Rhywioldeb a chyfeiriadedd rhywiol

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio

(Saesneg: Sexuality and sexual orientation)

1.Diffinio rhywioldeb

Diffinnir ‘rhywioldeb’ fel term sy’n disgrifio sut mae unigolyn yn mynegi ei hunan yn rhywiol, a/neu drwy ffurfiau anrhywiol. Dywed rhai fod rhywioldeb yn anodd iawn i’w gategoreiddio gan ei fod yn cwmpasu sawl agwedd ar fywyd a bodolaeth person. Defnyddir ‘rhywioldeb’ yn aml yn gyfnewidiol â thermau eraill, megis cyfeiriadedd rhywiol. Serch hynny, mae diffiniad ‘cyfeiriadedd rhywiol’ yn wahanol, gan mai dyma’r term a ddefnyddir i ddisgrifio pwy mae person yn cael ei ddenu atynt, neu’r diffyg atyniad at berson. Mae cyfeiriadedd rhywiol yn rhan o rywioldeb person.

Fel a nodir uchod, mae sawl elfen i rywioldeb dynol person. Golyga hynny fod rhywioldeb yn derm holistig sydd yn cwmpasu sawl nodwedd: nodweddion corfforol, agweddau, teimladau, atyniadau, meddyliau, ffasiwn a/neu ddiddordebau. Mae rhywioldeb person yn deillio o’u dealltwriaeth a’u perthynas â rhyw, cyfeiriadedd rhywiol, pleser, ffantasïau, rolau a hunaniaethau rhywedd. Er bod rhywioldeb yn fater personol i unigolyn ac yn gallu cynnwys yr elfennau uchod, mae elfennau allanol a chymdeithasol yn gallu dylanwadu ar ddealltwriaeth a pherthynas unigolyn â’u rhywioldeb. Gall yr elfennau hyn gynnwys y sefyllfa wleidyddol, cred a ffydd, a ffactorau cyfreithiol ac ariannol. O’r herwydd, cred rhai fod rhywioldeb a’i ddiffiniad yn cael ei bennu yn gymdeithasol.

Mae cymdeithas wedi datblygu cysyniadau, negeseuon a dealltwriaeth o’r hyn sy’n rhywiol, neu nad yw’n rhywiol, ac yn parhau i wneud hynny, gan gynnwys yr hyn sy’n cael ei ystyried yn dderbyniol ai peidio. Yn ogystal, portreadir yr hyn a olygir i fod â rhywioldeb penodol. Caiff y rhain oll eu ffurfio dan ddylanwad y cyfryngau, ein haddysg, gwleidyddiaeth, deddfau, a gwyddoniaeth. Yn yr un modd, mae profiadau byw person o’u rhywioldeb yn dylanwadu ar eu barn a’u meddyliau am eu perthnasau, eu cymdeithas a’r byd o’u cwmpas. Parhau i newid a datblygu y mae barn ac agweddau cymdeithas at rywioldeb a chyfeiriadedd rhywiol. Er enghraifft, yn ddiweddar, gwelwyd cynnydd yn y cynnwys rhyw-bositif sy’n cael ei rannu yn y wasg a’r cyfryngau cymdeithasol. Yn yr un modd, mae rhai haenau o’r symudiad ffeministaidd yn ceisio grymuso menywod a delwedd cymdeithas ohonynt. Yn fwy amlwg, cysylltir datblygiadau cymdeithasol a rhywioldeb drwy chwyldro mewn hawliau pobl lesbiaidd, hoyw, deurywiol, traws a chwiar (LHDTC+) wrth i agweddau cymdeithas, ein teuluoedd a’r byd o’n cwmpas ddod i gydnabod, parchu a dathlu cyfeiriadeddau rhywiol sydd y tu hwnt i ddisgwyliad heteronormadol cymdeithas.

2. Cyfeiriadeddau rhywiol amrywiol

Mae yna nifer o gyfeiriadeddau rhywiol, ac mae gan bob person ddealltwriaeth unigryw o’u cyfeiriadedd rhywiol. Rhai o’r cyfeiriadeddau rhywiol mwyaf amlwg yw cyfeiriadedd heterorywiol, lesbiaidd, deurywiol a hoyw. Mae nifer cynyddol o bobl bellach hefyd yn diffinio’u cyfeiriadedd rhywiol fel cwiar. Yn ôl Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth 2019 gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol (2021), nododd 2.9% o bobl dros 16 mlwydd oed yng Nghymru fod eu cyfeiriadedd rhywiol yn rhywbeth gwahanol i gyfeiriadedd heterorywiol. Mae ffynonellau data ac ymchwil eraill yn awgrymu y gall y ffigwr yma fod yn uwch na hyn. Er bod gan bawb gyfeiriadedd rhywiol, mae’n bwysig cydnabod nad yw pawb yn profi atyniad rhamantus a/neu rywiol tuag at berson arall.

