Hanesyddiaeth, Ysgolheictod a Cherddoreg
Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.
Ymhlith gwledydd Prydain, Cymru yn ddi-os sy’n dal i gael y sylw lleiaf gan gerddolegwyr. Nid oes yr un awdur eto wedi rhoi cynnig ar ysgrifennu hanes cyflawn cerddoriaeth Cymru; nid oes ond prin ddwsin o fonograffau ysgolheigaidd arbenigol ar gerddoriaeth Cymru; ac nid oes dim sy’n gyfwerth â’r gyfres amlgyfrol ragorol A Guide to Welsh Literature na’r Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru. Yn ogystal, cynrychiolaeth brin sydd gan gyfansoddwyr a repertoires o Gymru yn y gwaith cyfeiriadol ‘safon aur’ hwnnw yn y byd Saesneg, The Grove Dictionary of Music and Musicians. Ni chynhwyswyd Morfydd Llwyn Owen (1891–1918) yn argraffiad 1980, nac ychwaith - yn rhyfeddol - Karl Jenkins (g.1944) yn fersiwn diweddarach, llawer helaethach y geiriadur yn 2001. Yn wir, mae dirfawr angen gwerthusiad o gyflawniad cyfansoddwyr Cymru ar hyd y sbectrwm. Dim ond pedair cyfrol denau a gynhyrchodd y gyfres Composers of Wales a noddwyd gan Gyngor Celfyddydau Cymru rhwng 1978 ac 1980: ar David Wynne (1900–83), Grace Williams (1906–77), Alun Hoddinott (1929–2008) a William Mathias (1934–92). Yn waeth fyth, erys llawer o gerddoriaeth Cymru heb ei golygu, heb ei chyhoeddi, heb ei recordio a heb ei pherfformio – ac o’r herwydd mae’n cael ei hanwybyddu neu ei chamddehongli.
Ac eto, ar y llaw arall, mae rhai arwyddion fod ‘cerddoreg Gymreig’ sylweddol wedi dechrau blodeuo. Ar ddiwedd yr 20g. gwelwyd ymagwedd lawer mwy systematig ac eang i ymchwil ar gerddoriaeth yng Nghymru, a chadarnheir hynny gan ymddangosiad y cyfnodolyn ysgolheigaidd dwyieithog, Hanes Cerddoriaeth Cymru/Welsh Music History (ymddangosodd saith cyfrol rhwng 1996 a 2007); mae cyhoeddiadau ysgolheigaidd newydd yn yr arfaeth ar hyn o bryd; mae traethodau doethuriaeth newydd ar gerddoriaeth Cymru yn ymddangos; ac mae llond dwrn o fonograffau blaengar – rhai yn rhyngddisgyblaethol – yn cael adolygiadau cadarnhaol ar y llwyfan rhyngwladol.
Mae rhai o’r problemau sydd ynghlwm wrth astudio cerddoriaeth yng Nghymru o ddifrif yn hawdd eu hadnabod. O ganlyniad i’r trywydd anghyson a ddilynodd cerddoriaeth Cymru o’r Oesoedd Canol ymlaen, ni fydd ysgrifennu ei hanes byth yn gwbl syml a hynny i raddau helaeth am ei bod yn gwrthsefyll mor aml y math o werthuso a dadansoddi y mae cerddoreg ‘draddodiadol’ yn ei ffafrio. Mae’r cysyniad o ffurfio canon, er enghraifft, yn amherthnasol braidd i gerddoriaeth a fu’n gwbl ddibynnol ar y traddodiad llafar dros gymaint o’i hanes, ac o ystyried mai dim ond ychydig iawn o ffynonellau yn cynnwys nodiant cerddorol sydd wedi goroesi o’r cyfnod cyn 1750.
Mae’r hyn y gellid ei ddiffinio fel ‘cerddoriaeth gelfyddydol’ Gymreig (gw. Clasurol a Chelfyddydol, Cerddoriaeth) yn gymharol gyfyng: cerddoriaeth amatur, emynyddiaeth a sol-ffa a oedd amlycaf o ddigon yn ystod rhan helaeth o’r 19g., ac ar y cyfan mae cydnabyddiaeth go iawn i’r ‘cyfansoddwr o Gymro’ (yn enwedig o’r tu allan i Gymru) wedi bod yn ffenomen sy’n perthyn i ddiwedd yr 20g. Fel mae’n digwydd, roedd gan Gymru gyfansoddwr gwir ‘enwog’ erbyn 1900. Pan fu farw yn 1903, ystyrid mai Joseph Parry oedd ‘yn ddi-os, y Cymro mwyaf adnabyddus yn y byd’ (yn Edwards 1970, 83). Fodd bynnag, ar wahân i’r opera Gymraeg nodedig Blodwen (1878), bellach mae Parry yn cael ei gofio yn bennaf am yr emyn-dôn ‘Aberystwyth’ a’r rhan-gân ‘Myfanwy’, hen ffefryn y corau meibion (gw. Rhys 1998, 143–60). I Cyril Jenkins, roedd gwaith Parry ‘yn eilradd ar ei orau, ac ar ei waethaf ddim yn haeddu sylw’; i Percy Young, roedd yn dioddef o ‘arddull anniddorol a ystyriwyd yn briodol i Ddoethur mewn Cerddoriaeth’ (gw. Evans 1921; Young 1967, 491–2).
