Papur newydd

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio

Cyfnodolyn heb ei rwymo a gyhoeddir yn rheolaidd yw papur newydd. Ymysg y papurau newydd amlycaf yn hanes y wasg Gymraeg mae Baner ac Amserau Cymru, Y Genedl Gymreig, Yr Herald Cymraeg, ac Y Cymro. Ceir ymysg newyddiadurwyr papur newydd rhai o awduron amlycaf eu dydd, gan gynnwys Gwilym Hiraethog, Lewis William Lewis (Llew Llwyfo), Daniel Owen, Emrys ap Iwan, T. Gwynn Jones, E. Morgan Hughes, Gwilym R. Jones a Saunders Lewis.

Ystyrir ail hanner yr 19g. yn ‘oes aur’ y papur newydd yng Nghymru. Clywodd y Comisiwn Brenhinol ar Addysg yn 1886 fod gan yr 17 papur newydd Cymraeg a oedd yn gwerthu bryd hynny gylchrediad ar y cyd o 120,000 o gopïau. Er mai cyfyng eu gorwelion a drwgdybus o ffuglen oedd y papurau newydd hyn, a oedd am resymau masnachol yn drwm dan reolaeth Ymneilltuwyr Rhyddfrydol, roeddynt yn feithrinfa i doreth o feirdd ac awduron. Gellid dadlau, fel y gwnâi Tecwyn Lloyd, mai nhw a heuodd hadau’r dadeni llenyddol a welwyd ar ddechrau’r 20g.

Yn ddiau, bu’r arfer o gyhoeddi llenyddiaeth mewn papurau newydd yn hollbwysig wrth gyflwyno ffuglen i’r Cymry Cymraeg, a oedd wedi tueddu i wrthwynebu ‘ffug-chwedlau’ ar y sail eu bod yn anfoesol. Dadleuwyd mai Uncle Tom’s Cabin gan Harriet Beecher Stowe, a addaswyd ar ffurf Aelwyd f’Ewythr Robert gan olygydd Yr Amserau, Gwilym Hiraethog, yn 1853, a newidiodd agweddau at werth moesol y ‘ffug-chwedl’. Yn Eisteddfod Cymrodorion Dirwestol Merthyr Tudful Nadolig 1854, cynigiwyd gwobr am nofel ar destun ‘y meddwyn diwygiedig yn arwr’, ac o hynny ymlaen daeth ffuglen yn elfen gyffredin yn arlwy’r newyddiaduron a’r cylchgronau Cymraeg.

Yr awdur amlycaf i ddilyn yn ôl traed y nofelau cynnar hyn oedd Daniel Owen. Cyhoeddwyd Y Dreflan a Hunangofiant Rhys Lewis mewn cylchgrawn misol, Y Drysorfa, a chyhoeddwyd Profedigaethau Enoc Huws a Gwen Tomos ym mhapur newydd Y Cymro. Roedd y papurau newydd hefyd yn cynnig cyfle i chwarae â chyweiriau amgen. Er enghraifft, yn Yr Amserau cyflwynodd Gwilym Hiraethog gymeriad ‘Rhen Ffarmwr, ac mewn cyfres o lythyrau radicalaidd rhwng 1846 ac 1851 diddanodd hwnnw ddarllenwyr yn nhafodiaith Llansannan.

Roedd i'r arfer o gyhoeddi nofel yn y papurau wythnosol fesul pennod ei beryglon amlwg. Disgrifia Picton Davies isolygydd Yr Herald Cymraeg, Richard Hughes Williams, yn ‘ysgrifennu ar frys gwyllt am fod y cysodwr yn disgwyl wrth ei benelin am y tudalennau y naill ar ôl y llall’.

Bu Saunders Lewis yn gyfrannwr toreithiog at amryw o bapurau newydd, gan gynnwys Y Faner, Y Darian, Y Cymro, ac yn Saesneg y Cambria Daily Leader a’r Western Mail. Cyfrannodd 553 o golofnau wythnosol bron â bod yn ddi-dor yn Y Faner rhwng 1939 ac 1950 dan y teitl ‘Cwrs y Byd’. Materion tramor oedd pwnc yr erthyglau hyn, a dechreuodd eu hysgrifennu ar drothwy’r Ail Ryfel Byd, a hynny ar wahoddiad y golygydd E. Prosser Rhys a oedd o’r un farn ag ef o ran ei wrthwynebiad i’r rhyfel.

