Heteronormadol

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio

(Saesneg: Heteronormative)

Defnyddir yr ansoddair ‘heteronormadol’ (heteronormative) i gyfleu’r cysyniad mai bod yn heterorywiol yw’r rhywioldeb mwyaf ‘normal’. O ganlyniad, heterorywioldeb yw’r rhywioldeb y disgwylir i bobl ei arddel (Marchia a Sommer 2019; van der Toorn et al 2020; Warner 1993). Yn ôl Berlant a Warner (1998), mae’r byd wedi ei strwythuro yn ôl heterorywioldeb, ac mae sefydliadau cymdeithasol megis y teulu, crefydd, addysg ac yn y blaen yn gosod ac yn cynnal heterorywioldeb. Diffinia Berlant a Warner (1998: 548) rywioldeb ‘heteronormadol’ fel “the institutions, structures of understanding, and practical orientations that make heterosexuality seem not only coherent but also priviliged”.

Mae’r term hefyd yn awgrymu mai dim ond dau rywedd deuaidd sydd yn bodoli, ac yn awgrymu nad yw hunaniaethau anneuaidd a/neu draws yn cael eu hystyried yn ‘normal’. Defnyddir y gair yn aml gan bobl lesbiaidd, hoyw, deurywiol, traws a chwiar (LHDTC+) i ddisgrifio strwythurau cymdeithas sydd wedi’u llunio mewn modd nad yw’n gynhwysol i bobl LHDTC+. Bydd pobl LHDTC+ yn aml yn profi sefyllfaoedd heteronormadol a’u heffeithiau drwy arferion, agweddau cymdeithas, polisïau a/neu drwy ragfarn ddiarwybod.

Iestyn Wyn

Llyfryddiaeth

Berlant, L. a Warner, M. (1998), ‘Sex in public’, Critical Inquiry, 24, 547–66.

Marchia, J. a Sommer, J. M. (2019), ‘(Re)defining heteronormativity’, Sexualities 22(3), 267–95.

Van der Toorn, J., Pliskin, R., Morgenroth, R. (2020), ‘Not quite over the rainbow: the unrelenting and insidious nature of heteronormative ideology’, Current Opinion in Behavioral Sciences, 34, 160–65, https://www.sciencedirect.com/science/article/pii/S2352154620300383 [Cyrchwyd: 25 Medi 2021].

Warner, M. (1993), Fear of a Queer Planet: Queer Politics and Social Theory (Minnesota: University of Minnesota Press).


Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.