Nid yw’r canfyddiadau arferol ynghylch cyfnodau cerddorol, genre, arddull na hyd yn oed mater trafferthus ‘cenedlaetholdeb’ cerddorol o anghenraid yn arbennig o ddefnyddiol wrth ddisgrifio cerddoriaeth Cymru. Daeth yr alawon telyn melodaidd a gasglwyd ynghyd gan ddynion fel John Parry (Parry Ddall) o Riwabon (c.1710–82) ac Edward Jones (Bardd y Brenin; 1752–1824), yn arbennig o boblogaidd yng Nghymru a’r tu hwnt yn ystod ail hanner y 18g. o achos eu nodweddion ‘cenedlaethol’ tybiedig. Ond, yn sicr, nid oedd yr holl felodïau a gynhwyswyd o dras Gymreig, ac mae’r trefniannau cysylltiedig yn hynod ddibynnol ar fodelau o Loegr neu’r cyfandir. Nododd David Wynne fod eu patrymau melodaidd a’u strwythur harmonig yn ‘rhyfeddol o agos i ... weithiau cynnar Haydn a Mozart’ (yn Stephens, 100), ac mae Geraint Lewis wedi dadlau nad yw’r ‘Lessons’ (sonatas) a gyhoeddwyd gan John Parry yn 1761 yn gwneud fawr mwy nag ailgylchu ffurf wannach ar arddull a oedd ar farw, gan ddynwared ‘ffurf syml iawn ar iaith Faróc, a darddai o weithiau Vivaldi ac eraill’ (Lewis 1983, 9).
Mae ‘cerddoriaeth absoliwt’ go iawn – cerddoriaeth heb unrhyw gysylltiad uniongyrchol ag unrhyw bynciau y tu allan i gerddoriaeth, gan gynnwys testunau ysgrifenedig – hefyd wedi bod yn gymharol anghyffredin yng Nghymru. Ac eithrio enghraifft amlwg Daniel Jones (a gyfansoddodd bedair symffoni ar ddeg) a’r mwy rhyfeddol fyth Alun Hoddinott (a gyfansoddodd gyda’i gilydd ddeg symffoni a thros ddwsin o concerti), gellid dadlau nad yw ffurfiau offerynnol fel y symffoni a’r concerto eto wedi ennill ‘lle canolog yn niwylliant Cymru’ (ap Siôn 2007, 290).
Mae’r ddibyniaeth dybiedig hon ar destun hefyd yn peri trafferthion pellach i rai y tu allan i Gymru am fod deall yr iaith Gymraeg mor aml yn hanfodol er mwyn perfformio a lledaenu gweithiau o’r fath, heb sôn am wir werthfawrogi’r gerddoriaeth. Yn sicr, mae hyn yn wir am gryn dipyn o’r casgliad o ganeuon unawdol, am nifer o weithiau corawl, a hefyd am y genre Cymreig unigryw hwnnw, canu penillion, sy’n haeddiannol boblogaidd ymysg amaturiaid a cherddorion proffesiynol. Er gwaethaf ei brydferthwch neilltuol a medr a disgyblaeth llawer o’i berfformwyr, mae canu penillion yn dal i fod yn anodd i nifer o bobl ei ddirnad, i raddau helaeth am fod cyn lleied wedi’i ysgrifennu amdano yn y Saesneg.
Gall tuedd ysgolheigion cynhenid cynharach (ac yn wir gyfansoddwyr creadigol) i chwilio am wahanol ffurfiau ar ‘Gymreictod’ a’u hyrwyddo, amharu hefyd ar werthusiad gwrthrychol o gryn dipyn o gerddoriaeth Cymru. Roedd golygyddion a chasglwyr cynnar yn dal i bwysleisio hynafiaeth a chymeriad unigryw Gymreig darnau o’r fath. Datganodd tudalen deitl Antient British Music John Parry ac Evan Williams (1742) fod y 24 o alawon telyn a gynhwysai ‘yn ôl y dysgedig yn waddol yr hen dderwyddon’, a dywedwyd, yn yr un modd, fod yr ‘alawon barddol’ a gyhoeddwyd gan Edward Jones yn ei amryw gasgliadau o Musical and Poetic Relicks (1784 ymlaen) ‘wedi’u cadw gan draddodiad, a llawysgrifau dilys o’r cynfyd pell’. Tybed ai cerddoriaeth o’r math hwn a barodd i’r Felix Mendelssohn anfoddog, ar ei daith trwy ogledd Cymru yn haf 1829, ysgrifennu at ei deulu nad oedd hon yn ‘gerddoriaeth genedlaethol i mi’? (gw. Tudur 1974, 43–9).
Wrth gwrs, ni fu’r duedd i ddyfeisio gorffennol cenedlaethol ffug – yn enwedig mewn perthynas â neo-Dderwyddiaeth – erioed yn fwy amlwg nag yng ngwaith ysgrifenedig y bardd a’r hynafiaethydd Iolo Morganwg (1747–1826). Gallai ei waith fod o gryn ddiddordeb i gerddolegwyr, ac eto mae gwahanu’r ffuglennol oddi wrth y gwir yn achos rhwystredigaeth dragwyddol. Mae ysgolheigion yn dal i ddadlau ynghylch ei werth, er bod diddordebau cerddorol Iolo a’i ragflaenwyr yn cyfiawnhau yn ddiamau astudiaeth lawnach (gw. Morgan yn Hobsbawm a Ranger 1983, 43–100; gw. hefyd Huws 2005, 333–56; Salisbury, 2009).
