Democratiaeth
(Saesneg: Democracy)
1. Cyflwyniad i ddemocratiaeth
Man cychwyn priodol, o bosib, i drafod a chyflwyno’r cysyniad o ddemocratiaeth yw cydnabod a sylweddoli ei fod yn gysyniad cymhleth. Fel y cydnabyddir gan Fishman (2021), mae democratiaeth wedi dod yn system lywodraethu amlwg a chyfarwydd yng nghymdeithasau mwyaf datblygedig y byd, yn benodol o fewn cymdeithasau’r Gorllewin (Western societies), ac yn wir mae’n dod yn gynyddol gyffredin mewn gwledydd llai datblygedig. Er enghraifft, yn ôl yr Economist Intelligence Unit, yn 2020 yr oedd 49.4% o boblogaeth y byd yn byw mewn rhyw fath o system ddemocrataidd, a 75 allan o 176 (44.9%) o wledydd a thiriogaethau yn cael eu hystyried yn gymdeithasau democrataidd.
Serch hyn, mae astudio ‘democratiaeth’ yn nodweddiadol yn llawn anghytundeb, anghydfod diddiwedd, dadlau, ansicrwydd ac ymchwil barhaus. Mae Kekic (2007: 1) yn crisialu hinsawdd yr her o ddiffinio a mesur beth yn union a olygir gan ‘ddemocratiaeth’ drwy ddweud: ‘There is no consensus on how to measure democracy, definitions of democracy are contested and there is an ongoing lively debate on the subject.’ Yn wir, mae Gallie yn disgrifio democratiaeth fel ‘essentially contested concept’ (Gallie 1956).
Mae’r term ‘democratiaeth’ yn golygu gwahanol bethau i wahanol bobl, ac yn gyffredinol fe dderbynnir hyn gan y mwyafrif o sylwebyddion. Mae yna gryn duedd i gysylltu neu ddiffinio democratiaeth yn nhermau etholiadau a gwleidyddiaeth yn fwy cyffredinol. Ond y realiti yw fod yna ystod eang o safbwyntiau a theorïau ynghylch ystyr a chynnwys democratiaeth, yn ogystal ag amodau er mwyn ei ‘gwireddu’. Mae’r rhain yn amrywio ac yn dibynnu ar safbwyntiau athronyddol, ideolegol, gwleidyddol, diwylliannol, cymdeithasol ac economaidd.
Mae diffinio democratiaeth yn heriol oherwydd nad oes dwy wlad ddemocrataidd yn union yr un fath. Mae systemau llywodraethau democrataidd yn amrywio, ac nid oes ‘model’ o system ddemocrataidd. Serch hynny, mae’n bosib cyflwyno prif egwyddorion democratiaeth neu syniadau cyffredinol am gymdeithas ddemocrataidd.
'2. Cynnig diffiniad o ddemocratiaeth
Mae’r gair ‘democratiaeth’ yn deillio o’r geiriau Groeg demos, sef pobl, a kratos, sy’n golygu pŵer neu reolaeth. Felly, ystyr y gair democratiaeth yw rheolaeth neu bŵer gan y bobl. Mae democratiaeth yn ffordd o lywodraethu lle mae hawl a chaniatâd i’r holl ddinasyddion eu llywodraethu eu hunain drwy gymryd rhan yn y broses o benderfynu, llunio a gwneud penderfyniadau llywodraethol.
Mae cyfranogiad dinasyddion yn y broses wleidyddol yn gwbl greiddiol o fewn democratiaeth. Dyma’r hyn a elwir yn gydraddoldeb gwleidyddol (political equality), hynny yw, y graddau y mae gan ddinasyddion lais cyfartal dros benderfyniadau’r llywodraeth drwy’r broses etholiadol. Fel y dywedodd Albert Weale (1999: 14): ‘in a democracy important public decisions on questions of law and policy depend, directly or indirectly, upon public opinion formally expressed by citizens of the community, the vast bulk of whom have equal political rights’.
Mewn democratiaeth, felly, mae gan ddinasyddion y pŵer i ddal y llywodraeth yn atebol. Yn yr ystyr hon, mae dau brif fath o ddemocratiaeth.
