Finch, Catrin (g.1980)

Oddi ar WICI
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 16:39, 28 Mai 2021 gan CadiW (Sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← At y diwygiad blaenorol | Y diwygiad cyfoes (gwahan) | At y diwygiad dilynol → (gwahan)
Neidio i: llywio, chwilio

Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.

Telynores amlycaf ei chenhedlaeth yn rhyngwladol sydd hefyd yn cyfansoddi a threfnu cerddoriaeth mewn amryw arddull. Cafodd ei geni a’i magu yn Llan-non, Ceredigion.

Pan oedd yn bum mlwydd oed bu gweld y delynores Sbaenaidd Marisa Robles yn perfformio mewn cyngerdd yn Llanbedr Pont Steffan yn fodd i danio’i dychymyg i’r fath raddau nes iddi ofyn am delyn ac am wersi arni. Cafodd wersi maes o law gan Elinor Bennett yn y Bontnewydd, Caernarfon, ac aeth ymlaen yn ddisgybl i Ysgol Purcell yn Surrey ac yna i’r Academi Gerdd Frenhinol yn Llundain i astudio dan Skaila Kanga lle graddiodd yn 2002. Enillodd holl brif wobrau’r Academi gan gynnwys Gwobr Arbennig y Frenhines i fyfyriwr disgleiriaf y flwyddyn.

Wrth gychwyn ar ei gyrfa broffesiynol cafodd ei phenodi, yn 2000, yn Delynores Swyddogol i Dywysog Cymru – swydd nad oedd wedi’i llenwi ers dyddiau’r Frenhines Victoria. Bwriodd ati am y pedair blynedd nesaf i greu delwedd newydd i’r delyn ar lwyfan rhyngwladol, gan berfformio ar wahoddiad y Tywysog mewn achlysuron amrywiol ledled y byd. Erbyn hyn mae Catrin yn un sy’n dethol ac yn mentora ei holynwyr yn y swydd.

Fel perfformiwr cyngerdd mae gan Catrin repertoire gyda’r ehangaf o blith telynorion yn gyffredinol ac y mae wedi gwneud ymdrech arbennig hefyd i fynd â cherddoriaeth telyn i gyfeiriadau newydd. Yn 2008 aeth ati i drefnu ‘Amrywiadau Goldberg’ J. S. Bach, a gyfansoddwyd yn wreiddiol i’r harpsicord, ar gyfer y delyn, a’u recordio ar label Deutsche Grammophon. Gweithiodd wedyn gyda John Rutter ar ei Suite Lyrique a gyfansoddwyd ganddo ar ei chyfer, a recordiwyd y gwaith – gyda’r cyfansoddwr yn arwain – ar albwm arall i Deutsche Grammophon o’r enw Blessing yn 2012. Roedd yr un albwm yn cynnwys y Celtic Concerto o waith Catrin ei hun, ac arweiniodd hyn at gyfansoddi consierto telyn arbennig i Gerddorfa Genedlaethol Ieuenctid Cymru yn 2013 wedi’i ysbrydoli gan fywyd a gwaith Hedd Wyn; recordiwyd perfformiad ohono ar gyfer teledu mewn cyngerdd yn Berlin dan arweiniad Grant Llewellyn, gyda Catrin ei hun yn unawdydd.

Perfformiodd y delynores hefyd y consierto telyn Mabinogi gan Geraint Lewis gyda Sinfonia Cymru ledled Cymru yn 2012. Gweithiodd yn helaeth ym meysydd jazz, cerddoriaeth werin a’r hyn a elwir bellach yn ‘gerddoriaeth byd’, gan fentro’n ogystal i faes cerddoriaeth electronig arbrofol. Derbyniodd ei pherfformiad gyda’r chwaraewr Kora amryddawn o Senegal, Seckou Keita yng Ngŵyl WOMEX 2013 – a gynhaliwyd yng Nghaerdydd – ganmoliaeth arbennig. Gyda Hywel Wigley sefydlodd Stiwdio Acapela yn hen gapel Horeb ym Mhen-tyrch, sy’n datblygu yn ganolfan arloesol ar gyfer perfformio, recordio a dysgu.

Geraint Lewis

Disgyddiaeth

  • Carnaval de Venise (Sain SCD2280, 2001)
  • Gwlad y Delyn (Sain SCD 2396, 2003)
  • Crossing the Stone (Sony SK 87320, 2003)
  • Goldberg Variations (Deutsche Grammophon 477-8097, 2009)
  • [gyda John Rutter] Blessing (Deutsche Grammophon 470- 0497, 2012)
  • [gyda Seckou Keita] Clychau Dibon (Mwldan AARCDA025, 2013)



Comisiynwyd y cofnod hwn ar gyfer Y Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol a fydd yn cael ei chyhoeddi gan Y Lolfa yn 2018. Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.