Mae’r anghydbwysedd potensial hwnnw rhwng cerddoriaeth ‘draddodiadol’ a ‘chelfyddydol’ yn her arall i ysgolheictod modern. I lawer, mae meta-naratif hanes cerddoriaeth Cymru yn dal i droi o amgylch cerddoriaeth ‘draddodiadol’ neu ‘werin’, termau y dechreuwyd mewn ffyrdd cynnil yn ddiweddar wahaniaethu rhyngddynt mewn gweithiau ysgrifenedig ar gerddoleg. Er enghraifft, mae pumed argraffiad Grove’s Dictionary (1954) yn diffinio cerddoriaeth werin, neu ‘Folk Music’ [sic], fel ‘any music … which has entered into the heritage of the people … a type of music which has been submitted for many generations to the process of oral tradition’, ac mae’r cofnod cysylltiedig o 1954 ar gyfer cerddoriaeth werin Cymru, neu ‘Folk Music: Wales’, yn cwmpasu nid yn unig ganeuon a dawnsfeydd ‘traddodiadol’ ond hefyd wahanol ffurfiau ar gerddoriaeth delyn, carolau ac emynau (sy’n perthyn yn fwy cywir i’r eglwys), baledi, canu penillion a’r hwyl. Erbyn diwedd yr 1970au, fodd bynnag, roedd folk yn dechrau magu ystyron annymunol yn ymwneud â chenedlaetholdeb a chulni, ac yn 1981 ailffurfiodd yr International Folk Music Council, gan newid ‘Folk’ i ‘Traditional’.
Yn raddol, mae cerddoriaeth werin wedi cael ei hailddiffinio ac yn cwmpasu arddulliau cymysg (fusion) poblogaidd sy’n dal i ddefnyddio melodïau neu offerynnau ‘traddodiadol’ mewn rhai ffyrdd, ond sydd fel arfer wedi’u cyfansoddi a’u perfformio’n broffesiynol neu’n fasnachol. Mae genres newydd fel ‘roc gwerin’ wedi ymddangos, ac mae diddordeb cynyddol yng nghynnyrch adfywiad gwerin Cymru yn yr 1970au a’r 1980au, yn cynnwys grwpiau fel Aberjaber, Ar Log a Pedwar yn y Bar (sy’n arddangos dylanwadau Americanaidd amlwg) (gw. Rees 2007, 304–24).
Fodd bynnag, o geisio categoreiddio yn y fath fodd, mae perygl y caiff rhai mathau o gerddoriaeth eu cymylu neu hyd yn oed eu gwthio i’r ymylon. Er enghraifft, hepgorodd argraffiad New Grove 1980 yr erthygl gyffredinol ar gerddoriaeth werin ac yn ei lle cyflwynodd raniad pendant rhwng cerddoriaeth gelfyddydol (‘art music’) a cherddoriaeth draddodiadol (‘traditional music’) ar gyfer y rhan fwyaf o’r cofnodion a ymwnâi â gwledydd Ewropeaidd unigol. Erbyn 2001 roedd y rhaniadau hyn yn fwy haearnaidd byth: mae’r cofnod cyfansawdd ar gyfer Cymru yn y geiriadur diwygiedig yn syndod o debyg o ran ymagwedd a strwythur i gofnodion yr Alban ac Iwerddon, ac ym mhob achos rhoddir dros bedair gwaith yn fwy o le i gerddoriaeth draddodiadol nag i gerddoriaeth gelfyddydol.
Ond mewn gwirionedd, aneglur iawn yw’r ffin rhwng y ddau faes yn fynych. Er enghraifft, mae prif genre yr Oesoedd Canol, cerdd dant, y ‘grefft linynnol’ farddonol honno y gellid, gyda chyfiawnhad, ei disgrifio fel cerddoriaeth ‘celfyddyd aruchel’ soffistigedig, i’w chael yn y categori ‘traddodiadol’ oherwydd yr arferai fod yn ddibynnol ar ei throsglwyddo’n llafar ac yn glywedol, er bod ei dyfeisiau cymhleth a’i chyd-destun perfformio aruchel yn wahanol iawn i syniadau confensiynol am gerddoriaeth y ‘werin’.
