How Green Was My Valley

Oddi ar WICI
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 10:57, 25 Gorffennaf 2014 gan Marc Haynes (Sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i: llywio, chwilio

Crynodeb

Hanes un teulu yng nghymoedd glofaol de Cymru yn ystod teyrnasiad Brenhines Fictoria, sef y Morganiaid, sydd yn ganolog i’r stori yn y ffilm hon ac fe’i hadroddir trwy lygaid y mab ieuengaf, Huw. Darlunir uned deuluol glos, gweithgar a chapelgar. Dan ofal y tad, Gwilym, a’r fam, Beth, mae chwech o feibion, Ivor, Davy, Ianto, Gwilym, Owen a Huw ac un ferch, Angharad. Dilynir eu hanes trwy gyfnodau llawen megis priodasau, a hefyd trwy gyfnodau llawn tristwch a chaledi megis damweiniau a streiciau yn y lofa. Yn gefnlun i’r cyfan, mae dadfeiliad y gymuned a llygredigaeth y cwm.

Manylion Pellach

Teitl Gwreiddiol: How Green Was My Valley

Blwyddyn: 1941

Cyfarwyddwr: John Ford

Sgript gan: Philip Dunne

Stori gan: Richard Llewellyn (cyhoeddwyd y llyfr ym 1939)

Cynhyrchydd: Darryl F. Zanuck

Cwmnïau Cynhyrchu: Twentieth Century-Fox

Genre: Drama

Rhagor

Nodyn ar y gerddoriaeth

Defnyddir hen emyn-donau fel ‘I Galfaria Trof fy Wyneb’, ‘Calon Lân’ a ‘Cwm Rhondda’ ac alawon gwerin Cymraeg megis ‘Mentra Gwen’ a ‘Claddu’r Mochyn Du’ yn y ffilm.

Cast a Chriw

Prif Gast

  • Walter Pigeon (Mr. Gruffydd)
  • Maureen O'Hara (Angharad Morgan)
  • Donald Crisp (Mr. Gwilym Morgan)
  • Roddy McDowall (Huw Morgan)
  • Anna Lee (Bronwyn)
  • John Loder (Ianto)
  • Sara Allgood (Mrs. Beth Morgan)

Cast Cefnogol

  • Barry Fitzgerald (Cyfarthfa)
  • Patric Knowles (Ivor)
  • Morton Lowry (Mr. Jonas)
  • Arthur Shields (Mr. Parry)
  • Ann E. Todd (Ceinwen)
  • Frederick Worlock (Dr. Richards)
  • Richard Fraser (Davy)
  • Evan S. Evans (Gwilym)
  • James Monks (Owen)
  • Rhys Williams (Dai Bando)
  • Lionel Pape (Evans)
  • Ethel Griffies (Mrs. Nicholas)
  • Marten Lamont (Iestyn Evans)
  • Cantorion Cymreig (eu hunain)

Ffotograffiaeth

  • Arthur C. Miller

Dylunio

  • Richard Day, Nathan Juran

Cerddoriaeth

  • Alfred Newman

Sain

  • Eugene Grossman, Roger Heman Sr.

Golygu

  • James B. Clark

Cydnabyddiaethau Eraill

  • Dylunio Gwisgoedd - Gwen Wakeling
  • Adran Goluro - Guy Pearce
  • Rheolwr Cynhyrchu - Gene Bryant
  • Cyfarwyddwr Cynorthwyol - Edward O'Fearna
  • Cyfarwyddwr Ail Uned - Wingate Smith
  • Effeithiau Arbennig - Fred Sersen

Manylion Technegol

Tystysgrif Ffilm: U

Fformat Saethu: 35mm

Lliw: Du a Gwyn

Gwlad: Unol Daleithiau America

Iaith Wreiddiol: Saesneg

Lleoliadau Saethu: Adeiladwyd y pentref a’r lofa ffuglennol ar ransh Twentieth Century-Fox yng Nghwm San Fernando, Califfornia. Ffilmiwyd hefyd ym Mynyddoedd Santa Monica ac ar Lwyfan 15 Stiwdios Twentieth century-Fox yn Los Angeles.