Roedd y papurau newydd hefyd yn gyfrwng ar gyfer cyhoeddi barddoniaeth. Oddi ar gyhoeddi Almanaciau Thomas Jones yn yr 17g., cynigiai cyfnodolion lwyfan i’r beirdd yn sgil diffyg cefnogaeth yr uchelwyr, ac roedd hyn yn arbennig o wir yn ystod oes aur y wasg brint. Mae Aled Gruffydd Jones yn cymharu papurau newydd yr 19g. ag ‘eisteddfod wythnosol’ am eu bod yn gwobrwyo ac yn cydnabod gwaith y beirdd, ac yn annog eraill i gyfrannu yn yr un modd.

Bu gostyngiad yng ngwerthiant papurau newydd Cymraeg oddi ar ddechrau’r 20g. Bu hyn yn rhannol oherwydd bod y datblygiadau a fu’n hwb i’r wasg Gymraeg yn ail hanner yr 19g., megis llacio’r trethi ar wybodaeth, a datblygiadau technolegol megis stereoteipio, hefyd yn hwb nerthol i wasg Saesneg, ddyddiol. Golygai ‘arbedion maint’ fod argraffu dros filiwn o bapurau newydd yn rhatach nag argraffu ychydig filoedd yn unig. Roedd y papurau Saesneg hefyd yn gallu gwerthu yn is na’r pris yr oedd yn costio i’w cynhyrchu oherwydd hysbysebion. Golygai natur gymharol dlawd a gwledig darllenwyr y papurau Cymraeg na allent gystadlu am hysbysebwyr yn yr un modd. Bu’r rheilffyrdd hefyd yn fodd o boblogeiddio’r arfer o ddarllen papurau newydd, ond golygai yn ogystal bod modd dosbarthu papurau Saeneg i Gymru yn gyflymach ac yn haws nag y gellid dosbarthu papur cenedlaethol Cymraeg i bob cwr o’r genedl. Oherwydd nad oedd manteision economaidd amlwg i gyhoeddi papurau newydd yn Gymraeg yn hytrach na’r Saesneg, tueddai’r gwaith i gael ei gynnal yn wirfoddol gan weinidogion Ymneilltuol a oedd yn gwrthwynebu cynnwys a fyddai yn apelio at y chwaeth boblogaidd a ddiwallwyd gan bapurau tabloid y cyfnod megis y News of the World a‘r Daily Telegraph. Serch hynny, bu ambell i lwyddiant wrth i’r 20g. fynd rhagddi. Gwelwyd cynnydd yng nghylchrediad Y Cymro i fwy nag 20,000 ganol y 50au, a hynny diolch i bolisi'r golygydd John Roberts Williams o ddefnyddio arddull rwyddach, penawdau a lluniau deiniadol, a chynnwys poblogaidd.

Ifan Morgan Jones

Llyfryddiaeth

Davies, P. (1962), Atgofion Dyn Papur Newydd (Lerpwl: Hugh Evans a'i Feibion).

Gwyn, R. (1994), 'Cwrs y Byd: Dylanwad Athroniaeth Saunders Lewis ar ei Ysgrifau Newyddiadurol 1930-1950' (Prifysgol Cymru: M. Phil).

Jenkins, D. (1999), ‘Y Nofel Gymraeg Gynnar’ yn Williams G. (gol), Rhyddid y Nofel (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru), tt. 29-53.

Jenkins, G. H. (1990), Cadw Tŷ Mewn Cwmwl Tystion (Llandysul: Gwasg Gomer).

Jones, A. G. (1988), ‘Y Wasg Gymreig yn y Bedwaredd Ganrif ar Bymtheg’, yn Jenkins, G. H. (gol), Cof Cenedl III (Llandysul: Gwasg Gomer), tt. 98-116.

Jones, A. G. (1999), ‘Yr Iaith Gymraeg a Newyddiaduraeth’, yn Jenkins, G. H. (gol), Gwnewch Bopeth yn Gymraeg: Yr Iaith Gymraeg A'i Pheuoedd, 1801-1911 (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru), tt. 353-374.

Lloyd, D. T. (1980), Gysfenu i'r Wasg Gynt (Caerdydd: Qualitex Argraffwyr Cyf.).

Rhys, R. (1999), ‘Llenyddiaeth Gymraeg y Bedwaredd Ganrif ar Bymtheg’ yn Jenkins, G. H. (gol), Gwnewch Bopeth yn Gymraeg: Yr Iaith Gymraeg A'i Pheuoedd, 1801-1911 (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru), tt. 251-274.

Smith, R. (2000), ‘Newyddiaduraeth a’r Iaith Gymraeg’, yn Jenkins, G. H. a Williams, M. A. (goln), ‘Eu Hiaith a Gadwant’?: Y Gymraeg yn yr Ugeinfed Ganrif (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru), tt. 267-298.


Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.