Pep Le Pew

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio

Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.

Act hip-hop o Borthmadog oedd Pep Le Pew, a fu’n weithgar rhwng 1999 a 2004. Ar ddechrau’r mileniwm newydd roedd carfan fechan o artistiaid rap a hip-hop yn gysylltiedig â’r ardal ac yn cylch-droi o amgylch stiwdio Blaen-y-Cae yng Ngarndolbenmaen, gŵyl flynyddol Miri Madog a lleoliadau megis y Ship Inn a’r Clwb Chwaraeon ym Mhorthmadog, ynghyd â’r Ring yn Llanfrothen a oedd yn barod i gefnogi artistiaid hip-hop lleol. Yn eu plith yr oedd Pep Le Pew.

Ffurfiwyd y band gan Dave Thomas ac Aron Elias yn 1999; ymunodd Dylan Meirion Roberts (Dyl Mei), Ed Holden a Danny Pierce yn ystod y flwyddyn ganlynol. Roedd Steffan Cravos o’r Tystion yn gefnogwr brwd, ac arwyddodd y band i’w label Fitamin Un gan chwarae hefyd ar ei orsaf ryngrwyd Radio Amgen. Eu sengl gyntaf oedd ‘Y Mwyafrif’, a ryddhawyd yn Haf 2001 gan dderbyn clod beirniadol. Daeth y band i sylw’r cyhoedd trwy gyfres lwyddiannus o berfformiadau yn ystod Eisteddfod Genedlaethol Dinbych yn ystod yr un flwyddyn.

Cafodd eu halbwm cyntaf, Y Da, y Drwg, Ac yr Hyll, ei ryddhau ar label ad hoc MPLP yn 2001. Roedd yn cynnwys dros ugain o draciau, ond o ganlyniad i ddiffyg ffocws a llacrwydd, derbyniodd adolygiadau cymysg, er bod arno draciau ardderchog megis ‘Dysgwch Am Y Doethion’, ‘Ffacisto’, a fersiwn hip-hopaidd o 'Sosban Fach'.

Dilynwyd yr albwm gan sengl ddwbl, ‘Hiphopcracy’/‘Y Magwraeth’ (Boobytrap, 2002), a derbyniodd y band dair gwobr yng Ngwobrau Roc a Phop BBC Radio Cymru yn ystod yr un flwyddyn, gan gynnwys Band Byw Gorau a Sengl Orau (‘Y Mwyafrif’). Cafodd sgiliau cynhyrchu Dyl Mei eu cydnabod yr un flwyddyn – derbyniodd wobr fel Cynhyrchydd Gorau, y gyntaf o bump gwobr yn yr un categori rhwng hynny a 2006.

Roedd Un Tro yn y Gorllewin (Slacyr, 2004) yn llawer cryfach na’r albwm cyntaf. Heb os, roedd ‘Gwynt a Glaw’ - gosodiad o farwnad Gruffudd ab yr Ynad Coch i Lywelyn ap Gruffudd (m.1282) - yn gampwaith o safbwynt ffurfiol ac arddulliadol. Roedd Elias wedi cymharu ei waith fel rapiwr â gwaith Beirdd y Tywysogion gynt, ac roedd ei lwyddiant wrth rapio testun Cymraeg Canol heb golli dim o’i bŵer rhethregol yn arddangos ei ddealltwriaeth o rôl yr hip-hopwyr fel dehonglwyr y gwir ar ran y werin bobl.

Chwalodd y band tua diwedd 2004. Aeth nifer o’r aelodau ymlaen i ffurfio’r act hip-hop fyrhoedlog Genod Droog yn 2005, ac mae Dyl Mei bellach yn gynhyrchydd a chyflwynydd radio gyda’r BBC. Ffurfiodd Holden ac Aneirin Karadog act rap arall, Y Diwygiad, yn 2006. Ar ôl hynny enillodd Holden glod am ei allu i gynhyrchu curiadau, seiniau a rapio lleisiol mewn dull a elwir yn freestyling, a hynny’n ddwyieithog, yng nghylchoedd rap Prydain fel Mr Phormula.

Craig Owen Jones

Disgyddiaeth

  • ‘Y Mwyafrif’ [sengl] (Fitamin Un Fit!011, 2001)
  • Y Da, Y Drwg, Ac Yr Hyll (MPLP Music MPLP002, 2001)
  • ‘Hiphocracy’/‘Y Magwriaeth’ (Boobytrap Records BOOB017CD, 2002)
  • Un Tro Yn Y Gorllewin (Slacyr SLAC002, 2004)



Comisiynwyd y cofnod hwn ar gyfer Y Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol a fydd yn cael ei chyhoeddi gan Y Lolfa yn 2018. Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.