Gwobrau:

Gŵyl ffilmiau Blwyddyn Gwobr / enwebiad Derbynnydd
Academi Americanaidd Celfyddydau a Gwyddorau Lluniau Symudol (yr Oscars) 1941
Ffilm Orau
Cyfarwyddwr Gorau John Ford
Actor Cynorthwyol Gorau i Donald Crisp
Sinematograffi Du a Gwyn Gorau Arthur C. Miller
Cyfarwyddwyr Celf Gorau Richard Day
Nathan Juran
Thomas Little
Enwebiad am wobr y Sgript Orau Philip Dunne
Enwebiad am wobr yr Actores Gynorthwyol Sara Allgood
Enwebiad am wobr y Golygydd Orau James B. Clarke
Enwebiad am wobr y Trefniant Cerddorol Gorau Alfred Newman
Enwebiad am y gwaith sain Edmund H. Hansen (Pennaeth Uned Sain Twentieth-Century Fox)
New York Film Critics 1941 Gwobr Cyfarwyddwr John Ford
National Board of Review Magazine 1941 ail ar restr o ddeg ffilm orau 1941
Gwobrau Cymdeithas Beirniaid Ffilm yr Ariannin 1943 Y Condor Arian am y Ffilm Dramor Orau
Cofrestr Ffilm Cenedlaethol America 1990 Ychwanegwyd i'r gofrestr

Lleoliadau Arddangos: Bu’r dangosiad cyntaf yn America ar 28 Hydref 1941 yn Theatr Rivoli yn Efrog Newydd.

Dangoswyd y ffilm am y tro cyntaf ym Mhrydain yn Llundain ar 27 Ebrill 1942, ond bu raid i weddill y wlad aros tan fis Mehefin am gyfle i’w gweld.

Manylion Atodol

Llyfrau

  • David Berry, Wales and Cinema: the first hundred years (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, 1994)
  • Ronald L. Davis, John Ford – Hollywood’s Old Master (University Press of Oklahoma, 1995)
  • Philip Dunne, Take Two: A Life in Movies and Politics (New York, 1980)
  • Philip Dunne, How Green Was My Valley – The Screenplay (Santa Barbara, 1990)
  • Gwenno Ffrancon, Cyfaredd y Cysgodion: Delweddu Cymru a’i Phobl ar Ffilm 1935–51 (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, 2003)
  • Gwenno Ffrancon, 'Y Graith Las ar Gynfas Arian: Delweddu'r Glöwr Cymreig ar Ffilm' yn G.H. Jenkins (gol.), Cof Cenedl XIX: Ysgrifau ar Hanes Cymru (Gomer, Llandysul, 2004), tt. 164–92.
  • Dan Ford, The Unquiet Man – The Life of John Ford (London, 1979)
  • Tag Gallagher, John Ford – The Man and his Films (Los Angeles, 1986)
  • Mel Gussow, Zanuck: Don’t Say Yes Until I Finish Talking (London, 1971)
  • Leonard Mosley, Zanuck – The Rise and Fall of Hollywood‘s Last Tycoon (London, 1985)
  • Jeffrey Richards, Films and British National Identity (London, 1997)
  • Peter Stead, ‘Wales in the Movies’ yn Tony Curtis (gol.), Wales – The Imagined Nation (Penybont ar Ogwr, 1986)
  • Peter Stead, ‘Wales and Film’ yn T. Herbert a G. E. Jones (goln), Wales Between The Wars (Cardiff, 1988)
  • Kate Woodward, ‘Gwyrdroi a Gweddnewid: datblygiadau diweddar yn y portread o Gymru ar ffilm’, Cyfrwng: Cyfnodolyn Cyfryngau Cymru, 3 (2006)

Gwefannau

Adolygiadau

  • Bosley Crowther, ‘How Green Was My Valley’, New York Times, 29 Hydref 1941, t. 27.
  • Dienw, ‘How Green was My Valley’, Monthly Film Bulletin, Cyf. 9, rhif 98, 28 Chwefror 1942, t. 18.
  • ‘Welsh Film Arrives’, Western Mail, 19 Ebrill 1942, t. 2.
  • Richard Mallet, ‘At the Pictures’, Punch, 202, rhif 5280, 13 Mai 1942, t. 392.
  • Herman G. Weinberg, ‘News From New York’, Sight and Sound, 10, rhif 40, Gwanwyn 1942, t. 72.
  • Hesgin, ‘Ffilm Gymreig Enwog’, Y Faner, 100, rhif 34, 26 Awst 1942, t. 7.
  • Adolygiad Dilys Powell yn George Perry (gol.), Dilys Powell – The Golden Screen (London, 1989), tt. 30–1.
  • George J. Mitchell, ‘How Green Was My Valley – A Verdant Classic’, American Cinematographer, 9, rhif 72 (Medi 1991).

Erthyglau

  • David Berry, ‘How green was my gall’, Radical Wales, 29 (1991), tt. 24–5.
  • Gwenno Ffrancon, ‘Glan. Gofalus. Gwallgof: Datblygiad y portread ar sgrîn o’r Fam Gymreig’, Cyfrwng: Cyfnodolyn Cyfryngau Cymru, 4 (GPC, Ebrill 2007), tt. 71–86.
  • Peter Stead, ‘How Green is My Valley Now?’, New Welsh Review, 4, rhif 3 (1991–2), tt. 4–9.

Marchnata

Rhyddhawyd y ffilm ar DVD yn 2005 gan 20th Century Fox Home Entertainment.