Tystion

Oddi ar WICI
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 19:59, 29 Ebrill 2021 gan CadiW (Sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i: llywio, chwilio

Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.

O’r 1990au cynnar ymlaen llwyddodd Steffan Cravos i sbarduno’r sîn roc Gymraeg mewn amrywiol foddau, gan gynnwys ei act hip-hop Tystion. Un o Gaerfyrddin oedd yn wreiddiol a dechreuodd gyfrannu i’r sîn fel golygydd y ffansîn Psycho cyn cyfnod byrhoedlog fel aelod o Gorky’s Zygotic Mynci. Bu hip-hopwyr Americanaidd megis Public Enemy, KRS-One ac A Tribe Called Quest yn ddylanwad arno. Bu ef ac Owain Meredith (MC Mabon) yn cyd-chwarae am gyfnod gyda Datsyn, a byddai Meredith yn ddiweddarach hefyd yn dod yn aelod o Tystion.

Yn 1996 rhyddhaodd Cravos sengl gasét hip-hop, ‘Dan y Belt’, o dan y ffugenw MC Sleifar, a hynny gydag Alffa Un (Curig Huws) ar ei label annibynnol newydd Fitamin Un. Roedd y traciau’n arloesol yn Gymraeg ar y pryd yn sgil eu defnydd o dechneg lle mae un rapiwr yn gorffen llinell y llall (un o nodweddion y Beastie Boys ymhlith eraill).

Erbyn ymddangosiad ‘Dan y Belt’ yn 1996, roedd Tystion eisoes wedi cael ei ffurfio gan Cravos, Meredith a Huws. Yn ystod y saith mlynedd nesaf byddai aelodaeth y criw yn newid yn rheolaidd, gyda mwy nag ugain o gerddorion ar un adeg neu’i gilydd yn cyfrannu i’w tri albwm, Rhaid i Rywbeth Ddigwydd (Fitamin Un, 1997), Shrug Off Ya Complex (Ankst, 1999) a Hen Gelwydd Prydain Newydd (Ankst, 2000)), yn ogystal â nifer o senglau a’r EP Brewer Spinks (Ankst, 1998) a ddyfarnwyd yn ‘Single of the Week’ yn y cylchgrawn Melody Maker. Daeth Tystion hefyd i sylw John Peel, gan recordio sesiwn iddo yn 2000. Mae’r traciau hyn i’w cael ar Hen Gelwydd Prydain Newydd, a ystyrir yn gampwaith y band. Mae sŵn y record yn fwy sgleiniog na gwaith cynnar y grŵp, ac mae’r traciau - sydd yn delio â phynciau gwleidyddol megis llygredd llosgachol honedig cymdeithas ddinesig y cyfnod ôl-ddatganoli a Llafur Newydd Tony Blair – yn cynnwys beirniadaeth ddeifiol ar fywyd y Gymru gyfoes.

Nid perfformio’n unig a wnaeth Cravos yn ystod y cyfnod hwn. Erbyn 2001 roedd yn ffigwr canolog mewn sîn danddaearol fechan ond bywiog a oedd yn seiliedig ar gerddoriaeth hip-hop, pync ac avant-garde. Roedd ei ffansîn Brechdan Tywod, ei label Fitamin Un a’i orsaf radio rhyngrwyd Radio Amgen i gyd yn rhoi cyhoeddusrwydd i artistiaid o feddylfryd tebyg yng Nghymru a thu hwnt, a rhoddodd bresenoldeb i’r iaith Gymraeg mewn maes cerddorol newydd a heriol. Arbrofodd Cravos yn y maes hwn o dan y ffugenw Trawsfynydd Lo-Fi Liberation Front, gan greu cerddoriaeth avant-garde mewn arddull debyg i un Merzbow (Masami Akita, g.1956), y cerddor sŵn o Japan. Rhyddhawyd un albwm, Croeso i’r Ganolfan Ymwelwyr, yn 2000, ond cymysg fu’r adolygiadau.

Rhyddhaodd Tystion yr EP Y Meistri yn 2001, ac wedyn eu sengl olaf, ‘M.O.M.Y.F.G.’, cyn chwalu ar ôl Eisteddfod Genedlaethol 2002. Aeth Cravos ymlaen i recordio’r albwm Miwsig i’ch Traed a Miwsig i’ch Meddwl (Boobytrap, 2004) gyda Curig Huws o dan yr enw Lo-Cut a Sleifar a chafodd adolygiadau ffafriol. Erbyn hyn roedd yna garfan fechan o rapwyr a hip-hopwyr yn perfformio yn Gymraeg, gan gynnwys Pep Le Pew, Cofi Bach a Tew Shady, ac MC Saizmundo (a.k.a. Deian ap Rhisiart). Disgrifiwyd hip-hop fel ‘y canu protest newydd’ gan y cynhyrchydd Dyl Mei mewn erthygl yn Y Cymro yn 2005. Fodd bynnag, erbyn diwedd y degawd roedd y rhan fwyaf o’r labeli, y ffansîns a’r grwpiau a oedd wedi ffurfio’r sîn danddaearol wedi dod i ben.

Craig Owen Jones

Disgyddiaeth

  • Dyma’r Dystiolaeth [casét] (Fitamin Un 001, 1995)
  • Tystion vs Alffa Un (gydag Alffa Un) [casét] (Fitamin Un 002, 1996)
  • Rhaid i Rywbeth Ddigwydd (Fitamin Un 004, 1997)
  • Shrug Off Ya Complex (Ankst CD088, 1999)
  • Hen Gelwydd Prydain Newydd (Ankst CD093, 2000)
  • Brewer Spinks [EP] (Ankst 083, 1998)
  • Shrug EP [EP] (Ankst 087, 1999)
  • E.P. Toys (Ankst 090, 1999)

Trawsfynydd Lo-Fi Liberation Front:

  • Croeso i’r Ganolfan Ymwelwyr (Fitamin Un 007, 2000)
  • Y Meistri [EP] (Fitamin Un 012, 2001)
  • M.O.M.Y.F.G. [EP] (Fitamin 014, 2002)

Lo-Cut a Sleifar:

  • Miwsig i’ch Traed a Miwsig i’ch Meddwl (Boobytrap BOOBREC009CD, 2004)



Comisiynwyd y cofnod hwn ar gyfer Y Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol a fydd yn cael ei chyhoeddi gan Y Lolfa yn 2018. Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.