Ar yr un pryd, mae’r rhaniad arferedig rhwng erthyglau wedi achosi i fanylion gael eu colli. Rhoddodd Grove 5 gynifer â 28 o golofnau i’r erthygl hunangynhwysol hirfaith ar gerddoriaeth werin Cymru (‘Folk Music: Welsh’), a 15 colofn arall i’r cofnod cyffredinol ar hanes cerddoriaeth Cymru (‘Musical History of Wales’) (y ddau gofnod wedi’u hysgrifennu gan Peter Crossley-Holland) yn 1954, ond roedd y cofnod cyfunol ar Gymru yn 1980 (gan yr un awdur) wedi crebachu, ac mae cofnod 2001 (gan Geraint Lewis a Phyllis Kinney) yn 34 o golofnau. Nid nad oes i’r tri argraffiad eu gwerth eu hunain wrth gwrs (i raddau helaeth fel cofnodion o’r newid mewn ymagwedd ysgolheigaidd), ond maent hefyd yn cryfhau’r ddadl dros wyddoniadur penodol newydd ar gyfer cerddoriaeth Cymru sy’n ymdrin â genre, arddull, ffynonellau a chyfansoddwyr mewn llawer mwy o fanylder, heb gyfyngiadau gofod na themplad anhyblyg (gw. White 1988, 303).
Beth,felly, yw’r sefydliadau sy’n braenaru’r tir ar gyfer datblygiad ysgolheictod cerddoriaeth Cymru yn yr 21g., a beth yw’r prif feysydd her a photensial? Yn anochel, mae astudiaeth systematig o gerddoriaeth draddodiadol Cymru yn dal i fod yn flaenoriaeth i Gymdeithas Alawon Gwerin Cymru (mae’r Gymdeithas yn cyfarfod ac yn cyhoeddi’n rheolaidd). Mae ymchwil ar gerddoriaeth draddodiadol bob amser wedi elwa ar gyfranogiad egnïol y rhai sydd heb swyddi academaidd ffurfiol (ystyrier gwaith cynnar y gwragedd a gasglai alawon gwerin yn y 19g. a dechrau’r 20g., ac yn ddiweddar waith amhrisiadwy Phyllis Kinney dros bum degawd), er bod ymchwil o’r fath hefyd wedi elwa ar gefnogaeth sefydliadol ffurfiol (gw. Kinney 2011).
Sefydlwyd y Gymdeithas ei hun rhwng 1906 ac 1908 yn sgil yr ymchwydd cenedlaethol hwnnw ar ddiwedd y 19g. a roddodd i Gymru ei llyfrgell, ei hamgueddfa a’i cholegau prifysgol ei hun, ac enillodd hygrededd ysgolheigaidd o ganlyniad i gysylltiad â Choleg Prifysgol Gogledd Cymru, Bangor, lle’r oedd y Gwyddel Harry Reichel, sef prifathro Bangor, Mary Davies, gwraig y cofrestrydd, a J. Lloyd Williams (1854–1945), a benodwyd yn y man cyntaf yn ddarlithydd botaneg, oll yn ffigurau tra dylanwadol.
Roedd Lloyd Williams nid yn unig yn olygydd cyntaf Cylchgrawn Cymdeithas Alawon Gwerin Cymru, ond hefyd yn sylfaenydd cymdeithas brifysgol Y Canorion, a oedd yn sicrhau y câi’r deunydd a gesglid ei ganu yn hytrach na dim ond ei gadw ar gyfer y dyfodol. Dangosodd rhifyn cyntaf y cylchgrawn yn 1909 hefyd ymwybyddiaeth o gyd-destun ehangach y tu hwnt i Gymru: y briff a gyhoeddodd y Gymdeithas oedd y byddai’n ‘casglu’ a ‘diogelu’ caneuon gwerin, baledi ac alawon Cymru; yn fyr, y byddai’n ‘cyflawni ar ran Cymru y gwaith sydd eisoes yn cael ei gyflawni gan y Folk-Song Society [a sefydlwyd yn 1898] ar ran Lloegr a chan yr Irish Folk-Song Society [a sefydlwyd yn 1904] ar ran Iwerddon’.
Ymddangosodd llawer o ddeunydd pwysig yng Nghylchgrawn y Gymdeithas hyd at 1977. Atgyfodwyd y cylchgrawn yn 1978 a pharhau ar wedd ychydig yn wahanol fel Canu Gwerin (Folk Song). Yn anochel, mae ffocws y Gymdeithas hefyd wedi newid. Roedd bron i 600 o ganeuon wedi’u cyhoeddi erbyn yr 1990au, ond rhoddir mwy o egni bellach i ymchwil cymharol a chyd-destunol nag i gasglu. Fodd bynnag, mae tua mil o ganeuon heb eu cyhoeddi ac mae cyhoeddi (ar ffurf ddigidol yn fwyaf delfrydol) casgliadau llawysgrifau anghyhoeddedig John Jenkins (Ifor Ceri), J. Lloyd Williams ei hun, Mair Richards (Darowen), y Fonesig Ruth Herbert Lewis, a Jennie Williams Aberystwyth yn dal i fod yn flaenoriaeth, gan ddefnyddio’r dulliau beirniadol gorau (gw. Thomas yn Harper a Thomas 2007, 280–96).
Yn ogystal â’r Llyfrgell Genedlaethol, cedwir deunyddiau pwysig ar gyfer astudio cerddoriaeth draddodiadol Cymru yn Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru (a gafodd ei chanolfan ei hun ar gyfer astudio cerddoriaeth werin Cymru yn 1976) ac yn Archif Cerddoriaeth Draddodiadol Cymru ym Mhrifysgol Bangor, a sefydlwyd yn 1986 gyda chefnogaeth Cyngor Celfyddydau Cymru fel ‘ystorfa o recordiadau cerddorol a geiriol a gadwyd ar gof gan y traddodiad llafar yn hytrach na thrwy ysgrifennu neu argraffu’. Mae’r Archif hefyd yn ymwneud â llunio a noddi cyhoeddiadau, yn eu mysg lyfryddiaeth ddwyieithog Wyn Thomas o gerddoriaeth draddodiadol Cymru, sydd bellach yn ei thrydydd ymgorfforiad – arf sy’n sicr yn ddefnyddiol y tu hwnt i gwmpawd y rhai sy’n gweithio ar gerddoriaeth ‘draddodiadol’ yn unig (Thomas 2006).