3. Mathau o ddemocratiaeth
3.1. Democratiaeth uniongyrchol (Direct democracy)
Yr enghraifft glasurol gynharaf o’r cysyniad o ddemocratiaeth yw’r drefn a sefydlwyd yn Athen tua’r 5ed ganrif CC. Roedd y math hwn o ddemocratiaeth yn benodol weithredol mewn gwladwriaethau dinas (city states) Groegaidd, yn enwedig yn Athen (Dahl 1989). Mae democratiaeth uniongyrchol (direct democracy), sydd weithiau’n cael ei galw’n ddemocratiaeth ‘bur’, yn cwmpasu’r syniad fod yr holl ddeddfau a pholisïau a orfodir gan lywodraethau yn cael eu penderfynu’n uniongyrchol gan y bobl eu hunain, yn hytrach na chan gynrychiolwyr sy’n cael eu hethol gan y bobl (Bulmer 2017). Un o’r prif ffurfiau neu fathau o ddemocratiaeth uniongyrchol yw refferenda. Mewn refferendwm caiff dinasyddion/pleidleiswyr gyfle uniongyrchol i wrthod neu dderbyn cynigion y llywodraeth ar newid neu fater gwleidyddol, cyfansoddiadol neu ddeddfwriaethol. Er enghraifft, mae refferendwm 1997 i sefydlu Cynulliad Llywodraeth Cymru a refferendwm aelodaeth y Deyrnas Unedig o’r Undeb Ewropeaidd yn 2016 yn esiamplau o bobl yn ‘cymryd rhan’ mewn democratiaeth uniongyrchol.
Dadleir bod democratiaeth uniongyrchol yn galluogi mwy o bobl i effeithio’n uniongyrchol ar wleidyddiaeth. Mae’n fodd o sicrhau ‘llais’ i bleidleiswyr oherwydd eu bod fel arfer yn gwybod yn union pa fater y byddant yn pleidleisio arno.
Mae’r Swistir yn cael ei hystyried fel y wlad sy’n gweithredu system lywodraethol sy’n cynnwys y mwyaf o ddemocratiaeth uniongyrchol, yn wahanol, er enghraifft, i’r nifer helaeth o wledydd democrataidd sy’n gweithredu ar sail democratiaeth gynrychioladol (gweler isod). Mae’r Swistir yn enghraifft dda iawn o ddemocratiaeth uniongyrchol sy’n agwedd nodweddiadol o fywyd pob dydd gwleidyddiaeth y wlad. Yno, mae’n gyffredin iawn i ddinasyddion bleidleisio mewn nifer o refferenda ar amryw o bynciau, hyd at bedair gwaith y flwyddyn.
3.2. Democratiaeth gynrychioladol (Representatitve democracy)
Ers diwedd y 18fed ganrif a thrwy’r 19eg ganrif gwelwyd newid tuag at ddemocratiaeth gynrychioladol mewn cenedl-wladwriaethau (Dahl 1989). Erbyn heddiw, dyma’r math mwyaf cyffredin a chyfarwydd o ddemocratiaeth yn y byd (Bulmer 2017). Mae’r term yn cyfeirio at y broses lle bydd unigolion yn pleidleisio neu’n ethol plaid wleidyddol neu ymgeiswyr gwleidyddol i’w cynhyrchioli yn y broses ddeddfu. Er enghraifft, mae’r cyhoedd yn cael y cyfle i ethol Aelodau Seneddol (ASau) i’w cynrychioli yn San Steffan, ac yn y Senedd yng Nghymru, drwy etholiadau.
Mae’r math mwn o ddemocratiaeth hefyd yn cael ei alw’n ddemocratiaeth anuniongyrchol (indirect democracy) oherwydd, yn wahanol i ddemocratiaeth uniongyrchol, nid yw’r dinasyddion eu hunain yn sefydlu deddfau yn uniongyrchol neu’n penderfynu ar bolisïau. Yn hytrach, mae’r dinasyddion yn dylanwadu’n anuniongyrchol drwy gymryd rhan yn y broses etholiadol o ethol swyddogion y llywodraeth sy’n delio â’r materion hynny. Mae’r math hwn o ddemocratiaeth yn llawer mwy ymarferol mewn gwledydd poblog gan nad yw’n realistig i gael dinasyddion yn pleidleisio ar bob agwedd o bolisi’r llywodraeth. Drwy’r dull hwn, nid yw pobl yn cymryd rhan yn y broses benderfynu yn rheolaidd. Yn hytrach, mae’r cyfrifoldeb o wneud hynny’n disgyn ar y swyddogion etholedig.
