Swyddogaetholdeb

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio

(Saesneg: Functionalism)

1. Cyflwyniad i Swyddogaetholdeb

Mae swyddogaethwyr fel Émile Durkheim (1858–1917), Talcott Parsons (1902–79) a Robert Merton (1910–2003) yn canolbwyntio ar y ffordd y mae cymdeithas yn gweithredu. Maent yn edrych ar agweddau gwahanol o gymdeithasau, ac yn astudio swyddogaeth pob rhan a sut y mae unigolion yn cydweithio â’i gilydd. Mae swyddogaethwyr yn dadlau y gellid esbonio pob ffenomen gymdeithasol drwy edrych ar ei heffeithiau, a sut mae’r effeithiau hyn yn cyfrannu tuag at ddatblygu solidariaeth gymdeithasol. Er enghraifft, dadleua Durkheim mai rôl cosbi oedd atgyfnerthu solidariaeth gymdeithasol, nid rheoli troseddu. Trwy gosbi troseddwyr, mae cymdeithasau yn ei gwneud yn glir pa fath o ymddygiad sy’n dderbyniol, ac yn cryfhau normau a gwerthoedd.

2. Émile Durkheim

Mae nifer o brif gysyniadau swyddogaetholdeb yn deillio o waith Émile Durkheim. Ysgrifennodd Durkheim nifer o lyfrau a darlithoedd yn esbonio’i syniadau am gymdeithas, gan ganolbwyntio ar y modd y mae cymdeithasau’n cydweithio mewn ffyrdd sy’n datblygu solidariaeth gymdeithasol. Yn The Division of Labour (De la division du travail social, 1893), gwahaniaethodd Durkheim rhwng dau fath o solidariaeth gymdeithasol – solidariaeth fecanyddol a solidariaeth organig. Roedd yn gweld solidariaeth fecanyddol fel rhinwedd mewn cymdeithasau cyntefig, lle mae pobl yn cydweithio â’i gilydd gan eu bod yn rhannu’r un gwerthoedd a’r un moesau. Mae cymdeithasau wedi’u seilio ar solidariaeth fecanyddol yn weddol heterogenaidd.

Yn ôl Durkheim, nid oes llawer o wahaniaethau yng ngwaith pobl yn y mathau hyn o gymdeithasau; nifer bychan o swyddi sydd ar gael, ac mae llawer o bobl yn dilyn eu rhieni gan weithio yn yr un proffesiwn. I’r gwrthwyneb, pan mae cymdeithasau yn cael eu dal at ei gilydd gan solidariaeth organig, mae mwy o amrywiaeth yn y mathau o swyddi sydd ar gael. Credai Durkheim fod y rhan fwyaf o’r newidiadau hyn wedi digwydd yn Ewrop oherwydd newidiadau yn natur gwaith yn sgil y Chwyldro Diwydiannol.

Dadleuodd fod solidariaeth gymdeithasol yn cael ei chynnal yn y mathau hyn o gymdeithasau gan fod natur swyddi pobl yn fwy arbenigol, ac yn tueddu i fod yn fwy dibynnol ar gydweithio â gweithwyr eraill. Er enghraifft, mewn cymdeithas gyntefig, byddai gof fel arfer yn cynhyrchu pob rhan o’u cynnyrch eu hunain, ond o fewn ffatrïoedd newydd y Chwyldro Diwydiannol roedd unigolion fel arfer yn gweithio ar un elfen o gynnyrch y ffatri, ar y cyd â gweithwyr eraill.

Yn ôl Durkheim, roedd mwy o amrywiaeth hefyd o ran gwerthoedd a moesau o fewn cymdeithasau sy’n seiliedig ar solidariaeth organig. O ganlyniad, dadleuodd Durkheim fod datblygiadau mawr wedi digwydd yn natur y gyfraith. Tra mae cyfreithiau mewn cymdeithasau cyntefig yn tueddu i gosbi ymddygiad a chredoau sy’n gwyro oddi wrth y normau cymdeithasol, mae cyfreithiau mewn cymdeithasau a nodweddir gan solidariaeth organig wedi’u seilio ar adfer ac atgyweirio. O ganlyniad, mae cyfreithiau sifil, masnachol a gweinyddol sy’n dibynnu ar gydweithrediad yn dod yn fwy cyffredin. Yn ogystal, mae’r proffesiynau newydd yn datblygu eu cyfreithiau a’u safonau proffesiynol eu hunain yn y cymdeithasau hyn.