Dyma ddiffiniadau cryno o rai o’r prif hunaniaethau a chyfeiriadedd rhywiol:

Ace Mae’r term Saesneg ace yn cael ei ddefnyddio i ddisgrifio amrywiaeth mewn lefelau o atyniad rhamantus a/neu rywiol, gan gynnwys dim atyniad. Gall pobl ace ddefnyddio un neu fwy o blith amrywiaeth eang o dermau i’w disgrifio’u hunain, gan gynnwys (ymhlith termau eraill) anrhywiol, anramantus, demirywiol (demisexual), a greysexual/graysexual.

Cwestiynu Yn y cyd-destun hwn, y broses o ystyried eich cyfeiriadedd rhywiol a/neu eich hunaniaeth rhywedd chi eich hun.

Cwiar neu queer Defnyddir y term queer gan bobl sy’n awyddus i wrthod labeli penodol ar gyfer cyfeiriadedd rhamantus, cyfeiriadedd rhywiol a/neu hunaniaeth rhywedd. Gall hefyd fod yn ffordd o wrthod normau tybiedig y gymuned LHDTC+ (hiliaeth, meintiaeth, ablaeth ac ati). Er bod rhai pobl LHDTC+ yn ystyried y gair yn sarhad, cafodd ei adfeddiannu ar ddiwedd y 1980au gan y gymuned gwiar, sydd bellach wedi’i berchnogi.

Deurywiol Term ymbarél yw ‘deurywiol’, ac mae’n cael ei ddefnyddio i ddisgrifio cyfeiriadedd rhywiol a/neu ramantus tuag at fwy nag un rhywedd. Gall pobl ddeurywiol ddefnyddio un neu fwy o blith amrywiaeth eang o dermau i’w disgrifio’u hunain, gan gynnwys bi, pan, deu-chwilfrydig, cwiar, a hunaniaethau eraill nad ydyn nhw’n unrhywiol neu’n unrhamantus. Yn y Gymraeg, defnyddir ‘bi’ yn gyfystyr â ‘deurywiol’.

Heterorywiol neu syth Term sy’n cyfeirio at ddyn sydd â chyfeiriadedd rhywiol a/neu ramantus at fenywod neu’n cyfeirio at fenyw sydd â chyfeiriadedd rhywiol a/neu ramantus at ddynion.

Hoyw Term i ddisgrifio dyn sydd â chyfeiriadedd rhywiol a/neu ramantus tuag at ddynion. Mae hefyd yn derm cyffredinol ar gyfer rhywioldeb hoyw a lesbiaidd – mae rhai menywod yn defnyddio’r term hoyw i’w diffinio’u hunain yn hytrach na lesbiaidd.

Lesbiaidd Term sy’n cyfeirio at fenyw sydd â chyfeiriadedd rhywiol a/neu ramantus tuag at fenywod.

Panrywiol Term sy’n cyfeirio at rywun nad yw’n cael ei gyfyngu o ran atyniad rhywiol at bobl eraill ar sail rhyw biolegol, rhywedd neu hunaniaeth rhywedd y bobl hynny. Defnyddir ‘pan’ i olygu hyn hefyd.

Noder nad yw’r rhestr uchod yn rhestr gyflawn a bod rhai o’r termau uchod, megis deurywiol neu bi a phanrywiol, yn dermau ymbarél. Golyga hyn eu bod hefyd yn cynrychioli termau eraill a ddefnyddir gan bobl i ddisgrifio’u cyfeiriadedd rhywiol. Mae’r symbol plws ar ddiwedd y llythrennau LHDTC+ hefyd yn cyfeirio at hunaniaethau rhywedd a chyfeiriadeddau rhywiol sydd heb fod yn cael eu cynrychioli yn yr acronym, hunaniaethau megis rhyngrywiol, anrhywiol ac amlgarwriaethol (polyamorous).

3. Ymchwil ar rywioldeb a chyfeiriadedd rhywiol yng Nghymru

Mae Stonewall Cymru, mudiad sy’n gweithio tuag at sicrhau cydraddoldeb cyfreithiol a chyfiawnder cymdeithasol i bobl ddeurywiol a thrawsrywiol, lesbiaidd a hoyw yng Nghymru, wedi cynnal nifer o brosiectau ymchwil yn gysylltiedig â phrofiadau rhywioldeb a chyfeiriadaedd rhywiol unigolion yng Nghymru.

Er enghraifft, canfuwyd bod traean o weithwyr LDHT wedi cuddio’u cyfeiriadedd rhywiol yng nghyd-destun eu swydd oherwydd pryder am wahaniaethu. Roedd 16% o weithwyr LDHT wedi eu targedu â sylwadau negyddol oherwydd eu cyfeiriadaedd rhywiol (Stonewall Cymru 2018). Roedd bron i un ym mhob pedwar o bobl LHDT wedi profi digwyddiad neu drosedd casineb ar sail eu cyfeiriadedd rhywiol a/neu eu hunaniaeth rhywedd yn 2017 (Stonewall Cymru 2017).

Dengys Yr Adroddiad Athrawon fod mwy na dau aelod o staff pob ysgol gynradd yng Nghymru wedi dweud bod disgyblion yn eu hysgol wedi profi bwlio homoffobaidd neu wedi dioddef pobl yn galw enwau arnynt (Stonewall Cymru 2015).