Yn ychwanegol at y broses etholiadol sy’n agwedd ganolog ar ddemocratiaeth, mae amryw o egwyddorion pwysig i’r system hon o lywodraethu. Mae Morlino yn disgrifio system ddemocrataidd ‘dda’ fel ‘a stable institutional structure that realizes the liberty and equality of citizens through the legitimate and correct functioning of its institutions and mechanism’ (2004: 12).
Mae rhyddid a chydraddoldeb dinasyddion yn elfennau creiddiol i swyddogaeth democratiaeth. Mae gan bawb rai hawliau sylfaenol (fundamental rights) o fewn democratiaeth, ac mae gan gyfundrefnau democrataidd ddyletswydd foesol i amddiffyn yr hawliau dynol (human rights) hyn ym mywyd bob dydd eu dinasyddion, yn ogystal â hyrwyddo diddordebau a lles unigolion. Mae’r Datganiad Cyffredinol o Hawliau Dynol (Universal Declaration of Human Rights) a’r Cyfamod Rhyngwladol ar Hawliau Sifil a Gwleidyddol (International Covenant on Civil and Politics Rights) yn amlinellu’r hawliau gwleidyddol (political rights) a'r rhyddidau sifil (civil liberties) sydd wrth wraidd cyfundrefnau democrataidd.
Serch hynny, mae sylwebyddion yn tynnu sylw at y ffaith fod llawer o orgyffwrdd rhwng y cysyniadau amrywiol hyn o ddemocratiaeth ac y byddai’n fwy cywir nodi bod y rhan fwyaf o wledydd ‘democrataidd’ yn defnyddio’r ddwy agwedd hyn ar ddemocratiaeth.
4. Democrateiddio (Democratization)
Yn gysylltiedig â’r cysyniad o ddemocratiaeth y mae’r broses o ddemocrateiddio (democratization). Yn gyffredinol, dyma lle mae’r newid yn digwydd, fel arfer yn raddol, o system wleidyddol ddiddemocrataidd (non-democratic) tuag at lywodraeth fwy agored ac at ddemocratiaeth lle gwelir llywodraeth sy’n fwy atebol a chynrychioladol (Grugel 2002).
Adam Pierce
Llyfryddiaeth
Bulmer, E. (2017), Direct Democracy: International IDEA Constitution-Building Primer (Sweden: International IDEA).
Dahl, R. (1989), Democracy and its Critics (Yale: Yale University Press).
Economist Intelligence Unit (2020), Democracy Index 2020: in sickness and in health? http://mkto-ab220141.com/NzUzLVJJUS00MzgAAAF-SwX8jL1cHoi-mI9hRB_kQLB0cmiPNdmzWXSQdvYZLgSagwwvaj951mqcgg8KN2gNh4b6__g= [Cyrchwyd: Gorffennaf 2021].
Fishman, A. (2021), Democracy. https://www.oxfordbibliographies.com/view/document/obo-9780199756384/obo-9780199756384-0194.xml [Cyrchwyd: Mehefin 2021].
Gallie, W. (1956), Essentially Contested Concepts: Meeting of the Aristotelian Society at 21. https://edisciplinas.usp.br/pluginfile.php/4984622/mod_resource/content/4/Gallie-Essentially-Contested-Concepts.pdf [Cyrchwyd: Mehefin 2021].
Grugel, J. (2002), Democratization (Hampshire: Palgrave). Kekic, L. 2007, The Economist Intelligence Unit’s index of democracy. https://www.economist.com/media/pdf/democracy_index_2007_v3.pdf [Cyrchwyd Mehefin 2021].
Morlino, L. (2004), ‘What is “good” democracy?’ Democratization, 11(5), 10–32. https://doi.org/10.1080/13510340412331304589 [Cyrchwyd Mehefin 2021].
Weale, A. (1994), Democracy (Hampshire: Macmillan Press Ltd).
- Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.