Cydgyfeiriant
Saesneg: Convergence
Defnyddir y term cydgyfeiriant i ddisgrifio’r ffordd y mae gwasanaethau digidol yn dwyn ynghyd dwy neu ragor o wahanol elfennau cyfryngol gwbl wahanol: yn economaidd (trwy gyfuno strwythurau corfforaethol neu gydweithio), yn dechnegol (trwy’r modd o gynhyrchu a dosbarthu cynnwys) ac yn esthetig (yn sgil ffyrdd newydd o greu cynnwys).
Er bod amrywiaeth eang o ddiffiniadau o ‘gydgyfeiriant’ (neu ‘gydgyfeirio digidol’), mae llawer o’r rhain yn amlygu’r ffyrdd y caiff gwybodaeth ddigidol ei rhannu ar draws gwahanol gyfryngau. Er enghraifft, pan fydd gwefan yn cyfuno deunydd sain, testun a fideo, neu pan fydd ffôn symudol yn caniatáu i’w ddefnyddiwr dynnu llun neu wylio darllediad newyddion fel ffrwd byw.
Mewn ambell i stafell newyddion, mae’r newyddion yn cael ei ail-becynnu fel ‘cynnyrch aml-lwyfan’ yng ngoleuni’r newidiadau hyn, gan wahodd syniadau newydd am sut y gellir cynhyrchu a chyflwyno newyddion er mwyn ymgysylltu â chynulleidfaoedd sy’n anodd eu cyrraedd, yn enwedig pobl ifanc nad ydynt yn tueddu i ddilyn yr ‘hen gyfryngau’.
Erbyn heddiw, disgwylir i newyddiadurwyr amryddawn ddefnyddio sawl sgil mewn ystafell newyddion amlgyfrwng. Hynny yw, yn ogystal ag ysgrifennu copi, mae disgwyl i’r newyddiadurwr ail-becynnu ei storïau ar gyfer gwahanol gynulleidfaoedd gan ddefnyddio nifer o dechnegau ôl-gynhyrchu. Felly, mae cydgyfeiriant yn ymddangos fel proses ddeinamig, ryngweithiol. Mae arloesedd technolegol a’r ffaith bod costau technoleg yn disgyn wedi cyflymu’r broses hon. Er enghraifft, mae band eang yn caniatáu i ddefnyddiwr gael gafael ar ystod eang o wybodaeth yn weddol gyflym, tra bod Wi-Fi yn cynnig mynediad i’r rhyngrwyd mewn lleoedd nad oedd yn bosibl o’r blaen.
Mae effaith cydgyfeiriant i’w weld ar draws economi’r diwydiannau cyfryngau, yn y technolegau sy’n gyrru’r diwydiant ac ar sut y mae cynnwys yn cael ei gynhyrchu a’i ddefnyddio. Er bod rhai’n dal i wylio newyddion ar set deledu, neu’n chwarae cerddoriaeth ar beiriant CD mewn stafell arall, mae’n anodd anwybyddu’r tueddiad hwn o gydgyfeirio, neu hyd yn oed ddychmygu dyfodol lle nad yw’n sefyllfa hollol normal.
Caiff cydgyfeiriant effaith ar arferion gwaith y rhai sy’n gweithio yn niwydiant y cyfryngau. Er enghraifft, bydd newyddiadurwyr sy’n gweithio yn y cyfryngau darlledu neu argraffu yn gynyddol ymwybodol bod angen i’w storïau weithio ar draws ystod o lwyfannau amlgyfrwng, naill ai ar ffonau symudol, y We neu bodlediadau ar-alw efallai. Mae’r cyfleoedd ar gyfer lledaenu eu storïau yn niferus ac nid ydynt yn gyfyngedig i amser na lle. Canlyniad hyn yw bod newyddiadurwyr wedi gorfod dysgu sgiliau newydd ac mae hyfforddiant newyddiadurol nawr yn cynnwys gwersi ar ddefnyddio technegau amlgyfrwng.
Gallwn ddarllen stori gan bapur lleol ar-lein neu wrando ar adroddiad radio gan newyddiadurwr yn Boston o’n cartref ym Mhwllheli neu Sydney. Gallwn wneud hyn heb ymyrraeth y sawl sy’n creu amserlen sianeli neu gyfyngiadau print papur newydd.
Erbyn hyn mae’r byd teledu wedi cydgyfeirio gyda’r gallu i ddarlledu drwy gebl neu yn ddigidol drwy’r rhyngrwyd. Gall y cyhoedd weld rhaglenni ar alw erbyn hyn, gan ddewis gwylio unrhyw raglen ar unrhyw adeg.
Yn fras, mae cydgyfeirio yn cael ei ddisgrifio weithiau fel ffurf o gyfuno cyfryngau, yn enwedig pan fo sefydliadau newyddion yn cystadlu mewn marchnadoedd gwahanol neu’n cael eu rheoli gan berchnogion sydd am fanteisio ar ‘synergeddau’ wrth fuddsoddi mewn cydgyfeiriant, megis rhwng allbwn newyddion a chynhyrchion adloniant. Clodforir cydgyfeiriant (gyda phwyslais ar gydweithio a chydweithrediad a roddir gan arloesedd technolegol) yn aml er mwyn cyfiawnhau ‘arbed costau’ ar gyfer cwmnïau sy’n ymwneud yn bennaf â phroffidioldeb llinell isaf.
Llyfryddiaeth
Casey, B. et al. 2008. Television studies: the key concepts. 2il arg. Oxford: Routledge.
- Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.