4. Casgliad

Mae pobl sydd â chyfeiriadedd rhywiol LHDTC+ yn fwy tebygol o gael eu gwthio i’r cyrion neu eu hymyleiddio gan gymdeithas, ac o ganlyniad yn profi gwahaniaethu, casineb ac anghydraddoldeb systematig oherwydd eu cyfeiriadedd rhywiol a’u rhywioldeb. Dengys gwaith ymchwil gan y Swyddfa Gartref (2020; 2021) ac adroddiadau’r wasg, er enghraifft The Guardian (2021), fod adroddiadau o drais casineb tuag at bobl LHDTC+ ar gynnydd. Yn dilyn yr adroddiadau am ymosodiadau trais casineb gwrth-LHDTC+ yn y wasg, mae ymgyrchwyr LHDTC+ yn galw ar lywodraethau’r Deyrnas Unedig i amddiffyn pobl LHDTC+ rhag trais a throseddau casineb (The Guardian 2022).

Mae’r ffordd y mae pobl yn mynegi eu rhywioldeb yn amrywio. Gwyddom fod pobl LHDTC+ yn fwy tebygol o fynegi eu rhywioldeb a datgan eu cyfeiriadedd rhywiol yn agored pan maent yn teimlo’n ddiogel i wneud hynny. Mae agweddau cymdeithas tuag at rywioldeb a chyfeiriadedd rhywiol yn parhau i ddatblygu. Gyda chynrychiolaeth ehangach, rhagwelir y bydd mwy o drafod ar y materion hyn yn ein cyfryngau a’n diwylliant prif ffrwd fel eu bod yn dod yn fwy amlwg a gweladwy.

Iestyn Wyn

Llyfryddiaeth

BBC News (2022), LGBT tolerance ‘going backwards’ as hate crimes up https://www.bbc.co.uk/news/uk-wales-60257602 [Cyrchwyd: 20 Chwefror 2022].

Brook Cymru (2022), ‘What is sexuality?’ https://www.brook.org.uk/your-life/what-is-sexuality/ [Cyrchwyd: 20 Medi 2021].

Llywodraeth Cymru (2021), Cyfeiriadedd Rhywiol: 2019 https://llyw.cymru/cyfeiriadedd-rhywiol-2019 [Cyrchwyd: 25 Medi 2021].

Stats Cymru (2021), Hunaniaeth rywiol yn ôl blwyddyn https://statscymru.llyw.cymru/Catalogue/Equality-and-Diversity/Sexual-Orientation/sexualidentity-by-year-identitystatus [Cyrchwyd: 25 Medi 2021].

Stonewall Cymru (2015), Yr Adroddiad Athrawon: Bwlio Homoffobaidd yn ysgolion Cymru (Stonewall Cymru: Caerdydd).

Stonewall Cymru (2016), Geirfa https://www.stonewallcymru.org.uk/cy/cymorth-chyngor/geirfa [Cyrchwyd: 25 Medi 2021].

Stonewall Cymru (2017), LHDT yng Nghymru: Troseddau Casineb a Gwahaniaethu (Stonewall Cymru: Caerdydd).

Stonewall Cymru (2018), LHDT yng Nghymru: Adroddiad Gwaith (Stonewall Cymru: Caerdydd).

Swyddfa Ystadegau Gwladol (2021), Sexual Orientation, UK: 2019 https://cy.ons.gov.uk/peoplepopulationandcommunity/culturalidentity/sexuality/bulletins/sexualidentityuk/2019 [Cyrchwyd: 20 Chwefror 2022].

The Guardian (2021), ‘Reported hate crimes in England and Wales up 9% since start of pandemic’ https://www.theguardian.com/society/2021/oct/12/hate-crimes-in-england-and-wales-up-9-since-covid-pandemic-began [Cyrchwyd: 23 Hydref 2021].

The Guardian (2022),‘Calls for protection of LGBTQ+ people after spate of hate crimes in Cardiff’ https://www.theguardian.com/world/2022/feb/05/calls-for-protection-of-lgbtq-people-after-spate-of-hate-crimes-in-cardiff [Cyrchwyd: 20 Chwefror 2022].

World Health Organisation (2021), Defining sexual health https://www.who.int/teams/sexual-and-reproductive-health-and-research/key-areas-of-work/sexual-health/defining-sexual-health [Cyrchwyd: 21 Medi 2021].

Y Swyddfa Gartref (2020), Hate crime, England and Wales, 2019 to 2020 https://www.gov.uk/government/statistics/hate-crime-england-and-wales-2019-to-2020 [Cyrchwyd: 25 Medi 2021].

Y Swyddfa Gartref (2021), Hate Crime, England and Wales, 2020 to 2021 https://www.gov.uk/government/statistics/hate-crime-england-and-wales-2020-to-2021/hate-crime-england-and-wales-2020-to-2021 [Cyrchwyd: 20 Hydref 2021].


Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.