Mae swyddogaethwyr fel Durkheim yn aml yn defnyddio trosiadau biolegol i esbonio sut y mae solidariaeth gymdeithasol yn gweithio, a disgrifiodd Durkheim gymdeithas fel organeb fiolegol. Roedd yn credu fod pob sefydliad cymdeithasol, er enghraifft yr eglwys, y wladwriaeth, y gyfraith, cymdeithas sifil a masnach, yn cydweithio i gynnal ei gilydd.

Mae deunyddiau dysgu digidol ar Durkheim wedi’u creu gan Rhian Hodges (2022) ar wefan Porth Adnoddau’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol: https://www.porth.ac.uk/cy/collection/gwyddorau-cymdeithas-theori-gymdeithasegol.

3. Talcott Parsons

Dylanwadodd damcaniaeth Durkheim ynghylch solidariaeth organig ar syniadau Talcott Parsons, cymdeithasegwr Americanaidd a aned ddechrau’r ugeinfed ganrif. Cymharodd Parsons sefydliadau cymdeithasol ag organau’r corff. Fel mae organau’r corff yn angenrheidiol i gynnal bywyd, credai fod cymdeithas yn dibynnu ar sefydliadau fel y teulu, llywodraeth a chrefydd. I Parsons, roedd gwerthoedd a normau yn rhannau allweddol o gymdeithas. Yn 1953 datblygodd fframwaith gyda Robert Bales ac Edward Shils i ddisgrifio’r pedair elfen oedd, yn eu barn hwy, yn angenrheidiol er mwyn i gymdeithas weithredu: addasu (adaption); cyrraedd y nod (goal attainment); integreiddio (integration) a chuddni (latency) (Gweler Murphy, 2005, am fwy o fanylion).

Yn gyntaf, rhaid i gymdeithasau allu addasu eu hunain i’w hamgylchedd, neu addasu’r amgylchedd i’w hanghenion hwy. Mae hyn yn digwydd yn bennaf drwy’r economi a llafur y gweithlu, sy’n defnyddio adnoddau naturiol ac yn cynhyrchu nwyddau. Rhaid i gymdeithasau hefyd allu sefydlu nodau, a rhaid iddynt allu cyflawni’r nodau hyn drwy’r system wleidyddol. Mae’r system wleidyddol yn gweithio tuag at gyflawni nodau sy’n adlewyrchu gwerthoedd greddfol y gymdeithas. Er mwyn gwireddu’r nodau hyn, mae integreiddio yn hanfodol; mae hyn yn sicrhau bod elfennau gwahanol o fewn y gymdeithas, megis addysg a chrefydd, yn cydweithio â’i gilydd. Mae systemau o normau neu reolau cymdeithasol, fel cyfreithiau, yn galluogi’r integreiddio a’r cydweithredu yma. Yn olaf, mae cuddni yn elfen hollbwysig o’r fframwaith, gan mai dyma sy’n sicrhau bod y gwerthoedd a’r credoau hyn yn cael eu cynnal dros genedlaethau. Gwireddir hyn drwy deuluoedd ac addysg yn bennaf.

Mae yna ddeunyddiau dysgu digidol ar Parsons wedi’u creu gan Rhian Hodges (2022) ar wefan Porth Adnoddau’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol: https://www.porth.ac.uk/cy/collection/gwyddorau-cymdeithas-theori-gymdeithasegol.

4. Robert Merton

Un cysyniad pwysig yng ngwaith swyddogaethwyr yw anomie, cysyniad a ddatblygwyd gan Émile Durkheim. Mae anomie yn disgrifio sefyllfaoedd lle mae rheolau a strwythurau cymdeithasol yn methu. Fel arfer, mae hyn o ganlyniad i newidiadau cymdeithasol sy’n digwydd yn rhy gyflym i strwythurau a normau gael eu sefydlu er mwyn sicrhau cydweithrediad rhwng unigolion. Mae’r newidiadau hyn yn digwydd yn rhannol oherwydd dirywiad dylanwad crefydd â’i chanllawiau clir ar sut i fyw, sy’n golygu bod pobl yn teimlo’n llai sicr am y ffordd y dylen nhw ymddwyn, ac nad oes unrhyw bwrpas clir i’w bywydau.

Defnyddiodd Robert Merton, swyddogaethwr Americanaidd oedd yn ysgrifennu yn yr ugeinfed ganrif, y cysyniad o anomie yng nghyd-destun troseddu a gwyredd. Roedd anomie yn digwydd, yn ôl Merton (1938), pan nad oedd gan bobl y gallu i gyflawni’r nodau y disgwylir iddynt eu cyflawni gan eu cymdeithasau.