Mae ymchwil sylweddol newydd ar gerddoriaeth draddodiadol a gwerin hefyd yn mynd rhagddo ac mae dwy gymdeithas a sylfaenwyd yn yr 1990au hefyd yn annog yn anuniongyrchol ei diogelu a’i lledaenu, sef trac, sy’n bodoli i hyrwyddo a datblygu traddodiadau cerddorol a dawns Cymru, a Clera, sef Cymdeithas Offerynnau Traddodiadol Cymru. Fodd bynnag, mae prifysgolion Cymru yn dal i fod ar ei hôl hi ar un ystyr: er bod astudiaeth ethnolegol o gerddoriaeth draddodiadol ddilys bellach wedi cael ei chydnabod fel disgyblaeth academaidd ynddi ei hun, nid oes hyd yma raglen radd lawn yn y maes hwn, tebyg i’r rhai sydd bellach ar gael yn Newcastle, Limerick a Glasgow.
Mae Cymdeithas Cerddoriaeth Cymru (Welsh Music Guild) hefyd wedi chwarae rhan bwysig mewn datblygu cerddoriaeth yng Nghymru, yn enwedig trwy gefnogi cyfansoddiadau cyfoes. Fe’i sylfaenwyd o dan yr enw Yr Urdd Er Hyrwyddo Cerddoriaeth Cymru yn 1955, a’i bwriad ers hynny fu ‘hyrwyddo addysg a gwybodaeth gyffredinol y gymuned, ynghŷd â datblygu a meithrin dealltwriaeth a gwerthfawrogiad o gerddoriaeth cyfansoddwyr o unrhyw genedligrwydd sy’n byw yng Nghymru, fel y mynegir ym mhob ffurf ar gerddoriaeth’. Mae ei chyfnodolyn cysylltiedig Welsh Music/Cerddoriaeth Cymru wedi cynnwys sawl erthygl allweddol dros y blynyddoedd ac wedi bod yn arf pwysig i ledaenu gwaith ysgolheigaidd cyn i Gyngor y Celfyddydau atal cyllid rheolaidd yn 1999. Fel ei chwaer-gymdeithas, Cyfansoddwyr Cymru, mae’r Gymdeithas Gerddoriaeth ei hun bellach o dan adain Tŷ Cerdd, rhwydwaith gwasanaeth ar gyfer gwybodaeth am gerddoriaeth sydd wedi’i leoli yng Nghanolfan Mileniwm Cymru yng Nghaerdydd. Mae Tŷ Cerdd yn cadw cerddoriaeth, recordiadau a deunydd cyfeirio, ac yn cyhoeddi amryw gyhoeddiadau i hyrwyddo cerddoriaeth a chyfansoddwyr Cymru, er bod peth o’i ddeunydd pwysicaf o ran ffynonellau gwreiddiol wedi’i ryddhau i’r Llyfrgell Genedlaethol gan gynnwys llawysgrifau sy’n gysylltiedig â chyfansoddwyr megis Dilys Elwyn-Edwards, Daniel Jones, Ian Parrott a D. Vaughan Thomas. Mae cryn dipyn o’r deunydd hwn eto’n aros i gael ei archwilio.
Mae rôl prifysgolion Cymru yn yr ystyr ehangaf hefyd wedi bod yn hanfodol i astudiaethau cerddoregol, er nad yw pob sefydliad wedi parhau i ganolbwyntio ar gerddoriaeth gynhenid. Mae Caerdydd, un o’r adrannau cerdd mwyaf ym Mhrydain, wedi dod yn rhan o’r byd cerddoreg rhyngwladol, er mai un yn unig o’i staff sy’n ymwneud go iawn â cherddoriaeth ‘Gymreig’ – y cerddoregwr o Galiffornia Sarah Hill – sy’n ffigwr blaenllaw mewn ymchwil ar gerddoriaeth boblogaidd. (Roedd aelod arall o’r staff hefyd yn ymwneud â cherddoriaeth Cymru, sef y cyfansoddwr a’r cerddoregwr Richard Elfyn Jones, a ymddeolodd yn 2011.)
Yn Aberystwyth, er gwaethaf yr addewid cynnar y byddai’n adran ‘Gymreig’ (gyda Joseph Parry yn Athro am gyfnod byr yn yr 1870au, cyn sefydlu Cadair Gerdd Gregynog yn 1919), daeth y cyfle i astudio cerdd i ben yn nechrau’r 1990au, pan drosglwyddwyd y myfyrwyr i Fangor. Fodd bynnag, ym Mangor ei hun mae cerddoriaeth Gymreig, ar bob gwedd ac yn y ddwy iaith, wedi dod yn faes twf sylweddol, sy’n eironig braidd o ystyried siom J. Lloyd Williams yn 1915 (pan ymadawodd am Aberystwyth) nad oedd Bangor ei hun eto wedi sefydlu adran ffurfiol i ‘astudio hanes a nodweddion cerddoriaeth Cymru’. I Lloyd Williams, sefydliad o’r fath oedd yr unig ffordd ‘i ennill cydnabyddiaeth deilwng i’r pwnc fel y gallai cyfansoddwyr y dyfodol gael eu trwytho yn yr elfennau Cymreig’ (Keen 2004, 16).
