[Karl Marx|Marx]], cyfieithwyd gan Rees, 2014: 17). Dylai llafur, felly, fod yn rhywbeth boddhaus, sy’n caniatáu hunanfynegiant i’r bod dynol. Dan [[cyfalafiaeth|gyfalafiaeth]], fodd bynnag, mae llafur a’r broses gynhyrchu yn sylfaenol ''annynol'': yn hytrach na bod yn rhywbeth boddhaus, mae llafur wedi’i wyrdroi yn rhywbeth sy’n ein gorthrymu. Medrwn ddweud bod pedair prif ffurf ar ymddieithrio mewn [[cyfalafiaeth]]: fod bod dynol wedi’i <nowiki>dieithrio</nowiki> oddi wrth gynnyrch ei lafur, wedi’i ddieithrio oddi wrth y broses gynhyrchu, wedi’i ddieithrio oddi wrth ‘hanfod-ei-rywogaeth’ (''gattungswesen'') ac wedi’i ddieithrio oddi wrth fodau dynol eraill. |
Yn gyntaf, mae’r gweithiwr wedi’i ddieithrio oddi wrth gynnyrch ei lafur oherwydd y rhaniad rhwng dosbarthiadau mewn [[cyfalafiaeth]]. Mewn [[cyfalafiaeth]], nid oes gan y gweithiwr reolaeth dros werthiant ei gynnyrch, ac nid yw’n elwa’n uniongyrchol o gynhyrchu. Yn hytrach, defnyddir ei lafur er mwyn cynyddu elw’r cyfalafwr. Disgrifir sgileffeithiau enbyd yr ymddieithrio hwn yn y modd canlynol: ‘Â’r gweithiwr yn dlotach po fwyaf o gyfoeth a gynhyrcha, mwyaf y cynydda ei gynhyrchu mewn grym a maint. Â’r gweithiwr yn nwydd mwyfwy rhad po fwyaf o nwyddau a gynhyrcha’ ([[Karl Marx|Marx]], cyfieithwyd gan Rees, 2014: 25). Oherwydd ei ddiffyg rheolaeth ar y broses gynhyrchu, ymddengys cynnyrch ei lafur fel ‘rhywbeth sy'n annibynnol arno ac yn ddieithr iddo, ei fod yn mynd yn rym annibynnol yn ei erbyn, a bod y bywyd a roes yn y gwrthrych yn ei wrthwynebu’n elyniaethus ac yn ddieithr’ ([[Karl Marx|Marx]], cyfieithwyd gan Rees, 2014: 25). | Yn gyntaf, mae’r gweithiwr wedi’i ddieithrio oddi wrth gynnyrch ei lafur oherwydd y rhaniad rhwng dosbarthiadau mewn [[cyfalafiaeth]]. Mewn [[cyfalafiaeth]], nid oes gan y gweithiwr reolaeth dros werthiant ei gynnyrch, ac nid yw’n elwa’n uniongyrchol o gynhyrchu. Yn hytrach, defnyddir ei lafur er mwyn cynyddu elw’r cyfalafwr. Disgrifir sgileffeithiau enbyd yr ymddieithrio hwn yn y modd canlynol: ‘Â’r gweithiwr yn dlotach po fwyaf o gyfoeth a gynhyrcha, mwyaf y cynydda ei gynhyrchu mewn grym a maint. Â’r gweithiwr yn nwydd mwyfwy rhad po fwyaf o nwyddau a gynhyrcha’ ([[Karl Marx|Marx]], cyfieithwyd gan Rees, 2014: 25). Oherwydd ei ddiffyg rheolaeth ar y broses gynhyrchu, ymddengys cynnyrch ei lafur fel ‘rhywbeth sy'n annibynnol arno ac yn ddieithr iddo, ei fod yn mynd yn rym annibynnol yn ei erbyn, a bod y bywyd a roes yn y gwrthrych yn ei wrthwynebu’n elyniaethus ac yn ddieithr’ ([[Karl Marx|Marx]], cyfieithwyd gan Rees, 2014: 25). |
Diwygiad 22:09, 13 Mawrth 2023
(Saesneg: Alienation)
Term canolog yng ngwaith cynnar Karl Marx (1932/2009) yw ymddieithrio (alienation), sy’n cael ei gyflwyno yn Economic and Philosophic Manuscripts of 1844 (neu Paris Manuscripts). Mae Marx yn benthyg y gair o waith dau athronydd fu’n ddylanwadol iawn arno, sef y delfrydwr G. W. F. Hegel (1770–1831) a’r Hegelydd Ifanc (a’r materolydd) Ludwig Feuerbach (1804–72). Yng ngweithiau’r meddylwyr blaenorol, ffurf ar Ymwybyddiaeth Ffug yw ymddieithrio: camddealltwriaeth y gellir ei chywiro drwy wir ddirnadaeth o’r sefyllfa. Fodd bynnag, yn addasiad Marx, ffenomenon gymdeithasol yw ymddieithrio: term a ddefnyddir i ddisgrifio a beirniadu effeithiau cymdeithas gyfalafol ar aelodau’r gymdeithas honno. Gan hynny, er mwyn ei oresgyn, rhaid rhagori ar y ffurf gymdeithasol sy’n peri’r ymddieithrio.