Dadleuodd Merton fod anomie yn esbonio llawer o’r troseddu ymysg y dosbarth gweithiol yn yr Unol Daleithiau yn yr ugeinfed ganrif. Addewid y Freuddwyd Americanaidd oedd fod safon byw dda a digonedd o nwyddau materol ar gael i bawb sy’n gweithio’n ddigon caled. Ond, mewn gwirionedd, roedd yn amhosib i’r rhan fwyaf o’r boblogaeth ddosbarth gweithiol yn ystod yr ugeinfed ganrif gyflawni hyn, yn bennaf o achos lefelau uchel o anghydraddoldeb. Ond gan fynnu bod y Freuddwyd yn agored i bawb, roedd ideoleg y Freuddwyd Americanaidd yn rhoi’r bai ar unigolion am beidio â gallu ei gwireddu. Yn ôl Merton, roedd y methiant hwn yn bygwth statws cymdeithasol pobl, ac felly roeddent yn defnyddio troseddu fel ffordd o gynnal eu statws cymdeithasol.

Mae gwaith Merton ar anomie wedi ei feirniadu yn fwy diweddar, gan nad yw’n rhoi llawer o ystyriaeth i droseddu dosbarth canol ac i rôl isddiwylliannau yn natblygiad a chynnal troseddu (Giddens a Sutton, 2014).

5. Beirniadaeth a Dylanwad Swyddogaetholdeb

Dros y ganrif ddiwethaf, mae swyddogaetholdeb wedi cael ei beirniadu’n gryf gan gymdeithasegwyr am nifer o resymau. Er enghraifft, y diffyg ffocws ar fecanweithiau achosol yng ngwaith swyddogaethwyr – maent yn tueddu i gymryd yn ganiataol y gellir esbonio pob ffenomen a sefydliad cymdeithasol ar sail eu heffeithiau cymdeithasol yn unig (Scott a Marshall, 2009). Mae Anthony Giddens wedi beirniadu swyddogaetholdeb am nifer o resymau yn ei New Rules of Sociological Methods (1993). Rheswm cyntaf Giddens yw nad yw swyddogaetholdeb yn ymdrin â galluedd unigolion. Yr ail yw fod swyddogaethwyr yn tueddu i siarad am gymdeithas fel petai’n bodoli ar wahân i unigolion. Y drydedd feirniadaeth yw’r diffyg trafodaeth ar bŵer yng ngwaith swyddogaethwyr. Y pedwerydd yw nad yw swyddogaethwyr yn rhoi digon o sylw i’r ffyrdd y mae normau cymdeithasol yn cael eu datblygu drwy drafodaeth rhwng pobl.

Er gwaetha’r feirniadaeth hon, mae gwaith swyddogaethwyr fel Durkheim, Parsons a Merton yn dal i fod yn ddylanwadol o fewn astudiaethau troseddeg, addysg a chymdeithaseg ehangach hyd heddiw.

Rhian Barrance

Llyfryddiaeth

Durkheim, É. (1893/2014), The Division of Labour in Society (New York: Free Press).

Giddens, A. (1993), The New Rules of the Sociological Method: A Positive Critique of Interpretative Sociologies (Cambridge, Polity Press).

Giddens, A. a Sutton, P. (2017), Essential Concepts in Sociology (Cambridge: Polity Press).

Hodges, R. (2022), Émile Durkheim, https://www.porth.ac.uk/cy/collection/gwyddorau-cymdeithas-theori-gymdeithasegol [Cyrchwyd: 14 Ebrill 2022].

Hodges, R. (2022), Talcott Parsons, https://www.porth.ac.uk/cy/collection/gwyddorau-cymdeithas-theori-gymdeithasegol [Cyrchwyd: 14 Ebrill 2022].

Merton, R. H. (1938), ‘Social Structure and Anomie’, American Sociological Review 3(5), 672–82.

Parsons, T., Bales, R. a Shils, E. (1953), Working Papers in the Theory of Action (New York: Free Press).

Murphy, J. (2005), ‘AGIL’, yn Ritzer, G. (gol.), Encyclopedia of Social Theory. (London: SAGE Publications, Inc), 6–7.

Scott, J. a Marshall, G. (2009), A Dictionary of Sociology (Oxford: Oxford University Press).


Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.