Geiriau proffwydol, yn wir, o ystyried y byddai Bangor yn y pen draw yn sefydlu cadair gerdd yn 1963, ac y byddai proffil y Brifysgol yn cael ei godi’n aruthrol yn sgil penodi cyfansoddwr o Gymro o statws rhyngwladol. Bu’r cyfansoddwr William Mathias yn Athro o 1970 hyd ei ymddeoliad yn 1988, ac mae pwyslais cynyddol wedi’i roi ar gerddoriaeth Cymru fel maes astudio ac ymchwil o sylwedd ers canol yr 1980au. Parhaodd Cyfansoddi i fod yn bwysig i’r sefydliad dros y blynyddoedd, gan ymestyn y ddarpariaeth o gyfansoddi acwstig i gynnwys cyrsiau mewn cyfansoddi acwsmatig a chyfrifiadurol, cerddoriaeth ar gyfer ffilm a’r cyfryngau, a sgiliau ysgrifennu caneuon. (Gw. Clasurol a Chelfyddydol, Cerddoriaeth.)
Yn anochel, mae cydnabyddiaeth ddeallusol i gynnyrch cynyddol cerddoriaeth Cymru yn brif flaenoriaeth i Ganolfan Uwch-Astudiaethau Cerddoriaeth Cymru, Bangor, a sylfaenwyd yn 1994 gan John Harper. O’r cychwyn cyntaf, cenhadaeth y Ganolfan fu hyrwyddo astudiaethau o gerddoriaeth Cymru yn genedlaethol ac yn rhyngwladol a chydlynu a datblygu cerddoreg wir Gymreig, wedi’i symbylu gan gynadleddau a chyhoeddiadau rheolaidd, yn anad dim drwy’r cyfnodolyn Hanes Cerddoriaeth Cymru/Welsh Music History (a olygwyd ar y cyd rhwng Sally Harper a Wyn Thomas), a gyhoeddwyd gan Wasg Prifysgol Cymru rhwng 1996 a 2007. Mae’n ymgorffori ystod a chwmpas llawn ysgolheictod cerddoriaeth Cymru yn y ddwy iaith: hanes cerddoriaeth, hanesyddiaeth gerddorol, dadansoddi cerddoriaeth ac ethnogerddoreg. Mae’r cyfnodolyn hefyd yn cyflawni swyddogaeth hanfodol trwy ei fformat cwbl ddwyieithog.
Mae’r Ganolfan wedi dod yn ddrych ar gyfer y prif ffrydiau ymchwil yng ngherddoriaeth Cymru ers ei sefydlu, a cheir pwyslais amlwg ar bedwar maes: cerddoriaeth Cymru’r Oesoedd Canol a’r cyfnod modern cynnar (yn ymdrin â’r sanctaidd a’r seciwlar); cerddoriaeth diwedd y 19g. a dechrau’r 20g. (gan gynnwys gwaith casglwyr caneuon gwerin a chyhoeddwyr cerddoriaeth); cerddoreg olygyddol; a cherddoriaeth boblogaidd Gymreig o’r 1960au ymlaen. Mae cryn dipyn o’r gwaith hwn wedi bod yn rhyngddisgyblaethol, a thrwy hynny mae’n ategu ysgolheictod cynharach o sylwedd, gan gynnwys hanes Walford Davies a’r Cyngor Cerdd Cenedlaethol gan yr addysgwr o Gaerdydd David Allsobrook, a’r archwiliad tu hwnt o ddarllenadwy o ganu corawl yn y Cymoedd gan yr hanesydd cymdeithasol Gareth Williams (Allsobrook 1992; Williams 1998). Mae’r ddwy astudiaeth yn tynnu ar gyd-destun cymdeithasol a cherddorol ehangach, ac mae’r ddwy yn dangos sut y gellir cynnal ymchwil mewn meysydd cysylltiedig.
Mae posibiliadau cyffrous ar gyfer ymchwil i gerddoriaeth Cymru hefyd yn dod i’r amlwg ar ddau begwn y sbectrwm hanesyddol. Mae’r cyntaf o’r rhain yn canolbwyntio ar gerddoriaeth traddodiad llafar yr Oesoedd Canol, cerdd dant, lle mae oddeutu 30 o gyfansoddiadau ar gyfer y delyn wedi goroesi mewn un ffynhonnell a roddwyd ar bapur c.1613 gan y telynor o Ynys Môn, Robert ap Huw. Mae tabl nodiant unigryw y llyfr hwn wedi drysu haneswyr cerddoriaeth a pherfformwyr ers dyddiau Lewis Morris, ond bu camau breision o ran dealltwriaeth yn sgil ymchwil diweddar a arloeswyd gan Peter Crossley-Holland (1916–2001) ac yr ymhelaethwyd arno gan nifer o ysgolheigion eraill. Er na chynhyrchwyd cyhoeddiad boddhaol o’r tabl nodiant hyd yma, recordiwyd perfformiadau o sawl darn yn ddiweddar, perfformiadau a roddodd ystyriaeth benodol i ddilysrwydd, a chynigiwyd dehongliadau newydd ar gyfer problemau yr ystyriwyd o’r blaen nad oedd modd eu datrys – yn enwedig oblygiadau rhythmig a harmonig y gerddoriaeth.
