Llif yr ymwybod
Techneg naratif yw ‘llif yr ymwybod’, techneg a ddefnyddir i geisio adlewyrchu cronoleg y meddwl ddynol mewn llenyddiaeth. Gan fod y stori yn cael ei rhoi gerbron y darllenydd drwy ddilyn trefn meddyliau’r cymeriad dengys nid yn unig yr hyn y mae’r cymeriad yn ei feddwl ond sut y mae’r cymeriad yn meddwl. Mae John Mullan, wrth drafod nofel sy’n defnyddio ‘llif yr ymwybod’, yn nodi bod darllenwyr yn dilyn ‘not just the unvoiced thoughts of a character . . . but the leaps of association that connect those thoughts’. Gellir adnabod y dechneg weithiau drwy sylwi ar nodweddion megis gwyro oddi wrth reolau cystrawennol a gramadegol neu gymysgu digwyddiadau’r gorffennol a’r presennol.
Er bod modd olrhain llif yr ymwybod mewn llenyddiaeth i’r 19g. ac i weithiau megis Les Lauriers sont coupés (1887) gan Édouard Dujardin (1861-1949), gellir dweud i’r dechneg ddatblygu yn yr 20g. o ganlyniad i ddylanwad damcaniaethau Sigmund Freud (1856-1939) ac ymwybyddiaeth newydd o'r meddwl dynol fel y'i disgrifiwyd gan yr athronydd a’r seicolegydd Americanaidd William James (1842-1910), sef fel cyflwr lle nad oes ffiniau rhwng digwyddiadau’r gorffennol a'r presennol. Dadleuwyd hefyd bod y twf ym mhoblogrwydd y dechneg yn ymateb i’r ymdeimlad o bryder a cholled a deimlwyd wedi’r rhyfeloedd byd. Nid oedd technegau naratif y 19g. bellach yn addas i adlewyrchu’r argyfwng meddyliol na’r ymwybyddiaeth fodern o fecanwaith y meddwl, ac felly roedd angen darganfod technegau newydd.
Arbrofodd Dorothy Richardson (1873-1957) gyda’r fonolog fewnol fel ffordd o gynrychioli meddyliau cymeriad yn ei chyfres o nofelau Pilgrimage, ond Virginia Woolf (1882-1941) a sylweddolodd fod angen datblygu’r mynegiant er mwyn adlewyrchu prosesau’r meddwl mewn modd mwy credadwy. Roedd hynny’n cynnwys addasu’r iaith, y gystrawen, strwythur y frawddeg a chonfensiynau llenyddol. Yn ôl Leech a Short: ‘one of the major concerns of the novelist for the last hundred years or more has been how to present vividly the flow of thought through a character’s mind.’
Yng Nghymru, gyda dyfodiad nofelau a roddai pwyslais ar ymwybyddiaeth fewnol, bu ymateb yn erbyn testunau a oedd yn rhy drefnus eu strwythur wrth drafod problemau seicolegol. Dywedodd Islwyn Ffowc Elis wrth drafod Tywyll Heno gan Kate Roberts yn 1962: 'amheus gen i a ellir cyfleu gwallgofrwydd o fewn ffrâm synhwyrgall y nofel naturiolaidd'. Amheuai a oedd y strwythur yn cyd-fynd â'r stori, 'Onid yw'r pictiwr yn cyfarth ar y ffrâm?' O ran technegau traethu arloesodd Caradog Prichard yn ei nofel Un Nos Ola Leuad yn 1961. Dadleuwyd bod y strwythur a’r arddull yn cyd-fynd â phrif thema'r nofel, sef gwallgofrwydd. Dywedodd Gerwyn Williams amdani: Fe lwyddodd Caradog Prichard i oresgyn problem greadigol… drwy fabwysiadu technegau modernaidd - llif yr ymwybod a’r ymson mewnol - i gyfleu byd lloerig Un Nos Ola Leuad. Mae'r nofel ar wasgar o ran cronoleg gan ei bod yn dilyn yr hyn a ddaw o archif meddyliau’r prif gymeriad. Cymharwyd y gwaith â gwaith yr awdur a gysylltir yn anad neb â thechneg llif yr ymwybod, sef James Joyce (1882-1941). Wrth drafod nodweddion cystrawennol Joyce yn ei nofel Ulysses (1922), meddai Leech a Short: ‘It is the truncated quality of the sentences and the sudden associative changes of topic which give the impression that the thoughts are half-formed and fairly inchoate.’
Nofel Gymraeg arall y cyfeiriwyd ati fel un ‘Joyceaidd’ yw Mae Theomemphus yn Hen (1977) gan Dafydd Rowlands (1931-2001). Mae plot y nofel yn weddol syml ond fe’i cyfoethogir gan ei gwead. Edrych yn ôl dros brofiadau a wna’r nofel ond ni ddychwela i’r gorffennol yn iawn, gan mai’r broses o gofio ei hun a bortreadir. O ganlyniad neidia’r nofel o un cyfnod i’r llall er mwyn adlewyrchu meddyliau’r traethydd yn y foment honno. Wrth sôn am ymwybyddiaeth y cymeriadau mewn nofel ‘lif yr ymwybod’ o’r fath, esbonia Robert Humphreys: ‘their consciousness’ serves as a screen on which the material in these novels is presented.’ Trwy hyn, yn nofel Dafydd Rowlands, down i ddeall effaith ymadawiad tad y traethydd pan oedd yn blentyn arno fel oedolyn. Trwy'r dechneg cyflwynir dryswch y traethydd yn brwydro gyda’i atgofion cynnar ac yn cysylltu digwyddiadau gydag atgofion a meddyliau o’i blentyndod.
Mewn nofelau seicolegol, lle mae’r ymwybod ffuglennol yn cael y sylw, mae yna amrywiaeth eang i’r modd y caiff llif yr ymwybod hwnnw ei draethu. Nid un dull penodol ‘llif yr ymwybod’ a geir, ond sawl techneg wahanol.
Catrin Heledd Richards
Llyfryddiaeth
Elis, I. (1962), ‘Tywyll Heno’, Lleufer, Cyfrol XVIII, rhif 4, 178-182.
Humphrey, R. (1954), Stream of Consciousness in the Modern Novel (Berkeley: University of California Press).
Joyce, J. (1933), Ulysses (Hamburg: Odyssey Press).
Leech, G. a Short, M. (1981), Style in Fiction (London & New York: Longman).
Mullan, J. (2006), How Novels Work (Oxford: Oxford University Press).
Rowlands, D. (1977), Mae Theomemphus yn Hen (Llandybïe: Gwasg Salesbury, 1977).
Williams, G. (gol.) (1999), Rhyddid y Nofel (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru).