Parry, John (Bardd Alaw; 1776-1851)

Oddi ar WICI
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 16:55, 7 Awst 2021 gan CadiW (Sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← At y diwygiad blaenorol | Y diwygiad cyfoes (gwahan) | At y diwygiad dilynol → (gwahan)
Neidio i: llywio, chwilio

Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.

Cyfansoddwr toreithiog, telynor, Cymmrodor, awdur a chasglwr alawon gwerin. Fe’i ganed yn Ninbych a bu’n brentis i fferyllydd yn y dref. Derbyniodd ei hyfforddiant cerddorol cynharaf gan ddawns-feistr, gan ddysgu sut i ganu’r fflasioled a’r clarinét. Ymunodd â band milisia Sir Ddinbych a buan y’i penodwyd yn arweinydd arno, ond erbyn 1807 roedd wedi ymgartrefu yn Llundain lle bu’n ennill ei damaid drwy ddysgu’r fflasioled ac efallai chwythbrennau eraill.

Gan ddechrau yn 1809, bu’n cyfansoddi ac yn trefnu cerddoriaeth gerddorfaol ar gyfer cyngherddau yn Vauxhall Gardens ac, yn ddiweddarach, ar gyfer dramâu a gâi eu perfformio yn y Drury Lane Theatre hefyd. Ymhlith y rhain yr oedd A Trip to Wales (1826) y cyfansoddodd y geiriau ar ei chyfer yn ogystal, Caswallon (1829) a The Welsh Girl (yn y Royal Olympic Theatre) (1833). Roedd y rhain i gyd yn cynnwys trefniannau o alawon Cymreig, ac yn sgil hynny daethant yn boblogaidd yn Llundain.

Cafodd y teitl ‘Bardd Alaw’ yn dilyn Eisteddfod Powys a gynhaliwyd yn Wrecsam yn 1820. Yn 1822 fe’i penodwyd yn gofrestrydd cerddoriaeth Cymdeithas y Cymmrodorion, a oedd wedi’i hailsefydlu, ac erbyn 1836 ef oedd ysgrifennydd y Gymdeithas. Parry hefyd oedd prif symbylydd Y Canorion, a sefydlwyd i roi bywyd newydd i ganu penillion. Bu wrthi’n egnïol yn hyrwyddo’r delyn bedal Gymreig, a gyflwynwyd yn 1822 ac a gyfunai fanteision pedalau â dwy res o dannau fel bod modd chwarae unseiniau.

Roedd yn drefnwr eisteddfodau diflino, ac ymhlith ei lwyddiannau yr oedd Eisteddfod Fawr Dinbych, 1828. Ymunodd â’r Royal Society of Musicians ar 1 Awst 1813, bu’n drysorydd mygedol iddi o 1831 hyd 1849 a chynorthwyodd Syr George Smart (1776–1867) i drefnu gŵyl Abaty Westminster yn 1834. Erbyn 1848 honnai iddo gyhoeddi dros 700 o ddarnau i leisiau, a nifer tebyg o weithiau offerynnol; o’r rhain, yr unig rai sy’n dal i gael eu chwarae yw’r alawon telyn – ‘Cadair Idris’ (y teitl gwreiddiol oedd ‘Jenny Jones’), ‘Ab Shenkin’, ‘Llanover’ a ‘Cainc y Datgeiniad’.

Gwaddol Parry yw ei gasgliadau. Yn dilyn A Selection of Welsh Melodies with appropriate English words... (1809) a enillodd iddo fedal arian gan Gymdeithas y Gwyneddigion (y bu’n llywydd arni yn 1819 ac 1828), cyhoeddodd ddwy gyfrol a chanddynt deitlau tebyg (1823 ac 1829). Mae The Welsh Harper... (1839) yn ailargraffu llawer o gasgliadau Edward Jones a John Parry (Parry Ddall), ac yn cynnwys rhan o lawysgrif Robert ap Huw mewn ffacsimili. Fodd bynnag, ni ellir ymddiried yn yr adran ar ‘Antiquity of Welsh Music’. Yn wahanol i’w ragflaenydd, mae The Welsh Harper… (1848) yn cynnwys nifer fawr o alawon nas cyhoeddwyd cyn hynny, a gymerwyd o lawysgrifau a gafwyd gan y Parchedig John Jenkins (Ifor Ceri; 1770–1829).

Bu Parry hefyd yn newyddiadura’n frwd – bu’n feirniad cerddoriaeth i’r Morning Post rhwng 1834 ac 1849, a chyfrannodd hefyd at Trafodion Cymdeithas y Cymmrodorion, The Cambro-Briton a’r Cambrian Quarterly Magazine.

Priododd yn 1810 a daeth ei fab, John Orlando Parry (1810–79), yntau’n gerddor o fri. Dechreuodd ddioddef afiechyd o’r 1820au ymlaen, yn aml o ganlyniad i bwysau gwaith. Bu farw yn ei gartref yn Llundain ar 8 Ebrill 1851.

David R. Jones

Llyfryddiaeth

  • R. T. Jenkins a Helen Ramage, A History of the Honourable Society of Cymmrodorion... (1751–1951) (Llundain, 1951)
  • Winston Gwynne John, ‘John Parry 1776–1851’ (traethawd MA Prifysgol Lerpwl, 1951)
  • Tecwyn Ellis, ‘Welsh Music in Georgian Times’, Cerddoriaeth Cymru/Welsh Music, 3/10 (1971), 11–19



Comisiynwyd y cofnod hwn ar gyfer Y Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol a fydd yn cael ei chyhoeddi gan Y Lolfa yn 2018. Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.