Gwneir ymdrechion rhyngddisgyblaethol sylweddol hefyd i ddadansoddi perthynas cerdd dant â’r corff mawr o gerddi caeth sy’n cynrychioli crefft cerdd dafod, cerddi yr arferid eu ‘canu’ i ryw fath o gyfeiliant. Yn 2008 galluogodd prosiect a ariannwyd gan yr AHRC ar y cyd rhwng Ysgol Cerddoriaeth Bangor a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Aberystwyth i dîm o hanesyddwyr cerddoriaeth, ysgolheigion llenyddol, perfformwyr, beirdd yn y mesurau caeth a chyfansoddwyr, a hynny dan arweiniad Sally Harper a Dafydd Johnston, ymchwilio i ddatrysiadau ymarferol ar gyfer y perfformiadau barddonol hyn, gan dynnu hefyd ar gymariaethau gyda barddoniaeth Iwerddon a’r Alban (gw. Johnston 2011).
Maes rhyngddisgyblaethol arall yw’r un sy’n ymwneud ag ystyron cymdeithasol, gwleidyddol, diwylliannol, testunol a cherddorol cerddoriaeth boblogaidd yng Nghymru, ac yn arbennig gerddoriaeth boblogaidd Gymraeg. Nid yw astudio cerddoriaeth boblogaidd o ddifrif yn arbennig i Gymru mewn unrhyw ffordd. Mae i astudiaeth o’r fath gyd-destun llawer ehangach, am fod y pwyslais blaenorol mewn astudiaethau cerddoriaeth ar ‘arddulliau aruchel ac isel’ ac ar y ‘canonaidd’ yn symud yn fwy cyffredinol tuag at astudiaethau ehangach o gyd-destun diwylliannol.
Mae’r cyd-destun ehangach hwn yn rhoi lle i ystyried dylanwadau Eingl-Americanaidd, sy’n nodwedd amlwg o ddwy astudiaeth wahanol iawn o gerddoriaeth boblogaidd Cymru, y naill gan Sarah Hill a’r llall gan y newyddiadurwr Hefin Wyn. Mae’r ddau awdur wedi nodi bod y cyflwr o ‘fod rhwng dau fyd’ yn nodwedd amlwg ar gerddoriaeth boblogaidd Cymru, ac mae’r ddau hyd yn oed wedi benthyg yr un geiriau o deitl cân gan y Super Furry Animals, ‘Blerwyttirhwng’ (1995), ar gyfer eu gweithiau (Wyn 2006; Hill 2007). Mae cynnyrch y diwylliant hwnnw’n dal i gael ei archwilio, yn enwedig mewn meysydd mor amrywiol â chyhoeddi ffansîns, hunaniaeth genedlaethol a chyfnewid côd ieithyddol.
Beth yw’r ffordd ymlaen i ymchwil ar gerddoriaeth Cymru? Yn anochel, mae mynediad i ffynonellau gwreiddiol yn allweddol, a hynny trwy ddatblygu technoleg ddigidol a mynediad ar-lein lle bynnag y bo modd. Mae’r delweddau cydraniad uchel sydd ar gael ar-lein o Lyfr Esgobol Bangor o ddechrau’r 14g. yn tystio i botensial digideiddio yn achos cerddoreg gynnar. Mae’r delweddau eisoes yn galluogi inni drawsffurfio’n dealltwriaeth o arferion cerddorol- litwrgïaidd eglwysig yng Nghymru yn yr Oesoedd Canol. Mae cynhyrchu cyhoeddiadau beirniadol trwyadl gyda sylwebaeth ysgolheigaidd, fel y nodwyd uchod, hefyd yn hanfodol, a hynny ar gyfer ystod o genres, o ganu gwerin a cherddoriaeth draddodiadol, plaengan, polyffoni sanctaidd ac emynyddiaeth i alawon telyn y 18g. a’r 19g., opera a chaneuon y 19g., a repertoire y corau meibion, hyd at gyfansoddi cyfoes yn yr 20g. a’r 21g.
Er bod gwaith yn dal i gael ei gyflawni i wella adnoddau ymchwil o’r fath, mae’r ddarpariaeth ar gyfer perfformio cerddoriaeth yng Nghymru yn sicr yn gwella, ac mae’r effeithiau’n amlwg. Roedd diffyg lleoliadau perfformio addas yn gŵyn gyffredin gan y rhan fwyaf o gyfansoddwyr Cymru yn ail hanner yr 20g. – ymbiliodd pob un o’r tri chyfansoddwr a gyfrannodd i gyfrol Meic Stephens Artists in Wales (1971) am dŷ opera, neuadd gyngerdd a cherddorfa genedlaethol – ac erbyn heddiw gwireddwyd eu cais.
