Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Meritocratiaeth"
(Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda '(Saesneg: ''Meritocracy'') Mewn system wirioneddol feritocrataidd, dadleuir bod pawb yn meddu ar y cysyniad o gyfle cyfartal. Honnir bod gan bawb gyfle c...') |
|||
Llinell 5: | Llinell 5: | ||
Mae meritocratiaeth yn gysyniad creiddiol i’r rhai sy’n arddel safbwynt [[swyddogaetholdeb]] cymdeithas. Mae cymdeithasegwyr fel Davis a Moore (1945) a Parsons (1961) yn gweld y system addysg fel system feritocrataidd, gan ddadlau bod y system yn cyflawni swyddogaethau cadarnhaol i bob unigolyn ac i’r gymdeithas ehangach. Yn ôl y rhain, mae’r system addysg yn paratoi unigolion ar gyfer y gweithlu ar sail eu gallu, ond golyga hyn mai’r unigolion mwyaf talentog sy’n cael eu penodi i’r swyddi pwysicaf mewn cymdeithas. Drwy wneud hyn mae’r system addysg yn cyfiawnhau ac yn cynnal [[anghydraddoldeb]] ymysg unigolion gan ei bod yn sicrhau mai dim ond y rhai mwyaf talentog sydd gan amlaf yn cael y swyddi sy’n talu orau ac sydd â [[statws]] uchel. Dywed Markovits: ‘[M]erit itself is not a genuine excellence but rather … a pretense, constructed to rationalize and unjust distribution of advantage’ (2019: 20). | Mae meritocratiaeth yn gysyniad creiddiol i’r rhai sy’n arddel safbwynt [[swyddogaetholdeb]] cymdeithas. Mae cymdeithasegwyr fel Davis a Moore (1945) a Parsons (1961) yn gweld y system addysg fel system feritocrataidd, gan ddadlau bod y system yn cyflawni swyddogaethau cadarnhaol i bob unigolyn ac i’r gymdeithas ehangach. Yn ôl y rhain, mae’r system addysg yn paratoi unigolion ar gyfer y gweithlu ar sail eu gallu, ond golyga hyn mai’r unigolion mwyaf talentog sy’n cael eu penodi i’r swyddi pwysicaf mewn cymdeithas. Drwy wneud hyn mae’r system addysg yn cyfiawnhau ac yn cynnal [[anghydraddoldeb]] ymysg unigolion gan ei bod yn sicrhau mai dim ond y rhai mwyaf talentog sydd gan amlaf yn cael y swyddi sy’n talu orau ac sydd â [[statws]] uchel. Dywed Markovits: ‘[M]erit itself is not a genuine excellence but rather … a pretense, constructed to rationalize and unjust distribution of advantage’ (2019: 20). | ||
− | Er bod meritocratiaeth wedi cael ei defnyddio o fewn | + | Er bod meritocratiaeth wedi cael ei defnyddio o fewn <nowiki>naratif</nowiki>/disgwrs cyfiawnder cymdeithasol (''social justice''), hynny yw ei bod yn gallu cyflawni cyfiawnder cymdeithasol drwy roi cyfle cyfartal i bawb, mae rhai’n dadlau nad yw meritocratiaeth yn arwain at gydraddoldeb a’i bod yn hytrach yn cynnal anghydraddoldeb o fewn cymdeithas. |
'''Adam Pierce''' | '''Adam Pierce''' |
Y diwygiad cyfredol, am 13:32, 7 Medi 2024
(Saesneg: Meritocracy)
Mewn system wirioneddol feritocrataidd, dadleuir bod pawb yn meddu ar y cysyniad o gyfle cyfartal. Honnir bod gan bawb gyfle cyfartal i gystadlu am adnoddau cymdeithasol, i lwyddo, i symud ymlaen mewn bywyd, gan gynnwys symudedd cymdeithasol (social mobility). Dywedir bod hyn yn gyfan gwbl seiliedig ar allu, teilyngdod ac ymdrechion yr unigolyn, yn hytrach nag ar sail cefndir cymdeithasol unigolyn, er enghraifft rhywedd, hil, dosbarth cymdeithasol ac yn y blaen. Fel y dywedodd Scully (1997: 413): ‘a social system in which merit or talent is the basis for sorting people into positions and distributing rewards, such that the positions of highest authority are occupied by those of greatest merit.’
Mae meritocratiaeth yn gysyniad creiddiol i’r rhai sy’n arddel safbwynt swyddogaetholdeb cymdeithas. Mae cymdeithasegwyr fel Davis a Moore (1945) a Parsons (1961) yn gweld y system addysg fel system feritocrataidd, gan ddadlau bod y system yn cyflawni swyddogaethau cadarnhaol i bob unigolyn ac i’r gymdeithas ehangach. Yn ôl y rhain, mae’r system addysg yn paratoi unigolion ar gyfer y gweithlu ar sail eu gallu, ond golyga hyn mai’r unigolion mwyaf talentog sy’n cael eu penodi i’r swyddi pwysicaf mewn cymdeithas. Drwy wneud hyn mae’r system addysg yn cyfiawnhau ac yn cynnal anghydraddoldeb ymysg unigolion gan ei bod yn sicrhau mai dim ond y rhai mwyaf talentog sydd gan amlaf yn cael y swyddi sy’n talu orau ac sydd â statws uchel. Dywed Markovits: ‘[M]erit itself is not a genuine excellence but rather … a pretense, constructed to rationalize and unjust distribution of advantage’ (2019: 20).
Er bod meritocratiaeth wedi cael ei defnyddio o fewn naratif/disgwrs cyfiawnder cymdeithasol (social justice), hynny yw ei bod yn gallu cyflawni cyfiawnder cymdeithasol drwy roi cyfle cyfartal i bawb, mae rhai’n dadlau nad yw meritocratiaeth yn arwain at gydraddoldeb a’i bod yn hytrach yn cynnal anghydraddoldeb o fewn cymdeithas.
Adam Pierce
Llyfryddiaeth
Davis, K. a Moore, W. (1945), ‘Some principles of stratification’, American Sociological Review, 19(2), 242–9.
Markovits, D. (2019), The Meritocracy Trap: How America’s Foundational Myth Feeds Inequality, Dismantles the Middle Class, and Devours the Elite (New York: Penguin Press).
Parsons, T. (1961). ‘The School Class as a Social System: Some of its Functions in American Society’ yn: Halsey, A. H., Floud, J. ac Anderson, C. A. (goln.), Education, Economy and Society: A Reader in the Sociology of Education (New York: Free Press), tt. 434–55.
Scully, M. (1997). ‘Meritocracy’ yn: Werhane P. H. a Freeman, R. E. (goln), Blackwell Encyclopedic Dictionary of Business Ethics (Oxford: Blackwell), tt. 413–14.
- Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.