Awgryma’r term ‘ymddieithrio’ fod rhywbeth a ddylai berthyn i’w gilydd wedi cael ei rwygo ar wahân, neu fod yr hyn a ddylai fod yn gyfarwydd wedi mynd yn beth estron. Beth, felly, sydd wedi’i ymddieithrio mewn cyfalafiaeth? Pwysleisia Marx ac Engels (1845/1970), yn Yr Ideoleg Almaenig, mai llafur yw’r hyn sy’n nodweddu’r bod dynol: yr hyn sy’n gwahaniaethu bodau dynol oddi wrth anifeiliaid eraill yw eu gallu i gynhyrchu moddion eu cynhaliaeth mewn modd hunanymwybodol a phwrpasol (Marx, cyfieithwyd gan Rees, 2014: 17). Dylai llafur, felly, fod yn rhywbeth boddhaus, sy’n caniatáu hunanfynegiant i’r bod dynol. Dan gyfalafiaeth, fodd bynnag, mae llafur a’r broses gynhyrchu yn sylfaenol annynol: yn hytrach na bod yn rhywbeth boddhaus, mae llafur wedi’i wyrdroi yn rhywbeth sy’n ein gorthrymu. Medrwn ddweud bod pedair prif ffurf ar ymddieithrio mewn cyfalafiaeth: fod bod dynol wedi’i dieithrio oddi wrth gynnyrch ei lafur, wedi’i ddieithrio oddi wrth y broses gynhyrchu, wedi’i ddieithrio oddi wrth ‘hanfod-ei-rywogaeth’ (gattungswesen) ac wedi’i ddieithrio oddi wrth fodau dynol eraill.
Yn gyntaf, mae’r gweithiwr wedi’i ddieithrio oddi wrth gynnyrch ei lafur oherwydd y rhaniad rhwng dosbarthiadau mewn cyfalafiaeth. Mewn cyfalafiaeth, nid oes gan y gweithiwr reolaeth dros werthiant ei gynnyrch, ac nid yw’n elwa’n uniongyrchol o gynhyrchu. Yn hytrach, defnyddir ei lafur er mwyn cynyddu elw’r cyfalafwr. Disgrifir sgileffeithiau enbyd yr ymddieithrio hwn yn y modd canlynol: ‘Â’r gweithiwr yn dlotach po fwyaf o gyfoeth a gynhyrcha, mwyaf y cynydda ei gynhyrchu mewn grym a maint. Â’r gweithiwr yn nwydd mwyfwy rhad po fwyaf o nwyddau a gynhyrcha’ (Marx, cyfieithwyd gan Rees, 2014: 25). Oherwydd ei ddiffyg rheolaeth ar y broses gynhyrchu, ymddengys cynnyrch ei lafur fel ‘rhywbeth sy'n annibynnol arno ac yn ddieithr iddo, ei fod yn mynd yn rym annibynnol yn ei erbyn, a bod y bywyd a roes yn y gwrthrych yn ei wrthwynebu’n elyniaethus ac yn ddieithr’ (Marx, cyfieithwyd gan Rees, 2014: 25).
