'Sosban Fach'

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio

Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.

Cân nonsens a gysylltir â’r maes rygbi ac â chlwb Llanelli a rhanbarth y ‘Scarlets’ yn bennaf; y gred yn draddodiadol oedd iddi gael ei chanu gyntaf ar Barc y Strade, maes rygbi Llanelli, yn ystod tymor 1895–6 er bod ei hanes ychydig yn hŷn na hynny mewn gwirionedd. Nid oes sicrwydd pwy biau’r geiriau na’r dôn ond tybir bellach i’r gân gael ei chanu yn 1895 yn un o gyngherddau nosweithiol gweithwyr dur ac alcam o Lanelli a oedd ar eu gwyliau yn Llanwrtyd, pentref yn yr hen Sir Frycheiniog a oedd yn fath o Lourdes i nifer fawr o Gymry’r cyfnod ar bwys ei ffynhonnau iachusol.

Deil dirgelwch hyd heddiw ynglŷn â tharddiad y dôn er y gellir gweld arni ddylanwad modd lleddf emynau’r cyfnod. Er ei bod yn ymddangos mai i’r bardd Richard Davies (Mynyddog; 1833–77) y perthyn gwreiddyn y gân (Davies, 2000), i Talog Williams, gŵr o Ddowlais a oedd ar ei wyliau yn Llanwrtyd yn 1895, y priodolid fersiwn cynnar o’r hyn a ddisgrifiwyd gan bapur dyddiol y Cambrian Daily Leader, a argraffodd y gân am y tro cyntaf yn 1896, fel ‘the epic of the withered finger’, er mai bys Mari Ann sydd wedi brifo erbyn hyn yn hytrach na’r Catherine Ann a oedd gan Mynyddog. Ond yn 1915 honnodd y Parch. D. M. Davies o Waunarlwydd, Abertawe, a fu’n gweithio am gyfnod yn Llanelli, mai ef a’i cyfansoddodd ym mis Awst 1895 wrth ochr un o’r ffynhonnau yn Llanwrtyd, ac ef a arweiniodd y côr anffurfiol a’i canodd hi yno am y tro cyntaf.

Hwyrach nad yw’n gyd-ddigwyddiad fod 200 o weithwyr tunplat o Lanelli ar streic yn 1895, a hwy a fanteisiodd ar y cyfle i gludo’r gân o Lanwrtyd yn ôl i dre’r sosban lle amrywiwyd arni, ei haddasu i’r dafodiaith leol ac ychwanegu ati benillion eraill yn ôl y galw, fel ‘Who beat the Walla-wallabies?’ ar ôl buddugoliaeth y Scarlets dros Awstralia yn 1908, ac wedi hynny yr ‘All Blacks’ yn 1972. Yr unig beth y gellir ei ddweud i sicrwydd yw bod y gân smala hon, sydd yn anthem arbennig tref Llanelli, yn enghraifft olau o’r traddodiad llafar ac nad oes un ‘awdur’ iddi.

Gareth Williams

Llyfryddiaeth

  • Sioned Davies, O’r Pair i’r Sosban (Y Ddarlith Lenyddol, Eisteddfod Genedlaethol Llanelli 2000, cyhoeddwyd gan Lys yr Eisteddfod)



Comisiynwyd y cofnod hwn ar gyfer Y Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol a fydd yn cael ei chyhoeddi gan Y Lolfa yn 2018. Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.