Roedd Daniel Jones hefyd wedi erfyn am Gerddorfa Genedlaethol i Gymru yn 1971, ac yn 1974 ehangodd Cerddorfa Symffoni Cymru’r BBC i 60 o offerynwyr, digon i berfformio gweithiau sylweddol. Yn 1993 rhoddwyd arni’r enw newydd Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC, ac mae cerddorfa Opera Cenedlaethol Cymru hefyd yn cynnal cyngherddau tu hwnt i theatrau a thai opera Cymru a Lloegr. Y datblygiad mwyaf arwyddocaol yn hyn o beth fu agor Canolfan Mileniwm Cymru ym Mae Caerdydd yn 2004. Mae’n gartref parhaol i Gerddorfa’r BBC (sydd â’i phrif fan perfformio yn Neuadd Alun Hoddinott) ac i Opera Cenedlaethol Cymru (Theatr Donald Gordon a Theatr Stiwdio Weston), ac yn Hydref 2013 agorodd ei drysau i ŵyl ryngwladol WOMEX, gan roi llwyfan a statws i nifer o gerddorion a grwpiau gwerin Cymru o fewn cerddoriaeth y byd, megis 9Bach (ll., Nain Bach) a Georgia Ruth Williams. Gyda llawer mwy o adnoddau, cyfansoddwyr o wir addewid a phroffil ysgolheigaidd cynyddol, ni fu erioed well potensial i ymestyn meysydd cerddoregol sefydledig neu ddatblygu rhai newydd.
Sally Harper
Gwefannau
Llyfryddiaeth
- E. Keri Evans, Cofiant Joseph Parry (Caerdydd, 1921)
- Percy Young, A History of British Music (Llundain, 1967)
- Owain T. Edwards, Joseph Parry 1841–1903 (Caerdydd, 1970)
- Meic Stephens, Artists in Wales (Llandysul, 1971)
- Alwyn Tudur, ‘Mendelssohn’s Visit to Wales’, Welsh Music/Cerddoriaeth Cymru, 4/4 (1974), 43–9
- Geraint Lewis, ‘“Welsh” Music’, Welsh Music/Cerddoriaeth Cymru, 7/2 (1983), 6–19
- Prys Morgan, ‘From a Death to a View: The Hunt for the Welsh Past in the Romantic Period’, yn E. J. Hobsbawm a Terence Ranger (gol.), The Invention of Tradition (Caergrawnt, 1983), 43–100
- Harry White, ‘Musicology in Ireland’, Acta Musicologica, 60 (1988), 290–305
- David Ian Allsobrook, Music for Wales (Caerdydd, 1992)
- Dulais Rhys, Joseph Parry: Bachgen Bach o Ferthyr (Caerdydd, 1998)
- Gareth Williams, Valleys of Song: Music and Society in Wales, 1840–1914 (Caerdydd, 1998)
- Elen Wyn Keen, ‘Y Cyfarwyddwr Cerdd’, Canu Gwerin, 27 (2004), 3–21 (16)
- Daniel Huws, ‘Iolo Morganwg and Traditional Music’ yn
Geraint H. Jenkins (gol.), Rattleskull Genius: The Many Faces of Iolo Morganwg (Caerdydd, 2005), 333–56
- Wyn Thomas (gol.), Cerddoriaeth Draddodiadol yng Nghymru: Llyfryddiaeth/Traditional Music in Wales: A Bibliography, 3 (Llanrwst, 2006)
- Hefin Wyn, Ble wyt ti rhwng? Hanes Canu Poblogaidd Cymraeg, 1980–2000 (Talybont, 2006)
- Pwyll ap Siôn, ‘Cenedligrwydd a’r Cyfansoddwr Cymreig’, Hanes Cerddoriaeth Cymru/Welsh Music History, 7 (2007), 265–284
- Sarah Hill, Blerwytirhwng?: The Place of Welsh Pop Music (Aldershot, 2007)
- Stephen Rees, ‘Traddodiad Celtaidd Newydd? Perfformiad Offerynnol gan Grwpiau yn yr adfywiad Gwerin yng Nghymru, c.1975–c.1989’, Hanes Cerddoriaeth Cymru/Welsh Music History, 7 (2007), 325–46
- Wyn Thomas, ‘“Ffarwel i Aberystwyth ...”: Jennie Williams (1885–1971) and the World of Welsh Folk Song’, yn Sally Harper a Wyn Thomas (gol.), Bearers of Song: Essays in Honour of Phyllis Kinney and Meredydd Evans (Caerdydd, 2007), 280–96
- Leila Salisbury, ‘Canu’r Dewin o Drefflemin: Golwg ar Alawon Gwerin Iolo Morganwg’ (traethawd MPhil Prifysgol Bangor, 2009)
- Dafydd Johnston, ‘The Accentuation of Cynghanedd in the Cywydd Metre’, Studia Celtica, 45/1 (Rhagfyr, 2011), 155–8
- Phyllis Kinney, Welsh Traditional Music (Caerdydd, 2011)
- Comisiynwyd y cofnod hwn ar gyfer Y Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol a fydd yn cael ei chyhoeddi gan Y Lolfa yn 2018. Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.