Yn ail, gwelwn fod y gweithiwr wedi’i ddieithrio yn y broses gynhyrchu: ‘os mai cynnyrch llafur yw ymddieithrio, rhaid bod cynhyrchu ei hun yn ymddieithrio gweithredol’ (Marx, 1844: XIII; fy nghyfieithiad). Yn fras, cyfeirio at y modd mecanyddol a pheirianyddol y gorfodir y gweithiwr i gynhyrchu mewn cyfalafiaeth a wna Marx yma. Mae cyswllt amlwg yma â thrydedd ffurf ymddieithrio, sef fod y gweithiwr wedi’i ddieithrio oddi wrth hanfod ei rywogaeth. Gwelsom eisoes y gall llafur dyn fod yn greadigol, gan gynnig cyfle iddo hunangyflawni. Fodd bynnag, yn ei ffurf ailadroddus, fecanyddol, mae rhywbeth annynol am lafur. Daw gwaith yn syrffed i’r gweithiwr, yn ddim mwy na thasg i’w chyflawni er mwyn goroesi. Gan nad yw llafur y gweithiwr mewn cytgord â’i hanfod, daw gwaith yn ffurf ar hunanymwadu: mewn llafur, mae’r gweithiwr yn ‘marweiddio’i gnawd ac yn dinistrio’i feddwl’ (Marx, 1844: XIII; fy nghyfieithiad).
Yn olaf, gwelwn fod y gweithiwr wedi ymddieithrio oddi wrth fodau dynol eraill: ‘canlyniad uniongyrchol y ffaith fod dyn wedi’i ddieithrio oddi wrth gynnyrch ei lafur, oddi wrth weithgarwch ei fywyd, oddi wrth hanfod ei rywogaeth (gattungswesen), yw dieithrio dyn oddi wrth ddyn’ (Marx, 1844: XIII; fy nghyfieithiad). Yng ngwaith Marx, pwysleisir natur gymunedol llafur: mae llafur yn weithgarwch sydd o reidrwydd yn digwydd o fewn cyd-destun cymdeithasol penodol, ac mewn cydweithrediad â bodau dynol eraill. Fodd bynnag, mewn cyfalafiaeth, daw perthynas unigolion â’i gilydd yn elyniaethus, gan ddiddymu’r agwedd gydweithredol hon. Er enghraifft, er mwyn cynyddu elw, gorfodir y cyfalafwr i dalu isafswm i’w weithiwr, a gwelwn fod y gweithwyr yn cael eu gorfodi i gystadlu â’i gilydd am swyddi, a thrwy hynny ddilyn eu buddiannau eu hunain ar draul buddiannau pawb arall.
Er nad yw Marx, yn ei weithiau aeddfed, yn tueddu i ddefnyddio’r term ‘ymddieithrio’, medrwn weld parhad y syniad yn nifer o’i gysyniadau diweddar, yn enwedig y syniad o ffetisiaeth cynwyddau (Marx, 1867/1990: 164–5). Dylanwadodd y syniad yn fawr ar feddylwyr diweddarach, yn enwedig meddylwyr Marcsaeth Orllewinol, er eu bod yn addasu’r syniad yn sylweddol. Fodd bynnag, beirniedir y cysyniad yn hallt gan Louis Althusser, sy’n deall bod ymddieithrio’n seiliedig ar idealaeth wallus, ac yn cael ei ddisodli yng ngweithiau aeddfed Marx (gweler Althusser, 2005: 227).
Garmon Iago
Llyfryddiaeth
Althusser, L. (2005), For Marx (London: Penguin).
Marx, K. (1867/1990), Capital: Volume 1 (London: Penguin).
Marx, K. (1844), Ökonomisch-philosophische Manuskripte, https://www.marxists.org/deutsch/archiv/marx-engels/1844/oek-phil/1-4_frem.htm [Cyrchwyd: 13 Mai 2021].
Marx, K. (1932/2009), Economic and Philosophic Manuscripts of 1844) (neu Paris Manuscripts), https://www.marxists.org/archive/marx/works/1844/manuscripts/preface.htm [Cyrchwyd: 13 Mai 2021].
Marx, K. ac Engels, F. (1845/1970), The German Ideology (New York: International Publishers).
Rees, W. J. (2014), Be’ Ddywedodd Karl Marx: Cyfrol 1, https://llyfrgell.porth.ac.uk/View.aspx?id=1897~4z~aUw8tYQE [Cyrchwyd: Mawrth 2021].
- Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.